Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Endaf Cooke ac Elwyn Edwards ynghyd â’r Cynghorydd Brian Jones (Aelod Lleol).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbynunrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

(a)     Datganodd y Cynghorydd Hefin Williams fuddiant personol, yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0094/40/AM) oherwydd cysylltiadau busnes.

 

Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitemau 5.6 a 5.7 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C17/0100/46/LL a C17/0112/42/LL) am y rhesymau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Dyfrig Wynn Jones oherwydd bod teulu ei wraig yn cadw maes carafanau yn Llangwnnadl;

·        Y Cynghorydd Gruffydd Williams oherwydd bod ei dad yn berchen parc carafanau wedi ei leoli llai na chwe milltir o’r safle;

·        Y Cynghorydd Owain Williams oherwydd ei fod yn berchennog parc carafanau wedi ei leoli llai na chwe milltir o’r safle.

 

Roedd yr Aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir.

 

(b)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Anwen J. Davies, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.1, 5.3 a 5.10 ar y rhaglen, (ceisiadau cynllunio rhifau C17/0094/40/AM, C17/0016/33/LL a C17/0156/33/LL);

·        Y Cynghorydd W. Gareth Roberts, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1373/30/LL);

·        Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0041/09/LL);

·        Y Cynghorwyr Dylan Fernley a Nigel W. Pickavance, (nad oeddent yn aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0084/11/LL);

·        Y Cynghorydd Simon Glyn, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0100/46/LL);

·        Y Cynghorydd Sian Wyn Hughes (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0112/42/LL).

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

3.

MATERION BRYS

Nodiunrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 399 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2017, fel rhai cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2017 fel rhai cywir.

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwynoadroddiad Pennaeth Adran Rheoleiddio.

 

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwydar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

5.1

Cais Rhif C17/0094/40/AM - Tir ger Bodelen, Siop yr Efail, Efailnewydd pdf eicon PDF 244 KB

Cais amlinellol i godi t? fforddiadwy

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Anwen J Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais amlinellol i godi t? fforddiadwy.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2017 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod. 

 

Tynnwydsylw y derbyniwyd llythyr gan berchennog d? cyfochrog yn datgan pryder cryf yngl?n ag effaith y bwriad ar eiddo cyfochrog ers cyhoeddi’r rhaglen.

 

         Mynegwyd pryder sylweddol yngl?n â’r datblygiad, ystyriwyd bod y bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle cyfyng ac ni ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o agwedd Polisi B23 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG) oherwydd y byddai’n achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol, yn or-ddatblygiad o safle cyfyng ac yn lleihau gofod amwynder y ddau d? presennol drwy ddefnyddio'r ardd fel llain ar gyfer y t? bwriadedig. Pwysleisiwyd nad oedd y ffaith mai’r ymgeisydd oedd yn berchen dau o’r tai cyfagos, yn goresgyn pryderon am or-ddatblygu’r safle cyfyng.

 

Tynnwydsylw y gwrthodwyd cais blaenorol am yr un datblygiad dan hawliau dirprwyedig. Nodwyd nad oedd y bwriad cyfredol yn lleihau'r pryderon cynllunio sylweddol yngl?n â’r bwriad ac fe argymhellwyd i wrthod y cais.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganyr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod y safle o fewn ffin datblygu’r pentref;

·         Byddai’r datblygiad yn galluogi person ifanc lleol i aros yn ei gynefin;

·         Bod y gymdogaeth o blaid y datblygiad;

·         Bod ceisiadau cynllunio am dai mewn gerddi o faint tebyg wedi eu caniatáu;

·         Bod yr ymgeisydd yn barod i drafod efo’r Gwasanaeth Cynllunio o ran maint ac uchder y t?.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, eglurodd y Rheolwr Cynllunio er mai cais amlinellol ydoedd roedd rhaid i’r ymgeisydd nodi uchafswm a lleiafswm o ran mesuriadau ac nid oedd yn bosib negodi ar y mesuriadau wedi i ganiatâd amlinellol gael ei roi.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

          Ynystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Y byddai’r bwriad yn arwain at ymwthiad gormesol a niweidiol i fwynderau trigolion eiddo preifat cyfagos;

·         Dim ond un unigolyn oedd wedi gwrthwynebu’r bwriad;

·         Dylidcroesawu’r bwriad, angen tai i bobl leol gyda phobl ifanc yn gadael yr ardal;

·         Bod yr ymgeisydd yn barod i drafod efo’r Gwasanaeth Cynllunio o ran maint ac uchder y t?. Dylid caniatáu’r cais ac yna cynnal trafodaeth.

 

(ch)   Cynigwyd gwelliant i ohirio’r cais er mwyn cynnal trafodaeth bellach efo’r ymgeisydd o ran maint ac uchder y t?.

 

Nododd y Rheolwr Cynllunio na fyddai lleihau maint y t? yn goresgyn pryderon o ran gor-ddatblygiad oherwydd o ganlyniad i leihau’r maint, byddai’n debygol y byddai uchder y t? yn gorfod cynyddu gan wneud yr adeilad yn fwy gormesol.

