Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Gareth Thomas

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad ynghyd a chymeradwyo i ail-broffilio gwireddu £263,000 o’r cynllun “Arbedion Ychwanegol Ysgolion”, oedd i wireddu £4.3m o arbedion yn y cyfnod 2015/16 i 2018/19, trwy lithro £65,000 i’w wireddu yn 2021/22 a £198,000 i’w wireddu yn 2020/21.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad ynghyd a chymeradwyo i ail-broffilio gwireddu £263,000 o’r cynllun “Arbedion Ychwanegol Ysgolion”, oedd i wireddu £4.3m o arbedion yn y cyfnod 2015/16 i 2018/19, trwy lithro £65,000 i’w wireddu yn 2021/22 a £198,000 i’w wireddu yn 2020/21.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr Aelod Cabinet yn gyffyrddus ar berfformiad ar y cyfan ond fod rhai meysydd angen mwy o waith. Tywysodd yr Aelod drwy’r adroddiad gan amlygu rhai materion. Nodwyd wrth edrych ar Wella a Chysoni Safonau Addysg y Cyfnod Sylfaen fod canlyniadau’r haf 2017 yn statig am y drydedd flwyddyn a bod Gwynedd wedi ei osod yn y 15 safle yn Genedlaethol. Mynegwyd y dylai Gwynedd fod yn y 4ydd neu’r 5ed safle, ac felly fod y canlyniadau yn rhai siomedig. Mae’r Adran wedi comisiynu GwE i ystyried y sefyllfa.

 

Wrth edrych ar Raglen Rhwydwaith o Ysgolion Hyfyw i’r Dyfodol: Prosiect Bangor nodwyd fod y trafodaethau wedi ei gynnal gyda’r penaethiaid, llywodraethwyr a chynghorwyr yr ardal i drafod opsiynau. Bellach mae opsiwn ffafredig wedi ei adnabod yn y Pwyllgor Adolygu’r Dalgylch a bydd y yn cael ei gyflwyno yn y Cabinet ym mis Chwefror.

 

Trafodwyd canlyniadau’r haf gan nodi fod perfformiad Cynllun Allweddol 4 a chanlyniadau TGAU yn siomedig eleni gan fod cwymp wedi bod yn y perfformiad. Ond pwysleisiwyd fod y canlyniadau yma yn adlewyrchu’r cwymp yn Genedlaethol. Prif reswm am y cwymp yma yw’r newidiadau i’r drefn arholi a’r fanyleb ar gyfer pynciau megis Mathemateg a Saesneg sydd wedi effeithiol yn sylweddol ar y canlyniadau TGAU i Gymru.

 

Nodwyd fod yr arbedion disgwyliedig fyddai’n deillio o gynlluniau ad-drefnu am wireddu yn hwyrach na’r disgwyl ond yn hytrach na gofyn i’r ysgolion wynebu’r baich yn y cyfamser, nodwyd y byddai’n fwy synhwyrol i ail broffilio’r arbediad disgwyliadwy.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-    Nodwyd fod Gwella a Chysoni Safonau Addysg yn sylfaen i’r adran ac yn un o’r prif brosiectau. Mae’r canlyniad yn isel yn benodol yn y Cyfnod Sylfaen a holwyd pryd y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn sicrhau fod safon addysg yn gwella. Mynegwyd fod yr adran wedi comisiynu GwE i edrych ar y mater ond fod peth oedi wedi bod ar wneud y gwaith. Yn ychwanegol nodwyd wrth edrych ar Safonau Cyfnod Sylfaen fod y canlyniadau yn is o ganlyniad i Iaith. Mae’r addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae amryw o’r plant yn dod o gartrefi di-gymraeg ac efallai heb gael gafael ar yr iaith erbyn eu bod yn 7 oed. Ond nodwyd wrth edrych ar safonau plant 11 oed mae’r lefelau yn llawer yn uwch o ganlyniad iddynt gael gafael ar yr iaith erbyn yr oed yma.

-    Holwyd os mai diffyg arweinyddiaeth glir  yw’r rheswm dros rhai ysgolion ddim yn cyrraedd y safonau. Mynegwyd fod cynllun i Wella Arweinyddiaeth a Rheolaeth i ddatblygu arweinyddion da ond pwysleisiwyd yn ogystal diffyg yn y nifer sydd yn ymgeisio am y swyddi. Mae’r adran yn gweithio yn nes a cholegau er mwyn datblygu arweinwyr yn y dyfodol. Nodwyd ei bod yn her ond fod y prosiect yn llawer mwy penodol bellach a gobeithio y bydd modd adrodd yn ôl i’r Cabinet ym mis Mawrth.

-    Mynegwyd fod adolygiadau cynnar Ysgol Bro Idris yn rhai cadarnhaol ond holwyd pryd y bydd asesu ar bryderon yn y broses o greu'r Ysgol Ddilynol Ddalgylchol. Pwysleisiwyd fod yr ysgol hon yn un arloesol a bod gwersi i’w dysgu yn bendant a bod gwaith wedi ei gomisiynu er mwyn edrych yn benodol ar y cyfnod datblygu.

-    Trafodwyd Campws Dysgu'r Bala, gan bwysleisio ar yr adnoddau cymunedol. Nodwyd fod pryder yn y gymuned yn Y Bala fod yr adnoddau cymunedol yma y tu allan i waith arferol yr adran addysg a holwyd os oes mewnbwn gan yr Adran Economi a Chymuned. Nodwyd fod swyddogion perthnasol o’r adran ar y Bwrdd Prosiect sydd yn rhoi llawer o sylw i’r elfen gymunedol

Awdur:Iwan Trefor Jones

Dogfennau ategol: