Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Gweddarllediad: Gwylio'r gweddarllediad

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2017/18

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail ethol y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18.

 

2.

ETHOL ISGADEIRYDD

I ethol Is Gadeirydd am 2017/18

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ail ethol y Cynghorydd Elwyn Edwards yn Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwydymddiheuriad gan y Cynghorydd Eirwyn Williams.

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)         Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitemau canlynol am y rhesymau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn eitem 7.9 (C17/0257/14/LL) oherwydd bod ei wraig yn gweithio fel cydlynydd prosiect i’r Ymddiriedolaeth Harbwr

·        Y Cynghorydd Gruffydd Williams yn eitem 7.10 (C17/0317/33/LL) oherwydd bod ei dad yn berchen parc carafanau wedi ei leoli llai na chwe milltir o’r safle;

·        Y Cynghorydd Owain Williams yn eitem 7.10 (C17/0317/33/LL)  oherwydd ei fod yn berchennog parc carafanau wedi ei leoli llai na chwe milltir o’r safle.

·        Y Cynghorydd Eric M Jones yn eitem 7.12 (C17/0356/17/LL) oherwydd ef oedd perchennog y tir dan sylw

 

Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir.

 

b)         Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Sion Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1406/18/LL)

·        Y Cynghorwyr Dylan Fernley a Nigel W. Pickavance, (nad oeddent yn aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0084/11/LL)

·        Y Cynghorydd Edgar Owen (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0011/19/MW)

·        Y Cynghorydd W. Gareth Roberts, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 7.6 a 7.8 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhif C16/0198/30/LL a C17/0242/30/LL)

·        Y Cynghorydd Selwyn Griffiths, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.7 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0287/44/LL)

 

Ymneilltuoddyr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

6.

COFNODION pdf eicon PDF 316 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 24.04.17 fel rhai cywir  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Ebrill 2017 fel rhai cywir.

7.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

I gyflwyno adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwydar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

 

7.1

Cais Rhif C16/1406/18/LL Tir tu cefn Capel Bethel, Bethel pdf eicon PDF 373 KB

Codi 4 t? fforddiadwy, creu ffordd stad newydd a mynedfa cerbydol newydd

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Sion Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

         Codi 4 t? fforddiadwy, creu ffordd stad newydd a mynedfa gerbydol newydd

              

a)         Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y gohiriwyd y penderfyniad ym Mhwyllgor 13 Mawrth. 2017 er mwyn i’r aelodau ymweld â’r safle a derbyn manylion o’r cynllun draenio tir a barn yr ymgynghorwyr statudol. Amlygwyd mai cais llawn ydoedd i godi pedwar t? fforddiadwy deulawr ar safle ger ardal anheddol o’r pentref ger y ffin ddatblygu fel y'i diffinnir gan Fap Cynhigion Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd - o ganlyniad fe ddiffinniwyd fel safle  wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored.

 

Tynnwyd sylw at y polisïau perthnasol oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ynghyd a’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Eglurwyd bod y safle yn ymylu gyda’r ffin datblygu ac yn gydnaws a pholisi CH7 sy’n caniatáu cynigion am dai fforddiadwy ar safleoedd eithrio gwledig addas sy’n union ar ffin pentrefi neu ganolfannau. Ategwyd bod ochor ddeheuol y safle yn ymylu’r ffin datblygu ger stad Bron Gwynedd ac felly gall y safle fod yn safle eithrio gwledig. Caniatáu datblygiadau am dai fforddiadwy yn unig mae polisi CH7 pan fydd yr angen wedi ei brofi - derbyniwyd datganiad Cynllunio a Chartrefi Fforddiadwy gyda'r cais yn profi’r angen am y tai hyn. Derbyniwyd sylwadau hefyd gan Uned Strategol Tai y Cyngor yn cydnabod yr angen am y math yma o dai fforddiadwy yn yr ardal.

 

Amlygwyd bod gwrthwynebiadau ar sail bod safleoedd, tu fewn i’r ffin datblygu, heb gael eu datblygu eto a bod y Cynllun Datblygu Lleol yn darparu safleoedd newydd ar gyfer mwy o dai yn y pentref. Fel ymateb, nodwyd nad oedd polisi CH7 yn ei gwneud yn ofynnol i safleoedd eraill o fewn y ffin ddatblygu fodloni’r angen yn y lle cyntaf a’r cyfan sydd ei angen o dan y polisi yw angen lleol profedig am dai fforddiadwy.

 

Amlygwyd bod gwrthwynebiadau eraill yn cyfeirio at wrthodiadau blaenorol ar gyfer datblygiad preswyl ar y safle a’i fod wedi ei wrthod ar apêl. Eglurwyd bod y cais dan sylw (3/18/384E) yn gais am ganiatâd amlinellol ar gyfer datblygu’r cae i gyd ar gyfer datblygiad preswyl. Ar y pryd, roedd yr ystyriaethau polisi yn wahanol i’r rhai presennol ac nid oedd y polisïau yn rhyddhau tir tu allan i’r ffiniau datblygu i ddarparu tai fforddiadwy fel safleoedd eithrio gwledig.

 

Yng nghyd-destun materion isadeiledd amlygwyd bod polisïau B32, B29  a CH18 yn berthnasol i’r agwedd llifogydd, rheoli d?r wyneb a sicrhau fod  darpariaeth ddigonol o seilwaith i’r datblygiad. Derbyniwyd gwrthwynebiadau yn amlygu pryder am lifogydd, problemau d?r wyneb a phroblemau gyda’r brif garthffos. Cyflwynwyd cynllun diwygiedig yn dangos cynllun draenio tir manwl ac asesiad cae glas o’r sefyllfa d?r wyneb presennol a’r sefyllfa ar ôl datblygu’r safle. Adroddwyd y byddai’r d?r wyneb yn cael ei waredu trwy sustemau D?r Cymru i beipen sy’n arllwyso i’r Afon Cadnant. I sicrhau na fydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol pellach lawr yr afon mae’r bwriad yn cynnwys 2 sustem gwanhad (  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.1

7.2

Cais Rhif C17/0084/11/LL Clwb Cymdeithasol Maesgeirchen, 40 Penrhyn Avenue, Bangor pdf eicon PDF 374 KB

Dymchwel clwb cymdeithasol presennol a chodi adeilad tri llawr gyda siop (yn cynnwys caffi, arwyddion ffasgia a pheiriant talu arian) ar y llawr gwaelod a 10 fflat un llofft ar y lloriau uwch ynghyd a dau gynhwysydd storio (ail gyflwyniad o gais C16/0157/11/LL)

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Nigel W Pickavance a’r Cynghorydd Dylan Fernley

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel clwb cymdeithasol presennol a chodi adeilad tri llawr gyda siop (yn cynnwys caffi, arwyddion ffasgia a pheiriant talu arian) ar y llawr gwaelod a 10 fflat un llofft ar y lloriau uwch ynghyd a dau gynhwysydd storio (ail gyflwyniad o gais C16/0157/11/LL)

 

a)         Ymhelaethodd y Swyddog Rheoaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y gohiriwyd y penderfyniad 24 Ebrill, 2017 er mwyn i’r Pwyllgor ymweld â’r safle.  Ategwyd mai ail-gyflwyniad o gais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel adeilad presennol Clwb Cymdeithasol Maesgeirchen a chodi adeilad tri llawr yn ei le. Fe dynnwyd y cais blaenorol (C16/0157/11/LL) yn ei ôl cyn derbyn penderfyniad. Byddai'r datblygiad yn cynnwys yr elfennau canlynol :

·         Siopar y llawr gwaelod yn cynnwys 200m2 o  arwynebedd llawr mân werthu "nwyddau cyfleuster" (convenience goods), cownter caffi ac ardal eistedd, ynghyd ag ardal storfa / swyddfa / ffreutur ar gyfer staff - bwriedir agor y siop 24 awr y diwrnod, 7 diwrnod yr wythnos

·         10 fflat un llofft ar y lloriau uwch (5 ar bob llawr). Byddai pob fflat yn cynnwys ystafell wely, ystafell fyw / fwyta, cegin, ystafell ymolchi a chyntedd ac fe fyddai ganddynt arwynebedd llawr o thua 45m2 pob un.

·         7 gofod parcio wedi'u neilltuo, gan gynnwys 2 ofod ar gyfer gyrwyr anabl, ynghyd a mannau ar wahân i gadw gwastraff masnachol a phreswyl

 

Nodwyd bod polisi CH38 o’r CDUG yn ceisio diogelu cyfleusterau cymunedol presennol.Wrthdderbyn bod cyfleuster cymunedol wedi ei golli o'r safle hwn oherwydd problemau gyda hyfywdra'r busnes blaenorol, byddai'r adeilad newydd yn gyfleuster cymunedol yn darparu ystod eang o wasanaethau a sicrhau dyfodol mwy sicr i'r safle.Eglurwyd bod polisïau'r Cynllun Datblygu Unedol yn gefnogol i'r egwyddor o geisio sicrhau datblygiadau cadarnhaol ar safleoedd ail-ddatblygu oedd o fewn ffiniau datblygu trefol.

 

         Nodwyd y byddai’r bwriad yn sylweddol uwch na'r adeilad presennol, ond gwnaed sylw bod sawl adeilad tri llawr mewn rhannau eraill o Faesgeirchen, gan gynnwys blociau o fflatiau o faint cyffelyb. O ganlyniad ni ystyriwyd y byddai’r adeilad yn wahanol ei naws i adeiladau eraill yn y stad.

 

         Er y gwerthfawrogwyd pryderon lleol am y bwriad, rhaid oedd ystyried y cynllun yng nghyd-destun lleoliad trefol y safle yn ogystal â’i ddefnydd blaenorol. Ni ystyriwyd y byddai'r datblygiad yn cael effaith niweidiol arwyddocaol ychwanegol ar fwynderau trigolion cyfagos ac y byddai’r datblygiad yn gydnaws gyda Pholisïau B23 a B33 o’r CDUG a oedd yn anelu at amddiffyn mwynderau trigolion lleol.

 

         Tynnwyd sylw bod yr Asesiad Marchnad Dai, a gyflwynwyd gyda'r cais, yn honni bod diffyg yn y farchnad dai yn lleol am unedau un llofft ar gyfer unigolion neu gyplau a oedd am gymryd eu camau cyntaf yn y farchnad dai. Ystyriwyd bod y safle yn addas ar gyfer unedau byw a byddai’r fflatiau yn cwrdd â galw lleol mewn modd a oedd yn fforddiadwy.

 

          Roedd y datblygiad yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.2

7.3

Cais Rhif C16/1421/11/LL 390, Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd pdf eicon PDF 365 KB

Cais llawn i ddymchwel yr adeilad presennol a chodi adeilad 3 llawr er mwyn darparu 6 uned byw

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Keith Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Caisllawn i ddymchwel yr adeilad presennol a chodi adeilad 3 llawr er mwyn darparu 6 uned byw

 

a)         Ymhelaethodd y SwyddogRheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd i ddymchwel adeilad presennol a strwythurau cysylltiol i gefn y safle a chodi adeilad 3 llawr newydd fyddai’n darparu 6 uned byw, dwy lofft, hunan cynhaliol.Cyflwynwyd y cais i bwyllgor oherwydd bod maint y datblygiad arfaethedig yn fwy na’r hyn a ellid ei drafod o dan y drefn ddirprwyedig.

 

Eglurwyd bod safle’r datblygiad arfaethedig ar ran ‘isaf’ Stryd Fawr Bangor o fewn ffiniau datblygu’r ddinas, wedi ei ddynodi fel canolfan is ranbarthol yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd 2009 (CDUG).

 

Tynnwyd sylw i’r hanes cynllunio perthnasol ynghyd a’r sylwadau ychwanegol.

 

Amlygwyd bod cais blaenorol wedi ei wrthod ar sail dyluniad yr adeilad a hefyd effaith y datblygiad ar osodiad yr adeilad rhestredig. Roedd caniatâd adeilad rhestredig eisoes yn bodoli i ddymchwel yr adeiladu presennol sydd ar y safle a chwblhau gwaith i atgyweirio’r adeilad rhestredig. Nodwyd mai'r prif faterion dan ystyriaeth oedd effaith y datblygiad ar osodiad yr adeilad rhestredig ar effaith ar y strydlun

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad roedd safle’r datblygiad arfaethedig o fewn ffiniau datblygu dinas Bangor ond ger ffin tref diffiniedig. Amlygwyd bod gofynion sylfaenol polisi CH3 yn caniatáu tai newydd ar safleoedd heb eu dynodi o fewn ffin datblygu’r ganolfan isranbarthol. Yn yr un modd, amlygwyd bod polisi CH6 yn caniatáu cynigion i ddatblygu tai ar safleoedd ar hap ar gyfer 5 uned neu fwy o fewn ffiniau datblygu’r ganolfan isranbarthol sy’n darparu elfen briodol o dai fforddiadwy oni bai y gellir bodloni’r Awdurdod Cynllunio.

 

Fel rhan o’r cais derbyniwyd asesiad o hyfywdra’r cynllun yn dangos na fyddai’n hyfyw i ddarparu unedau fforddiadwy ar y safle oherwydd y gost o adeiladu a gwerth terfynol yr unedau. Eglurwyd bod arwynebedd llawr pob uned tua 57m2. Mae’r Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy yn cyfyngu tai un llawr gyda dwy lofft i 80m2. Mae maint yr unedau arfaethedig dipyn llai nag uchafswm maint fforddiadwy'r math yma o uned. Yn ychwanegol i hyn, nid oes darpariaeth parcio ar y safle ac mae lle mwynderol/allanol pob uned wedi ei gyfyngu i falconïau bychan. Nid oes golygfeydd agored na deniadol o’r safle ac oherwydd yr holl ffactorau hyn ystyriwyd y byddai’r unedau i gyd yn fforddiadwy yn ei natur beth bynnag. Nid yw’n rhesymol nac yn angenrheidiol felly i ofyn am ddarpariaeth o dai fforddiadwy drwy drefniant ffurfiol megis Cytundeb 106 ar y safle yma.

 

Derbyniwyd gwrthwynebiad yn datgan byddai’r datblygiad yn creu s?n ac aflonyddwch pellach i drigolion cyfagos. Eglurwyd bod y safle yn cael ei defnyddio gan gwmni adeiladu ac ystyriwyd bod hyn yn creu mwy o s?n a niwsans na’r defnydd preswyl arfaethedig. Ceir tai neu fflatiau preswyl bob ochor i safle’r cais ac felly ystyriwyd bod defnydd preswyl yn fwy addas na’r defnydd presennol

 

Yng nghyd-destun trafnidiaeth a mynediad, amlygwydnad oedd darpariaeth parcio yn rhan o’r bwriad. Derbyniwyd sylwadau cychwynnol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.3

7.4

Cais Rhif C17/0011/19/MW Gweithle Seiont, Ffordd Felin Seiont, Caernarfon pdf eicon PDF 710 KB

Cais ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig ag adeiladu’r ffordd osgoi arfaethedig, A487 Caernarfon i Bontnewydd gan gynnwys; Defnydd tir fel estyniad i compownd y safle bresennol a darparu sied cynnal a chadw, adeiladau swyddfa, cyfleusterau lles a maes parcio, storfa tanwydd, tanc storio carthffosiaeth, cyfleuster sypynnu concrid symudol a sypynnu asffalt ac adeiladu trac cludiant (defnydd dros dro hyd at 10 mlynedd),

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig ag adeiladu’r ffordd osgoi arfaethedig, A487 Caernarfon i Bontnewydd gan gynnwys; Defnydd tir fel estyniad i compownd y safle presennol a darparu sied cynnal a chadw, adeiladau swyddfa, cyfleusterau lles a maes parcio, storfa tanwydd, tanc storio carthffosiaeth, cyfleuster sypynnu concrid symudol a sypynnu asffalt ac adeiladu trac cludiant (defnydd dros dro hyd at 10 mlynedd).

 

a)        Ymhelaethodd y UwchSwyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i ddefnyddio'r chwarel i gynorthwyo gyda’r gwaith o wella rhwydwaith ffordd leol. Byddai’r chwarel yn ail gydio yn y gwaith cloddio o dan telerau’r caniatâd mwynau, yn ogystal â gwaredu deunyddiau gwastraff o’r gwaith adeiladu’r ffordd osgoi i’w defnyddio ar gyfer adfer y safle.

 

Tynnwydsylw at y datganiad amgylcheddol oedd wedi ei gyflwyno gyda’r cais a phwysleisiwyd bod y prosiect ar gyfer dibenion y Ffordd Osgoi yn unig. Amlygwyd bod angen y safle am 5 mlynedd ond byddai cyfyngiad hyd oes trefniadau cludiant trwm yn gysylltiedig â symud deunyddiau yn 3 blynedd. Ni fydd disgwyl symudiadau cludiant ar y fforddbydd y cludiant yn dod yn syth oddiar y ffordd osgoi.

 

Yngnghyd-destun materion bioamrywiaeth, nid oedd dynodiad i warchod bywyd gwyllt ar y safle a bod yr awdurdod wedi cynnal asesiad cynefinoedd ar y cais a daw i’r casgliad na fydd unrhyw effaith andwyol ar ddynodiadau amgylcheddol rhyngwladol na chenedlaethaol megis SSSIs & SACs. Nodwyd y byddai’r safle yn adfer ei hun yn eithaf cyflym wedi i’r gwaith gwblhau.

 

b)         Ynmanteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y cais yn gynhenid ar gyfer y Ffordd Osgoi

·         Bod y bwriad yn gyfle unigryw i leihau cludo ac ail sefydlu gan sicrhau gostyngiad sylweddol i drafnidiaeth gwasanaethau

·         Mantais y safle yw ei fod yn ffinio yn uniongyrchol gyda’r prosiect

·         Bod deunydd y chwarel yn addas

·         Bod caniatâd gweithredol eisoes ar y chwarel

 

c)         Nododd yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), ei fod yn gefnogol i’r cais, ond bod rhai pryderon ynglyn a bod y ffordd uwchben Peblig yn cau ar ôl y datblygiad.

 

ch)    Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

d)      Ynystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·      Bod yr elfen yma yn bwysig  iawn ar gyfer y Ffordd Osgoi ac yn gymorth i wasanaethu’r prosiect

·      Prosiectenfawr i’r ardal ac yn un i’w groesawu

 

PENDERFYNWYDawdurdodiUwch Reolwr y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i benderfynu'r cais yn ddarostyngedig i'r amrediad o amodau a ganlyn a, ble noder, i gyflwyno gwybodaeth benodol yn unol â gofynion amodau cyn dechrau'r datblygiad:

 

  1. Dechrauymhen tair blynedd
  2. Hyd y caniatâd wedi ei gyfyngu i bum mlynedd o gyflwyno'r rhybudd dechrau gyda gweithgaredd yn ymwneud â mewnforio deunyddiau er adfer y chwarel yn gyfyngedig i ofynion y cynllun ffordd osgoi ac wedi'i gyfyngu i gyfnod o dair blynedd o gyflwyno rhybudd dechrau gweithgaredd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.4

7.5

Cais Rhif C17/0107/19/LL Chwarel Seiont, Ffordd Felin Seiont, Caernarfon pdf eicon PDF 559 KB

Cais am ganiatâd cynllunio dros dro ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig ag adeiladu’r ffordd osgoi arfaethedig,  A487 Caernarfon i Bontnewydd gan gynnwys; Iard safle a darparu sied cynnal a chadw, cyfleusterau lles a maes parcio, adeiladau swyddfa, storfa tanwydd, tanc storio carthffosiaeth, cyfleuster sypynnu concrid symudol, cyfleuster sypynnu asffalt symudol a darparu llwybr halio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais am ganiatâd cynllunio dros dro ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig ag adeiladu’r ffordd osgoi arfaethedig, A487 Caernarfon i Bontnewydd gan gynnwys; Iard safle a darparu sied cynnal a chadw, cyfleusterau lles a maes parcio, adeiladau swyddfa, storfa tanwydd, tanc storio carthffosiaeth, cyfleuster sypynnu concrid symudol, cyfleuster sypynnu asffalt symudol a darparu llwybr cludo.

 

a)    Ymhelaethodd y UwchSwyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi bod y bwriad yn rhan o brosiect cynorthwyo Ffordd Osgoi Caernarfon.

 

Tynnwyd sylw at bolisi C3 sydd yn annog ailddefnyddio safleoedd a ddatblygwyd o’r blaen. Bydd yr un ystyriaethau o’r polisi yn ffafrio defnyddio tir a ddatblygwyd o'r blaen hefyd yn berthnasol i sefydlu compownd dros dro ar lain galed safle'r cyn gwaith brics.

 

Tynnwydsylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatau y cais

 

PENDERFYNWYD Awdurdodi Uwch Reolwr y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i benderfynu'r cais yn ddarostyngedig i'r ystod o amodau a ganlyn a, ble noder, cyflwyno gwybodaeth benodol yn unol â gofynion amodau cyn dechrau'r datblygiad:

 

1.    Dechrau ymhen tair blynedd

2.    Hyd y cyfnod gweithio 5 mlynedd

3.    Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â’r Manylion/Cynlluniau a Gyflwynwyd

4.    Amseroedd gwaith fel ag y maent:  07:00 - 19:00 ddydd Llun i ddydd Gwener;  07:00 - 13:00 ddydd Sadwrn a dim gweithio mwynau i'w wneud ar ddydd Sul, Gwyliau Banc a Gwyliau Cyhoeddus.

5.    Danfoniadau deunyddiau ar gyfer swp-brosesu concrid ac asffalt wedi'i gyfyngu i'r llwybr cludo oddi ar y ffordd sydd wedi'i dangos ar gynlluniau'r cais.

6.    Cynllun plannu coed a llwyni cyflawn yn gynwysedig mewn gwaith adfer,

o   S?n yn ystod oriau gwaith arferol (0700-1900), ni ddylai'r lefel graddfa s?n fod yn fwy na 55dB(A) LAeq, 1 awr (freefield).  Gyda'r nos (1900-2200), ni ddylai'r cyfyngiadau fod fwy na 10dB(A) uwchlaw'r lefel cefndirol 

o   Ni ddylai cyfyngiadau yn ystod y nos fod yn uwch na 42 dB (A) LAe1, 1 awr freefield ger anheddau sensitif. (MTAN1).

o   Gweithrediadau dros dro i fod ddim mwy na 70 dB LAeq, 1 awr (freefield) am hyd at 8 wythnos y flwyddyn.

o   Arolwg monitro s?n yn unol â chais ysgrifenedig yr Awdurdod Cynllunio Mwynau, i'w gynnal yn unol â Safon Brydeinig BS.4142:2014 'Methods for rating and assessing industrial and commercial sound', i asesu ac arddangos cydymffurfiaeth â'r cyfyngiad s?n ffiniol. 

o   Defnyddio larymau s?n gwyn ar gyfer bagio cerbydau.

7.    Strategaeth adferiad os canfyddir, yn ystod y datblygiad, halogiad nad oedd wedi'i ganfod yn flaenorol.

8.    Storio tanwydd.

9.    Gofyniad i nodi manylion cyflawn y tanc storio d?r budr i gael ei gyflwyno er cymeradwyaeth yr awdurdod cynllunio lleol cyn cychwyn gwaith gydag amod pellach yn gofyn bod unrhyw seilwaith dros dro sy'n ymwneud â draeniad budr/carthffosiaeth ar y safle wedi'i ddigomisiynu'n llwyr ac wedi'i symud o'r safle pan ddaw'r caniatâd i ben.

10.Defnyddio bowser d?r ar lwybrau cludo, gwlychu ardaloedd prosesu a deunyddiau wedi'u  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.5

7.6

Cais Rhif C17/0198/30/LL Pwll Melyn, Rhiw, Pwllheli pdf eicon PDF 256 KB

Cais ol-weithredol ar gyfer cadw adeilad amaethyddol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd W Gareth Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais ôl-weithredol ar gyfer cadw adeilad amaethyddol

 

a)         Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais cynllunio ôl-weithredol ydoedd i gadw adeilad amaethyddol o ffrâm dur oedd yn y broses o gael ei adeiladu. Awgrymir y ffrâm bresennol adeilad gyda rhediad to mono pitch, ond bwriedir cwblhau‘r adeilad gyda tho brig. Byddai gorffeniad allanol yr adeilad yn gymysgedd o wal blociau concrid a gorchudd proffil dur o liw gwyrdd tywyll. Lleoli’r yr adeilad yng nghefn gwlad tu allan i unrhyw ffin datblygu, ac mewn cae amaethyddol o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llyn. Mae’n gorwedd 5.5 medr oddi wrth d? annedd unllawr sydd yn adeilad rhestredig gradd II.

Tynnwyd sylw ar y polisïau perthnasol oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad ynghyd a’r sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

Amlygwyd bod yr egwyddor o ganiatáu adeiladau at ddefnydd amaethyddol yng nghefn gwlad wedi ei sefydlu gan Bolisi D9 CDUG sydd yn cymeradwyo cynigion i godi adeiladau ar gyfer dibenion amaethyddol os ydynt yn rhesymol angenrheidiol. Datgan asiant yr ymgeisydd bod yr adeilad yn angenrheidiol ar gyfer cadw anifeiliaid yn ystod tywydd garw achlysurol, ac i gadw offer yn gysylltiedig ag anifeiliaid sydd yn pori’r tir, ac amaethu. Gan nad oedd manylion anifeiliaid wedi eu cyflwyno ystyriwyd cynnwys amod oedd yn cyfyngu defnydd yr adeilad at bwrpas amaethyddol yn unig, ac y dylid ei ddymchwel petai defnydd amaethyddol yn darfod o fewn cyfnod o 10 mlynedd. Yn ddarostyngedig i gynnwys yr amod uchod, ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cydymffurfio a pholisi C1 a D9 CDUG, ac na fyddai’n tanseilio Polisi PCYFF 1 y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd.

 

Gyda’r safle yn gorwedd mewn man amlwg o fewn AHNE Llyn ystyriwyd yr angen i leihau unrhyw ardrawiad ar fwynderau gweledol yr AHNE. O ganlyniad,  derbyniwyd cynllun diwygiedig (30 Mawrth 2017) yn dangos adeilad bwriedig gyda tho brig, gyda gostyngiad uchder yr adeilad terfynol yn 3.7 medr uwchlaw lefel daear - gostyngiad 0.4 medr. Yn ogystal roedd bwriad gorchuddio’r adeilad gyda setiau proffil gwyrdd tywyll, gan ei fod yn lleihau ardrawiad adeiladau ar safleoedd amlwg yn y dirwedd. Derbyniwyd sylwadau'r Swyddog AHNE yn nodi y byddai’r addasiadau yn gwneud yr adeilad yn llai amlwg o’r ffordd..

 

Eglurwyd bod t? annedd agosaf (heblaw eiddo'r ymgeisydd) i’r adeilad bwriedig wedi ei leoli oddeutu 30 medr o’r safle. Oherwydd maint y bwriad a’i  leoliad mewn perthynas â’r eiddo cyfagos ni ystyriwyd bod yr adeilad bwriedig yn achosi difrod arwyddocaol i’r eiddo hwnnw. Yn ychwanegol, ni ystyriwyd bod y bwriad yn amharu ar breifatrwydd rhesymol defnyddwyr yr eiddo sydd gerllaw nac yn golygu gor-ddatblygiad o’r safle.

 

Wedi ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd fel rhan o’r cais, amlygywd bod y datblygiad yn dderbyniol ar sail egwyddor, lleoliad, defnydd, dyluniad, deunyddiau ac effaith ar amwynder gweledol, ac ei fod yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau a chyngor cynllunio lleol a chenedlaethol.

 

b)         Ynmanteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         mai cwt bychan oedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.6

7.7

Cais Rhif C17/0287/44/LL Maes Carafannau Greenacres, Morfa Bychan, Porthmadog pdf eicon PDF 326 KB

Codi adeiladau storio a cynnal a chadw a darpariaeth storio poteli nwy LPG

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Selwyn Griffiths

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Codi adeiladau storio a chynnal a chadw a darpariaeth storio poteli nwy LPG

 

a)         Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd i godi adeiladau storio a chynnal a chadw a darpariaeth storio poteli nwy LPG. Amlygwyd bod safle’r cais wedi ei leoli o fewn safle carafanau presennol Greenacres ym Morfa Bychan rhwng safle trin gwastraff, prif adeiladau maes carafanau Greenacres a thai preswyl presennol. Defnyddir y safle ar hyn o bryd ar gyfer storio cychod.

 

Eglurwyd y byddai’r prif adeilad gydag arwynebedd llawr o 205m² ac yn mesur 8m i’r crib,  wedi ei orffen yn allanol gyda chyfuniad o baneli rhychiog a waliau o floc wedi eu gorffen mewn lliwiau gwyrdd a llwyd. Byddai’r prif adeilad yn darparu gofod ar gyfer y canlynol, t? golchi, gweithdy, storfeydd, swyddfeydd ac adnoddau cysylltiol megis cegin a thoiledau.

Bydd bwriad codi ffens ‘chain link’ 2m o uchel i gydweddu a’r ffens bresennol a chreu compownd o fewn yr iard bresennol i storio poteli nwy LPG.

 

O ran egwyddor, amlygwyd bodpolisi D8 o GDUG yn berthnasol i’r cais sydd yn caniatáu cynigion i ehangu/ymestyn/dwysau mentrau diwydiannol a busnesau presennol neu fentrau eraill os gellid cydymffurfio gyda meini prawf penodol yn ymwneud gydag addasrwydd y defnydd presennol o safbwynt yr ardal o’i amgylch a defnyddiau cyfagos a’i berthynas a’r gwaith presennol. Gan mai adeilad i wasanaethu’r busnes sefydledig presennol oedd yma, ystyriwydfod egwyddor y bwriad yn unol â gofynion polisi D8.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl nodwyd bod yr adeilad arfaethedig wedi ei leoli o fewn iard bresennol ar dir lefel wedi ei amgylchynu gyda ffens 2m a thirweddu sylweddol. Lleolir y tai preswyl agosaf oddeutu 17m i ffwrdd o’r safle. gyda llystyfiant sylweddol rhwng y safle a’r tai

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau hwyr oedd wedi eu derbyn

 

b)      Nododdyr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y sylwadau canlynol:

·         nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r cais o ran materion cynllunio

·         bod angen sicrhau amod ar gyfer oriau gweithio

·         bod angen sicrhau gorffeniad addas i’r adeilad -

·         bod angen cynllun goleuo fel na fyddai effaith ar drigolion lleol

·         Yn welliant i’r trefniant presennol

 

  (c)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’rcais.

Amodau

 

1. Amser

2. Cydymffurfio gyda chynlluniau

3. Cytuno ar orffeniadau

4. Cynllun Goleuo

5. Dwr Cymru

6. Cyfyngu defnydd

7. Oriau gwaith

 

7.8

Cais Rhif C17/0242/30/LL Tir ger Y Groesffordd, Rhiw, Pwllheli pdf eicon PDF 350 KB

Adeiladu t? a modurdy

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd W Gareth Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

         Adeiladu t? a modurdy

        

a)         Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais i adeiladu t? annedd newydd a modurdy ym mhentref gwledig Rhiw o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a Thirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.  Byddai’r t? arfaethedig yn ddeulawr wedi ei orffen gyda tho llechi a waliau allanol carreg leol.  Fel rhan o’r cais derbyniwyd llythyr gan Derwen, Tîm Integredig Plant Anabl yn amlinellu anghenion y teulu gan fod un o feibion yr ymgeisydd wedi ei gofrestru gydag anabledd parhaol.

 

Tynnwyd sylw at y polisïau perthnasol oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

O ran egwyddor y datblygiad, dynodi’r Rhiw fel pentref gwledig. Tynnwyd sylw at y polisi tai perthnasol (Polisi CH5) sydd yn nodi bod  rhaid  i gynigion gydymffurfio gyda’r holl feini prawf o fewn y polisi. Trafodwyd chwech o’r meini prawf hynny mewn manylder ac o ganlyniad, ystyriwyd bod y bwriad yn groes i’r polisi CH5 ar y sail nad oedd yr angen am d? fforddiadwy wedi ei brofi, nad oedd y safle wedi ei leoli yn union gerllaw adeilad sydd wedi ei liwio a bod ei faint yn sylweddol fwy na maint t? fforddiadwy. Wrth ystyried y safle yng nghyd–destun cefn gwlad agored, ategwyd mai dim ond tai ar gyfer gweithwyr amaethyddol, coedwigaeth neu fenter wledig fyddai’n bosibl eu cael ar y safle a hynny yn seiliedig â gofynion Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunioar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy (2010).  Byddai’r bwriad yn groes i’r gofynion hyn gan nad oedd angen amaethyddol, coedwigaeth neu fenter wledig ar gyfer y t? arfaethedig.

 

          Ystyriwydfod y bwriad yn ei ffurf bresennol o ran ei faint a’i raddfa yn groes i ofynion Polisi B22 CDUG ac y byddai’n cael effaith ar ffurf a chymeriad y pentref.  Cyfeiriwyd yn yr adroddiad bod y t? yn sylweddol fwy na maint t? fforddiadwy ac ystyriwyd bod modd lleihau maint yr eiddo wedi drafod anghenion y plentyn anabl.  Nodwyd, pe byddai’r eiddo yn cael ei leihau o ran maint y byddai hynny yn goresgyn y pryderon am effaith y bwriad ar gymeriad y pentref a’r dirwedd.

           

Amlygwydmai prif anghenion y cais oedd darparu t? addas ar gyfer teulu sydd â un mab gydag anableddau parhaol. Fodd bynnag, wedi pwyso a mesur y bwriad yn erbyn y polisïau perthnasol, daethpwyd i’r casgliad nad oedd egwyddor y datblygiad yn cwrdd â gofynion sylfaenol polisïau tai'r Cyngor. Ni chyflwynwyd tystiolaeth i ddangos bod yr ymgeisydd mewn gwir angen fforddiadwy ac ni ddangoswyd bwriad i gyfyngu meddiannaeth i’r dyfodol. Er gwaethaf anghenion yr ymgeisydd nid yw’r Cyngor wedi eu hargyhoeddi, ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd, bod rhesymau teilwng wedi eu cyflwyno i wyro oddi ar bolisïau cyfredol y Cyngor na pholisïau cenedlaethol yn ymwneud a Thai Fforddiadwy.

 

(a)       Ynmanteisio ar yr hawl i siarad cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Eifod yn gefnogol i’r cais

·         Ei bod hi’n eithriadol bwysig bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.8

7.9

Cais Rhif C17/0257/14/LL Swyddfa Harbwr, Cei Llechi, Caernarfon pdf eicon PDF 370 KB

Ail ddatblygu safle gan gynnwys creu 19 o weithdai ar gyfer dylunio crefft, cynhyrchu ac adwerthu ar raddfa fechan, adnewyddu ac addasu adeiladau presennol, newid defnydd i greu 3 uned wyliau ynghyd ac estyniadau i’r adeiladwaith presennol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen a’r Cynghorydd Roy Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ail ddatblygu safle gan gynnwys creu 19 o weithdai ar gyfer dylunio crefft, cynhyrchu ac adwerthu ar raddfa fechan, adnewyddu ac addasu adeiladau presennol, newid defnydd i greu 3 uned wyliau ynghyd ac estyniadau i’r adeiladwaith presennol

 

a)         Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer ail-ddatblygu safle o ddefnydd cymysg: Defnydd Dosbarth B1 (diwydiant ysgafn a defnydd swyddfa), B2 (diwydiant cyffredinol) a D2 (ymgynnull ag hamdden) ynghyd a manwerthu atodol er mwyn creu 19 o weithdai ar gyfer dylunio crefft, cynhyrchu ac adwerthu ar raddfa fechan, adnewyddu ac addasu adeiladau presennol, newid defnydd i greu 3 uned wyliau ynghyd ac estyniadau ac addasiadau ynghyd a chodi adeiladau o’r newydd sy’n llenwi’r gwagleoedd rhwng y strwythurau presennol.

 

Amlygwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion gorllewinol Ffordd Santes Helen, yn rhan o ardal Hen Gei Llechi o fewn Ardal Gadwraeth Caernarfon a Gosodiad Hanfodol Safle Treftadaeth y Byd ar gyfer Castelli a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd (CADW). Nodwyd bod rhan helaeth o’r safle o fewn Parth Llifogydd C2 fel y’i cynhwysir yn y Mapiau Cyngor Datblygu Nodyn Cyngor Technegol 15 Datblygu a Pherygl Llifogydd (2004). Dynodir y safle ynghyd a gweddill glannau’r Afon Seiont gyferbyn a Ffordd Santes Helen fel safle ail-ddatblygu yng Nghanllaw Cynllunio Atodol: Briffiau Datblygu.

 

Nodwyd bod y cynlluniau diweddaraf a gyflwynwyd gyda’r cais yn ymateb yn bositif o ran graddfa, edrychiad, deunyddiau a thirlunio. Ategwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno Datganiad Ieithyddol a Chymunedol i gefnogi’r bwriad a bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi dod i’r canlyniadau canlynol

 

·              Credirbydd y datblygiad yn cynnig buddiannau economaidd i’r ardal leol gan arwain at wariant ychwanegol yn yr economi leol.

·              Credirbydd y bwriad yn arwain at fuddsoddiad uniongyrchol a chreu swyddi ar y safle gyda’r swyddi hyn yn debygol o fod yn addas ar gyfer y boblogaeth leol ac i’r perwyl hyn bydd y bwriad yn cyfrannu tuag at gadw’r boblogaeth bresennol yn yr ardal ac yn ei dro’n debygol o gael effaith bositif ar hyfywdra’r iaith Gymraeg.

·         Ar y cyfan, ni chredir fod natur na graddfa’r datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg.

 

Amlygwyd bod D?r Cymru yngwrthwynebu’r cais  dros dro hyd at dderbyngwybodaeth yn ymwneud â statws y gyfundrefn garthffos gyhoeddus leol presennol ynghyd a’r angen am fanylion pellach parthed cyfradd llifiant presennol ac arfaethedig d?r wyneb a d?r aflan o’r safle gan ystyried bod capasiti cyfyngedig yn y gyfundrefn gyhoeddus bresennol ar gyfer derbyn mwy o lifiant. 

 

Nodwyd bod trafodaethau wedi cymryd lle rhwng asiant yr ymgeisydd, swyddogion yr Awdurdod Cynllunio Lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru ynglyn a goblygiadau datblygu ar ran helaeth o’r safle oddi fewn i Barth C2 Llifogydd fel y’i cynhwysir yn Nodyn Cyngor Technegol 15 Datblygu a Pherygl o Lifogydd (2004). Cydnabuwyd bod y safle yn agored i orlif llanw o’r Fenai, ac o ganlyniad i’r trafodaethau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.9

7.10

Cais Rhif C17/0317/33/LL Plas yng Ngeidio, Boduan, Pwllheli pdf eicon PDF 250 KB

Newid defnydd rhan o gae amaethyddol i storio hyd at 30 carafan deithiol dros fisoedd y gaeaf

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd rhan o gae amaethyddol i storio hyd at 30 carafán deithiol dros fisoedd y gaeaf

 

(a)      Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd i greu safle i storio hyd at 30 o garafanau teithiol dros fisoedd y gaeaf. Amlygwyd bod bwriad adeiladu trac newydd i gludo'r carafanau o’r maes carafanau i’r safle storio ar ochr gogledd dwyreiniol i glawdd a fyddai yn ei wahanu oddi wrth y trac presennol sydd hefyd yn llwybr cyhoeddus ac a ddefnyddir i gludo carafanau i’r maes carafanau.  Golyga hynny y byddai mwyafrif o’r carafanau yn cael eu cludo o’r maes carafanau i’r safle storio heb ddefnyddio'r ffordd sirol.

 

Nodwyd bod y lleoliad wedi ei leoli mewn pant naturiol o fewn 10 medr i adeiladau sylweddol y fferm. Er bod llwybrau cyhoeddus wedi eu lleoli ar dir y fferm, ni fyddai  storio carafanau ar y safle yn amlwg o’r llwybrau hynny, neu fannau cyhoeddus lleol oherwydd tirffurfiau naturiol ac adeiladau presennol ac felly yn cydymffurfio gyda pholisi D21 - Storio Carafanau Teithiol

 

Yngnghyd-destun mwynderau gweledol niystyriwyd fod y safle’n amlwg nac ymwthiol yn y dirwedd ac er gall yr unedau a leolir ar y safle fod yn weladwy o olygfeydd pell a thiroedd uwch ni ystyriwyd y byddai’r bwriad o greu safle storio carafanau yn debygol o greu nodwedd ymwthiol nac amlwg yn y dirwedd sydd o fewn dynodiad Ardal Gwarchod y Dirwedd.

 

Derbyniwyd sylwadau gan Uned Bioamrywiaeth y Cyngor yn datgan nad oedd gwrthwynebiad i’r bwriad a chynigiwyd bod amod tirweddu yn cael ei ychwanegu petai y cais yn cael i ganiatáu.

 

b)      Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

PENDERFYNWYD caniatáu

 

Amodau

            1.         5 mlynedd

            2.         Unol a chynlluniau

3.         Cyfyngu nifer i 30 carafán mewn cyfanswm.

4.         Tirlunio ar hyd y clawdd sy’n terfynu  ar y safle o fewn y tymor plannu cyntaf wedi gweithredu'r caniatâd.

5.         Storio carafanau teithiol dros gyfnod y gaeaf yn unig.

7.11

Cais Rhif C17/0325/38/LL Tir ger 2 Bryn Goleu, Llanbedrog, Pwllheli pdf eicon PDF 273 KB

Adeiladu t? deulawr

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Angela Russell

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu t? deulawr

 

a)         Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai  cais llawn ydoedd ar gyfer adeiladu t? deulawr wedi ei orffen gyda rendr a tho llechi. Amlygwyd bod yr ymgeisydd angen t? ar gyfer cynnal a hyrwyddo ei fusnes. Mae’r safle o fewn dynodiad Ardal Gwarchod y Dirwedd gyda ffin datblygu'r pentref wedi ei lleoli ar derfyn gogleddol y rhesdai a’r capel gerllaw. Golygai hyn bod mwyafrif o arwynebedd y t? bwriadedig y tu allan i ffin y pentref a bod hyn gyfystyr a chodi t? newydd y tu allan i ffin datblygu.

 

Tynnwyd sylw at y polisïau perthnasol oedd yn yr adroddiad ynghyd ag ymatebion i’r ymgynghoriad.

 

Amlygywd bod yr ymgeisydd yn anghytuno gyda barn swyddogion yngl?n â lleoliad y ffiniau ac felly cyflwynwyd cynllun yn dangos gosodiad y datblygiad mewn perthynas a ffin datblygu'r pentref gyda’r rhaglen. Nid yw’r datblygiad wedi ei gyflwyno fel bwriad ar gyfer t? fforddiadwy ac mae maint a graddfa’r bwriad yn awgrymu’n gryf nad oes unrhyw fwriad i’r t? fod yn fforddiadwy. Ni chyflwynwyd unrhyw fanylion na thystiolaeth i ddangos fod yr ymgeisydd angen t? fforddiadwy.

 

Datgan yr ymgeisydd y dylai’r tir fod wedi ei gynnwys oddi fewn i’r ffin ddatblygu yn CDUG gan ei fod wedi ei gynnwys yn y mapiau mewnosod drafft a bod y tir wedi ei ddileu o’r ffin yn dilyn penderfyniad yr Arolygydd i dynhau ffiniau datblygu pentrefi yn gyffredinol. Deallir gan yr ymgeisydd ei fod wedi gwneud cais i’r Uned Polisi i gynnwys y safle yn ei gyfanrwydd  o fewn ffin datblygu'r pentref yn CDLl.  Gellid cadarnhau nad oedd newid i’r ffin datblygu yn CDLl mewn perthynas i’r safle yma ar hyn o bryd.

 

Er gwaethaf dadleuon yr ymgeisydd nid yw’r Cyngor wedi eu hargyhoeddi, ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd, bod rhesymau cynllunio teilwng wedi eu cyflwyno i wyro oddi ar bolisïau cyfredol y  Cyngor.  Nid yw egwyddor o godi annedd ar y safle yn cydymffurfio a gofynion polisi tai'r cyngor sef polisi C1, CH7 a CH9 CDUG a Chanllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy (2009).

 

Mae’r t? deulawr arfaethedig o ddyluniad modern ac wedi ei leoli yn agos at derfyn cefn gerddi tai cyfagos a chwrtil y capel a’r t? capel. Mae’r cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais yn dangos er na fydd y t? yn uwch na’r capel cyfochrog, fe fydd yn sylweddol uwch na’r tai deulawr gerllaw, ac felly mae pryder yngl?n â’i leoliad, maint a’i raddfa mewn perthynas â’r tai hynny. O ran ei faint a’i raddfa, ni ystyriwyd fod y bwriad yn parchu’r safle a’i gyffiniau ac y byddai  yn achosi niwed arwyddocaol i  breifatrwydd gardd a chwrtil y ty capel a’r eiddo i’r de orllewin o’r safle.

 

         Derbyniwyd sylwadau’r Uned Drafnidiaeth yn cadarnhau nad oedd gwrthwynebiad i’r bwriad. Fodd bynnag, wedi ymweld ar safle roedd gan y swyddogion trafnidiaeth bryderon am y fynedfa yn arbennig felly o ran gwelededd wrth gael mynediad i’r ffordd ddosbarth 2 gyfagos. Fodd bynnag, wedi ystyried sylwadau’r Uned  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.11

7.12

Cais Rhif C17/0356/17/LL Tir ger 5, Rhes Gosen, Groeslon, Caernarfon pdf eicon PDF 320 KB

Newid defnydd tir i ddefnydd preswyl cysylltiol a rhif 1 Rhes Gosen, ynghyd a chodi modurdy/storfa a chreu mynedfa a lle parcio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Eric M Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newiddefnydd tir i ddefnydd preswyl cysylltiol a rhif 1 Rhes Gosen, ynghyd a chodi modurdy/storfa a chreu mynedfa a lle parcio

 

a)        Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli ar ben rhes o dai ar gyrion pentref Groeslon tu allan i ffin ddatblygu’r pentref. Eglurwyd bod rhan fwyaf o  drigolion y rhesdai yma yn parcio ar y ffordd gul yma, sy’n peri problemau parcio, mynediad a throi yn yr ardal. Nodwyd hefyd bod y safleyn dir amaethyddol gwlyb.

 

Tynnwyd sylw at y polisïau perthnasol oedd yn yr adroddiad ynghyd ag ymatebion i’r ymgynghoriad.  O ran egwyddor, amlygwyd bod yr adeilad o faint a dyluniad addas fel modurdy/storfa ddomestig ac yn gweddu i’r ardal ac i’r teras cyfagos cysylltiol. Nodwyd bod maint yr ardal i’w defnyddio fel gardd wedi ei leihau o’r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol, ac ystyriwyd fod hyn yn addas, ac yn cydweddu a maint gerddi/cwrtilau eiddo eraill yr ardal. Cadarnhaoedd yr Uned Drafnidiaeth fod yr iard bwriadedig o led a hyd digonol i barcio a throi cerbyd.

 

          Yn dilyn cyfnod o ymgynghori statudol, derbyniwyd un ohebiaeth yn nodi materion dwr ffo a d?r wyneb. Eglurwyd bod y tir sy’n destun y cais yn wlyb, ac mae ffoes rhwng y safle a’r briffordd. Nodwyd bod bwriad gosod draen tir yng nghefn y safle, ac ni fydd unrhyw dd?r wyneb na d?r ffo yn rhedeg i’r briffordd yn ôl cynlluniau’r cais. Gyrrwyd ymgynghoriad at Gyfoeth Naturiol Cymru ond nid oedd ganddynt unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad.

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd

 

b)        Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

PENDERFYNIAD Caniatáu

 

Amodau

 

1. Amser

2. Cydymffurfio gyda chynlluniau

3. Cytuno ar orffeniadau

4. Amodau Priffyrdd

5. Cyfyngu defnydd i ddefnydd atodol i 1 Rhes Gosen

6. Dim defnydd busnes