skip to main content

Agenda item

Creu canolfan ymchwil a menter iachad acwstig cysegredig gan gynnwys codi pedwar adeilad newydd, creu meysydd parcio a chodi wal ffin 2.3m o uchder (cais diwygiedig i gais dynnwyd yn ol - C16/1158/16/LL)

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dafydd Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Creu canolfan ymchwil a menter iachâd acwstig cysegredig gan gynnwys codi pedwar adeilad newydd, creu meysydd parcio a chodi wal ffin 2.3m o uchder (cais diwygiedig i gais a dynnwyd yn ôl - C16/1158/16/LL)

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

a)        Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais. Nodwyd bod yr ymgeisydd wed amlygu bod disgrifiad y bwriad ychydig yn wahanol i’r hyn yr oedd yn ei ystyried yn gywir. Amlygwyd felly bod geiriad y bwriad yn cael ei ddiwygio i, ‘Creu Canolfan ymchwil sydd yn cynnwys codi pedwar adeilad newydd…’ Ategwyd bod y cynlluniau yn gywir a disgrifiad o’r bwriad yn yr adroddiad yn gywir, ond y disgrifiad ffurfiol ychydig yn anghywir.

 

Adroddwyd mai cais ydoedd i greu canolfan ymchwil newydd fydd yn ymchwilio i’r defnydd o sŵn ar gyfer iachâd corfforol a meddyliol.  Nodwyd y byddai’r safle’n cynnwys prif adeilad acwstig ar ffurf gromen wedi ei gysylltu trwy goridor ag adeilad mynediad a fyddai’n cynnwys man croesawu a swyddfa. Byddai tri adeilad cromen arall, llai wedi eu llunio i gyseinio gyda thonfeddi sŵn penodol. Eglurwyd bod y cais yn un ar gyfer menter wledig fechan newydd a fyddai’n cynnig cyfleoedd gyflogaeth i rhwng 2 a 5 o bobl. Byddai hefyd yn cynnig cyfle i arallgyfeirio’r economi leol cefn-gwlad ac yn fodd o ddefnyddio safle a ddefnyddiwyd yn y gorffennol at ddibenion busnes. Ystyriwyd bod egwyddor y cynnig yn cwrdd gydag amcanion Polisi PS13.

 

Gyda safle’r cais mewn lleoliad ynysig mewn coedwig gymysg adroddwyd y byddai’r adeiladau, oherwydd eu maint a’u deunyddiau, yn gweddu i’w safle ac yn guddiedig o welfannau pell. Ystyriwyd  bod y sgrinio a gynhigir gan ffurfiant y tir a thyfiant presennol yn ddigonol i guddio'r safle yn foddhaol. Ni ddisgwyliwyd y byddai unrhyw niwed arwyddocaol i ansawdd byw trigolion cyfagos o’r lefel isel hyn o weithgarwch ac oherwydd y pellter o unrhyw anheddau eraill, ni ystyriwyd y byddai unrhyw niwed arwyddocaol yn deillio o’r safle o safbwynt materion megis goredrych neu gysgodi. Ystyriwyd bod y cynnig o natur a graddfa y datblygiad yn dderbyniol ar gyfer y lleoliad. Mewn ymateb i bryderon  gan drigolion lleol ynghylch effaith posibl y sŵn a gynhyrchir gan weithgareddau’r cyfleuster, mynegwyd bod Gwarchod y Cyhoedd wedi cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r fenter fechan ond yn cynnig amodau priodol.

 

Adroddwyd nad oedd y bwriad yn groes i unrhyw bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl a bod y datblygiad a gynigiwyd yn ddefnydd priodol o’r safle.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y cais y pwyntiau canlynol:-

·         Bod yr adeilad yn un cynaliadwy wedi ei adeiladu a llaw

·         Byddai’r fenter yn canolbwyntio ar ymchwil acwstig wedi'i ysbrydoli gan ddulliau arfaethedig sy'n ganolog i adfer anaf i'r ymennydd

·         Creu 2-5 swydd - trafodaethau cychwynnol â Phrifysgol Bangor, Hull a chanolfannau ymchwil eraill ynglŷn â doethuriaeth mewn ymchwil arloesol

·         Cynyddu cyflogaeth gynaliadwy leol mewn adeiladwaith trwy gynnig prentisiaeth neu gynlluniau tebyg

·         Byddai effaith weledol isel i’r datblygiad; yn gweddu’r amgylchedd

·         Nodweddion acwstig penodol wedi'u hamgodi yn y dyluniad

·         Bod y cais yn cynrychioli holl nodweddion craidd Gwynedd Gynaliadwy

·         Creu swyddi i bobl leol

·         Cynyddu iechyd a lles a’r gallu i weithio'n fyd-eang

 

c)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y pwyntiau canlynol:

·         Bod y safle tu allan i’r ffin datblygu lleol

·         Bod nifer o elfennau’r cais yn ddibynnol ar grantiau

·         Y dyluniad yn un estron ar gyfer cefn gwlad - yn ddolur llygad a meddwl

·         Angen ystyried pa ddefnydd fydd i’r adeilad pa na fyddai grantiau yn cael eu dyfarnu

·         Rhagweld byddai’r fenter yn aflonyddu trigolion yr ardal

·         Y lon a’r fynedfa yn gul iawn

·         Bod y gair ‘menter ‘ yn agor y drws i unrhyw weithgaredd

·         Beth yw arwyddocâd effaith tonfeddi? A oes ymholiadau pellach i hyn? A oes gwybodaeth wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd?

·         A fyddai  tonfeddi yn amharu ar geffylau? Llwybr marchogaeth gerllaw

·         Pryder nad yw Prifysgol Bangor yn cydnabod y fenter

·         Y cais yn un niwlog ac yn gamarweiniol.

 

ch)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu  y cais

 

d)      Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i,

-       ohirio'r penderfyniad gan fod angen mwy o wybodaeth ynglŷn â sylwadau Gwarchod y Cyhoedd a Phrifysgol Bangor 

-       ymweld â’r safle gan fod cwestiynau wedi codi ynglŷn â defnydd y ffordd gul.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Y syniad yn dderbyniol ond angen mwy o sicrwydd am ddatblygiad y prosiect

·         Y cyfle i weld yn gyffrous ond angen sicrhau bod pethau yn cael eu gwneud yn iawn

·         Angen ystyried pryderon y fynedfa

 

            PENDERFYNWYD gohirio y cais er mwyn

 

·      Cynnal ymweliad safle i weld y rhwydwaith ffyrdd

·      Ystyried y wybodaeth gan Gwarchod y Cyhoedd

·      Ystyried y wybodaeth am y cyswllt gyda’r Brifysgol

Dogfennau ategol: