Cais ol-weithredol i newid defnydd tir ar gyfer creu safle carafanau teithiol ac estynnu adeilad presennol i greu toiledau a chodi adeilad ar gyfer gwaredu gwastraff.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Annwen
Daniels
Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Cais ôl-weithredol
i newid defnydd tir ar gyfer creu safle carafanau teithiol 15 llain ac estynnu
adeilad presennol i greu toiledau a chodi adeilad ar gyfer gwaredu gwastraff
(a) Nododd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu bod oddeutu 5 o aelodau’r Pwyllgor
Cynllunio wedi ymweld â’r safle ar 8 Rhagfyr 2017 ac er gwaethaf y tywydd
gaeafol bod perthynas y safle gyda’r amgylchedd leol wedi derbyn sylw. Nodwyd bod y gwaith eisoes wedi cychwyn ar y
safle gyda’r mwyafrif o’r lleiniau ffurfiol yn eu lle, a’r llystyfiant wedi ei
blannu.
Ers i’r cais gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor y tro diwethaf, cyflwynwyd
cynlluniau diwygiedig a oedd yn cynnig llecynnau parcio o fewn y safle ynghyd â
gwybodaeth ar addasrwydd defnydd o gyffordd Ffordd Baltic a Ffordd Glanypwll
i’r safle.
Cyfeiriwyd at y
polisïau cynllunio perthnasol ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus
o fewn yr adroddiad gerbron y Pwyllgor.
Nodwyd bod
egwyddor y datblygiad yn dderbyniol a chyfeiriwyd at bolisi sy’n caniatáu
cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau teithiol, gwersylla neu lety wersylla
amgen dros dro os gellir cydymffurfio gyda nifer o feini prawf fel amlinellwyd
yn yr adroddiad.
Adroddwyd bod y Swyddog Carafanau (Uned Iechyd a Diogelwch) wedi
cadarnhau bod y bwriad bellach yn ymddangos yn cydymffurfio gyda gofynion
trwyddedu. Fodd bynnag, roedd swyddogion
yn parhau i ystyried nad oedd y bwriad yn gwbl gydymffurfio gyda meini prawf 1
a 2 o’r polisi. Roedd y cynllun a
gosodiad y safle yn parhau yn gyfyngedig ac nad oedd lle amwynder agored
cyffredinol o fewn y safle ar gyfer defnydd gan breswylwyr y safle. Ystyrir bod gosodiad y safle yn defnyddio
gormodedd o lecynnau caled ac nad ydoedd o ansawdd uchel o ran dyluniad,
gosodiad ac edrychiad ar sail diffyg arwynebedd agored ar y safle a rhwng y
lleiniau.
O safbwynt
mwynderau gweledol a phreswyl, nodwyd bod y bwriad yn cydymffurfio â gofynion
polisïau PCYFF 2,3 a 4 o’r Cynllun Datblygu Lleol. Fodd bynnag, roedd yn
annerbyniol o ran gosodiad a’r dwysedd unedau teithiol a’r bwlch sydd rhwng y
lleiniau. Hefyd, ystyrir bod y cynllun cyfyngedig yn groes i’r angen ar gyfer
gofod mwynderol ar gyfer defnyddwyr presennol ac yn y dyfodol, a’r bwriad yn
groes i ofynion meini prawf polisïau perthnasol.
Ers cyflwyno’r
cais yn wreiddiol derbyniwyd cynllun diwygiedig yn dangos sut oedd modd i
gerbydau sy’n towio negodi’r gyffordd rhwng Ffordd Baltic a Ffordd Glanypwll
sydd yn dderbyniol gan yr Uned Drafnidiaeth. Ystyrir hefyd y byddai modd i’r
ymgeisydd gyfathrebu gyda’i gwsmeriaid i roi cyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd a
gadael y safle yn ddiogel ar hyd Ffordd Glanypwll heb ddefnyddio'r gyffordd
is-safonol sydd yn arwain yn syth o’r safle i Ffordd Baltic/A470.
Yn dilyn ystyried
yr holl faterion cynllunio perthnasol, ystyrir bod y bwriad yn annerbyniol ac
yn groes i ofynion polisïau a chanllawiau cynllunio lleol a chenedlaethol
perthnasol. Argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd gwrthod y cais am y
rhesymau a nodir yn yr adroddiad.
(b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad, nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau isod:
·
Bod y swyddogion
cynllunio yn gofyn am gyfyngiad ar ddefnydd y safle ond nad oedd hyn yn
dderbyniol iddo gan ei fod angen y safle ar agor 12 mis o’r flwyddyn
·
Ei fod wedi cydymffurfio â’r gyfraith a bod 320
medr sgwâr o ardal gomunol a oedd yn cynnwys seddi, mannau barbeciw, a fyddai’n
addas ar gyfer y lleiniau arfaethedig
·
Ei fod wedi gwario oddeutu £2,000 ar blanhigion,
llwyni, ar gyfer y safle gydag oddeutu 1,300 ychwanegol yn dod ym mis Mawrth
·
Cyfeiriwyd at ddeiseb
wedi ei harwyddo gan 800 o unigolion a oedd yn gefnogol i’r datblygiad ynghyd â
llythyrau wedi eu harwyddo gan 38 o fusnesau
lleol a oedd yn cynnwys menter Llechwedd ac Antur ‘Stiniog
(c)
Cynigwyd ac eiliwyd i’w ganiatáu yn bennaf oherwydd
bod tref Blaenau Ffestiniog wedi datblygu yn ddiweddar a thwristiaid wedi
cynyddu yn sgil y datblygiadau; bod y safle yn agos i’r dref a’r tir dan sylw
yn ddiffaith. Byddai’n rhoi cyfle i
berson lleol ddatblygu ar raddfa fach.
(ch) Nodwyd gan ddau Aelod bryder ynglŷn â
dwysedd y safle ac a fyddai modd dirprwyo’r hawl i’r swyddogion drafod hyn
ymhellach gyda’r ymgeisydd.
(d)
Mewn ymateb, esboniodd yr Uwch Gyfreithiwr y byddai
newid y dwysedd yn golygu newid y cais ac ni ragwelai y byddai’n welliant
derbyniol. Rhaid cofio bod trafodaethau
di-ben-draw wedi eu cynnal ar y cais dan sylw, ac fel esboniodd yr ymgeisydd ei
fod angen penderfyniad ar y cais gerbron.
(dd) Pleidleisiwyd ar y cynnig i ganiatau’r cais
yn groes i argymhelliad y swyddogion cynllunio ac fe gariodd y bleidlais.
(e)
Gofynnwyd i’r swyddogion cynllunio am amodau
ar gyfer y cais ac fe amlinellwyd y canlynol:
·
Cydymffurfio gyda’r
cynlluniau a gyflwynwyd
·
Dim mwy o leiniau na’r
nifer sydd wedi eu dangos ar y cynllun
·
amod tymhorol yn cyfyngu defnydd y safle (Mawrth i
Hydref). Roedd yr ymgeisydd yn dymuno defnyddio’r safle trwy gydol y flwyddyn
ond yn arferol rhoddir amod tymhorol ar safleoedd carafanau teithiol. Gofynnwyd
i’r Pwyllgor benderfynu o ran yr amod yma.
·
defnydd gwyliau yn unig
·
gadw cofrestr fydd ar
gael i’r awdurdod cynllunio i’w archwilio pe byddai angen
·
amod safonol Dŵr
Cymru ar gyfer dŵr wyneb
·
cynllun rheoli traffig sy’n nodi manylion y llechen
rhwystr yn y fynedfa a chyfarwyddiadau clir i’r rhai sy’n defnyddio’r safle ar
gyfer mynediad a gadael y safle
(f)
Nododd aelod bod yr amodau a gynigwyd gan y
swyddogion yn bur deg. O ran yr amod tymhorol, nododd yn arferol mai tymor 8
mis oedd tymor safleoedd carafanau teithiol.
Cynigwyd ac
eiliwyd i gymeradwyo’r amod tymhorol.
Penderfynwyd: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i
amodau cynllunio perthnasol gan gynnwys y rhai amlinellwyd yn (e) uchod.
Dogfennau ategol: