Codi annedd newydd.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Gareth A. Roberts
Cofnod:
Codi annedd newydd.
(a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar
gefndir y cais gan nodi y bu i’r Pwyllgor Cynllunio ymweld â’r safle ar 8
Rhagfyr 2017. Cais ydoedd ar gyfer codi un tŷ annedd ar lain o dir gwag o
fewn ardal breswyl o ddinas Bangor. Nodwyd bod y ffin ddatblygu yn rhedeg ar
hyd ffin ddeheuol y safle ac fe roddwyd caniatâd amlinellol i godi tŷ ar y
safle drwy apêl yn 2013, sydd erbyn hyn wedi dod i ben.
Eglurwyd bod y safle ar ffurf triongl ac fe’i lleolir oddi ar ffordd
breifat Rhes Bryn Heulog gyferbyn a theras o dai. Nodwyd bod y safle yn cefnu ar res o dai
teras ar Ffordd Caernarfon a saif y tu cefn i erddi hir a chul y tai hynny ar
lecyn o dir ar lefel uwch sydd rhwng y gerddi a llwybr marchogaeth cyhoeddus.
Esboniwyd bod y safle yn rhedeg mewn cyfeiriad croes i’r gerddi sy’n golygu ei
fod yn ffinio gyda 7 gardd. Fe fyddai’r fynedfa gerbydol oddi ar y llwybr
marchogaeth gyda lle parcio i o leiaf ddau gerbyd ar y safle.
Wrth ystyried bod caniatâd cynllunio wedi ei
roi ar gyfer datblygiad anheddol ar y llecyn yn y gorffennol pwysleislwyd bod
yr egwyddor o ddatblygu tŷ yma yn dderbyniol ond wedi dweud hynny roedd y
cais a oedd yn destun apêl yn ymwneud â chynlluniau penodol ar gyfer tŷ
deulawr yn wynebu Rhes Teras Brynheulog heb unrhyw ffenestri yn wynebu cefnau
tai sydd wedi eu lleoli ar Ffordd Caernarfon.
Esboniwyd bod y cynlluniau newydd yn sylweddol
wahanol i’r rhai oedd yn destun y cais apêl.
Ni chredir bod y dyluniad fel cyflwynwyd yn
dderbyniol o safbwynt effaith ar fwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl, ac
fe fyddai’r ddwy ffenestr llawr cyntaf yn creu gor-edrych annerbyniol sylweddol
dros erddi a ffenestri cefnau tai ar Ffordd Caernarfon, ac yn creu effaith mur
uchel gormesol ar ben y llethr sydd tu cefn i’r tai. Mynegwyd pryder hefyd am yr effaith ar y
strydwedd.
Eglurwyd fod swyddogion wedi trafod ac
awgrymu i’r ymgeisydd cyn iddo gyflwyno cais y gallasai datblygiad o fyngalo
gromen, wedi’i ddylunio’n briodol, fod yn dderbyniol ar y safle.
Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd
gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.
(b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:
·
ei fod yn Aelod
Lleol dros yr ardal
·
ei fod wedi byw
yn yr ardal hon trwy gydol ei oes a cheisio adeiladu cartref iddo'i hun a'i
deulu a chyfle unwaith mewn bywyd i gael cartref i fyw yn yr ardal
·
ei fod wedi
siarad â'r cymdogion o ran y cais ac wedi eu sicrhau y bydd y safle yn cael ei
lefelu a bydd muriau cynnal yn cael eu hadeiladu ynghyd â sgrinio uchel ar hyd
y safle cyfan er mwyn cadw preifatrwydd
·
bod gosodiad y
tŷ ar gornel bellaf y safle i osgoi unrhyw elfennau gor-edrych ac wedi
cael sicrwydd gan yr Adran Cynllunio eu bod yn hapus gyda'r tŷ sy'n cael
ei adeiladu ar y safle ond bod pryderon gyda'r ffenestri sy'n wynebu'r teras ar
Ffordd Caernarfon
·
holodd yr
ymgeisydd pa bolisi oedd gan yr awdurdod cynllunio o ran pellter derbyniol
rhwng adeilad newydd a theras presennol
·
Mewn ymateb
iddo, nododd yr Adran Cynllunio nad oedd ganddynt unrhyw bolisi penodol. Felly bu i’r ymgeisydd edrych ar bolisïau
awdurdodau eraill megis Adrannau Cynllunio Sir y Fflint a Chonwy sydd â pholisi
sy'n nodi bod pellter o 22 metr yn dderbyniol fel y pellter gwahanu rhwng
ffenestri'r llawr cyntaf o dŷ presennol. Gyda hyn mewn golwg, mesurwyd y
pellter o'r ffenestri i'r teras presennol ac roedd o’r farn bod y cais yn
cydymffurfio â'r mesuriad penodol o 22 metr pe byddai Cyngor Gwynedd yn
mabwysiadu'r polisi hwn
·
Yn ddiweddar
iawn nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi caniatáu estyniad llawr cyntaf i eiddo sydd
wedi'i leoli dau ddrws i ffwrdd o'r safle hwn, ac wedi caniatáu ffenestri'r llawr
cyntaf i oredrych gerddi
·
Roedd yr
ymgeisydd o'r farn nad yw wedi cael ei drin yn deg iawn
(c)
Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth
Cynllunio bod y swyddogion cynllunio yn ymdrin â phob cais ar ei haeddiant a
bod y cyngor a roddir gan swyddogion yn gwbl broffesiynol ac annibynnol.