 

Eiliwyd y gwelliant.

 

Pwysleisioddyr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio er bod y safle o fewn y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

Cais Rhif C16/1373/30/LL - Tir rhwng Y Ddol a Penllech Bach, Lon Deunant, Aberdaron pdf eicon PDF 365 KB

Datblygiad preswyl o 5 t? fforddiadwy ynghyd â mynediad gerbydol newydd a lôn stâd.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd W. Gareth Roberts

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datblygiad preswyl o 5 t? fforddiadwy ynghyd â mynediad cerbydol newydd a lôn stad.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle yn ei gyfanrwydd wedi ei leoli y tu allan ond yn union gerllaw ffin datblygu pentref Aberdaron. Nodwyd bod polisi C1 o’r CDUG yn datgan y caniateir cynigion am dai fforddiadwy ar safleoedd gwledig addas oedd union ar ffin pentrefi a chanolfannau lleol fel eithriad i bolisïau tai arferol os gellir cydymffurfio gyda’r holl feini prawf a gynhwysir yn y polisi.

 

          Eglurwyd bod y bwriad yn cydymffurfio efo’r meini prawf o dan y polisi hwn oherwydd:

·         Bod y wybodaeth a gyflwynwyd yn y Datganiad Tai Fforddiadwy ac ymateb yr Uned Strategol Tai yn cadarnhau bod angen yn yr ardal am unedau fforddiadwy;

·         Y byddai’r safle yn ffurfio estyniad rhesymegol i ffurf adeiledig y rhan yma o bentref Aberdaron ac na fyddai’n ffurfio estyniad annerbyniol i gefn gwlad;

·         Y cyfyngir meddiannaeth y tai fel tai fforddiadwy drwy gytundeb 106 tai fforddiadwy ar gyfer angen lleol cyffredinol.

 

Cadarnhawyd bod y tai yn cyd-fynd gyda gofynion Canllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy o ran maint. Adroddwyd y derbyniwyd gwybodaeth am bris marchnad agored y tai gyda’r prisiad yn nodi y byddai pris y tai ar y farchnad agored rhwng £230,000 a £250,000. Nodwyd o ystyried y prisiau a dderbyniwyd a sylwadau’r Uned Strategol Tai yr ystyriwyd y dylai disgownt o werth pris marchnad agored y tai fod o leiaf 40%.

 

Nodwyd bod yr Uned Drafnidiaeth yn fodlon gyda’r bwriad os caniateir y cais efo amodau o ran y fynedfa a pharcio.

 

          Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd ei fod yn estyniad rhesymegol i’r pentref a dylid cefnogi pobl ifanc leol yn eu hymgais i gael cartref.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Nododd aelod ei fod yn croesawu’r cais ond yn pryderu o ochr fforddiadwyedd y tai, nid oedd yn amlwg bod yr Uned Strategol Tai yn hollol fodlon efo’r hyn a gynigir. Roedd yn synnu nad oedd cymysgedd o dai ac o’r farn bod angen rhoi cyfle i bobl ifanc oedd angen t? 2 neu 4 ystafell wely.

 

          Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Cynllunio bod y Datganiad Tai Fforddiadwy yn nodi bod y tai yn cyfarch anghenion 5 teulu penodol.

 

          Nododd aelod ei fod wedi ei argyhoeddi’n llwyr fod angen lleol a bod y bwriad yn cyfarch anghenion cyplau ifanc a oedd eisiau byw’n lleol.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb 106 yn clymu’r tai fel tai fforddiadwy angen cyffredinol.

 

Amodau:

1.     Amser

2.     Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.     Llechi ar y to

4.     Cytuno deunyddiau waliau allanol.

5.     Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir

6.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

Cais Rhif C17/0016/33/LL - Tŷ Cynan, Rhydyclafdy, Pwllheli pdf eicon PDF 336 KB

Creu safle carafanau teithiol ar gyfer 10 carafan yn cynnwys bloc toiledau / cawod, lleiniau caled a tanc septig.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Anwen J. Davies

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Creu safle carafanau teithiol ar gyfer 10 carafán yn cynnwys bloc toiledau / cawod, lleiniau caled a thanc septig.

 

(a)     Ymhelaethodd y SwyddogRheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli y tu allan i ffin datblygu’r pentref a dros 60 medr oddi wrth y tai preswyl agosaf. Nodwyd ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn achosi niwed arwyddocaol i fwynderau’r gymdogaeth leol.

 

         Tynnwyd sylw y derbyniwyd llythyr yn gwrthwynebu’r bwriad ers cyhoeddi’r rhaglen.

 

         Roedd y bwriad gwreiddiol yn cynnwys bwriad i gysylltu draeniau'r toiled i danc septig newydd. Fodd bynnag, derbyniwyd cynllun diwygiedig gan yr ymgeisydd yn dangos bwriad i gysylltu’r toiledau i’r garthffos gyhoeddus oedd yn rhedeg drwy’r safle. Nodwyd bod yr argymhelliad wedi ei ddiwygio, bellach argymhellir dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gytuno ar union ddull gwaredu carthffosiaeth.

 

         Nodwyd oherwydd graddfa’r cais a’i leoliad ynghyd â’i nodweddion naturiol presennol ni ystyriwyd fod y safle yn ymwthiol yn y dirwedd ac ni ystyriwyd ei fod yn debygol o gael effaith niweidiol arwyddocaol ar fwynderau gweledol Ardal Gwarchod y Dirwedd.

        

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Ynmanteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod nifer helaeth o goed wedi eu plannu ar y safle i wella sgrinio;

·         Y byddai lleihau uchder y gwrych yn y fynedfa yn gwella gwelededd;

·         Y byddai’r bwriad yn darparu incwm ychwanegol i ddiogelu t? ei deulu;

·         Dyluniwyd y bwriad yn ofalus er mwyn lleihau’r effaith ar y gymuned;

·         Bod cefnogaeth leol i’r bwriad.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. 

 

          Nododd aelod er bod sylw yn y wasg o ran ei safbwynt ar feysydd carafanau teithiol, nid oedd yn erbyn y cais ac roedd yr ymgeisydd wedi gwneud ymdrech i guddied y safle.

 

PENDERFYNWYDdirprwyo’rhawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gytuno ar union ddull gwaredu carthffosiaeth.

 

Amodau:

1.      5 mlynedd

2.      Unol â chynlluniau a gyflwynwyd

3.      Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg i’w cyfyngu i 10

4.      Amodaucyfnod gosod carafanau/cyfnod gwyliau/symud y carafanau pan ddim mewn defnydd

5.      Dim storio ar y tir

6.      Rhestrcofnodi

7.      Tirlunio

8.      Gwellagwelededd mynedfa cyn defnyddio’r safle

9.      Cyflwynomanylion adeiladu clawdd ar hyd terfyn gogleddol a gorllewinol y safle a’i weithredu cyn defnyddio'r safle

5.4

Cais Rhif C17/0041/09/LL - Tir gyferbyn Glan y Môr, Tywyn pdf eicon PDF 108 KB

Codi dau deras o naw annedd (pedwar o'r anheddau ar gyfer angen lleol fforddiadwy).

 

AELODAU LLEOL:   Y Cynghorwyr Anne Lloyd Jones a Mike Stevens

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cadeiriwyd y drafodaeth ar y cais hwn gan y Cynghorydd Michael Sol Owen.

 

Codi dau deras o naw annedd (pedwar o’r anheddau ar gyfer angen lleol fforddiadwy).

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y bwriad yn ddatblygiad preswyl ar safle tu mewn i ffin datblygu tref Tywyn gyda thai preswyl wedi’u lleoli ar dir gerllaw’r safle i bob cyfeiriad.

 

Nodwyd y byddai gostyngiad o 20% ym mhris y tai fforddiadwy gan ddod a’r pris i lawr i oddeutu £128,000 o gymharu â phris marchnad agored o oddeutu £160,000.

 

Tynnwyd sylw nad oedd safle’r cais wedi ei leoli o fewn ardal lifogydd ond bod pryder y gallai’r ffordd fynediad i’r safle o Marine Parade gael ei heffeithio gan lifogydd. Nodwyd yn wreiddiol roedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bryderon sylweddol, ond yn dilyn diwygiadau i gynnwys yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd derbyniwyd cadarnhad fod CNC yn hapus gyda’r diwygiadau cyn belled bo amodau yn cael eu cynnwys ar unrhyw ganiatâd cynllunio yn nodi fod llwybr dihangfa i gyfeiriad Ffordd Warwig (i’r dwyrain) yn cael ei ddarparu cyn i’r datblygiad gael ei anheddu, a bod lefelau llawr gorffenedig y datblygiad yn 7.1 medr Uwchlaw Seilnod Ordnans.

 

Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Nododdyr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), ei bod yn fodlon efo’r argymhelliad.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

         Mewn ymateb i sylw gan aelod bod pris y tai fforddiadwy yn uchel o ystyried cyflogau yn ardal Meirionnydd, nododd y Rheolwr Cynllunio bod yr Uned Strategol Tai wedi cadarnhau eu bod yn fforddiadwy.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb cyfreithiol o dan Adran 106 o’r Ddeddf Cynllunio 1990 er mwyn sicrhau fod 4 t? allan o gyfanswm o 9 t? yn fforddiadwy yn y lle cyntaf ac am byth.

 

Amodau:

       

1.      5 mlynedd i gychwyn y datblygiad.

2.      Yn unol â’r cynlluniau a gyflwynwyd.

3.      Llechi naturiol.

4.      Deunyddiau allanol i’w cytuno.

5.      Gwaith tirlunio, plannu a gwelliannau i fioamrywiaeth i’w cwblhau o fewn amserlen benodol

6.      Amodau priffyrdd perthnasol.

7.      Amod tynnu hawliau a ganiateir i ffwrdd.

8.      Lefelau llawr gorffenedig yr anheddau i fod o 7.1m Uwchlaw Seilnod Ordnans

9.      Sicrhau bod llwybr troed yn cael ei ddarparu i gysylltu’r safle a Ffordd Warwig ar gael cyn i’r tai cael eu meddiannu, rhaid cadw’r llwybr yn glir a di-rwystr yn ystod oes y datblygiad.

10.    Amod cyflwyno a chytuno manylion ffiniau’r safle.

11.    Amod dim d?r wyneb i gael ei waredu i’r garthffos gyhoeddus.

12.    Dim amharu ar adnoddau D?r Cymru sydd yn croesi neu gerllaw safle’r cais

5.5

Cais Rhif C17/0084/11/LL - Maesgeirchen Social Club, 90, Penrhyn Avenue, Bangor pdf eicon PDF 375 KB

Dymchwel clwb cymdeithasol presennol a chodi adeilad tri llawr gyda siop (yn cynnwys caffi, arwyddion ffasgia a pheiriant talu arian) ar y llawr gwaelod a 10 fflat un llofft ar y lloriau uwch ynghyd â dau gynhwysydd storio (ail gyflwyniad o gais C16/0157/11/LL)

 

AELODAU LLEOL:   Y Cynghorwyr Dylan Fernley a Nigel W. Pickavance

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel clwb cymdeithasol presennol a chodi adeilad tri llawr gyda siop (yn cynnwys caffi, arwyddion ffasgia a pheiriant talu arian) ar y llawr gwaelod a 10 fflat un llofft ar y lloriau uwch ynghyd â dau gynhwysydd storio (ail gyflwyniad o gais C16/0157/11/LL).

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod safle'r cais wedi ei leoli tu mewn i ffin datblygu Canolfan Isranbarthol Bangor. Nodwyd bod polisi CH38 o’r CDUG yn ceisio diogelu cyfleusterau cymunedol presennol. Wrthdderbyn bod cyfleuster cymunedol wedi ei golli o'r safle hwn oherwydd problemau gyda hyfywdra'r busnes blaenorol, byddai'r adeilad newydd hefyd yn gyfleuster cymunedol ynddo'i hun, a thrwy ddarparu ystod fwy eang o wasanaethau, roedd potensial i sicrhau dyfodol mwy sicr i'r safle. 

 

         Eglurwyd bod polisïau'r Cynllun Datblygu Unedol yn gefnogol o'r egwyddor o geisio sicrhau datblygiadau cadarnhaol ar safleoedd ail-ddatblygu oedd o fewn ffiniau datblygu trefol.

 

         Nodwyd y byddai’r adeilad a fwriedir yn sylweddol uwch na'r adeilad presennol, ac yn wir fe fyddai'n uwch na'r holl adeiladau eraill sydd yn y cyffiniau. Tynnwyd sylw bod sawl adeilad tri llawr mewn rhannau eraill o Faesgeirchen, gan gynnwys blociau o fflatiau o faint cyffelyb, ac ni ystyriwyd y byddai’r adeilad yn wahanol ei naws i adeiladau eraill yn y stad.

 

         Nodwyd er y gwerthfawrogir pryderon lleol am y bwriad, roedd rhaid ystyried y cynllun yng nghyd-destun lleoliad trefol y safle yn ogystal â’i ddefnydd blaenorol. Ni chredir y byddai'r datblygiad yn cael effaith niweidiol arwyddocaol ychwanegol ar fwynderau trigolion cyfagos ac y byddai’r datblygiad yn gydnaws gyda Pholisïau B23 a B33 o’r CDUG a oedd yn anelu at amddiffyn mwynderau trigolion lleol.

 

         Tynnwyd sylw bod yr Asesiad Marchnad Dai a gyflwynwyd gyda'r cais yn honni bod diffyg yn y farchnad dai yn lleol ar gyfer unedau un llofft ar gyfer unigolion neu gyplau a oedd am gymryd eu camau cyntaf yn y farchnad dai. Nodwyd yn gyffredinol ystyriwyd bod y safle yn addas ar gyfer unedau byw a byddai’r fflatiau yn cwrdd â galw lleol mewn modd a oedd yn fforddiadwy.

 

          Roedd y datblygiad yn cydymffurfio gyda’r CDUG am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod angen am lety a siop ym Maesgeirchen;

·         Bod galw am lety 1 ystafell wely nad oedd yn cael ei ddiwallu;

·         Bod ganddo brofiad o ddatblygu eiddo o’r fath.

 

(c)     Gwrthwynebwyd y cais gan y Cynghorydd Nigel Pickavance, aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddo:-

·         Bod nifer uchel o wrthwynebiadau i’r bwriad;

·         Y  byddai’n or-ddatblygiad o’r safle;

·         Bod problemau gwrthgymdeithasol mewn bloc o fflatiau a oedd 4 milltir i ffwrdd o’r safle ac o ystyried na fyddai rheolaeth o’r safle yma ei bryder y byddai problemau cyffelyb yn codi;

·         Ei bryder y byddai’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.5

5.6

Cais Rhif C17/0100/46/LL - Hirdre Ganol, Edern, Pwllheli pdf eicon PDF 337 KB

Ymestyn safle carafanau teithiol presennol gan gynyddu niferoedd carafanau teithiol o 11 i 22.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Simon Glyn

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ymestyn safle carafanau teithiol presennol gan gynyddu niferoedd carafanau teithiol o 11 i 22.

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli yng nghefn gwlad ac o fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd. Er bod y safle neu rannau o’r safle yn weladwy o ardaloedd uwch ymhellach i ffwrdd ni ystyriwyd y byddai’r bwriad o ymestyn y safle o ran ei arwynebedd a’i niferoedd yn debygol o greu nodwedd ymwthiol nac amlwg yn y dirwedd.

 

         Tynnwyd sylw bod y safle wedi ei leoli oddeutu 225 medr oddi wrth Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Corsydd Llyn a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Cors Hirdre. Nodwyd y derbyniwyd sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar y bwriad ac roedd y sylwadau yn ystyried oherwydd natur y datblygiad ei bod yn annhebyg o effeithio ar y nodweddion, cyfanrwydd ecolegol neu ymarferoldeb unrhyw safleoedd statudol o ddiddordeb ecolegol, daearegol a/neu geomorffolegol.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd bod y safle yn addas ar gyfer y nifer a ofynnir amdanynt a bod y maes carafanau yn cael ei reoli’n gyfrifol.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amodau:

 

1.      Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.     Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.

3.     Nifer o unedau teithiol ar y safle ar unrhyw un adeg i’w cyfyngu i 22.

4.     Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref.

5.     Defnydd gwyliau yn unig.

6.     Cadw cofrestr.

7.     Dim storio carafanau teithiol ar y safle.

8.    Cyflawni’r cynllun tirlunio.

5.7

Cais Rhif C17/0112/42/LL - Gwynant, Lôn Cae Glas, Edern, Pwllheli pdf eicon PDF 67 KB

Cynyddu nifer carafanau teithiol o 25-35 a gwelliannau amgylcheddol.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Sian Wyn Hughes

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cynyddu nifer carafanau teithiol o 25-35 a gwelliannau amgylcheddol.

        

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli tua 350 medr tu allan i ffin datblygu Edern ac o fewn Ardal Gwarchod y Dirwedd.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

         Nodwyd oherwydd graddfa’r cais a’i leoliad ynghyd â’i nodweddion naturiol presennol ni ystyriwyd fod y safle yn ymwthiol yn y dirwedd ac nid oedd yn debygol o gael effaith niweidiol arwyddocaol ar fwynderau gweledol Ardal Gwarchod y Dirwedd.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddi:-

·         Bod yr ymgeisydd yn gwneud bywoliaeth o’r maes carafanau;

·         Bod cwsmeriaid sefydlog a rhestr aros am lain;

·         Nad oedd y safle yn weledol;

·         Nid oedd yr Uned Drafnidiaeth yn gwrthwynebu cynyddu’r nifer, roedd amryw o lefydd pasio ar y ffordd.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Nododd aelod nad oedd yn gwrthwynebu’r bwriad ond roedd yn pryderu o ran yr effaith cronnus ar yr ardal.

 

Nododd aelod ei fod yn hanfodol i ddenu twristiaid i’r ardal. Ychwanegodd aelod y byddai’r bwriad yn cynyddu incwm lleol.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu’rcais.

 

         Amodau:

1.     Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.     Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.

3.     Nifer o unedau teithiol ar y safle ar unrhyw un adeg i’w cyfyngu i 35.

4.     Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref.

5.     Defnydd gwyliau yn unig.

6.     Cadw cofrestr.

7.     Dim storio carafanau teithiol ar y safle.

8.    Cyflawni’r cynllun tirlunio.

5.8

Cais Rhif C17/0116/08/LL - Gweithdai, Portmeirion, Penrhyndeudraeth pdf eicon PDF 330 KB

Cais llawn i godi adeilad gwasanaethau cynnal newydd i gynnwys storfeydd, gweithdai, t? golchi a swyddfeydd ynghyd â phlannu coedlan newydd ar dir cyfagos.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Gareth Thomas

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i godi adeilad gwasanaethau cynnal newydd i gynnwys storfeydd, gweithdai, t? golchi a swyddfeydd ynghyd â phlannu coedlan newydd ar dir cyfagos.

        

(a)      Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle tu mewn i ffin Ardal Gadwraeth ac o fewn ardal a ddynodwyd yn Ardal Gwarchod y Dirwedd.

 

Tynnwydsylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

Cydnabuwyd bod yr adeilad yn sylweddol ac o ymddangosiaddiwydiannol’ o fewn ardal sensitif o ran dynodiadau ac edrychiad. Er hynny, credir y byddai’r bwriad yn gyfle i dwtio’r safle. Nodwyd y byddai’r gorffeniadau allanol terfynol i’w cytuno drwy amod ffurfiol. Ni chredir y byddai’r adeilad oherwydd ei faint, dyluniad a gorffeniad yn cael ardrawiad ar nodweddion na chymeriad yr ardaloedd gwarchodedig.

 

Nodwyd bod y datblygiad arfaethedig yn golygu torri rhai coed presennol o fewn y safle, roedd sylwadau a dderbyniwyd gan yr Uned Bioamrywiaeth yn datgan y dylid cynnal gwaith torri coed y tu allan i gyfnod nythu adar ac o gwblhau’r datblygiad na ddylid goleuo’r safle i raddau ble fyddai’n amharu ar goedlan hynafol. Awgrymwyd cynnwys amodau perthnasol er mwyn sicrhau y byddai’r gofynion uchod yn cael eu bodloni.

 

Adroddwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal rhwng Uwch Swyddog yr Uned Bioamrywiaeth a’r ymgeisydd er mwyn cytuno ar fesurau priodol i liniaru effaith y golled o goed ar y safle.Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnig plannu coedlan gyda rhywogaethau cynhenid ar dir gerllaw a bod manylion cynllun tirlunio pellach yn cael ei yrru er cytuno ar gyfer ardaloedd eraill i blannu coed.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)       Ynmanteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Eifod wedi cyflwyno lluniau i’r Gwasanaeth Cynllunio;

·         Eifod yn berchennog llety hunanarlwyo o safon gyda’r ardd yn edrych yn uniongyrchol ar yr adeilad biomas;

·         Nadoedd yn gwrthwynebu’r bwriad o ran egwyddor ond roedd polisïau lleol a cenedlaethol yn cefnogi llety yn ogystal;

·         Yrangen i’r ymgeisydd gyflwyno cynllun plannu coed manwl;

·         Yrangen i gynnal asesiad effaith gweledol.

 

(c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y datblygiad yn allweddol i gynaliadwyedd Portmeirion;

·         Y byddai’r bwriad yn gwella’r adnoddau;

·         Yn barod i gydweithio efo’r swyddogion.

 

(ch)   Mewn ymateb i sylwadau’r gwrthwynebydd, nododd y Rheolwr Cynllunio:

·         bod y Gwasanaeth wedi derbyn lluniau ganddo a oedd yn dangos perthynas ei eiddo â’r safle. Ystyriwyd na fyddai effaith annerbyniol. 

·         bod Uwch Swyddog o’r Uned Bioamrywiaeth wedi bod yn cynnal trafodaethau efo’r ymgeisydd ac argymhellir gosod amod tirlunio.

·         O’r farn nad oedd angen asesiad effaith gweledol gan fod y safle yn eithaf cuddiedig o fewn safle Portmeirion ac ystyrir na fyddai effaith niweidiol sylweddol weledol yn deillio o’r bwriad.

 

(d)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.8

5.9

Cais Rhif C17/0144/23/LL - Tir tu cefn i 1 Tai Trefor, Ceunant, Llanrug pdf eicon PDF 323 KB

Codi sied amaethyddol.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Brian Jones

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Codi sied amaethyddol.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn bennaf yn cyfeirio at ddefnydd presennol y safle, maint a lleoliad y sied mewn perthynas ag eiddo cyfagos ac effaith trafnidiaeth a gynhyrchir gan y defnydd ar gyflwr y ffordd breifat a oedd yn arwain i’r safle ynghyd â chefn y tai teras cyfagos.

 

         Nodwyd bod dyluniad y sied yn syml ei naws ac o fath a fyddai’n ddisgwyliedig ar gyfer sied amaethyddol a bod y math yma o adeilad yn nodwedd arferol a oedd i’w weld mewn ardal wledig felly ni ystyriwyd y byddai’r sied yn sefyll allan yn amlwg yn y dirwedd ehangach. Cydnabuwyd y byddai’r sied yn hollol weladwy o gefnau’r tai cyfagos a’i gerddi ond oherwydd gosodiad y sied gyda’i thalcen yn wynebu’r tai a’i bellter rhyngddynt, ni ystyriwyd y byddai’r effaith yn ormesol nac yn sylweddol niweidiol ar eu mwynderau preswyl.

 

         Amlygwyd bod defnydd y tir fel rhan o uned amaethyddol eisoes yn bodoli. Cydnabuwyd  bod gweithgareddau amaethyddol yn debygol o gynhyrchu effeithiau ond roedd yr effaith eisoes yn bodoli boed sied yn bodoli ar y safle neu beidio. Adroddwyd bod ymweliad o’r safle wedi amlygu nad oedd gan yr uned lle priodol i storio peiriannau ac offer a bod hynny yn ei hun yn creu effaith gweledol negyddol. Ystyriwyd y byddai caniatáu sied storio briodol ar y safle yn ffordd o wella effaith gweledol y safle trwy gadw’r offer oddi fewn y sied. Ni ystyriwyd y byddai’r sied yn cynyddu’r effaith ar drigolion cyfagos gan na fyddai’n golygu dwysau defnydd amaethyddol y safle, roedd y sied yn ymateb i’r defnydd ac anghenion presennol.

 

         Cydnabuwyd pryder a godwyd gan wrthwynebwyr am gadw da byw yn y sied, ond roedd y bwriad yn gofyn am sied i storio offer a pheiriannau a phorthiant yn unig.

 

         Tynnwydsylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

Nodwyd yr ystyrir y datblygiad yn addas a derbyniol ar gyfer y safle a’i fod yn cydymffurfio gyda’r polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a nodwyd yn yr adroddiad.

 

(a)       Ynmanteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Nadoedd gan yr ymgeisydd ffermdy nac adeiladau cysylltiol i storio offer. Roedd hyn yn cyfyngu ar allu’r ymgeisydd i ddatblygu’r fferm;

·         Bod yr ymgeisydd yn cydnabod pryderon y gwrthwynebwyr ond fe fyddai’r bwriad yn welliant gan dacluso’r safle;

·         Bwriadyr ymgeisydd i wella’r trac mynediad.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

          Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Cwestiynu’rangen i osod amod i atal storio tail a slyri o fewn yr adeilad o ystyried ei fod yn erbyn polisïau amaethyddol i’w storio tu allan;

·         Y dylid ystyried peidio gosod yr amod;

·         Bod darn o’r trac ym mherchnogaeth yr ymgeisydd gyda rhan ohono yn gwasanaethu 7 o dai a’i fod yn bwysig  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.9

5.10

Cais Rhif C17/0156/33/LL - Tir ger Bryn Hyfryd, Rhydyclafdy, Pwllheli pdf eicon PDF 363 KB

Adeiladu adeilad ffram portal ar gyfer ail leoli busnes trwsio cerbydau ynghyd â gwella mynedfa, llawr caled allanol, draenio a thirlunio.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Anwen J. Davies

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu adeilad ffram portal ar gyfer ail leoli busnes trwsio cerbydau ynghyd â gwella mynedfa, llawr caled allanol, draenio a thirlunio

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod polisi D7 o’r CDUG yn datgan y caniateir cynigion ar gyfer gweithdai neu unedau diwydiannol / busnes ar raddfa fach y tu allan i ffiniau datblygu os gellir dangos mai safle’r datblygiad oedd y lleoliad mwyaf addas i gyflenwi’r angen ac os gellir cydymffurfio gyda meini prawf yn y polisi. Nodwyd yr ystyriwyd fod y datblygiad o ran ei faint yn un ar raddfa fach. Roedd gofyn hefyd fod y safle yn cael ei gyfiawnhau fel yr un mwyaf addas i gyflenwi’r angen. Adroddwyd y cyflwynodd yr ymgeisydd wybodaeth am nifer o safleoedd roedd wedi ei ystyried ac nad ydynt yn addas neu ddim ar gael am amrywiol resymau. O’r wybodaeth a gyflwynwyd ymddengys fod ymdrech wedi ei wneud i geisio safle neillog, gan gynnwys safleoedd ar neu ger stadau diwydiannol presennol, ac nad oedd safle neillog addas ar gael.

 

          Eglurwyd bod y bwriad yn cydymffurfio efo’r meini prawf o dan y polisi hwn oherwydd:

·         Bod y safle wedi ei leoli yn union gerllaw ffin ddatblygu’r pentref. Er y byddai peth wahaniad oddi wrth yr adeilad agosaf tua’r dwyrain ystyriwyd bod y bwriad wedi ei leoli yn gymharol agos at adeiladau yn y pentref a pan fyddai’r tai oedd gyda chaniatâd cynllunio byw ar eu cyfer ar yr ochr ddeheuol o’r ffordd sirol yn cael eu hadeiladu byddai’r bwriad yn ymddangos fel ei fod wedi ei leoli o fewn gr?p o adeiladau.

·         Bod graddfa’r bwriad yn dderbyniol ar gyfer y safle;

·         Y byddai’r tirlunio arfaethedig yn digolledu yn erbyn y golled o’r clawdd presennol er mwyn creu mynedfa addas. Gellir gofyn hefyd fel rhan o’r manylion tirlunio am gynllun rheoli tymor hir ar gyfer y tirweddu;

·         Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn achosi niwed arwyddocaol i’r gymdogaeth leol o ran ei raddfa, math a dyluniad.

 

Tynnwydsylw bod y safle o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Ll?n ac Enlli.Nodwyd o ran ei leoliad a’i faint ystyriwyd mai yn lleol y byddai effaith y bwriad ac na fyddai’n cael effaith ehangach ar y dirwedd hanesyddol.

 

Nodwyd yr ystyrir y datblygiad yn addas a derbyniol ar gyfer y safle a’i fod yn cydymffurfio gyda’r polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a nodwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod archwiliad safleoedd posib i ail leoli’r busnes yn dangos diffyg safleoedd addas heblaw am y safle dan sylw;

·         Byddaiymestyn cyfyngiad cyflymder 30mya y pentref tu hwnt i’r safle yn gwella diogelwch ffordd;

·         Byddai’rbwriad yn diogelu busnes a oedd yn cyflogi 3 llawn amser a 4 rhan amser;

·         Byddai’rbwriad yn diogelu gwasanaeth pwysig yng nghefn gwlad;

·         Bod y bwriad yn cydymffurfio â pholisïau’r CDUG;  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.10

5.11

Cais Rhif C17/0182/03/LL - Ty'n y Coed, The Old Quarry Hospital, Rhiwbryfdir, Blaenau Ffestiniog pdf eicon PDF 274 KB

Newid defnydd tir ar gyfer creu safle carafanau teithiol ac estynnu adeilad presennol i greu toiledau a chodi adeilad ar gyfer gwaredu gwastraff.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Annwen Daniels

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais ôl-weithredol i newid defnydd tir ar gyfer creu safle carafanau teithiol ac estynnu adeilad presennol i greu toiledau a chodi adeilad ar gyfer gwaredu gwastraff.

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu Blaenau Ffestiniog. Roedd y safle yn dir gwag tu cefn i rhesdai Gwynedd, gyda nifer o dai ar wasgar o gwmpas y safle.

 

         Adroddwyd bod gwaith eisoes wedi cychwyn ar y safle gyda rhan fwyaf o’r lleiniau ffurfiol yn eu lle, a’r llystyfiant wedi ei blannu. Yn ystod yr ymweliadau safle roedd carafán deithiol a charafán modur wedi eu lleoli ar y safle. Roeddyr ymgeisydd yn ymwybodol o’r sefyllfa gynllunio, gyda’r Uned Gorfodaeth wedi bod yn trafod y mater gydag ef eisoes.

 

         Tynnwydsylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

         Nodwyd bod y Swyddog Carafanau wedi cadarnhau nad oedd gosodiad y safle yn bodloni amodau trwydded (Safonau Model 1983) o ran dwysedd safle. Ystyriwyd nad oedd gosodiad y safle yn addas ar gyfer ei ddefnydd bwriedig fel safle teithiol. Tynnwyd sylw nad oedd mannau agored wedi eu cynllunio i mewn i’r safle, ac er bod yna lecynnau agored union gerllaw, nid oedd unrhyw le i blant chwarae o fewn diogelrwydd y safle ei hun.

 

         Nodwyd bod y safle wedi ei leoli oddi ar Ffordd Baltic (ffordd ddi-ddosbarth) a’r fynedfa i’r ffordd yma oddeutu 80m i ffwrdd o gyffordd Ffordd Baltic gyda’r Gefnffordd A470. Dyma’r ffordd fwyaf uniongyrchol i mewn ac allan o’r safle. Roeddmynedfa newydd eisoes wedi ei chreu i’r safle o Ffordd Baltic. Nid oedd gwrthwynebiad penodol i’r fynedfa yma ar ei ben ei hun. Nodwyd bod yr Uned Drafnidiaeth wedi cadarnhau fod rhwydwaith ffyrdd o’r fynedfa yma i’r dde tua’r A470 neu i’r chwith tua Ffordd Glanypwll o led ddigonol i ymdopi a traffic cyffredinol ddwy ffordd, ond ni ystyrir fod y gyffordd naill ochr i Ffordd Baltic (h.y cyffordd gyda’r A470 na’r gyffordd gyda Ffordd Glanypwll) yn addas ar gyfer y math o draffig a ddisgwylir mewn perthynas â safle carafanau teithiol. Yn ogystal, roedd yr Uned Cefnffyrdd wedi cadarnhau nad oedd defnyddio cyffordd Ffordd Baltic a’r A470 yn dderbyniol.

 

         Adroddwyd bod y Swyddog Achos Gorfodaeth a’r Uned Drafnidiaeth wedi datgan yn glir na fyddai mynedfa i’r safle oddi ar Ffordd Baltic yn dderbyniol petai cais yn cael ei gyflwyno ar gyfer y safle. Roeddent wedi awgrymu o bosib y byddai defnyddio’r fynedfa bresennol heibio eiddo’r ymgeisydd ac a adnabyddir fel Ty’n y Coed yn gallu bod yn dderbyniol. Nid oedd y fynedfa yma yn ffurfio rhan o’r cais, ac nid oedd wedi ei asesu gan yr Uned Cefnffyrdd.

 

         Nodwyd yr ystyrir bod y datblygiad yn annerbyniol a’i fod yn groes i’r polisïau perthnasol fel y nodwyd yn yr adroddiad.

        

(b)     Ynmanteisio ar yr hawl i siarad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.11