skip to main content

Agenda item

Cais i godi tŷ deulawr marchnad agored.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Aled Lloyd Evans

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Cofnod:

Bu i’r Is-gadeirydd gadeirio’r cais uchod gan fod y Cadeirydd wedi datgan buddiant personol ac wedi gadael y Siambr.

 

Cais i godi tŷ deulawr farchnad agored.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi nad oedd yn bosib trafod y cais yma yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 27 Tachwedd 2017 oherwydd nad oedd cworwm. Atgoffwyd y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2017 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle ar 27 Tachwedd 2017.

 

          Nodwyd bod y bwriad yn golygu codi tŷ newydd ar dir tu mewn i’r ffin datblygu ag o fewn ardal breswyl ym mhentref Chwilog. Ystyriwyd bod y bwriad yn cydymffurfio mewn egwyddor gyda gofynion polisïau a ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn achosi niwed i fwynderau’r gymdogaeth leol.                    

 

          Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Ei fod wedi holi CCG ychydig o flynyddoedd yn ôl o ran darparu llefydd parcio ar gyfer preswylwyr Bro Sion Wyn ond mai na oedd yr ateb. Problemau parcio yn bodoli yn y stad a ni fyddai’r datblygiad yn helpu’r sefyllfa;

·         Bod yr adroddiad yn nodi bod y bwriad yn bodloni gofynion Polisi TRA2 a TRA4 o’r CDLl a oedd yn ymwneud a pharcio a thrafnidiaeth. Tynnu sylw mai at safle’r cais yn unig y cyfeirir ac nid at y trafferthion parcio yn yr ardal gyfagos;

·         Byddai’r tŷ yn fwgwd ac yn effeithio ar fwynderau trigolion cyfagos. Dim ond 17 medr i ffwrdd o’r tai gyferbyn y byddai’r tŷ;

·         Cyfeirio at bolisi ISA4 o’r CDLl gan nodi y byddai’n bechod cael gwared â’r llecyn agored;

·         Bod paragraff 5.10 o’r adroddiad yn diystyru gwrthwynebiadau o ran mwynderau ond ei fod yn gofyn i’r Pwyllgor roi ystyriaeth iddynt a gwrthod y cais.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais. Nododd y cynigydd y dylid gwrthod y cais oherwydd byddai’r bwriad yn golygu colli llecyn gwyrdd/rhandiroedd, gor-edrych, dim angen am arall gan fod cynifer yn yr arfaeth yn Chwilog ac y byddai’n or-ddatblygiad o’r safle.

 

         Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Y byddai’n anodd iawn amddiffyn gwrthodiad mewn apêl ar sail nad oedd angen am dai yn yr ardal;

·         Bod pryder o ran effaith ar fwynderau preswyl yn rheswm y gellir ei ddefnyddio i wrthod y cais ond roedd yr argymhelliad gerbron yn gadarn;

·         Nid oedd y llecyn gwyrdd wedi ei warchod mewn unrhyw ffordd nac ar gyfer defnydd fel rhandiroedd;

·         O ran gor-edrych, mai’r canllaw pellter rhwng ffenest i ffenest yw oddeutu 22 medr, roedd oddeutu 17 medr rhwng y tŷ a’r tai gyferbyn ond nid oes ffenestr ar yr edrychiad perthnasol o’r tŷ arfaethedig;

·         Bod yr adroddiad yn ymateb i bryderon o ran gor-ddatblygiad, pwysleisiwyd mai dim ond un tŷ oedd dan sylw.

 

Nododd aelod ei bod yn methu deall pan fo CCG yn gwneud cais am dŷ marchnad agored yn hytrach na chais am dŷ fforddiadwy. Ychwanegodd y byddai 2 dŷ deulawr neu unllawr llai yn well defnydd o’r safle gan y byddai’r tŷ bwriedig yn edrych allan o le o ystyried y tai yn y cyffiniau.

Mewn ymateb, nododd yr Uwch Gyfreithiwr ei fod yn deall y pryder ond nid oedd yn berthnasol i’r cais gerbron. Eglurodd na fyddai gofyn ar unrhyw ymgeisydd i ddarparu tŷ fforddiadwy, cais ydoedd am un tŷ o fewn y ffin datblygu. Pwysleisiodd y dylai materion yng nghyswllt CCG gael eu trafod mewn fforwm arall.

 

Nododd y Rheolwr Cynllunio bod safle’r cais yn blot eithaf mawr a bod angen cymryd hyn i ystyriaeth wrth ystyried os oedd y bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle. Tynnodd sylw bod y dyluniad yn ategu tai ar y lôn tuag at Garej Pandy a byddai’r bwriedig yn gweddu i’w leoliad a’i fod o ansawdd dylunio da.

 

Penderfynwyd:   gwrthod y cais:

 

Rheswm:

Gor-ddatblygiad o’r safle gan gael effaith ar fwynderau trigolion cyfagos

 

 

 

Dogfennau ategol: