Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sioned Williams  01286 679729

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Eric M. Jones.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 389 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2018, fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 27 Chwefror, 2018 fel rhai cywir.

 

5.

YMGYNGHORIAD STRATEGAETH IAITH pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd fersiwn ddrafft o’r Strategaeth Iaith, ‘Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd 2018-2023’, gan y Rheolwr Gwasanaethau'r Iaith Gymraeg. Nodwyd bod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar y strategaeth wedi cychwyn ac y byddai’n dod i ben ar y 5ed o Fehefin 2018. Dywedwyd y  bydd croeso i unrhyw unigolyn neu sefydliadau gynnig unrhyw sylwadau, gwelliannau neu awgrymiadau er mwyn eu hystyried. Bydd y strategaeth derfynol yn mynd ger bron y Cabinet a’r Cyngor Llawn ym mis Hydref 2018, ynghyd â chynllun gweithredu a fydd yn cael ei lunio yn yr haf.

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebwyd i nifer o gwestiynau/sylwadau gan aelodau unigol mewn perthynas â:

§  Gwallau iaith a cham dreiglo yn y strategaeth.

§  Camau gweithredol yn esbonio beth sy’n mynd i ddigwydd, pwy sy’n gyfrifol, a sut mae mesur cynnydd ddim wedi eu cynnwys yn y  strategaeth. 

§  Penderfyniadau’r Cyngor sy’n gwrthweithio yn erbyn nifer o’r amcanion sydd wedi eu cynnwys yn strategaeth e.e. cau'r clybiau ieuenctid sy’n hybu’r defnydd o Gymraeg ymhlith phobl ifanc.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy gynnwys y cwestiynau ymgynghoriad ar gyfer y Strategaeth Iaith. Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan aelodau unigol mewn perthynas â:

Crynodeb o’r sefyllfa bresennol a’r heriau

§  Y ‘Seisnigrwydd slei’ sy’n deillio o'r dechnoleg/teclynnau electronig sy’n cael eu defnyddio mewn ysgolion - oes modd mynd i’r afael a hyn? 

§  Cyngor Gwynedd yw un o'r unig sefydliadau yng Nghymru sy’n flaengar i gyfieithu ‘apps’, darparu technoleg yn y Gymraeg, a darparu cyfarfodydd sy’n ddwyieithog – pam nad yw’r llywodraeth yn cyfrannu arian er mwyn cefnogi’r gwaith arbennig yma?

§  A yw’n deg annog pobl ifanc ‘i fod yn arweinwyr cymunedol ac i drefnu gweithgareddau yn eu cymunedau’ pan mae’r Cyngor yn tynnu’r cyfleusterau a'r arian i wneud hyn oddi wrthynt?

 

Blaenoriaeth 1: Iaith y Cartref

§  Trosglwyddiad ieithyddol yn wan ymhlith teuluoedd rhieni sengl - ydi’n bosib cael strategaeth benodol i fynd i’r afael a’r mater yma?

§  Trosglwyddiad ieithyddol yn wan mewn teuluoedd ble mae’r tad yn unig sy’n siarad Cymraeg. Mae angen cryfhau’r neges bod tadau gyda rôl bwysig i sicrhau bod eu plant yn tyfu fyny yn ddwyieithog.

§  Awgrym i sefydlu canolfannau trochi newydd mewn ardaloedd gyda chanran uchel o blant sy’n hwyr yn dysgu’r Gymraeg.

§  Oes modd clymu gweledigaeth yr iaith gartref gyda nod y Siarter Iaith?

 

Blaenoriaeth 2: Iaith Dysgu

§  Angen darparu neges glir i ddisgyblion ysgolion uwchradd bod y Gymraeg yn gymhwyster yn y sector gyhoeddus a’r sector breifat ac yn arwain at lawer mwy o gyfleoedd gwaith yn y dyfodol.

 

Blaenoriaeth 3: Iaith Gwaith a Gwasanaeth

§  Mae’r gweithle yn le pwerus i hybu’r defnydd o Gymraeg – mae’n bwysig ehangu’r gweithleoedd sy’n defnyddio’r Gymraeg yn llwyr.

§  Oes modd dylanwadu ar fanciau ac archfarchnadoedd a chwmnïau ynni mawrion i wneud mwy o ddewis iaith.

§  Mae’n bwysig sicrhau bod y peiriannau hyn yn defnyddio Cymraeg hawdd sy’n cael ei ddefnyddio pob dydd. Yn aml, mae’r cyfieithiad yn rhy drwsgl a chymhleth sydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD AR BOLISI ENWAU LLEFYDD Y CYNGOR pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd papur ymchwil yn amlinellu dyletswyddau a hawliau statudol yr Awdurdod yng nghyswllt bathu, arddel a chofnodi enwau tai, ystadau, strydoedd a lleoedd Gwynedd gan y Rheolwr Prosiect Gwasanaethau Corfforaethol. Nodwyd bod y mater wedi bod yn destun sawl cwyn sydd wedi dod ger bron y Pwyllgor dros y blynyddoedd diwethaf, ac amcan y papur ymchwil yw cael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa. Gofynnwyd i’r aelodau ystyried canlyniadau ac argymhellion yr ymchwil a rhoi eu barn am y camau nesaf priodol.

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebwyd i nifer o gwestiynau/sylwadau gan aelodau unigol mewn perthynas â:

§  Oes gan y Cyngor yr hawl i fynnu enwau Cymraeg ar stadau newydd?

§  Pwy sy’n gyfrifol am enwi tai, datblygiadau a strydoedd sy’n berchen i’r Cyngor?

§  Mae nifer o ddatblygiadau newydd yn fwy tebygol o gael enwau Cymraeg, oes modd pwysleisio’r pwynt yma?

§  Mae’r mater yn codi pryder, nid yn unig wrth enw tai a strydoedd, ond wrth enwi caeau, creigiau neu ddarnau o’r mynyddoedd. Oes modd edrych am arian i osod plac arnynt yn nodi'r enwau cywir er mwyn hybu’r enwau Cymraeg?

PENDERFYNWYD:  Cytuno i barhau i weithio ar sail yr adroddiad er mwyn cael mwy o eglurder, yn enwedig o ran enwi nodweddion daearyddol a sut y gallwn ddylanwadu ar yr enwau a ddefnyddir gan gyrff allanol fel y Post Brenhinol a’r Arolwg Ordnans, ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar unrhyw ddatblygiadau.

 

7.

CYFLWYNIAD TAN20 - ADRAN GYNLLUNIO

Cofnod:

Rhoddwyd cyflwyniad i’r Pwyllgor ar Nodyn Cyngor Technegol 20: Cynllunio A’r Gymraeg (Tan 20) yn dilyn cais gan y Cadeirydd a godwyd pryder bod arweinyddiaeth y llywodraeth ar y mater yn annelwig a gwan.  Nodwyd bod y Tan 20 newydd wedi’i gyhoeddi ers mis Hydref 2017 ac amlygwyd y cysondebau/gwahaniaethau rhwng y fersiwn hwn a’r fersiwn blaenorol, a thrafodwyd y gwendidau’r fersiwn newydd, a’r goblygiadau ar ardaloedd cynllunio Gwynedd a Môn.

 

Esboniwyd bod ymateb eisoes wedi’i anfon i’r Llywodraeth yn enw grŵp Plaid Cymru ym mis Rhagfyr i fynegi pryder ac anfodlonrwydd bod y Llywodraeth wedi anwybyddu sylwadau Cyngor Gwynedd a Môn, ac wedi methu â;

§  chynnig diffiniad o ardaloedd sensitifrwydd ieithyddol;

§  rhoi arweiniad ar yr asesiad iaith.

 

Adroddwyd bod ymateb wedi ei dderbyn gan y Gweinidog Lesley Griffiths AC, oedd yn nodi bod rhyddid i Awdurdodau Lleol ehangu ar y polisi cenedlaethol a datblygu eu canllawiau eu hunain i ymateb i anghenion lleol.  Roedd felly yn rhoi y cyfrifoldeb yn nwylo’r Awdurdod lleol i bennu’r hyn sydd yn briodol ar gyfer eu hardal hwy.

 

Gofynnwyd i’r aelodau a oeddynt yn dymuno anfon gohebiaeth bellach at y Llywodraeth yn enw’r Pwyllgor Iaith neu a oeddynt yn hapus i weld beth fyddai’n dod o ddatblygiad y Canllaw Cynllunio Atodol a chael diweddariad ar y mater yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD: gadael yr eitem ar yr agenda ar gyfer diweddariad yn y  pwyllgor nesaf.

 

8.

CWYNION AC YMCHWILIADAU

Cofnod:

Nid oedd unrhyw gwynion nag ymchwiliadau yw nodi.