Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. W Gareth Roberts

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. W Gareth Roberts

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan dynnu sylw fod yr aelod cabinet yn fwy na chyfforddus gyda pherfformiad yr adran. Nodwyd fod trefniadau cadarn yn eu lle a diolchwyd i’r Pennaeth a Staff am eu gwaith caled.

 

Amlygwyd rhai prosiectau yn benodol. Nodwyd fod y broses o weithio yn integredig rhwng staff Cyngor Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd bellach yn trosglwyddo i mewn i strwythur newydd. Drwy greu'r timau integredig mae llawer wedi ei ddysgu drwy weithredu egwyddorion Ffordd Gwynedd ac mae'r rhain bellach yn dangos ffrwyth. Mynegwyd fod ychydig o lithro yn amserlen yn y gwaith adeiladu Tai gofal Ychwanegol ym Mhorthmadog. Er hyn mae 58 o geisiadau wedi ei derbyn ar gyfer y cynllun sydd a 40 o fflatiau.

 

Fel y nodwyd yn yr adroddiad blaenorol mae recriwtio staff yn parhau i fod yn broblem gynyddol. O ran Rhan 2 prosiect Llys Cadfan mae risg y bydd methiant gan y Bwrdd Iechyd i recriwtio nyrsys yn yr ardal yn effeithio ar lawn botensial y cynllun. Mae’r adran yn parhau i ymdrechu i ddenu staff a chadw gweithiwyr, ychwanegwyd fod hon yn broblem sydd i’w gweld yn y sector breifat yn ogystal. Cydnabuwyd pwysigrwydd gofalwyr a nodwyd fod camau yn cael eu cymryd i ymgorffori gwaith cefnogi gofalwyr yn yr agenda llesiant / ataliol.

 

Wrth edrych ar berfformiad tynnwyd sylw at gyfradd oedi wrth drosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol, sydd wedi gweld gwelliant yn y perfformiad. Dim ond un achos oedi oedd i’w gweld ym mis Hydref. Nodwyd ei bod yn galonogol fod cynnydd yn parhau yn y canran o achosion sydd wedi derbyn cyfnod o alluogi, gyd cynnydd yn y caran sydd wedi cwblhau’r pecyn galluogi ac sydd yn gallu ymdopi a byw gartref. Nodwyd fod yr adran yn brysur ac yn ceisio sicrhau fod anghenion y trigolion yn ganolog i’r hyn maent yn ei wneud.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Trafodwyd y Tai Gofal ym Mhorthmadog. Holwyd pam fod angen marchnata pan fod 58 o geisiadau wedi dod i mewn ar gyfer 40 o fflatiau. Nodwyd fod angen sicrhau fod anghenion yr unigolyn yn cyd-fynd ar fflatiau, felly maen tebygol na fydd yr holl ymgeiswyr yn gymwys i un o’r fflatiau yma.

-        Nodwyd wrth edrych ar weithio yn integredig fod Ysbyty Alltwen wedi bod yn llwyddiant, a holwyd ble y bydd y datblygiadau gweithio yn integredig nesaf. Esboniwyd fod y sir wedi ei rhannu mewn i bum ardal a bod pob ardal ar wahanol siwrnai, a nodwyd yn Ne Meirionydd fod yr egwyddorion wedi sefydlogi yn gryf o fewn y tîm.

-        Trafodwyd y prinder nyrsys a’r broblem recriwtio yn yr ardal. Mynegwyd ei fod yn fater allweddol a bod angen cydweithrediad ar draws gwasanaethau i edrych ar y sefyllfa. Nodwyd fod Brexit am fod yn fygythiad gan fod yr ardal yn ddibynnol ar symudiad nyrsys o dramor. Pwysleisiwyd fod recriwtio mewn ardaloedd gwledig yn broblem waeth a bod y mwyafrif o nyrsys yn fwy awyddus i weithio mewn ysbytai yn hytrach na Chartrefi Preswyl. Nodwyd fod angen gwneud gwaith i wella delwedd nyrsys mewn cartrefi gofal. Ychwanegwyd fod hon yn broblem genedlaethol, a bod gan Gyngor Gofal Cymru le i gynorthwyo gyda’r mater. 

 

Awdur:Morwena Edwards

Dogfennau ategol: