Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.
Cofnod:
Tywysodd y Swyddog
·
Ni dderbyniwyd
sylwadau o ran y Cod Diogelwch
·
Rhagwelir y bydd archwiliwr o adran polisi Asiantaeth
Gwylwyr y Glannau yn ymweld â’r
Cyngor yn ystod yr Hydref
er archwilio’r Cod cyfredol ac i gynghori
ar unrhyw welliannau.
·
Y gwaredwyd llongddrylliad a oedd yn achosi
perygl a chymerwyd camau i waredu
cwch wedi ei leoli ar
Gei Balast gan roi rhybudd
terfynol i’r perchennog.
·
Bod y cwch ar y llithrfa lle'r
oedd unigolyn yn trigo arni
wedi ei symud
mewn ymateb i bryderon.
·
Bod 6 rhybudd i forwyr mewn
grym gan fod rhai o’r
cymhorthion mordwyo oddi ar eu
safle ac nad
oedd wedi bod yn bosib i’w
gosod yn ôl ar eu
lleoliad cywir hyd yn hyn
oherwydd y tywydd anffafriol. Gobeithir cwblhau’r gwaith o’u lleoli yn
y bythefnos nesaf.
·
Bod Cwch y Dwyfor yn cael
ei chynnal a chadw gan gwmni
Partington Marine ym
Mhwllheli ar hyn o bryd gyda
gwaith anorfod yn mynd rhagddo.
·
Cynhaliwyd archwiliad gan Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar 24 Chwefror 2016. Roedd yr adroddiad
yn tynnu sylw at ddiffyg y gwasanaeth i gydymffurfio
â gofynion ‘Panar’ ac yn tynnu sylw
fod angen caniatâd Tŷ’r Drindod cyn newid
lleoliad cymhorthyddion mordwyo. Nodwyd nad oedd
yn ymarferol bosib bob tro i
dderbyn caniatâd ymlaen llaw.
·
Bod gwaith cynnal a chadw angorfeydd wedi ei gwblhau heddiw
a byddai’r buddsoddiad o fudd mawr i’r
Harbwr.
·
Y derbyniwyd
97 o geisiadau am angorfeydd
blynyddol gyda 92 gan unigolion a
oedd yn dychwelyd.
·
Y buddsoddwyd
mewn system Teledu Cylch Cyfyng (TCC) newydd o safon a fyddai’n arf o ran trosedd ac anrhefn.
·
Y sefyllfa gyllidebol hyd at ddiwedd Chwefror 2016, gan nodi bod yr
incwm a dderbynnir o ran ffioedd maes
parcio’r Harbwr yn gymorth mawr
i sicrhau cyllideb a oedd yn gyffredinol gytbwys ar ddiwedd
y flwyddyn ariannol.
·
Bod ffioedd blwyddyn ariannol 2016-17 wedi cynyddu 1% ac fe unionwyd
taliad cofrestru badau dŵr o ran ceisiadau trwy’r post a cheisiadau a wnaed yn Swyddfa’r Harbwr.
·
Bod cyfnod secondiad yr Harbwr
Feistr wedi ei ymestyn tan ddiwedd Medi 2016 gyda chynllun datblygu
mewn lle o ran cyrraedd gofynion y swydd.
·
Ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Arfaethedig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig Arfaethedig, nodwyd y dylai’r mudiadau,pe dymunent,
gyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad yn uniongyrchol.
Gwnaed cais am farn yr
aelodau o ran ail-leoli’r Fairway
buoy, nodwyd bod Tŷ’r
Drindod yn gefnogol i’r egwyddor.
Nododd Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden y gellir symud y bwi ychydig
ond bod angen ystyried bod ceg yr harbwr yn
symud. Nododd Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd
Achub bod y sefydliad wedi trafod y mater ac yn cynghori na ddylid ail-leoli’r bwi. Nododd
Cynrychiolydd Buddiannau Masnachol bod y bwi yn y lleoliad anghywir
ac nad oedd
morwyr o gyfeiriad Pwllheli yn ei
weld.
Adroddwyd
y derbyniwyd cais gan unigolyn i
werthu lluniaeth ysgafn ar dir
yr Harbwr, nodwyd bod 1 goddefiad presennol ar gyfer
gwerthu hufen iâ. Nododd yr Aelod Lleol ei fod
yn agored i’r opsiwn. Nodwyd pe rhoddir
goddefiad y cynhwysir cymal eithrio rhag
gweithredu pan gynhelir digwyddiadau. Nododd aelodau y dylid siarad efo cwmnïau
ar y cei cyn parhau ac ystyried
cynnal proses tendro ar gyfer y goddefiad
er sicrhau tryloywder a rhoi cyfle i bawb.
Dylid yn ogystal ystyried effaith lleoli’r fan ar naws yr
ardal ac ansawdd gweledol y fan gwerthu lluniaeth ysgafn.
Manylodd yr Harbwr Feistr ar y rhaglen
waith cynnal a chadw a gofynnwyd i aelodau hysbysu’r
gwasanaeth o unrhyw waith arall sydd
angen ei wneud. Mewn ymateb
i ymholiad gan aelod, nodwyd
y symudir y cynhwysydd ger Swyddfa’r Harbwr.
Llongyfarchodd
y Cadeirydd yr Harbwr Feistr ar
ymestyniad ei secondiad i’r swydd.
Yn ystod y cyfarfod ymatebwyd i sylwadau gan
yr aelodau gan y Swyddog
·
Y llunnir amodau defnydd ar gyfer unigolion
oedd yn byw
ar eu cychod
i’w gyplysu efo Rheoliadau'r Harbwr ac fe’u rhoddir gerbron y Pwyllgor Ymgynghorol i dderbyn cymeradwyaeth.
·
Yr ail edrychir ar y sefyllfa o ran parcio a chadw cychod ar y gwair
ym Morth-y-gest.
·
Y cydnabyddir y pryder o ran bwiau ddim ar eu
safle ac fe
gynghorir bob defnyddiwr i gysylltu efo
Swyddfa’r Harbwr cyn dod i
mewn i’r Harbwr er osgoi
iddynt fynd i drafferthion.
·
Yng nghyswllt Gorchymyn Parcio’r Cyngor, byddai incwm maes
parcio’r Harbwr yn parhau i
ddod i’r Harbwr yn unol
â’r cytundeb presennol.
Dogfennau ategol: