Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Simon Glyn, Louise Hughes, Elin Walker Jones a Dilwyn Lloyd.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol.

Cofnod:

Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd John Brynmor Hughes, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0027/39/LL);

·        Y Cynghorydd Annwen Daniels, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0154/03/LL).

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 120 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2019, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2019, fel rhai cywir.

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

5.1

Cais Rhif C19/0149/46/LL - Congl y Cae, Llangwnadl, Pwllheli pdf eicon PDF 158 KB

Dymchwel adeilad allanol a chodi estyniad unllawr ar y tŷ ac addasu adeilad allanol yn 2 uned wyliau.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Simon Glyn

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel adeilad allanol a chodi estyniad unllawr ar y tŷ ac addasu adeilad allanol yn 2 uned wyliau.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 20 Mai 2019 er mwyn cael cyfle i ystyried cyd-destun apêl cais rhif (C18/0023/42/LL), a wrthodwyd am resymau yn ymwneud â gormodedd o ail gartrefi yn yr ardal. Nodwyd yn sgil y ffigyrau a nodwyd yng nghanlyniad yr apêl, ystyriwyd bod angen ail asesu’r cais yn erbyn y ffigyrau perthnasol.

 

Nodwyd bod cais ar gyfer ‘Dymchwel adeilad allanol sydd wedi ei gysylltu i’r tŷ a chodi estyniad unllawr yn ei le’, a oedd yn ffurfio rhan o’r cais gerbron, wedi ei ganiatáu ar 28 Mehefin 2019.

 

Adroddwyd bod apêl am ddiffyg penderfyniad ar y cais wedi ei gofrestru gyda’r Arolygiaeth Cynllunio. Eglurwyd pe gwrthodir neu gohirir y cais byddai’r apêl yn parhau.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd, a oedd yn cynnwys sylwadau Uned Cefnogi Busnes yr Adran Economi a Chymuned ar gadernid y cynllun busnes.

 

Nodwyd bod Polisi TWR 2 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl) yn caniatáu cynigion i drosi adeiladau presennol megis adeiladau amaethyddol yn llety gwyliau, cyn belled â’u bod yn cydymffurfio gyda 5 maen prawf. Cyfeiriwyd at faen prawf ‘v’, a oedd yn gofyn ‘Nad yw’r datblygiad yn arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal’.

 

Amlygwyd bod yr ymgeisydd, yn unol â gofynion Polisi TWR 2, wedi cyflwyno cynllun busnes cynhwysfawr a oedd yn cynnwys ffigyrau buddsoddi, costau a ffigyrau gosod disgwyliedig ac ystyriwyd fod ei gynnwys yn realistig ac yn dangos hyfywedd fel defnydd gwyliau. Roedd Uned Cefnogi Busnes yr Adran Economi a Chymuned yn cydweld gyda’r canfyddiadau yma a’u bod yn fodlon ei fod yn gynllun busnes addas ar gyfer y cais.

 

Nodwyd yr aseswyd gormodedd yng nghyd-destun Canllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau a phenderfyniad apêl Tŷ’n Pwll, Nefyn. Amlygwyd bod yr asesiad wedi cadarnhau bod 14% o’r unedau domestig yn ardal Cyngor Cymuned Tudweiliog yn ail gartrefi, felly yn uwch na’r trothwy 10% a ddefnyddiwyd gan yr Arolygydd ar yr apêl yn Nefyn. Eglurwyd nad oedd yr ymgeisydd yn cytuno gyda’r ffigyrau ac yn nodi nad oedd y mwyafrif o ail gartrefi yn cael eu gosod a’i fod yn anghytuno â’r sail yr aseswyd gormodedd.

 

Nodwyd er gwaethaf dadleuon yr ymgeisydd ac er bod holl faterion eraill TWR 2 yn dderbyniol, ar sail y ffigyrau cyfredol ac yng ngoleuni penderfyniad ac asesiad yr Arolygydd ar apêl Tŷ’n Pwll, Nefyn roedd rhaid argymell gwrthod y cais ar sail gormodedd o lety o’r fath yn groes i faen prawf ‘v’ TWR 2 y CDLl a throthwyon Canllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau (2011).

         

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod diwygiadau sylweddol i’r bwriad er mwyn gwneud y datblygiad yn dderbyniol;

·         Bod argymhelliad y swyddogion wedi ei ddiwygio, gyda’r ffigwr o 14% o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

Cais Rhif C18/1133/14/LL - Cwm Cadnant Valley, Ffordd Llanberis, Caernarfon pdf eicon PDF 135 KB

Gosod 25 caban gwyliau ar gyfer defnydd gwyliau trwy'r flwyddyn yn lle 32 llain carafan teithiol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosod 25 caban gwyliau ar gyfer defnydd gwyliau trwy'r flwyddyn yn lle 32 llain carafán deithiol.

        

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y bwriad yn golygu lleoli 25 uned wyliau oddi fewn i safle cuddiedig ac oddi fewn i’r amgylchedd adeiledig ac fe gredir, ni fyddai’r bwriad yn arwain at ormodedd o safleoedd carafanau/cabannau sefydlog cyffelyb yn nalgylch safle’r cais ac ni fyddai’r datblygiad, ynddo’i hun, yn cael ardrawiad sylweddol ac arwyddocaol ar gymeriad a mwynderau’r dirwedd leol. Eglurwyd y byddai’r bwriad yn lleihau ar ddwysedd defnydd y safle presennol fel safle teithiol gan ddisodli 32 carafán deithiol.

 

Nodwyd o ystyried lleoliad cuddiedig y safle o fewn y treflun; ei raddfa a oedd yn llai dwys na’r defnydd presennol, a’r ffaith ei fod yn ymddangos y byddai’r llety gwyliau a’r safle’n gyffredinol yn darparu cyfleusterau o ansawdd uchel, roedd y bwriad arfaethedig yn dderbyniol.

 

Amlygwyd bod materion llifogydd ar rannau o’r safle a bod yr ymgeisydd wedi symud y cabannau o’r rhan a oedd yn cael ei lifogi ac nid oedd mynediad o fewn y parth llifogydd. Nodwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn fodlon gyda’r bwriad.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

         

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod llawer o safleoedd unedau sefydlog yn yr ardal, gyda’r nifer o unedau sefydlog yn yr ardal ymhell dros riniog gormodedd. O’r farn bod trosi safle carafanau symudol i safle unedau sefydlog parhaol yn gam rhy bell;

·         O ran pryder yr Uned Dwristiaeth ynghylch yr orddarpariaeth o unedau sefydlog a’r prinder safleoedd teithiol yn ardal Caernarfon, pa asesiad a wnaed? Roedd angen gwarchod y nifer o safleoedd carafanau teithiol yn yr ardal;

·         Byddai’r bwriad yn golygu llai o drafnidiaeth a ni fyddai’n weledol o unrhyw fan;

·         Yn well datblygiad na’r un presennol. A fyddai’r ymgeisydd yn gwerthu’r cabanau neu eu gosod?

·         Byddai’r bwriad yn welliant i’r safle gyda lleihad yn y nifer o unedau. Nid oedd y Cyngor Tref yn gwrthwynebu’r bwriad, nid oedd yn bosib cyfyngu defnydd o’r safle i 11 mis yn unol â’u dymuniad, ond fe fyddai gosod amod defnydd gwyliau yn unig/cadw cofrestr yn sicrhau nad oedd y cabanau yn cael eu meddiannu fel cartrefi parhaol.

 

(c)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Yng nghyd-destun Polisi TWR 3 o’r CDLl, asesir gormodedd o ran capasiti’r dirwedd leol ar gyfer ychwaneg o ddatblygiadau siales neu garafanau gwyliau. Ni fyddai’r datblygiad yn weledol yn y dirwedd;

·         Mai dymuniad yr Uned Twristiaeth oedd cael ychwaneg o safleoedd teithiol. Bod safleoedd teithiol yn yr ardal gyda photensial yn y dirwedd ar gyfer safleoedd teithiol newydd. Nid oedd y bwriad yn tanseilio polisi cynllunio;

·         Bod Astudiaeth Capasiti a Sensitifrwydd y Dirwedd yn Ynys Môn, Gwynedd a’r Parc Cenedlaethol (Cwmni Gillespies, 2014), yn nodi bod capasiti ar gael ar gyfer datblygiadau bach;

·         Nid oedd bwriad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

Cais Rhif C19/0027/39/LL - Tir ger Drws y Llan, Llanengan, Pwllheli pdf eicon PDF 174 KB

Adeiladu 2 dŷ fforddiadwy (cais diwygiedig).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd John Brynmor Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu 2 dŷ fforddiadwy (cais diwygiedig). 

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle yng nghefn gwlad ar gyrion clwstwr tai Llanengan. Eglurwyd mai’r polisi tai perthnasol yng nghyswllt clystyrau oedd Polisi TAI 6 o’r CDLl, gyda’r polisi yn gallu caniatáu adeiladu tai mewn clystyrau pe gellid cydymffurfio gyda’r holl feini prawf yn y polisi.

 

          Manylwyd ar y meini prawf:

·         Maen prawf 1: ‘Mae’r angen am dŷ fforddiadwy ar gyfer angen lleol (yn unol â’r Rhestr Termau) wedi’i brofi’ - Bod yr angen am dŷ fforddiadwy ar gyfer meddianwyr cychwynnol tŷ rhif 1 wedi ei brofi ond nid oedd yr angen am dŷ fforddiadwy ar gyfer deilydd tŷ rhif 2 wedi ei brofi. Yn sgil hynny nid oedd y bwriad yn cwrdd yn llawn gyda maen prawf 1 o ran profi angen am dŷ fforddiadwy.

·         Maen prawf 2: ‘Mae’r safle yn safle mewnlenwi rhwng adeiladau sydd wedi’u lliwio ar y Map Mewnosod perthnasol, neu mae’n safle sydd union gyferbyn â chwrtil adeilad lliw’ - Nid oedd safle’r cais yn safle mewnlenwi oherwydd nid oedd wedi ei leoli union gerllaw cwrtil adeilad a oedd wedi ei liwio gyda’r ffordd sirol rhwng y tai a oedd wedi eu lliwio’n goch a’r safle. Roedd Canllaw Cynllunio Atodol Tai Newydd mewn Pentrefi Gwledig yn rhoddi syniad o’r math o safleoedd a oedd yn dderbyniol ac nid oedd safleoedd ble roedd ffordd rhwng yr adeilad a oedd wedi ei liwio yn goch a’r safle yn rhai addas.

·         Nid oedd pryder o ran meini prawf 3 a 4.

·         Maen prawf 5: ‘Mae maint yr eiddo yn adlewyrchu angen penodol am dŷ fforddiadwy yn nhermau maint y tŷ yn gyffredinol a nifer yr ystafelloedd gwely’ - Roedd y tai dan sylw yn rhai deulawr gydag arwynebedd llawr mewnol o oddeutu 116m2. Ers i’r cais gael ei gyflwyno roedd Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) Tai Fforddiadwy newydd wedi ei fabwysiadu. Roedd maint tai fforddiadwy wedi eu lleihau o gymharu gyda’r CCA Tai Fforddiadwy blaenorol a bellach y maint ar gyfer tŷ deulawr 5 person 3 ystafell wely oedd 94m2. Ni ystyriwyd fod maint y tai yn adlewyrchu maint eiddo fforddiadwy.

·         Nid oedd pryder o ran maen prawf 6.

·         Maen prawf 7: ‘Mae mecanwaith i gyfyngu meddiannaeth y tŷ yn y lle cyntaf ac am byth wedi hynny i’r rheini a chanddynt angen am dŷ fforddiadwy’ - Derbyniwyd fel rhan o’r cais brisiad ar gyfer y tai arfaethedig wedi ei baratoi gan Beresford Adams a oedd yn nodi y byddai pris marchnad agored y tai yn £325,000. Ni fyddai disgownt o 45% ynghlwm â chytundeb 106 Tai Fforddiadwy yn gwneud y tai yn fforddiadwy i deuluoedd eraill yn yr ardal. Roedd achlysuron ym mhlwyf Llanengan yn y gorffennol, ble’r oedd pris tai yn uchel ac felly mewn gwirionedd nid oeddynt yn dai fforddiadwy. O ganlyniad tynnwyd cytundebau 106 ar y tai gan eu gwneud yn dai marchnad agored.

         

          Argymhellwyd i wrthod y cais oherwydd bod y bwriad yn groes  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3

5.4

Cais Rhif C19/0154/03/LL - Market Hall, Church Street, Blaenau Ffestiniog pdf eicon PDF 131 KB

Addasu adeilad yn 14 fflat

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Annwen Daniels

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Addasu adeilad yn 14 fflat.

 

(a)     Adroddwyd bod sylwadau hwyr wedi eu derbyn gan yr Uned Iaith a oedd yn nodi nad oeddent yn teimlo bod digon o wybodaeth wedi ei gyflwyno gan y datblygwr er mwyn gallu llunio barn gyflawn ar effaith y datblygiad ar yr Iaith Gymraeg, ac oherwydd aneglurder yn y dogfennau gan y datblygwr ni allwyd cefnogi’r safbwynt na fyddai effaith. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ohirio’r cais er mwyn trafod gyda’r ymgeisydd ac i ddeall y sefyllfa ieithyddol yng nghyd-destun yr hyn a gynigir fel rhan o’r bwriad.

 

          Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle. Pleidleisiwyd ar y cynnig, disgynnodd y cynnig. 

 

         PENDERFYNWYD gohirio’r cais.

 

5.5

Cais Rhif C19/0323/11/LL - 233-235, Stryd Fawr, Bangor pdf eicon PDF 122 KB

Addasu'r llawr cyntaf a'r ail ar gyfer 8 uned breswyl hunan gynhaliol ynghyd â newidiadau i edrychiad blaen yr adeilad.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Steve Collings

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Addasu'r llawr cyntaf a'r ail ar gyfer 8 uned breswyl hunangynhaliol ynghyd a newidiadau i edrychiad blaen yr adeilad.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod Polisi TAI 9 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl) yn caniatáu isrannu eiddo presennol i fflatiau hunangynhaliol cyn belled eu bod yn cydymffurfio gyda’r meini prawf perthnasol.

 

         Nodwyd bod Datganiad Cymysgedd Tai a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn datgan bod diffyg darpariaeth ar gyfer unedau un llofft ym Mangor. Roedd y wybodaeth a dderbyniwyd gan yr Uned Strategol Tai yn cadarnhau diffyg darpariaeth o’r math yma o lety gan ddatgan bod 940 o ymgeiswyr ar gofrestr Tîm Opsiynau Tai'r Cyngor a oedd yn dymuno cael unedau un llofft yn ardal Bangor, ac fe fyddai caniatáu’r cais yn rhannol ymateb i’r galw am dai cymdeithasol o’r fath.

 

         Cadarnhawyd er nad oedd y bwriad yn darparu mwy o unedau na’r ddarpariaeth tai dangosol bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno Datganiad Ieithyddol a Chymunedol o’i wirfodd. Nodwyd bod yr Uned Iaith wedi dod i’r casgliad na fyddai’r datblygiad ynddo’i hun yn cael effaith arwyddocaol a sylweddol ar gymeriad a chydbwysedd iaith o fewn y gymuned.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

         Argymhellwyd i osod amod ychwanegol, i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad, i sicrhau darpariaeth storio gwastraff/biniau i ddiwallu anghenion yr unedau a ganiateir.

 

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod nifer cynyddol o geisiadau i addasu adeiladau i unedau preswyl ym Mangor a bod angen gofyn a oedd galw am y math yma o unedau;

·         Bod 940 o ymgeiswyr ar gofrestr Tîm Opsiynau Tai'r Cyngor a oedd yn dymuno cael unedau un llofft yn ardal Bangor;

·         Llawer o geisiadau o’r fath yn cael eu caniatáu ond nid ydynt yn cael eu datblygu. Pryder y gweithredir ar y ceisiadau ar yr un adeg gan olygu llawer o unedau newydd un neu dwy lofft ar yr un pryd;

·         Nid oedd darpariaeth parcio ar y safle, er bod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, roedd meysydd parcio a strydoedd yn llawn gyda gweithwyr yn parcio drwy gydol y dydd, gan olygu nid oedd mannau parcio ar gyfer ymwelwyr. Roedd angen cadw golwg ar y sefyllfa.

 

(c)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd swyddog:

·         Gwneir gwaith monitro gan ystyried y caniatadau cynllunio a’r rhai a oedd yn cael eu gweithredu yng nghyd-destun y CDLl yn ei gyfanrwydd.

        

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     5 mlynedd.

2.     Yn unol â’r cynlluniau.

3.     Sicrhau bod 2 o’r unedau yn rhai fforddiadwy drwy gyflwyno cynllun tai fforddiadwy.

4.     Darpariaeth storio gwastraff/biniau i ddiwallu anghenion yr unedau.

5.6

Cais Rhif C19/0414/18/LL - Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Rhiwlas, Rhiwlas, Bangor pdf eicon PDF 100 KB

Ymestyn safle gwaith trin dŵr presennol ar gyfer gosod cyfarpar offer a thirweddu.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Elwyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ymestyn safle gwaith trin dŵr presennol ar gyfer gosod cyfarpar offer a thirweddu.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod yr egwyddor o ganiatáu datblygiadau ar gyfer isadeiledd gwasanaethau fel cyflenwad dŵr wedi ei selio ym Mholisi ISA 1 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. Nodwyd o ystyried graddfa a natur y datblygiad credir bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

        

(b)     Mewn ymateb i ymholiad gan aelod, nododd y Rheolwr Cynllunio er mai cais gan Dŵr Cymru a gyflwynwyd, cyflwynwyd sylwadau fel rhan o’r ymgynghoriad statudol gan uned wahanol o fewn Dŵr Cymru.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     5 mlynedd.

2.     Yn unol â’r cynlluniau.

3.     Tirlunio.

4.     Cydymffurfio gyda mesurau lliniaru’r Adroddiad Ecolegol Rhagarweiniol.