Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng Dilwyn Morgan

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad gan ofyn i’r Cyfarwyddwr godi’r mater presenoldeb gan yr Heddlu mewn cynadleddau  achos yn y Bartneriaeth Diogelwch Gogledd Cymru ac adrodd yn ôl os na cheir datrysiad addas.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad gan ofyn i’r Cyfarwyddwr godi’r mater presenoldeb gan yr Heddlu mewn achosion achos yn y Bartneriaeth Diogelwch Gogledd Cymru ac adrodd yn ôl os na cheir datrysiad addas .

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ar y cyfan fod yr Aelod Cabinet yn fodlon a’r mwyafrif o brosiectau. Pwysleisiwyd fod nifer o’r mesuryddion perfformiad yn dangos cynnydd cyffredinol o ganlyniad i gynnydd mewn nifer plant mewn gofal sydd yn cael ei weld yn genedlaethol.

 

Nodwyd fod yr adran yn wynebu cyfnod cyffroes wrth lunio gwasanaeth ffres i’r dyfodol. Yn y gorffennol mae grantiau Llywodraeth Cymru wedi cael gwario, yn orfodol, mewn pocedi o feysydd neu ardaloedd. Mynegwyd y bydd Strategaeth newydd yr adran yn sicrhau mwy o integreiddio ac yn galluogi’r adran i roi blaenoriaethau a chyfeiriad newydd fydd yn un uchelgeisiol ac arloesol. Bydd y strategaeth yn trawsnewid meysydd traddodiadol o ddarparu gwasanaethau a fydd yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar.

 

Mynegwyd fod gwaith yn mynd rhagddi ar gyfer ail gomisiynau rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, mae’r darparwyr gwasanaeth a’r Cyngor wedi bod yn cyfarfod i drafod bwriad y Cynllun Newydd ac mae’r broses dendro yn cael ei ddilyn ar hyn o bryd.

 

Nodwyd ar y cyfan wrth edrych ar berfformiad fod yr Aelod Cabinet yn eithaf bodlon, a ychwanegwyd fod gwaith yn cael ei wneud i wella gwasanaeth ble mae angen. Mae’r adran wedi bod yn gweithio ar greu pwrpasau newydd er mwyn miniogi a sicrhau fod mesurau yn mesur y pethau cywir. Nodwyd fod perfformiad y Cynadleddau Amddiffyn Plant wedi dangos dirywiad, ac amryw o resymau dros hyn ond nodwyd fod diffyg ymrwymiad yr Heddlu i fynychu’r Cynadleddau yn brif reswm. Pwysleisiwyd wrth leoli plant fod cynnydd yn y perfformiad, ond o ganlyniad i anghenion gofal mwy dwys mae hyn yn dylanwadu ar y ffigyrau. Ond pwysleisiwyd nad yw hyn yn sefyllfa unigryw i Wynedd a bod y mater wedi ei uchafu i’r Bwrdd Comisiynau Rhanbarthol.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-    Holwyd pam fod Asesiadau SOGS bellach yn amherthnasol, a nodwyd mai penderfyniad y Llywodraeth oedd gollwng y Mesur.

-        Trafodwyd y dirywiad mewn Cynadleddau Amddiffyn Plant. Pwysleisiwyd mai o ganlyniad i ddiffyg ymrwymiad yr Heddlu i fynychu mae wedi arwain at gyfarfodydd heb ‘Cworwm’ sydd angen bod yn eu lle er mwyn iddynt ddigwydd. Nodwyd fod hyn wedi ei uchafu i’r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn barod. Ystyriwyd sut y byddai modddatrus y mater ac a ddylid anfon at y Comisiynydd . Awgrymwyd y byddai’n syniad yn y lle cyntaf i ofyn i’r Cyfarwyddwr godi’r mater presenoldeb gan yr Heddlu mewn achosion achos yn y Bartneriaeth Diogelwch Gogledd Cymru ac adrodd yn ôl os na cheir datrysiad addas.

-        Croesawyd defnydd o’r system wybodaeth ‘Capita’ sydd yn cynorthwyo i adnabod anghenion ac i wella trefniadau trosglwyddo plentyn o addysg Meithrin i Gynradd. Nodwyd fod system tracio wedi ei greu ac mae’r adran mewn trafodaeth gyda’r Adran Addysg i gynorthwyo i ddatblygu’r system.

-        Holwyd gyda tender Teuluoedd yn Gyntaf, sut mae modd anfon tendr allan heb i’r strategaeth newydd fod yn ei le. Mynegwyd fod canllawiau’r Llywodraeth ar gyfer Teuluoedd n Gyntaf yn rhai llym, ond fod y tendrau yn cael eu gwneud mewn ffordd sy’n debygol o fod yn gyson gyda’r strategaeth ac yn fwy integredig i’r adran.

 

 

Awdur:Morwena Edwards

Dogfennau ategol: