Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Stryd Penlan, Pwllheli, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Angela Russell (Aelod Lleol).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

(a)     Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Dilwyn Lloyd, yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0366/17/LL) oherwydd ei fod efo cysylltiad agos gyda’r ymgeisydd;

·        Y Cynghorydd Gruffydd Williams, yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0656/42/LL) oherwydd ei fod wedi holi am randir i gwmni Knights.

 

Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir.

 

(b)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.1 a 5.2 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C17/0159/39/LL a C17/0437/22/LL);

·        Y Cynghorydd Elwyn Edwards, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0459/04/LL).

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Nodwyd bod y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 24 Gorffennaf 2017 wedi penderfynu cefnogi penderfyniad yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio i ofyn i Lywodraeth Cymru ail-agor y gwrandawiad ar gyfer apêl cais cynllunio rhif C13/1143/11/AM - Tir ym Mhen y Ffridd, Bangor, er mwyn rhoi ystyriaeth i’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl) oedd i’w ystyried ar gyfer ei fabwysiadu gan y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 28 Gorffennaf 2017.

 

Adroddwyd y derbyniwyd cadarnhad gan Lywodraeth Cymru bod y gwrandawiad wedi ei ail-agor a byddai’r gwrandawiad ffurfiol yn dechrau ar 15 Tachwedd 2017.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio y byddai’r gwrandawiad yn ystyried materion yn ymwneud gyda’r CDLl a fabwysiadwyd gan y Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 28 Gorffennaf.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 418 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 4 Medi 2017, fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Medi 2017, fel rhai cywir.

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

5.1

Cais Rhif C17/0159/39/LL - The Shanty, Pen Bennar, Abersoch, Pwllheli pdf eicon PDF 277 KB

Dymchwel t? presennol ac adeiladu t? 3 llawr yn ei le.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dewi Wyn Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel t? presennol ac adeiladu t? 3 llawr yn ei le.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2017 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod ac eglurwyd yr edrychwyd ar y safle o gyfeiriad Lôn Pont Morgan yn ogystal.

 

         Nodwyd bod y safle ar benrhyn Abersoch, y tu allan i ffin datblygu'r pentref a thu mewn i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ll?n (AHNE). ‘Roedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn yng nghyswllt dyluniad y t? a’r effaith ar yr AHNE. Cydnabuwyd pryderon y gwrthwynebwyr, fodd bynnag teimlir nad oedd hynny ynddo’i hun yn golygu y byddai'r bwriad yn cael effaith niweidiol ar gymeriad yr ardal. Sylweddolir bod y dyluniad yn gwneud defnydd helaeth o derasau a ffenestri sylweddol, fodd bynnag noder o’r lluniau a gyflwynwyd gyda’r cais bod tai eraill gerllaw'r safle hefyd yn rhannu nodweddion pensaernïol o’r fath. Teimlir bod y lluniau, a gyflwynwyd fel rhan o’r cais, yn dangos na fyddai’r adeilad yn creu datblygiad ymwthiol yn y tirlun ac er bod edrychiad y t? yn wahanol, ni ystyrir y byddai’n achosi niwed arwyddocaol i dirwedd ac arfordir yr AHNE. Ystyrir fod y bwriad yn addas i’w leoliad a’i gyd-destun ac na fyddai’n cael effaith andwyol ar yr AHNE. Hefyd, oherwydd y lleoliad yn erbyn cefndir adeiledig Abersoch ni ystyrir y byddai’r bwriad yn amharu’n sylweddol ar olygfeydd i mewn ac allan o’r AHNE. 

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Ll?n.

 

Cadarnhawyd bod y ddarpariaeth parcio yn dderbyniol ac nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad. Nodwyd bod Llwybr Cyhoeddus gerllaw’r safle a bod angen ei ddiogelu yn ystod ac ar ddiwedd y datblygiad a gellir gwneud hyn drwy amod ar y caniatâd cynllunio.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Pryder o ran yr effaith ar y llwybr cyhoeddus;

·         Bod y datblygiad yn enfawr ac yn ymdebygu i westy;

·         Byddai’n weladwy o’r môr a byddai’r datblygiad yn amharu ar yr olygfa o’r Llwybr Arfordir;

·         Pryder o ran effaith datblygiadau mawr ar yr Iaith Gymraeg;

·         Pryder o ran egwyddor dymchwel a chodi t?;

·         Bod y datblygiad yn groes i bolisi TAI 5 Tai Marchnad Leol o’r CDLl;

·         Y cyflwynwyd y cais cyn mabwysiadu’r CDLl.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ers 31 Gorffennaf 2017 yn unol â’r CDLl. Nodwyd bod yr adroddiad yn ystyried y cais yng nghyd-destun polisïau’r CDLl. Eglurwyd bod polisi TAI 5 yn ymwneud â thai newydd lle nad oedd t? eisoes yn bodoli ar y safle.

 

(c)     Cynigwyd i wrthod y cais yn groes i argymhelliad y swyddogion oherwydd byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle amlwg  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

Cais Rhif C17/0437/22/LL - Tir ger Cyfnewidfa Ffôn Penygroes, Ffordd y Sir, Penygroes, Caernarfon pdf eicon PDF 344 KB

Gosod mast telethrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd a ffens diogelwch 1.8 o uchder

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Judith M Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosod mast telathrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd â ffens diogelwch 1.8 o uchder.

        

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Medi 2017. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion Penygroes i gefn safle cyfnewidfa ffôn a oedd yn cynnwys adeilad unllawr parhaol.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

         Nodwyd bod gofynion cyffredinol Polisi PS3 o’r CDLl yn caniatáu cynigion isadeiledd oedd yn ceisio estyn neu wella cysylltiadau trwy gyfrwng y technolegau cyfathrebu presennol a rhai a oedd yn cael eu datblygu.

 

Eglurwyd bod Polisi Cynllunio Cymru yn datgan yn glir mewn perthynas â goblygiadau datblygiad arfaethedig o’r fath i iechyd mai barn Llywodraeth Cymru oedd na ddylid bod angen i awdurdodau cynllunio lleol ystyried ymhellach unrhyw effeithiau iechyd na’r pryderon amdanynt wrth brosesu cais am ganiatâd cynllunio neu gymeradwyaeth o flaen llaw os oedd y datblygiad yn bodloni gofynion y Comisiwn Rhyngwladol ar Amddiffyn rhag Ymbelydriad Anïoneiddiol (ICNIRP).Derbyniwyd gwybodaeth gan yr ymgeisydd yn dangos cydymffurfiaeth gyda’r safonau yma.

 

         Nodwyd ei fod yn anorfod y byddai’r prif strwythur arfaethedig yn rhannol weladwy o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn. Ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn annhebygol o gael effaith amlwg hir dymor ar fwynderau gweledol yr ardal leol. Adroddwyd y derbyniwyd gwrthwynebiad hwyr o ran effaith y datblygiad ar heneb Caer Engan, ymgynghorwyd efo CADW ac fe dderbyniwyd cadarnhad nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r bwriad.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan aelod oedd yn gweithredu fel aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod y gymuned leol yn pryderu am effaith negyddol y datblygiad ac yn awyddus i’w ail-leoli;

·         Bod dyletswydd i bwyllo yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gyda’r angen i sicrhau anghenion tymor byr a hir dymor;

·         Cyfeirio at astudiaethau ac apeliadau oedd yn dangos effeithiau ymbelydredd electro magnetig ar iechyd. Cydnabod nad oedd materion iechyd yn ystyriaeth o ran penderfynu ar y cais;

·         Pryder o ran yr effaith weledol a’i effaith ar fusnes Pant Du a oedd yn atyniad ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr;

·         Pryder y byddai mast newydd diwydiannol amlwg yn effeithio ar gais Llechi Cymru am statws Safle Treftadaeth y Byd (UNESCO);

·         Bod Gr?p Cynefin efo cynllun i ddatblygu tai ger y safle a’u bod yn gwrthwynebu’r bwriad. Gallai caniatáu’r cais atal y cynllun;

·         Yn unol â diwylliant Ffordd Gwynedd dylid gwrando ar sylwadau trigolion a gwrthod y cais yn y lleoliad yma.

 

(c)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Gyfreithiwr ei fod yn gwerthfawrogi sylw’r aelod bod y Pwyllgor yn y cyd-destun cynllunio wedi eu clymu o ran materion iechyd.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

Cais Rhif C17/0366/17/LL - Tir, Y Fron, Caernarfon pdf eicon PDF 246 KB

Gosod 1 grid gwartheg

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dilwyn Lloyd

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosod 1 grid gwartheg

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod yr ymgeiswyr yn egluro mai’r bwriad oedd cau bwlch yn y rhwystrau presennol o amgylch Comin Uwchgwyrfai er atal defaid a gwartheg rhag crwydro oddi ar y Comin i bentrefi, ffyrdd a thiroedd cyfagos.

 

Nodwydmai’r prif bolisi cynllunio a oedd yn ymwneud â newidiadau i'r rhwydwaith cludiant oedd Polisi TRA 1 o'r CDLl. Eglurwyd bod y polisi hwn yn caniatáu gwelliannau i isadeiledd ffyrdd presennol os gellir cwrdd gyda chyfres o feini prawf gan gynnwys bod y safle a ddewisir yn cael yr ardrawiad lleiaf posib ar yr amgylchedd adeiledig a naturiol, y dirwedd ac eiddo.

 

Ystyriwydoherwydd maint eithaf bychan y datblygiad hwn, ynghyd a'i leoliad mewn ardal amaethyddol ei naws, ni fuasai'r grid ei hun na'r ffensys, giât a waliau a fyddai o'i amgylch yn ymddangos fel nodweddion anghydnaws yn y dirwedd.

 

Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd. Nodwyd na chredir y byddai'r lefelau s?n a ddeilliai o'r grid yn debygol o fod yn arwyddocaol wahanol i'r hyn a gynhyrchir gan drafnidiaeth arferol o safbwynt ei effaith mwynderol. Fe ystyrir felly bod y cynnig yn cwrdd gyda gofynion Polisi TRA 1 o ran amddiffyn eiddo lleol a hefyd PCYFF 2 o ran amddiffyn iechyd, diogelwch a mwynderau trigolion lleol.

 

          Tynnwyd sylw nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i'r bwriad o safbwynt diogelwch y briffordd er yn pwysleisio ei fod yn angenrheidiol derbyn caniatâd ychwanegol trwy orchymyn dan Adran 82 o’r Ddeddf Priffyrdd 1980. 

 

          Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Ynmanteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Eifod yn cynrychioli trigolion a oedd yn pryderu o ran effaith y datblygiad;

·         Nidoeddent yn erbyn yr egwyddor ond yn gwrthwynebu’r lleoliad a’i ddyluniad;

·         Pryder o ran diogelwch cerddwyr.

 

(c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Eifod yn Gadeirydd Cymdeithas Pori Uwchgwyrfai, ‘roedd y gymdeithas wedi ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru a bod yr aelodau wedi arwyddo i gadarnhau y byddent yn cydymffurfio â’r gofynion;

·         Bod cynnydd o ran defnydd cerddwyr o’r Tir Comin yn hel stoc i lawr gan greu trafferth o ran rheoli stoc;

·         Byddai’r grid yn atal stoc rhag crwydro tuag at bentrefi Carmel a Groeslon.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Cynigwyd gwelliant i gynnal ymweliad safle. Nododd aelod bod angen datrysiad gyda’r angen i ystyried beth fyddai’r ateb gorau. Eiliwyd y gwelliant.

 

          Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe syrthiodd.

 

          Pleidleisiwyd ar y cynnig gwreiddiol i ganiatáu’r cais ac fe gariodd.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

1.     Amser

2.     Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.     Cytuno ar union leoliad, deunyddiau a dyluniad y ffensys / waliau / giât  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3

5.4

Cais Rhif C17/0459/04/LL - Parc Carafanau Llawr y Betws, Glan yr Afon, Corwen pdf eicon PDF 354 KB

Cais llawn i ddiwygio gosodiad allan maes carafanau er mwyn lleoli cyfanswm o 92 o garafanau sefydlog, i gynnwys 30 o garafanau sefydlog (8 wedi eu adleoli o fewn y safle) i gymeryd lle 35 o garafanau teithiol, lleihad mewn dwysedd y carafanau sefydlog, a gwellianau amgylcheddol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Elwyn Edwards

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i ddiwygio gosodiad maes carafanau er mwyn lleoli cyfanswm o 92 o garafanau sefydlog, i gynnwys 30 o garafanau sefydlog  (8 wedi eu hadleoli o fewn y safle) i gymryd lle 35 o garafanau teithiol, lleihad mewn dwysedd y carafanau sefydlog, a gwelliannau amgylcheddol.

 

(a)     Ymhelaethodd y RheolwrCynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod caniatâdyn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer 70 o garafanau sefydlog, a 35 o garafanau teithiol a bod y carafanau teithiol a’r carafanau sefydlog wedi eu lleoli ar ddau gae gwahanol o fewn y safle, ni fyddai’r cais hwn yn golygu ymestyn ffiniau’r safle. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn dyffryn cul naturiol, gyda choed a gwrychoedd aeddfed ar hyd y terfynau.

 

         Nodwyd yr ystyrir bod cynnydd o 10% yn yr unedau statig yn dderbyniol. Yn ogystal ystyrir amnewid 35 uned deithiol gyda 15 uned statig ychwanegol yn welliant i’r safle penodol yma; gan y byddai’n golygu llai o lif traffig cyffredinol ar hyd y ffyrdd cefn cul a oedd yn arwain i’r safle. Tynnwyd sylw na fyddai’r bwriad yn achosi effaith weledol ychwanegol, a byddai safon y ddarpariaeth a gynigir yn welliant mawr.

 

Nodwyd y byddai’r bwriad yn gwella gosodiad y safle gan ei wneud yn fwy trefnus ac atyniadol o gymharu â’i ffurf bresennol oedd yn fwy cyfyng a dwys, yn ogystal ystyrir y byddai’r gwaith tirlunio a phlannu a fwriedir yn welliant sylweddol i’r sefyllfa bresennol.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd y byddai’r bwriad yn golygu gwella mwynderau a lleihau dwysedd y safle.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio bod yr amodRhaid cyflwyno manylion goleuo’r safle er cymeradwyaeth, a gweithredu’r cynllun o fewn amserlen benodolyn unol â’r amod a argymhellwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

PENDERFYNWYDcaniatáu’rcais.

 

Amodau:

1.      5 mlynedd i gychwyn y datblygiad;

2.      Unol a’r cynlluniau a ganiatawyd;

3.      Defnydd gwyliau yn unig

4.      Cyfyngu nifer y carafanau sefydlog ar y safle i 92 yn unig, dim carafanau teithiol;

5.      Rhaid cyflwyno manylion goleuo’r safle er cymeradwyaeth, a gweithredu’r cynllun o fewn amserlen benodol;

6.      Cynllun tirweddu a phlannu i’w weithredu o fewn y tymor plannu cyntaf yn dilyn cwblhau’r datblygiad neu cyn y meddiannir y carafanau sefydlog sydd yn destun y caniatâd hwn (p’run bynnag ddaw gyntaf);

7.      Cyflwyno manylion ar gyfer y man chwarae o fewn mis o gychwyn gwaith, a’i gwblhau cyn y meddiannir y carafanau sefydlog sydd yn destun y caniatâd hwn;

8.      Y datblygiad i gael ei ymgymryd ag ef yn gaeth unol a’r mesurau ac argymhellion yr adroddiad ecolegol a gyflwynwyd;

9.      Lliwiau'r carafanau sefydlog i’w cytuno yn ysgrifenedig cyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4

5.5

Cais Rhif C17/0557/38/LL - Tir ger Ffordd y Traeth, Llanbedrog, Pwllheli pdf eicon PDF 270 KB

Adeiladu t? fforddiadwy.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Angela Russell

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladut? fforddiadwy.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod mapiau cynigion CDLl ar gyfer pentref Llanbedrog yn dangos bod y safle yn gorwedd y tu allan i ffin datblygu'r pentref ac ystyrir bod y bwriad cyfystyr a chodi t? newydd yng nghefn gwlad. Er gwaethaf dadleuon yr ymgeisydd nid oedd swyddogion wedi eu hargyhoeddi, ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd, bod y safle yn ffurfio estyniad rhesymegol i ffin datblygu'r pentref.

 

         Nodwyd y cyflwynwyd manylion a thystiolaeth i ddangos fod yr ymgeisydd mewn angen t? fforddiadwy ac yn cadarnhau bodlonrwydd i dderbyn rhwymedigaeth drwy gytundeb cyfreithiol Adran 106 yn cyfyngu daliadaeth a phris y t? pe’i gwerthid yn y dyfodol er mwyn sicrhau ei fod yn parhau yn d? fforddiadwy.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig a oedd yn lleihau arwynebedd llawr y t? i 100m2.

 

         Nodwyd ei fod yn debygol na fyddai codi t? ar y safle yn creu datblygiad a fyddai yn cael effaith niweidiol sylweddol ar y tirlun ehangach. Eglurwyd bod y safle yn bresennol yn rhan o gae amaethyddol mwy a oedd yn ymestyn at yr arfordir gerllaw ac yn cynnig preifatrwydd a llonyddwch i ddeiliaid y ddau d? presennol gerllaw.

 

         Roedd yn ymddangos bod y llain bwriedig ynghyd a’r t? bwriedig wedi ei wasgu cyn agosed i’r ffin datblygu a phosibl er ceisio cyfarfod gofynion polisi gan greu safle cyfyng a datblygiad annerbyniol ac ystyrir na fyddai’n creu estyniad rhesymegol i’r anheddle. Teimlir felly y byddai caniatáu’r cais yn achosi elfen o aflonyddwch ar y cymydog oherwydd gweithgareddau defnydd preswyl eiddo newydd a mynd a d?ad i mewn ac allan o’r llain felly roedd y bwriad yn groes i bolisi PCYFF 2 a PCYFF 3 o’r CDLl.

         Nodwyd bod y cynllun yn dangos y bwriedir creu mynedfa gerbydol i’r gogledd ar hyd terfyn y safle er mwyn cysylltu gyda ffordd mynediad preifat o fewn ystâd o 12 o Dai Fforddiadwy cyfagos. Ni ystyrir y byddai defnyddio ffordd yr ystâd fel mynediad i wasanaethu un t? ychwanegol yn amharu ar ddiogelwch ffyrdd.

 

         Argymhellwyd y dylid gwrthod y cais ar sail:

·         Bod y bwriad yn groes i PCYFF 1 o’r CDLl a oedd yn ymwneud â bod y safle yn ffurfio estyniad rhesymegol i ffin datblygu'r pentref;

·         Byddaicaniatáu’r cais yn achosi aflonyddwch annerbyniol gan gael effaith niweidiol ar fwynderau trigolion cyfagos.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei bod yn cytuno efo sylwadau’r swyddogion a’u bod wedi cyflwyno adroddiad i’r Gwasanaeth Cynllunio a oedd yn dod i’r un darganfyddiadau a’r swyddogion;

·         Nadoedd tystiolaeth o ran yr angen am d? fforddiadwy;

·         Cwestiynu a fyddai’r t? yn fforddiadwy oherwydd ei faint, lleoliad a’i ddyluniad;

·         Cwestiynuprisiad o £250,000 o’r t? wedi ei gwblhau.

 

(c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5

5.6

Cais Rhif C17/0603/43/LL - Capel Bethania, Pistyll, Pwllheli pdf eicon PDF 262 KB

Newid defnydd ac ymestyn capel i greu uned wyliau yn cynnwys newid defnydd tir amaethyddol o amgylch y capel i greu ardal mwynderol a gosod tanc trin (cais diwygiedig).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Aled Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd ac ymestyn capel i greu uned wyliau yn cynnwys newid defnydd tir amaethyddol o amgylch y capel i greu ardal mwynderol a gosod tanc trin (cais diwygiedig).

 

(a)     Ymhelaethodd yr UwchSwyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli o fewn yr AHNE a hefyd o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Ynys Enlli. 

 

         Tynnwyd sylw at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus yng nghyswllt diogelwch ffyrdd ac oriau gwaith adeiladu.

 

Nodwyd bod polisi TWR 2 yn datgan y caniateir cynigion ar gyfer trosi adeiladau presennol yn unedau gwyliau hunan wasanaeth os ydynt o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad. Ystyrir fod graddfa’r bwriad yn addas ar gyfer y safle a’r lleoliad gydag ond un uned wyliau yn cael ei chreu. Nodwyd hefyd bod y lleoliad yn gyfleus gyda mynediad yn union oddi ar y ffordd sirol ddosbarth 2.

 

Nodwyd bod dyluniad yr estyniad yn eithaf cyfoes, fodd bynnag, ystyrir y byddai’r estyniad yn dderbyniol ar gyfer y safle ac ystyrir bod y deunyddiau yn rhai derbyniol.

 

Yndilyn derbyn gwrthwynebiad gan yr Uned Drafnidiaeth oherwydd nad oedd lle i gerbyd aros oddi ar y ffordd tra agorwyd giât i’r safle a gosodiad y fynedfa, derbyniwyd cynllun diwygiedig gyda’r giât wedi ei osod fwy mewn i’r trac mynediad fel bod modd i gerbyd aros i’r giât agor oddi ar y ffordd sirol. Nodwyd yn sgil derbyn y manylion yma derbyniwyd sylwadau pellach gan yr Uned Drafnidiaeth yn datgan fod y bwriad i ail-leoli’r giât ymhellach i mewn i’r safle yn dderbyniol ac yn goresgyn rhan helaeth pryderon priffyrdd. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn amharu ar ddiogelwch ffyrdd.

 

Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol ar sail egwyddor, lleoliad, defnydd, dwysedd, dyluniad, deunyddiau, mwynderau gweledol, mwynderau preswyl a diogelwch ffyrdd ac yn cydymffurfio gyda pholisïau a chyngor cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn awyddus i gadw edrychiad yr adeilad fel capel a disodli’r festri a oedd ddim yn strwythurol gadarn efo estyniad modern gyda chyferbyniad rhwng yr hen a’r newydd;

·         Ni chysylltir i’r garthffos gyhoeddus;

·         Ei fod wedi prynu tir ychwanegol er mwyn galluogi symud y fynedfa i wella gwelededd;

·         Bod darpariaeth parcio ar y safle.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Ynystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod y cais yn gyfle perffaith i ddiogelu’r adeilad;

·         Pryder o ran diogelwch ffyrdd gyda cheir yn parcio ar y ffordd ar ochr y teras gyferbyn â’r safle. Problemau goryrru ar y ffordd yma ac yn anodd pasio’r ceir ar y ffordd;

·         Nifer o geisiadau lle'r oedd unedau gwyliau a oedd wedi derbyn caniatâd cynllunio yn troi wedyn i fod yn d?. A fyddai’n bosib gosod amod i gyfyngu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.6

5.7

Cais Rhif C17/0656/42/LL - Maes y Garn, Stryd Fawr, Nefyn pdf eicon PDF 289 KB

Adeiladu 5 o dai unllawr gyda un i fod yn d? fforddiadwy.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Gruffydd Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu 5 o dai unllawr gydag un i fod yn d? fforddiadwy.

        

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod tir cyffiniol i’r gorllewin, oedd hefyd ym mherchnogaeth yr ymgeisydd, eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio i adeiladu 10 o dai annedd deulawr. Eglurwyd fel rhan o’r caniatâd roedd bwriad i gadw safle’r cais presennol fel 16 o randiroedd a bod amod ar ganiatâd cynllunio C12/1372/42/LL i sicrhau fod y tir yma yn cael ei ddefnyddio fel rhandiroedd.

 

Nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu mewn i ffin ddatblygu Nefyn a’i fod wedi ei glustnodi fel llecyn agored / cae chwarae i’w warchod yn y CDLl gyda’r safle yn y gorffennol wedi ei ddefnyddio fel rhandiroedd. 

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

Nodwyd yr ystyriwyd y bwriad o ran Polisi ISA 4 o’r CDLl a oedd yn ymwneud â diogelu llecynnau agored presennol. Adroddwyd fel rhan o’r cais cyflwynwyd dogfen Crynodeb o Dystiolaeth ar Lecyn Agored. Roedd yr asiant hefyd fel rhan o’r cais wedi crynhoi’r wybodaeth a gasglwyd fel rhan o’r Datganiad Cynllunio, Dyluniad a Mynediad. Cafodd y wybodaeth yma eu paratoi gan yr asiant ac roedd yn crynhoi’r broses ac ymdrechion yr ymgeisydd i ganfod tystiolaeth o’r galw am randiroedd yn Nefyn.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi gwneud arolwg o’r rhandiroedd yn Y Ddôl er mwyn asesu faint o’r 21 oedd mewn defnydd yn Medi 2016. O’r wybodaeth a gyflwynwyd dim ond 10 allan o’r 21 rhandir gyda chaniatâd cynllunio oedd yn cael eu defnyddio. 

 

Gan fod yr ymgeisydd wedi cael ar ddeall drwy lythyr gan Gyngor Tref Nefyn fod problemau draenio ar safle rhandiroedd Y Ddôl bu iddo geisio mynediad i safle’r Ddol i asesu’r anghenion draenio ac i weld os oedd modd eu datrys. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi datgan ei fod yn parhau i fod yn barod i asesu draeniad y tir i weld os gall gynorthwyo i wella’r rhandiroedd ar safle’r Ddôl petai’r cyfle yn codi.

 

Gellir gweld fod y sefyllfa o ran rhandiroedd yn Nefyn wedi newid ers i’r cais am y 10 t? gael ei ganiatáu gyda chaniatâd cynllunio wedi ei roi ar gyfer 21 o randiroedd ar safle’r Ddol.  Ymddengys o’r wybodaeth a gyflwynwyd nad oedd y rhandiroedd yma wedi eu llenwi ac er bod o bosibl resymau dros hyn roedd potensial yma ar gyfer 21 o randiroedd. Deallir fod y tir yma ar les i Gyngor Tref Nefyn gan Gyngor Gwynedd am 15 mlynedd o Hydref 2014.

 

Nodwyd bod cynnwys Nodyn Cyngor Technegol 16 yn nodi na ellir cael yr un math o warchodaeth i randiroedd mewn perchnogaeth breifat ac a fyddai ar gyfer rhai oedd yn cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol. Ystyrir fod ymdrech deg wedi ei wneud gan yr ymgeisydd i geisio gwybodaeth am yr anghenion o safbwynt darpariaeth rhandiroedd yn Nefyn a hefyd i geisio cyfrannu tuag at wella’r cyfleusterau ar safle’r Ddol.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi datgan y byddai’n fodlon arwyddo cytundeb 106 yn clymu un o’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7