Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Stryd Penlan, Pwllheli, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Simon Glyn, Louise Hughes, Sian Wyn Hughes,Huw G. Wyn Jones a Dilwyn Lloyd.

 

Amlygodd y Swyddog Monitro oherwydd y nifer ymddiheuriadau na fyddai cworwm ar gyfer eitemau 5.4, 5.5 a 5.9 ac felly na fyddai modd cynnal trafodaeth ar y materion hyn.

 

Mewn ymateb i’r sylw awgrymwyd y dylid gwneud cais i’r Cynulliad ail ystyried eu rheoliadau cworwm ac ail gyflwyno trefn eilyddion.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

(a)       Datganodd y Cynghorydd Gruffydd Williams fuddiant personol, yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0656/42/LL) oherwydd ei fod wedi holi am randir i gwmni Knights.

 

Datganodd  y Cynghorydd Owain Williams fuddiant personol, yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0656/42/LL) oherwydd bod ei fab wedi holi am randir i gwmni Knights

 

Datganodd y Cynghorwyr Stephen Churchman, Anne Lloyd-Jones a Berwyn Parry Jones fuddiant personol, yn eitemau 5.4, 5.5 a 5.9 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C17/0656/42/LL, C16/0564/35/LL a C17/0844/09/LL) oherwydd eu bod yn aelodau o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

 

Datganodd y Cynghorydd Eirwyn Williams fuddiant personol yn eitem 5.5 ar y rhaglen (cais rhif C16/0564/35/LL) oherwydd bod ei ferch yn byw yn Gerddi Arvonia

 

Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir.

 

(b)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0628/39/LL);

·        Y Cynghorydd Aled Ll. Evans, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0565/41/LL);

·        Y Cynghorydd Judith Humphreys, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.6 a 5.7 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C13/0217/22/MW a C17/0455/22/LL);

·        Y Cynghorydd Eric M. Jones, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0826/17/LL);

·        Y Cynghorydd Sion Wyn Jones, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.10 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0893/18/AM).

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 292 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2017, fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2017, fel rhai cywir.

 

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwydar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

 

5.1

Cais Rhif C17/0557/38/LL - Tir ger Ffordd y Traeth, Llanbedrog, Pwllheli pdf eicon PDF 276 KB

Adeiladu t? fforddiadwy.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Angela Russell

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu t? fforddiadwy.

 

Ar gais y swyddogion gohiriwyd y penderfyniad oherwydd bod llythyr wedi dod i law yn codi amheuaeth dros fforddiadwyaeth y t? bwriededig oherwydd ei leoliad. Amlygwyd bod angen

gwelldealltwriaeth am werth marchnad agored y t?, beth sydd ar werth yn lleol ac os oedd cyfiawnhad am eithriad gwledig.

 

PENDERFYNWYD gohirio y cais.

 

5.2

Cais Rhif C17/0656/42/LL - Maes y Garn, Stryd Fawr, Nefyn pdf eicon PDF 305 KB

Adeiladu 5 o dai unllawr gyda un i fod yn d? fforddiadwy.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu 5 o dai unllawr gydag un i fod yn d? fforddiadwy.

 

Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan  egluro bod y cais wedi bod gerbron Pwyllgor Cynllunio 25 Medi 2017 lle penderfynwyd gohirio y cais er mwyn i‘r aelodau ymweld â’r safle ac i’r ymgeisydd gael cyfle i ymateb i’r rhestr aros am randiroedd a dderbyniwyd gan Gyngor Tref Nefyn. 

 

Eglurwyd bod y tir oedd hefyd ym mherchnogaeth yr ymgeisydd, eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio i adeiladu 10 o dai annedd deulawr.  Fel rhan o’r caniatâd hwnnw, roedd bwriad cadw safle’r cais presennol fel 16 o randiroedd ac mae amod ar y caniatâd cynllunio hwnnw C12/1372/42/LL i sicrhau fod y tir yma yn cael ei ddefnyddio fel rhandiroedd.

 

Amlygwyd bod yr ymgeisydd (yn Medi 2016) wedi cynnal arolwg o’r rhandiroedd yn Y Ddol (dafle dros dro) i asesu faint o’r 21 oedd mewn defnydd.  O’r wybodaeth a gyflwynwyd dim ond 10 allan o’r 21 rhandir gyda chaniatâd cynllunio oedd yn cael eu defnyddio.  I’r gwrthwyneb roedd Cyngor Tref Nefyn wedi nod bod 37 enw ar restr aros am randiroedd. Ni dderbyniwyd copi o’r rhestr aros yma. Cyfeiriwyd at y dystiolaeth oedd ar gael ac sut ‘roedd hwn wedi ei asesu yng nghyd y galw am randiroedd a’r cyd-destun polisi.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin ddatblygu Nefyn ac felly rhaid oedd ystyried yr egwyddor o ddatblygu’r safle ar gyfer tai o dan Bolisi TAI 2 CDLL.  Nodwyd bod y polisi  yn gefnogol i ddarparu tai o fewn ffin ddatblygu canolfannau gwasanaeth lleol.   Fel rhan o’r cais amlygwyd bod yr ymgeisydd yn fodlon arwyddo cytundeb 106 yn clymu un o’r tai fel uned fforddiadwy.  Byddai hyn yn gyfwerth ac 20% o’r tai ac sydd yn fwy na’r gofyn ar gyfer Nefyn, ac ystyriwyd yn sgil arwyddo cytundeb 106 tai fforddiadwy byddai yn clymu un o’r unedau ar gyfer angen fforddiadwy, y byddai’r bwriad yn bodloni gofynion Polisi TAI 15.  Yn ychwanegol, byddai 4 o’r unedau gydag arwynebedd llawr mewnol o oddeutu 56 medr sgwâr sydd oddi fewn i’r uchafswm maint tai fforddiadwy unllawr dwy ystafell wely a argymhellir yng Nghanllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy sef 80 medr sgwâr. 

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)       Ynmanteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y pwyntiau canlynol:-

·         Bod angen gwarchod rhandiroedd Maes y Garn oherwydd pwysigrwydd y safle o fewn hanes Nefyn

·         Mai safle dros dro yn unig oedd Y Ddol a byddai dymuniad i ddychwelyd i Maes y Garn unwaith y byddai’r cais cynllunio wedi ei gwblhau

·         Nadoedd tir Y Ddol yn addasyn dir gwael, gwlyb gyda nifer o’r garddwyr wedi colli cnydau dros y tymor diwethaf

·         Bod gwelliannau i safle Y Ddol wedi ei gweithredu, ond nid oedd hyn wedi gwella cyflwr y tir

·         Yndilyn hysbysiad yn Llanw Ll  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

Cais Rhif C17/0628/39/LL - Ynys For Bach, Abersoch, Pwllheli pdf eicon PDF 272 KB

Dymchwel t? presennol a chodi t? newydd yn ei le.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel t? presennol a chodi t? newydd yn ei le.

 

Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais wedi ei gyflwyno i’r  Pwyllgor Cynllunio 16 Hydref 2017 lle penderfynwyd gohirio ystyried y cais er mwyn i’r  aelodau ymweld â’r safle.

 

Eglurwyd bod y bwriad yn golygu dymchwel t? unllawr presennol ar y safle ac adeiladu t? newydd deulawr yn ei le ynghyd â gwaith cysylltiol. Dyluniad modern oedd i’r t? bwriededig gyda tho brig sinc a’r waliau wedi eu gorffen gyda chyfuniad o rendr gwyn a byrddau pren a charreg. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn ardal breswyl ac oddi fewn i ffin datblygu Abersoch, gyda rhan o’r ardd / cwrtil y tu allan i’r ffin.  Ategwyd bod y safle o fewn dynodiad yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) a Thirwedd Hanesyddol Gofrestredig Llyn. Nodwyd bod y polisïau lleol a chenedlaethol yn gefnogol i ail-ddefnyddio tir a ddefnyddiwyd o’r blaen ar gyfer datblygiadau yn hytrach na defnyddio tir gwyrdd.

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol ar sail y materion a nodwyd yn yr adroddiad ac na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn debygol o amharu ar fwynderau trigolion cyfagos, diogelwch ffyrdd nac yn cael effaith niweidiol sylweddol ar olygfeydd o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

 

(b)       Ynmanteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol:-

 

·         Ei fod wedi ystyried pryderon y cymdogion

·         Bod yr addasiadau yn welliant ac yn tacluso’r safle

·         Bod addasiad o do sinc i do llechi yn cydymffurfio yn well gyda thai eraill yr ardal

·         Mai defnydd fel cartref fydd i’r eiddo ac nid t? gwyliau;

·         Nad oedd ganddo bellach wrthwynebiad i’r cais

 

(c)       Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

(ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod sylwadau yr Uned AHNE o fewn yr adroddiad yn aneglur – anodd dehongli os ydynt o blaid y bwriad neu beidio

·         Bod Cyngor Cymuned / Tref yn gwrthwynebu

 

·         Bod yr addasiadau yn dderbyniol

 

PENDERFYNWYD caniatáu'rcais yn ddarostyngedig i'r amodau a ganlyn:

 

1.         5 dechrau gwaith o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol a chynllun diwygiedig.

3.         Llechi i’r to.

4.         Tynnu hawliau caniataol ar estyniadau i’r t?.

5.         Cyflwyno manylion sgrin preifatrwydd cyn meddiannu'r t?.

6.         Cadw / diogelu lle troi

7.         Defnyddiau ( yn cynnwys elfen carreg fel nodwedd yn y dyluniad).

8.         Amodau D?r Cymru.

 

5.4

Cais Rhif C17/0565/41/LL - Tir Bro Sion Wyn, Chwilog pdf eicon PDF 244 KB

Cais i godi t? deulawr marchnad agored.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Aled Lloyd Evans

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais i godi t? deulawr farchnad agored

 

Nidoedd modd trafod y cais yma oherwydd nad oedd cworwm digonol. Cyfeiriwyd y cais ymlaen i’r Pwyllgor nesaf

 

6.

Cais Rhif C16/0564/35/LL - Tir gwag Waen Helyg, Waun Helyg, Cricieth pdf eicon PDF 272 KB

Cais i godi 10 uned fforddiadwy.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais i godi t? deulawr farchnad agored

 

Nidoedd modd trafod y cais yma oherwydd nad oedd cworwm digonol. Cyfeiriwyd y cais ymlaen i’r Pwyllgor nesaf

 

7.

Cais Rhif C13/0217/22/MW - Chwarel Penygroes, Cae Efa Lwyd Fawr, Ffordd Clynnog, Penygroes pdf eicon PDF 659 KB

Deddf yr Amgylchedd 1995. Cais ar gyfer cymerdawyo amodau er mwyn ail-agor safle tywod a graean segur dan ganiatad cynllunio 2250 dyddiedig 10 Rhagfyr 1951 - cae rhif 297, Cae Efa Lwyd, Penygroes.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Judith Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Deddf yr Amgylchedd 1995. Cais i benderfynu ar amodau i ailgychwyn safle tywod a graean segur dan ganiatâd cynllunio 2250 dyddiedig 10 Rhagfyr, 1951 - cae rhif 297, Cae Efa Lwyd, Penygroes

 

(a)      Pwysleisiodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff mai cais ydoedd am Adolygiad Safleoedd Mwynau o dan Ddeddf Cynllunio yr Amgylchedd 1995 ar gyfer cymeradwyo cynllun gwaith a rhestr o amodau ar safle mwynau segur. Ategwyd nad oedd modd i’r Pwyllgor Cynllunio wrthod y cais ac mai cytuno ar  amodau newydd oedd gerbron. Amlygwyd bod angen cymhwyso amodau llawn, modern y dylai datblygiad y chwarel fod yn ddarostyngedig iddynt. Eglurwyd na ellir yn gyfreithiol ailgychwyn caniatadau segur heb fod cais wedi ei wneud i’r Awdurdod Cynllunio Mwynau (ACM) a bod amodau modern llawn wedi eu cymeradwyo. Cynigiwyd rhestr o amodau cynllunio newydd gan yr ymgeisydd ynghyd a rhestr diwygiedig o amodau gydag addasiadau gan yr ACM. Nodwyd bod yr ACM wedi herio amodau’r ymgeisydd ac wedi cynnig amodau rhesymol oedd yn cynnwys rheolaethau llwch, cyfyngiadau s?n ynghyd a chyfyngu oriau gwaith.

 

Tynnwyd sylw'r Aelodau at yr angen iddynt hefyd wneud penderfyniad ar gais cynllunio perthnasol / arwahan ar gyfer creu mynediad newydd i gerbydau wasanaethu’r pwll tywod a graen o dan gyfeirnod C17/0455/22/LL. Yn ogystal â chymeradwyo'r cynllun gwaith a’r amodau gofynnwyd hefyd i’r Pwyllgor ystyried amserlen y gwaith gyda dewis o 4 blynedd a chloddio 100,000 tpa a chreu mynedfa newydd, neu 8 mlynedd a chloddio 50,000tpa yn defnyddio'r fynedfa bresennol.

 

Amlygwyd bod nifer o wrthwynebiadau wedi eu derbyn ynghyd a deiseb yn gwrthwynebu ar sail effeithiau ar fwynderau trigolion cyfagos.

 

(b)       Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau canlynol:

·         NA i ail agor y chwarel. NA i’r Pwll Gro

·         Anghysondebau mawr yn yr adroddiad a’r asesiadau

·         Dylid defnyddio synnwyr cyffredin

·         Bod posib cloddio mewn tri chae arall cyfagos - hyn yn codi amheuon trigolion

·         Bod tai cyfagos o fewn 30m i’r chwarel

·         Chwerthinllyd yw defnyddio geiriau megis ‘limited impact’

·         Derbyn bod amodau ar gyfer golchi lorïau, ond beth am ddillad a byd natur

·         Bod diogelwch iechyd dynol yn flaenoriaeth

 

(c)       Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd, y pwyntiau canlynol:

·         Bod y chwarel yn cyfrannu at yr economi leol

·         Byddai’r gwaith yn cyflogi 15 swydd llawn amser

·         Bod y graean o safon dda ac yn cael ei brosesu yn lleol

·         Bod manteision i’r cais amgen fyddai yn cyfyngu cloddio i 4 mlynedd yn hytrach na 8

·         Bod trafodaethau wedi ei cynnal gyda’r ACM a bod cytundeb ar rai ohonynt

·         Bod modd cydymffurfio yn effeithiol.

 

(ch)   Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol:-

·         NA i’r Pwll Gro ac NA i’r Fynedfa Newydd

·         Byddai llygredd a s?n am flynyddoedd

·         Esgor  pryderon – effaith ar fwynderau a lles trigolion cyfagos

·         Bod safonau iechyd cyhoeddus gwahanol i’r rhai oedd yn bodoli yn 1951

·         Bod anghysondebau yn yr asesiadau ac yn yr ymchwiliadau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C17/0455/22/LL - Cae Efa Lwyd, Ffordd Clynnog, Penygroes pdf eicon PDF 413 KB

Creu mynediad cerbydol i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd o'r briffordd Sirol Dosbarth 3 yn Allt Goch gyda gwaith peirianyddol cysylltiol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Judith Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Creu mynediad cerbydol i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd o'r briffordd Sirol Dosbarth 3 yn Allt Goch gyda gwaith peirianyddol cysylltiol

 

Awgrymwyd gohirio y cais gan fod angen ymdrin â chais C13/0217/22/MW  a C17/0455/22/LL gyda'i gilydd.

 

PENDERFYNWYD gohirio y cais

 

9.

Cais Rhif C17/0826/17/LL - Crud y Nant, Bethesda Bach, Caernarfon pdf eicon PDF 257 KB

Estyniad i safle storio cychod/carafanau presennol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Eric M. Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Estyniad i safle storio cychod/carafanau presennol

(a)             Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer ymestyn safle storio cychod/carafanau presennol ar ran o gae agored ar gyfer cynyddu'r niferoedd o garafanau symudol o 10 i 50.   

Argymhellwyd gwrthod y cais ar sail diogelwch ffyrdd gan fod y bwriad yn gynnydd sylweddol yn y niferoedd o unedau a fwriedir eu cadw ar y safle ac o ganlyniad y nifer o gerbydau'n tynnu carafanau fyddai yn debygol o ddefnyddio'r ffordd gul rhwng y safle a'r A499 ym Methesda Bach.

Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar fryncyn agored yng nghefn gwlad agored oddi fewn i ardal a ddiffinnir gan y ddogfen Asesiad Capasiti a Sensitifrwydd yn ‘dirlun tonnog amaethyddol sy'n cynnwys caeau o raddfa fechan ynghyd â phatrwm caeau anwastad ac afreolaidd sydd â golygfeydd eang o'r tirlun ei hun’.  Buasai caniatáu’r cais cyfredol hwn yn amharu'n andwyol ar batrwm a chymeriad y tirlun hwn.

Byddai cynyddu'r nifer o garafanau teithiol o 10 i 50 (yn ychwanegol i'r 40 cwch sydd eisoes a chaniatâd yng Nghrud y Nant) yn gynnydd sylweddol ei effaith ar ddiogelwch ffyrdd.. Mewn ymateb i'r ymgynghoriaeth statudol roedd yr Uned Drafnidiaeth wedi mynegi eu gwrthwynebiad i'r cais cyfredol hwn ar sail y byddai'r bwriad yn golygu cynnydd sylweddol yn y niferoedd o unedau y bwriedir eu storio ar y safle. Gan ystyried bod y ffordd i’r safle yn is-safonol ar sail ei natur gul a throellog ynghyd â diffyg mannau pasio/encilfeydd, byddai’n creu anhwylustod i ddefnyddwyr sydd yn defnyddio a gwasanaethu'r safle ac yn tanseilio egwyddorion diogelwch da

Ystyriwyd bod safleoedd mwy addas ar gael yn lleol ar gyfer defnydd storio (Defnydd Dosbarth B8) gydag enghraifft o gais diweddar wedi ei ganiatáu ar gyfer storio carafanau teithiol a cherbydau oddi fewn i Stad Ddiwydiannol Penygroes

Ystyriwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi TRA4 o'r CDLL nac yn dderbyniol ar sail egwyddor, lleoliad, graddfa, defnydd, diogelwch ffyrdd, mwynderau preswyl na mwynderau gweledol a'i fod yn groes i ofynion polisïau lleol a chenedlaethol cynllunio perthnasol.

(b)          Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd unigolyn ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod y safle yn saff (gyda theledu cylch cyfyng), yn hwylus ac wedi ei reoli yn dda

·         Ychydig iawn o symudiad cerbydau oedd yn digwydd

·         Nad oedd damweiniau ers sefydlu'r safle 12 mlynedd yn ôl

·         Mai honiad yn unig oedd difrod i’r wal

·         Nad oedd y busnes yn amharu dim ar gymdogion cyfagos

·         Y byddai'r safle yn amlwg o dir uchel ond, wedi ei sgrinio yn dda gyda choed

·         Nad oedd Cyngor Cymuned Llandwrog yn gwrthwynbu’r  cais

·         Bod trafodaethau cychwynnol i gyfyngu cyflymder o 40mya i 30mya ar y briffordd.

(c)          Nododd yr Aelod lleol gefnogaeth i’r cais, gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:

·       Bod y safle yn cynnig gwarchodaeth dda

·       Bod trefniant da o symud a rheoli'r safle

·       Dim gwirionedd i’r honiadau o ddifrod i waliau

·      Bod yr ymgeisydd wedi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C17/0844/09/LL - Tir cyn Ganolfan Iechyd, Ffordd y Pier, Tywyn pdf eicon PDF 277 KB

Cais llawn ar gyfer dymchwel cyn ganolfan iechyd a chodi 12 annedd (8 o fflatiau a 4 o efeilldai) ynghyd â mynedfa, parcio a thanadeiledd cysylltiol.

 

AELODAU LLEOL:   Y Cynghorwyr Anne Lloyd Jones a Mike Stevens.

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn ar gyfer dymchwel cyn ganolfan iechyd a chodi 12 annedd (8 o fflatiau a 4 o efeilldai) ynghyd â mynedfa, parcio a thanadeiledd cysylltiol

Nidoedd modd trafod y cais yma oherwydd nad oedd cworwm digonol. Cyfeiriwyd y cais ymlaen i’r Pwyllgor nesaf

 

 

11.

Cais Rhif C17/0893/18/AM - Tir gyferbyn Stad Rhoslan, Bethel, Caernarfon pdf eicon PDF 260 KB

Codi 7 t? (yn cynnwys 2 d? fforddiadwy) ynghyd â mynedfeydd newydd.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Sion Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Codi 7 t? (yn cynnwys 2 d? fforddiadwy) ynghyd â mynedfeydd newydd

 

Tynnwyd sylw at y wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd

 

(a)          Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu gan nodi mai cais amlinellol ydoedd ar gyfer codi 5 t? ar wahân a 2 d? fforddiadwy ar ffurf par gyda chynllun i greu mynedfeydd newydd o'r ffordd sirol dosbarth III cyfagos. Eglurwyd bod materion fel tirlunio a dyluniad yn cael eu cadw'n ôl ar gyfer eu hystyried eto/ Amlygwyd bod safle'r cais wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu pentref Bethel fel y'i cynhwysir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd ac  hefyd wedi ei ddynodi ar gyfer tai yn y Ddogfen Mapiau Gwynedd (cyfeirnod T58). 

 

Mae Polisi PCYFF1 yn datgan caniateir cynigion y tu mewn i ffiniau datblygu yn unol â pholisïau a chynigion eraill y Cynllun, polisïau cynllunio cenedlaethol ac ystyriaethau perthnasol eraill. Mae Polisi TAI3 yn datgan yn y Pentrefi Gwasanaeth bydd tai i gwrdd â strategaeth y cynllun yn cael eu sicrhau drwy'r dynodiadau tai ynghyd a safleoedd ar hap addas o fewn ffin datblygu.  Mae Polisi TAI 8 yn datgan dylai pob datblygiad preswyl newydd gyfrannu at wella cydbwysedd tai a diwallu'r anghenion ar gyfer y gymuned gyfan.

 

Ategwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion gorllewinol y pentref Rhagdybiwyd mai parhad o ddeunyddiau oedd yn gyffelyb i'r tai cyfagos fydd yn cael eu defnyddio.     Roedd  cynllun safle a gyflwynwyd gyda'r cais wedi ei selio ar drafodaethau cychwynnol rhwng yr ymgeisydd a'r Uned Drafnidiaeth. Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i'r trefniant yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau priodol. 

 

Yng nghyd – destun isadeiledd amlygwyd bod gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan y cyhoedd yngl?n ag addasrwydd y gyfundrefn garthffos gyhoeddus bresennol y pentref i ymdopi gydag mwy o dai yn enwedig pan nad oedd gwelliannau wedi eu gwneud gan D?r Cymru i gynyddu capasiti'r gyfundrefn i gymryd mwy o dd?r wyneb a d?r aflan. Roedd y gwrthwynebwyr yn ymhelaethu drwy ddatgan dylid gwrthod y cais hyd nes bod archwiliadau a gwelliannau wedi eu gwneud ar gyfer y gyfundrefn.  

 

   Adroddwyd, fel rhan o'r broses ymgynghori statudol, ymgynghorwyd gyda D?r Cymru a derbyniwyd ymateb ganddynt yn datgan petai’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn bwriadu caniatáu’r cais, y dylid cynnwys amod sy'n atal unrhyw dd?r wyneb neu/a d?r ffo gysylltu yn uniongyrchol neu anuniongyrchol i'r rhwydwaith garthffos gyhoeddus. Er yn cydnabod gwrthwynebiadau'r trigolion lleol yngl?n â phroblemau presennol y gyfundrefn gyhoeddus i ymdopi gydag ychwaneg o dai ym Methel rhaid oedd ystyried ymateb ffurfiol D?r Cymru i'r cais cynllunio oedd yn datgan bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amod priodol.

 

(b)          Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod problemau carthffosiaeth yn Bethel a bod y system yn ddiffygiol

·         Bod gwastraff a budreddi yn codi i’r strydoedd

·         Bod llanast difrifol yn ystod storm ddiweddar

·         Bod y problemau yn amharu ar fwynderau trigolion y pentref

·         Bod y broblem yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cais Rhif C17/0725/38/AM - Glynllifon, Llanbedrog, Pwllheli pdf eicon PDF 300 KB

Creu 13 llety gwyliau deulawr gyda parcio cysylltiedig ac ardal mwynderol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Angela Russell

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Creu 13 llety gwyliau deulawr gyda pharcio cysylltiedig ac ardal mwynderol

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai caisamlinellol ydoedd gyda’r holl faterion wedi eu cadw yn ôl. Nodwyd y byddai’r unedau i gyd wedi eu lleoli ar bwys llethr serth ar derfyn dwyreiniol safle cefn gwlad sydd wedi ei leoli tu allan i ffin datblygu’r pentref mewn dyffryn coediog o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Tirwedd Hanesyddol Gofrestredig Ll?n a rhwng dwy Heneb Gofrestredig. Ymddengys o LANDMAP fod cyffiniau’r cais wedi ei adnabod fel ardal weledol Mynydd Tir y Cwmwd sydd o safon weledol “Uchel”.  Roedd y safle yn cael ei ystyried yn dirlun sensitif iawn. 

O ran lleoli datblygiadau newydd, datgan Polisi PCYFF 1 CDLl mai tir o fewn ffiniau datblygu trefi a phentrefi fydd y prif ffocws ar gyfer datblygiadau newydd gyda’r polisi yn anelu i ddatgan yn glir fwriad yr Awdurdod Cynllunio Lleol i beidio â chefnogi datblygiadau diangen yng nghefn gwlad.  Ystyriwyd hefyd polisi TWR 2 CDLl sydd yn cefnogi llety gwyliau hunanwasanaeth parhaol newydd, addasu adeiladau presennol neu ymestyn sefydliadau llety presennol os yw’r dyluniad, gosodiad a gwedd y datblygiad o safon uchel ac yn cydymffurfio gyda’r meini prawf.  

 

Tynnwyd sylw at bryderon sylweddol yr Uned AHNE yngl?n â’r cais er mai cais amlinellol ydoedd.  Fodd bynnag, ystyriwyd y byddai datblygiad o faint a graddfa yma yn sicr o gael ardrawiad gweledol mewn dyffryn tawel o’r fath.

 

Ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn ymddangos yn drefol ac allan o le mewn safle gweladwy, tawel, di-lygredd ac yn gwbl ddatgymalog o’r pentref agosaf. O ystyried y buddion economaidd posib, ni fyddai yn gorbwyso’r ffaith bod y datblygiad hwn yn ddatblygiad gwbl anaddas yng nghefn gwlad o fewn safle sensitif er nad oedd effaith niweidiol ar drigolion cyfagos na gwrthwynebiad gan yr Uned Trafnidiaeth.

 

Wedi pwyso a mesur y bwriad yn erbyn gofynion y polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol ystyriwyd nad oedd y bwriad oedd ar safle yng nghefn gwlad yn dderbyniol mewn egwyddor a’i fod yn groes i bolisïau lleoli oedd yn ymwneud gyda lleoli datblygiadau a chreu unedau hunan gwasanaethol newydd.

        

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

(b)       Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod y cais wedi goresgyn 4 allan o 6 o’r meini prawf

·         Bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei gyflwyno

·         Bod yr adroddiad technegol yn dderbyniol gan yr uned trafnidaieth, bioamrywaith

·         Bod y bwriad yn agos i’r ffin ddatblygu ac felly yn ‘dderbyniol’

·         Bod y cais yn cydymffurfio gyda 4 allan o 5 o ystyriaethau polisi TWR2

·         Bod yr effaith ar y tirwedd ehangach yn ‘isel’ ac nid yn ‘arwyddocaol’

·         Bod y cynllun oedd yn cael ei gynnig yn dderbyniol

 

(c)     Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod y cais

 

 (ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Bod rhaid ystyried sylwadau AHNE a CADW

·         Bod y cais yn groes i ofynion polisiau cenedlaethol a lleol

 

         PENDERFYNWYD  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.