Tynnwyd sylw bod hanes i’r cais dan sylw a bu i’r ymgeisydd dderbyn cyngor o’r
math o dŷ a fyddai’n addas i’r safle yma. Pwysleisiwyd bod sylw wedi ei
roi i’r apêl yn 2013 ac fe gyfeiriwyd y Pwyllgor Cynllunio i baragraff 5.3 o’r
adroddiad sy’n amlinellu’n glir y math o dŷ fyddai’n dderbyniol ar y safle
hwn.
Ymhellach cyfeiriwyd at baragraff 5.6 sydd yn egluro'r math o gais a
math o dŷ sydd yn gwbl wahanol i’r hyn ganiatawyd ar apêl.
Pwysleisiwyd bod egwyddor o adeiladu tŷ ar y safle yn dderbyniol
cyn belled a bod y tŷ yn addas o ran maint a dyluniad.
(ch) Ychwanegodd
y Rheolwr Cynllunio bod y swyddogion cynllunio wedi ymweld â’r safle gan gynnig
cyngor i’r ymgeisydd gyda’r neges wedi bod yn gyson a chlir (ar lafar ac yn
ysgrifenedig) y byddai datblygiad preswyl ar y safle yn gallu bod yn addas yn
ddarostyngedig i oresgyn pryderon amlwg iawn am or-edrych i dai cyfagos yn
Ffordd Caernafon ac fe gyfeirwyd bod nifer o’r tai hyn yn is na’r safle. Cydnabuwyd bod pellter yn cael ei gydnabod
fel pellter rhesymol rhwng tai i osgoi goredrych sef 22 medr ond nad oedd yn
ganllaw sydd wedi ei fabwysiadu gan Gyngor Gwynedd ond ei fod yn cael ei
dderbyn fel canllaw cyffredinol gan swyddogion ac mewn apeliadau. Pwysleiswyd
bod tai Ffordd Caernafon yn bodoli’n barod a’r cais gerbron yn dŷ newydd,
ac o ganlyniad eglurwyd bod y goredrych yn llawer gwaeth gan fod y safle yn
uwch, ac yn yr achos hwn bod yn rhaid cymryd i ystyriaeth lefelau tir, defnydd
o’r ffenestri, defnydd o’r gerddi a pha mor breifat ydynt ar hyn o bryd, yn
ogystal â’r canllaw pellter o 22 medr.
(d) Cynigwyd ac eilwyd i wrthod
y cais.
(dd) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
(i) Gofynnwyd a oedd potensial i ganiatau’r cais
yn seiliedig ar ddirprwyo’r hawl i’r swyddogion cynllunio ei ganiatau yn dilyn
trafodaeth gyda’r ymgeisydd ar ddyluniad derbyniol.
Mewn ymateb, eglurodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio pe byddai’r
Pwyllgor yn hapus gyda’r argymhelliad, bod y swyddogion cynllunio yn fwy na
bodlon trafod gyda’r ymgeisydd ar gynllun a fyddir yn dderbyniol ac y gellir ei
gymeradwyo.
(ii) Gofynnwyd a oedd y mesuriadau pellter (sef 22 medr) o fewn y
gyfraith?
Mewn ymateb, esboniodd y Rheolwr Cynllunio nad oedd cyfraith yn
dynodi pa mor bell neu agos ydoedd
adeilad, ond yn y cyd-destun i benderfyniad apêl disgrifiwyd y math o eiddo all
fod yn dderbyniol i’r safle ond bod y cais gerbron yn ddyluniad i’r gwrthwyneb.
Ychwanegwyd bod yr ymweliad safle wedi bod yn ddefnyddiol o ran gwerthfawrogi'r
math o eiddo oedd yn destun y cais a beth fyddai ei berthynas gyda’r holl eiddo
cyfagos ac ategwyd barn y swyddogion cynllunio ei fod yn annerbyniol yn ei
ffurf bresennol.
(iii)
Cyfeiriwyd at gais blaenorol yn
Nhywyn a drafodwyd yn gynharach gan y Pwyllgor Cynllunio, pryd y nodwyd nad
oedd gor-edrych yn faterol i gynllunio.
Mewn ymateb, esboniwyd bod cais Tywyn mewn sefyllfa drefol sydd yn
wahanol i’r safle yma. Yng nghais Tywyn nid oedd y goredrych yn annerbyniol ond
roedd y cais gerbron yn cael ei ystyried yn annerbyniol oherwydd natur y safle
yma.
Penderfynwyd: Gwrthod am y rheswm isod:
Fe fyddai’r datblygiad arfaethedig yn niweidiol i fwynderau preswyl
meddianwyr eiddo lleol oherwydd y byddai’n achosi effeithiau gor-edrych
sylweddol i mewn i, neu tuag at, fannau preifat yr eiddo hynny ac y byddai
hefyd yn creu strwythur gormesol ei natur i’r tai hynny. Ni chredir ychwaith
fod y cynlluniau a chyflwynwyd yn arddangos dyluniad o ansawdd uchel sy’n rhoi
ystyriaeth lawn i gyd-destun amgylchedd adeiledig y safle. Ni fyddai’r
datblygiad yn ychwanegu at, a gwella, cymeriad ac ymddangosiad y safle na’r
ardal yn gyffredinol ac felly fe gredir bod y cais yn groes i bolisïau PCYFF 2
a PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.
Dogfennau ategol: