Cyflwynwyd gan:Cyng. Dafydd Meurig
Penderfyniad:
Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad ac i leihau’r
targed arbedion ar gyfer arbedion teithio o £390,000 i £240,000 a symud y
flwyddyn cyflawni o 2018/19 i 2019/20 ond gan ofyn i’r cynllun gael ei
weithredu cyn 1 Ebrill 2019 os yw’n barod.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dafydd Meurig
PENDEFYNWYD
Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr
adroddiad ac i leihau’r targed arbedion ar gyfer arbedion teithio o £390,000 i
£240,000 a symud y flwyddyn cyflawni o 2018/19 i 2019/20 ond gan ofyn i’r
cynllun gael ei weithredu cyn 1 Ebrill 2019 os yw’n barod.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei fod yn un sy’n nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adran.
Pwysleisiwyd wrth edrych ar sefyllfa ariannol fod yr adran bellach wedi
gwireddu neu ar drac gyda 97% o’r Cynlluniau Arbedion Cyfredol. Er hynny,
esboniwyd y bydd ychydig lithriad yn bosib mewn dau gynllun sef Adolygiad Rhent
Manddaliadau a Gwarchod y Cyhoedd - Codi Ffi am Gynnig Cyngor ond rhagwelir y
bydd yr arbedion wedi eu gwireddu yn
llawn erbyn 2018/19.
Yn ychwanegol i
ddarganfod arbedion yr adran mae’r Adran Amgylchedd yn gyfrifol am arwain
prosiect ar draws y Cyngor i leihau costau teithio i’r dyfodol. Yn dilyn derbyn
Adolygiad Allanol o’r costau awgrymwyd gan gwmni allanol fod swm potensial o
arbediad o £390,000. Dengys gwaith ychwanegol a wnaed yn fewnol fod y swm yma
wedi ei or-ddatgan a bod angen gostwng y swm felly i £240,000 a nodwyd fod
gwaith pellach angen ei wneud cyn y gellir ei wireddu ac felly ‘roed angen ail
broffilio’r arbediad.
Wrth edrych ar
berfformiad yr adran nodwyd fod gwaith wedi ei wneud i ddatblygu graffiau wrth
edrych ar berfformiad. Edrychwyd yn benodol ar graff canran o gwsmeriaid a
ddywedodd eu bod yn fodlon neu’n fodlon iawn a’r lefel gwasanaeth Cynllunio.
Mynegwyd fod cwymp wedi bod yn ystod y cyfnod ond ar y cyfan mae’r ymateb
cronnus yn dangos darlun gwell os sut mae’r adran yn perfformio. Esboniwyd pan
mae newid mawr yn y graffiau fod modd gofyn pam ac edrych yn fanylach ar y
data.
Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth
- Trafodwyd
bodlonrwydd cwsmeriaid a lefel gwasanaeth cynllunio, yn benodol pam fod rhai
ceisiadau wedi cymryd blynyddoedd. Pwysleisiwyd fod y ceisiadau yma yn rai mawr
a defnyddiwyd stad Redrow ym Mangor fel enghraifft.
- Holwyd o ran
arolygu glendid bwyd, ble mae Gwynedd o ran staffio ac amser o’i gymharu â
siroedd eraill. Nodwyd y byddai’r Aelod Cabinet yn dlyn hyn fyny gyda’r
gwasanaeth.
- Holwyd a oedd y
gostyngiad mewn perfformiad o ganlyniad i’r toriadau mae’r adran wedi ei wneud
yn ystod y blynyddoedd diwethaf a gofynnwyd a oedd hyn yn fater y dylem brydeu
amdano yn fwy cyffredinol. Nodwyd mai ychydig o dan y rhaglen oedd y gwasanaeth
yn yr enghraifft yma ac ni fyddem yn gallu gweld gwir effaith hyd nes y byddem
wedi cyrraedd diwedd y flwyddyn. Pe
byddem yn gweld perfformiadyn methu dal i fyny, yna efallai y byddai angen
gofyn a ydym wedi mynd rhy bell, ond os ydym yn gallu dygymod erbyn diwedd y
flwyddyn neu os ydym o fewn trwch blewyd i berfformiad blaenorol yna rhaid
derbyn fod lleihau adnodd am lesteirio perffomriad. Beth yw’r goblygiadau yw’r cwestiwn i ofyn..
- Tynnwyd sylw at y
ffaith fod llawer o’r targedau yn is nac y disgwyl o ganlyniad i salwch gwaith,
holwyd os oes angen edrych ymhellach i hyn gan ei fod yn rhywbeth sy’n codi ei
ben yn fwy aml bellach gan edrych yn benodol ar bwysau gwaith staff. Nodwyd fod
lefelau salwch cyffredinol y Cyngor yn aros yn lled gyson (fel y gwelir o
adroddiad y Dirprwy Arweinydd) ond yn dilyn yr arbedion mae nifer o adrannau wedi gorfod cael gwared
a staff ac felly pan mae aelod o staff sy’n gwneud rhywbeth allweddol yn sâl
o’r gwaith nid oes cymaint o wydnwch er mwyn medru symud rhywun i wneud y
gwaith.Mynegwyd fod angen cadw golwg ar hyn.
Awdur:Dilwyn Williams
Dogfennau ategol: