skip to main content

Agenda item

 

Creu cwrs 4 weiren sip i gymryd lle 4 weiren sip bach wedi eu lleoli is-law y brif weiren sip, gosod cyfarpar ac isadeiledd cysylltiedig a llwyfannau i'r rhai presennol ac ymestyn cloddiau aciwstig presennol (cais rhannol ol-weithredol

 

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dafydd Owen

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

Cofnod:

Creu cwrs 4 weiren sip i gymryd lle 4 weiren sip bach wedi eu lleoli islaw'r brif weiren sip, gosod cyfarpar ac isadeiledd cysylltiedig â llwyfannau i'r rhai presennol a thirweddu (cais rhannol ol-weithredol).

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan dynnu sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a oedd yn cynnwys llythyrau gwrthwynebiad. Eglurodd bod perchnogion Parc Gwyliau Ogwen Bank wedi tynnu eu gwrthwynebiad yn ôl yn dilyn trafodaeth efo’r ymgeisydd ar y safle.

 

          Cyfeiriwyd at sylwadau Uned Gwarchod y Cyhoedd a oedd yn cynnig amodau y dylid eu cynnwys pe caniateir y cais. Nododd o ystyried safle’r cais bod cyfyngu amser defnyddio’r gwifrau o 08:00 dan 20:00 fel yr argymhellir yn rhesymol o ystyried lleoliad y safle.

 

Nodwyd bod atyniad menter Zip World wedi ei sefydlu ers 2013, felly roedd egwyddor y fenter ynghyd â’r gweithgareddau a oedd yn ymwneud a’r fenter, eisoes wedi ei dderbyn.

 

Derbyniwyd gwrthwynebiadau i’r cais ar sail colli preifatrwydd a pharhad yn effaith negyddol sŵn yn deillio o’r atyniad yn bresennol ynghyd a’r effaith sŵn a all deillio o’r atyniad yn y dyfodol ar fwynderau trigolion lleol. Fodd bynnag, mewn ymateb i’r pryderon hyn roedd yr ymgeisydd wedi cadarnhau’n ysgrifenedig y byddai’r 4 gwifren sip, a oedd yn destun y cais hwn, yn cael eu gweithredu’n unol â’r amodau a gynhwyswyd yn y cais blaenorol yn ymwneud ag oriau agor ynghyd â chyfyngu ar lefelau sŵn sy’n deillio o’r atyniad.

 

Pwysleisiwyd mai cais i ail-leoli 4 gwifren fach (islaw'r gwifrau presennol) oedd y bwriad diweddaraf hwn yn hytrach nag ychwanegu at y niferoedd presennol. Gan ystyried gosodiad y 4 gwifren newydd mewn perthynas â’r anheddau cyfagos i’r dwyrain (Stryd Jams a Braichmelyn) credir na fyddai lefel, natur na’r math o sŵn a oedd yn deillio’n bresennol o’r gwifrau yn dwyshau pe caniateir y cais diweddaraf hwn.

 

Nodwyd wedi ystyried yr holl sylwadau ac ymatebion a dderbyniwyd, yr holl bolisïau a materion cynllunio perthnasol ni chredir y byddai’r datblygiad yn cael effaith negyddol arwyddocaol ar fwynderau preswyl, defnyddwyr tir, eiddo cyfagos, mwynderau gweledol, diogelwch ffyrdd, bioamrywiaeth, asedau treftadaeth nac ar osodiad y Parc Cenedlaethol a chan ystyried yr asesiad hwn ni chredir bod y bwriad diweddaraf hwn yn groes i’r polisïau perthnasol.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Nid oedd sgrinio acwstig y llwyfan glanio newydd cystal â sgrinio acwstig y llwyfan glanio presennol;

·         Dim bwnd acwstig yn rhan o’r cais;

·         Bod Uned Gwarchod y Cyhoedd yn argymell cyfyngiad lefel sŵn mecanyddol i LAFMAX 10 eiliad o 43dB fel y’i mesurir o anheddau Stryd Jams ac os oedd mecanwaith newydd y wifren sip bach mor dawel fel y nodir gan yr ymgeisydd ni fyddai’n anodd bod yn unol â'r cyfyngiad felly pan argymhellir lefel o 47dB?

·         Dylid gosod amod yn unol â chynnig Uned Gwarchod y Cyhoedd i gyfyngu amser defnyddio’r gwifrau o 08:00 i 18:00 7 diwrnod yr wythnos gan fod yr oriau yn agosach at yr oriau a nodwyd yn 2011.

 

(c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Y byddai’r bwriad yn gwella diogelwch gan na fyddai rhaid i ddefnyddwyr groesi ffordd fel y gwneir ar hyn o bryd i fynd at y wifren sip mawr;

·         O ran pryderon sŵn, y byddai’r gwifrau yn bellach o’r tai a’r maes carafanau a bod y cwmni’n gweithio ar system ddistawach o ran y troliau ac yn edrych ar fecanwaith stopio gwahanol;

·         Nid oedd y busnes eisiau creu niwsans i drigolion.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Holodd aelod a fyddai’n bosib gosod amod ar y caniatâd cynllunio bod angen creu bwnd acwstig ger y llwyfan glanio. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio y gellir gofyn i’r ymgeisydd greu bwnd acwstig ond o ystyried nad oedd gan Uned Gwarchod y Cyhoedd wrthwynebiad i’r bwriad pe gosodir amodau, nid oedd yn angenrheidiol darparu bwnd.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed yr angen i sicrhau bod y llwybr a arallgyfeiriwyd ar gael i’w ddefnyddio cyn gynted a bo modd, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio y byddai’n gwneud ymholiadau.

 

Nododd aelod bod cais y gwrthwynebydd am fwnd acwstig ger y llwyfan glanio yn un rhesymol a bod angen rhoi ystyriaeth i ddarparu bwnd.

 

Penderfynwyd:            Caniatáu yn unol â’r amodau isod:

 

1.      Yn unol â’r cynlluniau.

2.      Diogelu nodweddion bioamrywiaeth leol drwy gydymffurfio ag argymhellion y ddogfen Arolygon Ecolegol dyddiedig 1.11.17.

3.      Cyfyngu amser defnyddio’r gwifrau rhwng 08:00 a 20:00 am 7 diwrnod yr wythnos.

4.      Cyfyngu ar lefelau sŵn i’r lefelau cytunwyd gydag Uned Gwarchod y Cyhoedd ar y cais blaenorol.

5.      Tirlunio.

6.      Cytuno gyda deunyddiau allanol yr adeilad fydd at ddefnydd y cyhoedd.

 

Dogfennau ategol: