Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Gweddarllediad: Gwylio'r gweddarllediad

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cynghorwyr Anne Lloyd Jones, Huw G. Wyn Jones a Catrin Wager.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)       Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir:

·         Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn eitemau 5.3 (cais cynllunio C14/0386/24/LL) a 5.7 (cais C18/0941/14/MG)  ar y rhaglen oherwydd  ei fod yn Aelod o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd

·         Y Cynghorydd Eirwyn Williams yn eitem 5.6 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0871/35/LL) oherwydd bod yr ymgeisydd yn berthynas agos iddo

·         Y Cynghorydd Stephen Churchman yn eitem 5.7 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0941/14/MG) oherwydd yn ystod cyfnod ffurfio’r cynllun roedd yn aelod o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd. Teimlai ei fod yn rhan o’r trafodaethau hynny ac felly yn datgan buddiant.

 

Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir.

 

(b)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Elin Walker Jones, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0874/11/LL);

·        Y Cynghorydd Elfed Williams, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0640/18/LL);

·        Y Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C14/0386/24/LL);

·        Y Cynghorydd Cemlyn Williams,  (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0958/14/LL);

·        Y Cynghorydd Eirwyn Williams, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0871/35/LL)

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 111 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 26 Tachwedd 2018 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2018, fel rhai cywir.

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

5.1

Cais Rhif C18/0874/11/LL - 49, Trem Elidir, Bangor, Gwynedd pdf eicon PDF 94 KB

Newid defnydd tŷ (defnydd dosbarth C3) i dŷ mewn aml-feddianaeth (defnydd dosbarth C4)

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD ELIN WALKER JONES

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd tŷ (defnydd dosbarth C3) i dŷ mewn amlfeddiannaeth (defnydd dosbarth C4)

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol

 

          Roedd yr aelodau wedi ymweld â’r safle

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau bod penderfyniad wedi ei wneud ym Mhwyllgor 26 Tachwedd i ohirio’r penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad safle. Amlygwyd bod y wybodaeth fel ag a gyflwynwyd yn y cyfarfod blaenorol. Atgoffwyd yr aelodau bod Polisi TAI 9 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd yn gefnogol i’r egwyddor o drosi adeiladau presennol yn dai amlfeddiannaeth o fewn ffiniau datblygu yn ddarostyngedig i gwrdd â’r pedwar maen prawf cysylltiedig.

 

          Ystyriwyd bod y defnydd arfaethedig yn dderbyniol ac na fyddai yn amharu ar gymeriad yr ardal nac yn achosi niwed mwynderol annerbyniol.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol:

·         Cartref teulu ydyw - cyn dŷ Cyngor ac yn anaddas ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth

·         Gwrthwynebu ar sail gor-ddatblygiad

·         Bwriad creu 5 stafell wely - dim lolfa, un gegin fechan i baratoi bwyd a dwy stafell ymolchi fechan. Creu sefyllfa gyfyng iawn - pam gwasgu 5 person i mewn i un tŷ

·         Nifer o dai / llety myfyrwyr yn hanner gwag o gwmpas Bangor

·         Rhagweld cynnydd mewn gwastraff

·         Rhagweld problemau parcio - nid oes man parcio pwrpasol. Byddai angen parcio ar y ffordd

·         Bod caniatáu trydydd tŷ amlfeddiannaeth yn ymestyn dros y trothwy 10% ar y stryd

·         Rhaid gwarchod y ddinas rhag caniatáu tai amlfeddiannaeth i ledaenu dros y lle

·         Nid yw’r mapiau sydd ynghlwm a’r cais yn gyfredol

 

(c)       Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais ar sail gor-ddatblygu a diffyg lle i barcio

 

 (ch)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod rhybuddion hanesyddol gan gyn-gynghorydd bod tai teuluoedd yn cael eu trosi yn dai amlfeddiannaeth ym Mangor

·         Bod ystadegau yn dangos bod nifer myfyrwyr yn gostwng

·         Bod tai amlfeddiannaeth  / tai gosod yn ymledu i ganolfannau cymunedol

·         Nid oedd y sefyllfa parcio wedi adlewyrchu gwirionedd y sefyllfa yn ystod yr ymweliad safle. Awgrym y byddai’r sefyllfa yn dra gwahanol gyda’r nos neu dros y penwythnos. Rhaid ystyried y gellid cael 5 car ychwanegol yma

·         Bod ward sydd gyda ‘dwy hanner’, fel petai, yn gallu gosod cynsail i geisiadau tebyg fod yn cronni yn yr un hanner

·         Bod tai myfyrwyr yn prysur ledaenu ar draws y ddinas. Derbyn bod trothwyon yn bwysig, ond ymddengys eu bod yn cael effaith negyddol ar drigolion lleol.

·         Bod angen cynnal ymweliadau safle ar yr amseroedd prysuraf

 

(d)       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag effaith tebygol o wrthod y cais, yn groes i argymhelliad, a’r risg costau ar y Cyngor, amlygodd yr Uwch Reolwr Cynllunio bod yr argymhelliad i ganiatáu yn un cadarn, bod rheolaeth dda dros ddefnydd tai amlfeddiannaeth a bod trothwy 10% yn cael ei osod ar gyfer ward ac nid un stryd benodol. Derbyniodd bod pryderon parcio ond amlygodd nad oedd yr Uned Trafnidiaeth wedi datgan gwrthwynebiad i’r cais ac anodd fyddai  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

Cais Rhif C18/0640/18/LL - The Bull Inn, High Street, Deiniolen, Caernarfon pdf eicon PDF 121 KB

Newid defnydd tafarn wag yn llety gwyliau

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD ELFED WILLIAMS

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

         Newid defnydd tafarn wag yn llety gwyliau

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

          Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle

          Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno apêl oherwydd diffyg penderfyniad

        

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau bod penderfyniad wedi ei wneud ym Mhwyllgor 26 Tachwedd i ohirio’r penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad safle. Nodwyd bod y cais ar gyfer trosi tafarn segur Y Bull, sydd wedi ei leoli ar Stryd Fawr, Deiniolen, yn llety gwyliau hunanwasanaeth gydag 8 ystafell wely. Golygai hyn gryn newid i drefniant mewnol yr adeilad, ond ni fyddai newid arwyddocaol i’r edrychiad allanol.

 

Eglurwyd bod y dafarn wedi bod ar gau ers 2016 ac fe fu ar werth am dros flwyddyn. Cyfeiriwyd at bolisi TWR 2 sydd yn cefnogi datblygiadau llety gwyliau parhaol drwy drosi adeiladau presennol cyn belled bod cynigion o ansawdd uchel o ran dyluniad, edrychiad a gosodiad. Ystyriwyd bod y cais o ansawdd uchel ac yn cwrdd â gofynion y polisi.

 

Amlygwyd nad oedd yr Uned Trafnidiaeth wedi nodi unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad er y derbyniwyd gwrthwynebiad yn honni diffyg llefydd parcio’n lleol. Wedi ystyried defnydd awdurdodedig yr adeilad fel tafarn, ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn debygol o greu    trafferthion sefyllfa waeth nag un fel tŷ tafarn neu fflatiau.

 

Eglurwyd, mewn ceisiadau o’r fath bod rhaid ystyried cyn defnydd y safle, a’r cynnydd tebygol o ganlyniad i’r bwriad newydd. Yma, y sefyllfa flaenorol oedd tŷ tafarn o faint sylweddol a chartref pedair ystafell wely uwchben, wedi ei leoli’n ganolog o fewn pentref. Mae’r bwriad yn cynyddu’r nifer o ystafelloedd wely ond yn tynnu’r elfen ‘tŷ tafarn’, a thybiwyd fod digon o gyfleoedd i ymwelwyr barcio ar y strydoedd a meysydd parcio lleol os yn ymweld â’r safle mewn cerbyd. Awgrymwyd y byddai llai o ‘fynd a dod’ gyda llety gwyliau ac y byddai llai o aflonyddwch.

 

Nodwyd bod cynllun busnes wedi ei gyflwyno gyda’r cais a bod sylwadau wedi ei derbyn gan Uned Twristiaeth y Cyngor yn cadarnhau bod galw am unedau llety hunanarlwyo safonol ar gyfer grwpiau yn y Sir. Ategwyd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf 1.75% o lety gwyliau hunan wasanaeth sydd yn y ward sydd yn cadarnhau nad oes gormodedd o lety gwyliau o’r fath yma yn yr ardal

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol:

·           Nad oedd digon o lefydd parcio yn yr ardal gronnus yma

·           Llawer o drigolion yn cwyno eisoes am ddiffyg mannau parcio

·           Byddai 20 o geir ychwanegol yn cynyddu’r pryderon hyn

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais oherwydd diffyg llefydd parcio. Nodwyd nad oedd yn    rhesymol cymharu defnydd tafarn gyda defnydd llety gwyliau

 

(ch)   Nododd y Uwch Beiriannydd Rheolaeth Datblygu bod rhaid cadw persbectif o’r nifer ceir tebygol. Amlygodd bod y sefyllfa wedi ei mesur fel un stafell wely yn golygu un cerbyd. Ar y gwaethaf, ystyrir 8 cerbyd ychwanegol (ac nid 20). Byddai hyn yn dderbyniol i’r ardal ac ni fyddai yn cael  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

Cais Rhif C14/0386/24/LL - Tir yng nghefn Tan y Celyn, Swn y Mor a Talardd, Llanwnda, Caernarfon pdf eicon PDF 155 KB

Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stâd (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol)

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD AERON MALDWYN JONES

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stad (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol)

 

Amlygwyd bod asiant y gwrthwynebwyr wedi ei daro yn wael ac felly cynigiwyd gohirio y cais. Awgrymwyd hefyd y byddai ymweld â’r safle yn fuddiol.

 

PENDERFYNWYD gohirio gan raglennu’r cais ar gyfer Pwyllgor 14.1.19 a threfnu ymweliad safle

5.4

Cais Rhif C17/0958/14/LL - Cwm Cadnant Valley, Llanberis Road, Caernarfon pdf eicon PDF 153 KB

Disodli llecynnau ar gyfer 32 carafanau teithiol a 68 pebyll gyda 26 siale gwyliau i'w defnyddio am 12 mis y flwyddyn

 

AELOD LLEOL: CYNHGORYDD CEMLYN WILLIAMS

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Disodli llecynnau ar gyfer 32 carafanau teithiol a 68 pebyll gyda 26 siale gwyliau i'w defnyddio am 12 mis y flwyddyn

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod rhan isaf o’r safle sydd bob ochr i'r Afon Cadnant wedi ei leoli oddi fewn i Parth Llifogydd C2. Er bod gofynion y cais yn cydymffurfio gyda pholisïau TWR 3 a TWR 4 o’r Cynllun Datblygu Lleol,  a bod y datblygiad yn dderbyniol ar sail gofynion y polisïau hyn nid yw elfennau eraill o’r cais yn golygu bod y bwriad yn addas yn ei gyfanrwydd ar sail gofynion polisïau a gorchmynion cynllunio eraill perthnasol.

 

Gan ystyried bod nifer o’r unedau gwyliau wedi eu lleoli yn y rhan isaf o’r safle ac oddi fewn neu union gyferbyn a’r parth llifogydd mae’r cyngor a gynhwysir yn NCT15, gofynion Pholisi PS6 o’r CDLL ynghyd â chanlyniadau apeliadau diweddar yn datgan yn glir na ddylid caniatáu ceisiadau ar gyfer datblygiadau a adnabyddir fel datblygiadau sy’n agored iawn i niwed (gan gynnwys unedau/llety/carafanau defnydd gwyliau) os ydynt wedi eu lleoli oddi fewn i Parth Llifogydd C2. 

 

Yn ychwanegol i’r cyfyngiad hwn, mae pryderon hefyd ynglŷn ag addasrwydd man dihangfa rhan isaf y safle pe tai’r Afon Cadnant yn gorlifo.  I’r perwyl hyn, ni ystyriwyd fod y bwriad fel y’i cyflwynwyd yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi PS6 o’r CDLL ynghyd â’r cyngor a gynhwysir yn NCT15.

 

(b)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod y safle wedi ei sgrinio yn dda

·         Petai’r cais yn cael ei ganiatáu byddai angen amodau cryf i beidio â chaniatáu i’r unedau gael eu defnyddio fel anheddau parhaol

·         Ei fod yn gwrthod y bwriad yn unol ar argymhelliad

 

(c)       Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais

 

1.    Mae’r datblygiad arfaethedig yn groes i ofynion Polisi PS6 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) ynghyd a Nodyn Cyngor Technegol 15 Datblygu a Pherygl Llifogydd gan fod y bwriad yn golygu lleoli datblygiad sy’n agored i niwed o fewn Parth Llifogydd C2. 

 

2.    Mae’r datblygiad yn groes i ofynion Polisi PS1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) gan na chyflwynwyd Datganiad Iaith Gymraeg gyda’r cais ac, felly, nid oedd modd i’r Awdurdod Cynllunio Lleol asesu effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg.  

 

3.    Mae’r datblygiad yn groes i ofynion Polisi AMG5 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) gan na chyflwynwyd Asesiad Coed nag Asesiad Effaith Ecolegol gyda’r cais ac, felly, nid oedd modd i’r Awdurdod Cynllunio Lleol asesu effaith y datblygiad ar fioamrywiaeth leol.

5.5

Cais Rhif C18/0853/22/LL - Chwarel Ty Mawr West, Talysarn, Caernarfon pdf eicon PDF 156 KB

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 10 ar ganiatad cynllunio C18/0489/22/LL er mwyn gweithredu ar allbwn o 300 tunnell y dydd

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD CRAIG AB IAGO

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

         Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 10 ar ganiatâd cynllunio C18/0489/22/LL er mwyn gweithredu ar allbwn o 300 tunnell y dydd

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i amrywio amod 10 o ganiatâd cynllunio C18/0489/22/LL fel y gellid gweithredu allbwn o 300 tunnell fetrig y dydd heb fod yn destun cyfyngiad ar allbwn blynyddol o 30,000 tunnell fetrig, 15 llwyth y dydd. Amlygwyd nad oedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Y Parc Cenedlaethol, Uned Trafnidiaeth na Gwarchod y Cyhoedd a bod tri llythyr o gefnogaeth wedi eu derbyn.

 

         Ategwyd bod y busnes yn cynnig swyddi yn lleol ac nad oedd cwynion wedi eu derbyn ers llawer blwyddyn am reolaeth y safle. Nodwyd bod sawl chwarel wedi cau yn yr ardal ac felly, yng nghyd-destun trafnidiaeth, nid oedd pryderon wedi eu hamlygu gan fod y niferoedd mynd a dod wedi lleihau dros y blynyddoedd.  

 

(b)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

Gwnaed sylw bod y chwarel ynchwarel lân’, yn cael ei rhedeg yn effeithiol iawn gan ddau frawd

 

PENDERFYNWYD awdurdodi Uwch Reolwr y Gwasanaethau Cynllunio, Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd i gymeradwyo'r cais yn ddarostyngedig i'r ystod o amodau a ganlyn:

 

·        Hyd y cyfnod gweithio, 19 Tachwedd 2028, adferiad terfynol erbyn 31 Tachwedd 2030

·        Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â Manylion/Cynlluniau C09A/0046/22/MW a Gyflwynwyd;

·        Oriau Gwaith 07.30 - 17.00 dydd Llun i ddydd Gwener ac 08.30 - 13.00 dydd Sadwrn

·        Dim ond llechi a gwastraff mwynau eraill y caniateir eu symud a dim deunydd sydd islaw lefel wreiddiol y tir

·        Ni cheir storio mwy na 20,000 tunnell fetrig o ddeunyddiau a fewn gludwyd ar unrhyw adeg ac yn unol â'r caniatâd mwynau sy'n bodoli i'w defnyddio mewn gwaith adfer

·        Defnyddio'r ffordd gludo a swyddfa'r safle at ddibenion y datblygiad yn unig

·        Marcio ffin yr ardal gloddio

·        Mewn gludo a chyfyngiadau fel y maent ar hyn o bryd

·        Allbwn o 300 tunnell fetrig y dydd heb fod yn ddarostyngedig i gyfyngiad cyffredinol o 30,000 tunnell fetrig y flwyddyn

·        Dull gweithio

·        Mynediad fel y mae

·        Adfer, cynllun plannu coed a chreu cynefinoedd

·        Rheoli sŵn, diwygio'r geiriau i adlewyrchu safonau cyfoes a gosod larymau sy'n gwrthwneud sŵn gwyn

·        Rheoli llwch a ryddheir fe y gwneir eisoes

·        Adolygu'r gweithrediadau bob pum mlynedd

·        Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a ganiateir

·        Mesurau lliniaru i ystlumod (cadw'r ceuffyrdd yn agored)

·        Lliniaru archeolegol

·        Dim cael gwared â llystyfiant mewn mannau penodol rhwng mis Ebrill ac Awst

·        Priddoedd a storio cyfryngau adfer

·        Nodyn i'r ymgeisydd gydag ymateb ymgynghoriad CNC wedi'i atodi

·        Nodyn i'r ymgeisydd ynglŷn â PROW 51 (Llanllyfni)

·        Nodyn i'r Ymgeisydd ynglŷn â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

5.6

Cais Rhif C18/0871/35/LL - Eirianedd, Rhos Bach, Criccieth pdf eicon PDF 98 KB

Newid defnydd anecs i lety gwyliau

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD EIRWYN WILLIAMS

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd anecs i lety gwyliau

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Eglurwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno cynllun busnes, cynllun llawr diwygiedig a llythyr i gefnogi’r cais. Cadarnhawyd yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd nad oedd y cynllun busnes yn ei ffurf bresennol yn cyflawni gofynion angenrheidiol y polisi.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi ei fod wedi ei leoli o fewn stad o dai preswyl a adnabyddir fel Rhos Bach, o fewn ffin datblygu Criccieth. Eglurwyd bod y safle yn cynnwys eiddo preswyl deulawr gydag adeilad allanol unllawr gyda tho pits o fewn y cwrtil sydd yn cael ei ddefnyddio fel ystafell chwaraeon / anecs. Amlygwyd bod bwriad trosi’r adeilad presennol sydd yn golygu gwneud newidiadau allanol gan gynnwys cau’r drws presennol ac agor ffenestri a drysau newydd.

 

Mae polisi TWR 2 yn caniatáu trosi adeiladau allanol llety gwyliau ar sail bod y datblygiad yn un o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad, ac os gellid cwrdd â’r meini prawf. Tynnwyd sylw at faen prawf (iv) yn benodol, sydd yn nodi, ‘nad yw’r datblygiad yn cael ei leoli mewn ardal sy’n breswyl yn bennaf neu’n peri niwed arwyddocaol i gymeriad preswyl ardal’. Ystyriwyd, gan fod y safle wedi ei leoli o fewn cwrtil annedd breswyl bresennol, sydd wedi ei leoli o fewn ystâd breswyl ac o fewn cyffiniau pentref Criccieth a’i ffin datblygu; ystyriwyd nad yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda’r pwynt uchod gan na ystyriwyd fod y bwriad yn un o ansawdd uchel o ran lleoliad. Yn ychwanegol ystyriwyd y byddai defnyddio’r adeilad cwrtil yma fel uned ar wahân yn golygu bod graddfa’r datblygiad yn annerbyniol ac y byddai’r ddau eiddo yn cael effaith annerbyniol ar eu mwynderau ei gilydd.

           

b)        Yn manteisio ar ei hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:

·         Bod y bwriad yn ychwanegiad i incwm y teulu er mwyn caniatáu amser i ofalu am y plant

·         Bod Criccieth yn gyrchfan gwyliau dymunol

·         Bod yr anecs yn ymateb i’r galw am lety gwyliau un stafell wely mewn lleoliad da o fewn y pentref

·         Yn cynnig dau le parcio a chyfleusterau da

·         Y a lleoliad yr anecs yn ymddangos yn anorffenedig fel y mae

·         Cymdogion eisiau gweld yr anecs wedi ei orffen a’i dacluso.

        

(c)       Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatau y cais

 

(ch)      Cynigwyd ac eiliwyd gwelliant i’r cynnig o drefnu ymweliad safle

 

   PENDERFYNWYD trefnu ymweliad safle

5.7

Cais Rhif C18/0941/14/MG - Cyn safle Ysgol yr Hendre, Caernarfon pdf eicon PDF 132 KB

Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi 45 tŷ (gan gynnwys 23 tŷ fforddiadwy), creu mynedfa newydd, uwchraddio'r fynedfa bresennol, darparu llecynnau mwynderau cyhoeddus, llecynnau parcio a thirlunio

 

AELODAU LLEOL:   CYNGHORYDD ROY OWEN a’r CYNGHORYDD OLAF CAI                                LARSEN

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi 45 tŷ (gan gynnwys 23 tŷ fforddiadwy), creu mynedfa newydd, uwchraddio'r fynedfa bresennol, darparu llecynnau mwynderau cyhoeddus, llecynnau parcio a thirlunio

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

a)      Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan adrodd bod cais amlinellol wedi ei ganiatáu Ionawr 2017 ynghyd ag amod yn gofyn am gynllun ar gyfer darparu tai fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad.  Ategwyd y byddai’r tai fforddiadwy i safon Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru (safonau DQR) fydd yn amrywio o dai 3 person 2 lofft i dai 7 person 4 llofft wedi eu gwasgaru drwy’r datblygiad. Nodwyd bod            safle’r cais wedi ei leoli o fewn ardal breswyl sefydledig ac oddi fewn i ffin datblygu Caernarfon fel y’i cynhwysir yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG).

 

Prif ystyriaethau’r cais yw derbyn materion a godwyd yn ôl o dan y cais amlinellol blaenorol sydd yn ymwneud ag edrychiadau allanol y tai, tirweddu/tirlunio, cynllun a graddfa. Eglurwyd fod yr egwyddor o leoli tai ar y safle arbennig hwn eisoes wedi ei dderbyn a’i sefydlu o ystyried cais amlinellol rhif C16/0773/14/AM. Amlygwyd bod y manylion a gyflwynwyd gyda’r cais yn dangos bod amrywiaeth o ddefnyddiau gwahanol ar gyfer edrychiadau allanol y tai sydd yn adlewyrchu edrychiadau a gorffeniadau tai cyfagos. Ni ystyriwyd byddai’r datblygiad yn creu strwythurau anghydnaws o fewn y strydlun lleol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod anheddau preswyl wedi eu lleoli i’r gogledd, de a gorllewin o’r safle ond ni fyddai gor-edrych annerbyniol uniongyrchol i mewn i’r tai hyn. Ystyriwyd y gwrthwynebiadau a gyflwynwyd gan drigolion lleol, ond ni ystyriwyd y byddai lleoli hyd at 45 tŷ yn creu effaith annerbyniol ar fwynderau      preswyl na chyffredinol trigolion cyfagos ar sail creu aflonyddwch, colli preifatrwydd, colli golau a chreu strwythurau gormesol ac felly yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi PCYFF2 PCYFF3 o’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Yn gynwysedig yn y cais cyflwynwyd Datganiad Tai Fforddiadwy fel modd o ddiwallu          gofynion amod rhif 3 o’r cais amlinellol oedd yn ymwneud a chyflwyno manylion ynglŷn â darparu tai fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad. Ystyriwyd bod y wybodaeth yn yr adroddiad yn bodloni gofynion amod rhif 3 o’r caniatâd parthed y niferoedd, math, daliaeth a lleoliad y ddarpariaeth tai fforddiadwy.

 

b)      Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

c)      Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sylwadau’r Cyngor Tref, ‘eu bod yn gefnogol i’r datblygiad gydag amod bod y 23 tŷ fforddiadwy ddim yn cael eu newid hanner ffordd drwy’r cynllun’, nodwyd bod y cais eisoes wedi cael caniatâd ac nad oedd y materion hyn yn berthnasol i’r drafodaeth. Er hynny, ategwyd, petai’r cais am newid, byddai angen delio gyda hynny ar y pryd.

 

ch)    Mewn ymateb i sylw ynglŷn â'r angen am dai unllawr ar gyfer yr henoed, nodwyd bod dyheadau'r gymuned wedi cael eu hystyried a bod y cynllun o anheddau cymysg i’w groesawu. Deallir na ellir ymateb i bob elfen, ond bod anghenion eraill wedi eu blaenoriaethu.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7