skip to main content

Agenda item

Dymchwel presennol ac adeiladu 3 llawr yn ei le

 

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei le.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd, oedd yn cynnwys ymateb Cyd-Bwyllgor AHNE.

 

a)         Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan  nodi bod y cais wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 18/12/2017 pryd y penderfynwyd gohirio ystyriaeth o’r cais er mwyn cael barn Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE) Ymhelaethwyd bod y cais yn ail gyflwyniad o gais a wrthodwyd gan y Pwyllgor Cynllunio ar 25 Medi 2017.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi diwygio'r bwriad drwy leihau maint y tŷ bwriededig fel  ymateb i bryderon y Pwyllgor ynghyd a rhesymau gwrthod y cais blaenorol.  Mynegwyd bod gosodiad mewnol yr adeilad wedi ei ddiwygio er mwyn lleihau arwynebedd yr adeilad  25%. Cyflwynwyd cynlluniau manwl ynghyd â lluniau ffotograffig yn dangos y tŷ a’r terasau allanol yn ymestyn yn ôl i ddilyn proffil y safle. Awgrymwyd na fyddai’r adeilad yn creu datblygiad ymwthiol yn y tirlun ac er bod edrychiad y tŷ yn wahanol, ni ystyriwyd y byddai yn cael effaith niweidiol sylweddol ar y tirlun.  Atgoffwyd yr Aelodau bod y safle wedi ei leoli ar benrhyn Abersoch, y tu mewn i ffin datblygu'r pentref ac oddi fewn i’r AHNE.

 

Amlygwyd bod y bwriad yn golygu dymchwel y tŷ presennol ar y safle a chodi tŷ newydd mwy yn ei le. Nodwyd bod polisïau lleol a chenedlaethol yn gefnogol i ail-ddefnyddio tir a ddefnyddiwyd o’r blaen ac ystyriwyd bod y bwriad yn cwrdd gyda gofynion polisi TAI 13 CDLl sydd yn ymwneud yn benodol gyda dymchwel a chodi tŷ newydd o fewn ffin pentref. Gyda thŷ eisoes yn bodoli ar y safle nid yw’r bwriad yn golygu creu uned(au) preswyl newydd ac oherwydd hynny, ni fyddai’r datblygiad yn ychwanegu at y stoc tai. Cafwyd cadarnhad gan Swyddog Cadwraeth y Cyngor nad oedd yr adeilad presennol o werth hanesyddol na phensaernïol sylweddol ac nad oedd yn cyfiawnhau statws rhestredig. 

 

Adroddwyd bod llawer o wahanol ddyluniadau i dai’r ardal ac nad oedd un patrwm adeiladu nodweddiadol. Gydag edrychiad fyddai yn weladwy o’r môr, ystyriwyd fod dyluniad y bwriad o edrych arno o’r môr yn gweddu gyda’r safle oherwydd ei fod yn dilyn siâp, gosodiad a phroffil y safle. Eglurwyd bod y dyluniad, er yn fodern, o raddfa a deunyddiau a fyddai’n gweddu i’r safle ac yn addas i’w leoliad a’i gyd-destun. Nodwyd nad oedd gwrthwynebiad gan yr Uned AHNE i’r bwriad, fodd bynnag roedd y Cyd-Bwyllgor wedi datgan byddai’r bwriad yn ddatblygiad ar safle amlwg gydag ôl troed sylweddol fwy na’r tŷ presennol. Nododd y Cyd -Bwyllgor hefyd y byddai’r datblygiad yn ymwthiol.

 

Yng nghyd-destun y polisïau perthnasol a dadleuon y gwrthwynebwyr, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu gyda lleoliad, dwysedd, a’r cynnydd mewn maint yn rhesymol ac yn welliant i safle agored o’r fath. Gyda thŷ eisoes yn bodoli ar y safle ni fyddai newid arwyddocaol i’r tirlun, nac effaith sylweddol arwyddocaol ar fwynderau trigolion cyfagos.

 

b)      Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:-

·         Pryder yn lleol bod y bwriad yn or-ddatblygiad ac ni fyddai’n gweddu i’r safle;

·         Er bod newidiadau i’r cynlluniau gwreiddiol roedd y tŷ’n parhau i fod yn 3 llawr ac yn fwy na ôl-troed y tŷ gwreiddiol;

·         Darllenwyd llythyr yn adrodd sylwadau a phryderon Cadeirydd Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn

·         Gofyn i’r Pwyllgor wrthod y cais ar sail or-ddatblygiad ac effaith niweidiol ar yr AHNE.

 

c)         Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r argymhelliad

 

ch)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Gwerthfawrogi bod yr ymgeisydd wedi cydweithredu gyda gofynion y swyddogion a’r Pwyllgor i leihau'r maint a’r effaith

·         Y dyluniad yn un da, yn un arloesol ac yn gweddu i’r tirlun. Nid oes patrwm adeiladu i’r tai cyfagos

·         Y datblygiad yn sylweddol fwy na’r hyn sydd yn bodoli ar y safle yn barod

·         Bod y datblygiad yn ymwthiol ac yn anharddu'r penrhyn

·         Byddai caniatáu yn gosod cynsail i eraill brynu hen dŷ ac addasu i dŷ modern fyddai’n elyniaethus i bobl leol

·         Yr ymgeisydd yn gofyn am fwy na’r hyn sydd ei angen er mwyn rhoi boddhad wrth gynnig lleihad

·         Nid oes digon o ostyngiad mewn maint

·         Bod dyletswydd statudol i warchod yr AHNE ac felly angen blaenoriaethu sylwadau'r Cyd-Bwyllgor

 

d)      Mewn ymateb i’r sylwadau, amlygodd Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod y drafodaeth wedi bod yn un diddorol a gwerthfawr ac yn adlewyrchu gwahaniaeth barn ar ddyluniad y datblygiad. Gyda’r safle o fewn y ffin datblygu nid oes cyfyngiad i faint adeiladau na pholisi yn gofyn am wahaniaeth arwynebedd. Anogwyd yr Aelodau i ystyried sylwadau'r swyddog AHNE ynghyd â chyngor y swyddogion cynllunio wrth ystyried bod y cais yn goresgyn rhesymau gwrthod - oes effaith arwyddocaol i hyn o ystyried bod yr ymgeisydd eisoes wedi lleihau'r maint. Ategwyd mai swyddogaeth y Pwyllgor yw pwyso a mesur y wybodaeth oedd wedi ei gyflwyno.

 

dd)    Mewn ymateb i sylw ynglŷn â'r posibilrwydd i’r ymgeisydd apelio yn erbyn y penderfyniad o wrthod, ac o bosib yn apelio penderfyniad ar y cynllun gwreiddiol, oedd yn fwy o ran maint, ategwyd bod hyn yn bosib.

 

e)      Pleidleisiwyd ar y cynnig. Disgynnodd y cynnig.

 

f)       Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais ar sail sylwadau Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn

 

PENDERFYNWYD gwrthod

 

Rheswm:

 

Byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle amlwg hwn gyda’r effaith weledol a’i ôl troed yn sylweddol fwy na’r tŷ presennol ac felly byddai yn creu datblygiad ymwthiol a fyddai’n cael effaith andwyol ar olygfeydd i mewn, allan ac ar draws yr AHNE.

 

 

Dogfennau ategol: