Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  01341 424301

Gweddarllediad: Gwylio'r gweddarllediad

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)       (i)   Datganodd y Y Cynghorydd Simon Glyn fuddiant personol mewn perthynas ag Eitem 5 ar y rhaglen gan mai ef wnaeth gais i gofrestru’r llwybr troed.

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a nodir.

 

(ii)  Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol mewn perthynas âg eitem 6.11(Cais rhif C16/0134/16/LL) ar y rhaglen gan eu bod yn Aelodau o Fwrdd Catrefi Cymunedol Gwynedd:

 

·         Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones

·         Y Cynghorydd Michael Sol Owen

·         Y Cynghorydd John Wyn Williams

 

Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawsont y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais a nodir.

 

(b)       Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Lesley Day (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 6.1,  6.2 a 6.8  (ceisiadau cynllunio rhifau C13/0156/11/LL,  C16/0440/11/CR a C16/0518/11/LL)

·        Y Cynghorydd Eirwyn Williams, (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.4 ar y rhaglen, (cais rhif C16/0292/35/LL)

·        Y Cynghorydd Charles Wyn Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.7 ar y rhaglen, (cais rhif C16/0493/23/AM)

·        Y Cyngorydd Dafydd Meurig (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.11 ar y rhaglen (cais rhif C16/0134/16/LL)

·        Y Cynghorydd Anwen J. Davies (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 6.12 ar y rhaglen (cais rhif C15/1356/40/LL)

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

(c)       Datganodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol fuddiant personol yn Eitemau 6.9, 6.10 a 6.12 (Ceisiadau cynllunio rhifau C15/0828/11/LL, C15/0844/11/CR, a C15/1356/40/LL) oherwydd ei fod yn perthyn i asiant yr ymgeiswyr.

 

Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a nodir.

 

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 292 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofndion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2016, fel rhai cywir.  (copi ynghlwm)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf  2016, fel rhai cywir. 

 

 

5.

CAIS I GOFRESTRU LLWYBR TROED RHWNG HAULFRYN A PHEN CAERAU, GARN FADRYN, CYMUNED TUDWEILIOG pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Adran Rheoleiddio ynglyn a chais i gofrestru llwybr troed rhwng Haulfryn a Phen Caerau, Garn Fadryn.

 

Ymhelaethwyd ar y cais gan yr Uwch Swyddog Hawliau Tramwy (Arfon)  gan nodi y derbyniwyd cais i gofrestru’r llwybr troed uchod yn seiliedig ar y ffaith bod y cyhoedd wedi ei ddefnyddio dros ugain mlynedd.  Pan fo llwybrau yn cael eu defnyddio am gyfnod llawn o ugain mlynedd heb ymyrraeth pennir bod y ffordd honno wedi’i neilltuo fel priffordd oni bai bod tystiolaeth digonol nad oedd y bwriad i’w neilltuo yn ystod y cyfnod hwnnw.  Heriwyd yr hawl i ddefnyddio’r llwybr am y tro cyntaf ym mis Medi 2014 pan roddwyd clo ar y giat.  Cefnogir y cais gan dystiolaeth o ddefnydd ac fel rhan o’r broses ymgynghori derbyniwyd un gwrthwynebiad gan berchennog Pen Caerau. Yn dilyn archwilio’r holl dystiolaeth, ystyrir ei bod yn rhesymol honni, yn seiliedig ar falans tebygolrwydd, bod hawl tramwy cyhoeddus i gerddwyr yn bodoli ar hyd y llwybr uchod ac yn ofynnol felly i’r Cyngor lunio Gorchymyn Diwygio Map Swyddogol.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyfreithiol at y dystiolaeth anfonwyd i Aelodau’r Pwyllgor ar wahan a’i fod yn benderfyniad oedd yn seiliedig ar  gloriannu’r dystiolaeth oedd gerbron er dod i gasgliad.

 

Cynigwyd ac eilwyd i gymeradwyo llunio Gorchymyn Diwygio yn seiliedig bod mwy o dystiolaeth cadarn bod y llwybr wedi cael ei ddefnyddio am y gyfnod di-dor o 20 mlynedd.

 

Penderfynwyd:            Cymeradwyo i’r Cyngor lunio Gorchymyn Diwygio o dan Adran 53 (3)(c)(i) Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i gofrestru’r llwybr troed a hawlir ar Fap Swyddogol Hawliau Tramwy Cyhoeddus.

 

6.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

I gyflwyno adroddiad y Pennaeth Adran Rheoleiddio  (copi ynghlwm) 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

7.

Cais Rhif: C13/0156/11/LL - 7 Rhes Glandwr, Bangor pdf eicon PDF 602 KB

Dymchwel estyniad cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol deulawr a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo, ynghyd a darparu drysau ffrenig a chodi ffens 1.8m newydd ger y hawl dramwy.

 

AELOD LLEOL:        Y Cynghorydd Lesley Day

 

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel estyniad cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol deulawr a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo, ynghyd a darparu drysau ffrenig a chodi ffens 1.8m newydd ger y hawl dramwy.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod cryn dipyn o sylwadau ychwanegol wedi eu cyflwyno ynglyn a’r cais uchod ac o’r herwydd mai gwell fyddai gohirio penderfynu ar y cais er mwyn gallu rhoi ystyriaeth fanwl i’r holl wybodaeth ychwanegol.          

 

Penderfynwyd:              Gohirio’r cais er mwyn rhoi ystyriaeth fanwl i wybodaeth ychwanegol a ddaeth i law.  

 

 

8.

Cais Rhif: C16/0440/11/CR - 7 Rhes Glandwr, Bangor pdf eicon PDF 707 KB

Dymchwel estyniad cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol deulawr a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo.

 

AELOD LLEOL:    Y Cynghorydd Lesley Day

 

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 Dymchwel estyniad cefn presennol ynghyd a chodi estyniad rhannol deulawr a rhannol unllawr ar gefn yr eiddo.

 

Yn yr un modd, adroddodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio mai gwell fyddai gohirio            penderfynu ar y cais uchod er mwyn rhoi ystyriaeth manwl i’r gwybodaeth ychwanegol a            ddaeth i law.

 

Penderfynwyd:            Gohirio’r cais er mwyn rhoi ystyriaeth fanwl i wybodaeth ychwanegol a ddaeth i law.  

 

9.

Cais Rhif: C14/1222/30/LL - Bryn Gwynt, Anelog, Aberdaron pdf eicon PDF 534 KB

Defnyddio safle carafanau eithriedig Clwb Gwersylla a Charafanau fel safle annibynnol  ar gyfer lleoli 10 o garafanau teithiol tymhorol a 5 pabell.

 

AELOD LLEOL:        Y Cynghorydd W. Gareth Roberts

 

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Defnyddio safle carafanau eithriedig Clwb Gwersylla a Charafanau fel safle annibynnol  ar gyfer lleoli 8 o garafanau teithiol tymhorol a 4 pabell a chreu lle chwarae

 

(a)  Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai ail-gyflwyniad o gais ôl-weithredol a gafodd ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio mis Medi 2015 oedd gerbron.  Yn dilyn trafodaeth gyda’r ymgeisydd derbyniwyd cynllun diwygiedig sy’n gostwng y nifer i 8 carafan teithol a 4 pabell.  Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol a amlinellir o fewn yr adroddiad gan dynnu sylw penodol at Bolisi D19 yn ymwneud a gwarchod y tirwedd, gosodiad, lleoliad, materion traffig, cyfyngu defnydd yr unedau ac effaith cronnol ar yr ardal leol.  O safbwynt yr ymgynghoriadau cyhoeddus, nodwyd nad oedd y Swyddog AHNE yn ystyried y byddai’r bwriad yn amharu ar yr AHNE os gweithredir cynllun tirlunio ychwanegol a chyfyngu’r unedau i ran uchaf y cae gan sicrhau bod yr unedau yn cael eu symud oddi ar y safle a’u storio yn y lleoliad priodol. 

          

(b)  Mewn ymateb i sylw wnaed gan Aelod ynglyn a’i bryder yn yr amser a gymerwyd i ymdrin a’r cais hwn ers ei grofrestriad yn 2014, eglurwyd bod y swyddogion wedi cydweithio gyda’r ymgeisydd a’i asiant er mwyn ei gefnogi ac yn derbyn ei fod wedi cymryd mwy o amser nag yn arferol. 

 

(c)  Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais.

 

Penderfynwyd:             Caniatau’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1. Yn unol â’r cynlluniau diwygiedig.

2. Cynllun tirlunio.

3. Cyfyngu nifer carafanau teithiol i 8 a phebyll i 4 ac i’w lleoli ar y mannau a nodir

yn unig.

4. Cyfnodau defnydd y safle, safle teithiol yn unig.

5. Unedau teithiol ar daith yn unig.

6. Dim storio ar y safle.

7. Rhestr cofnodi.

8. Dim carafanau na phebyll ar y cae chwarae.

 

10.

Cais Rhjif: C16/0292/35/LL - Tir gyferbyn Gwesty's George IV, Stryd Fawr, Cricieth pdf eicon PDF 658 KB

Cais i newid amod 3 o ganiatâd cynllunio C13/0028/35/AM er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i gyflwyno'r materion a godwyd yn ôl.

 

 

AELOD LLEOL:        Y Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol   

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais i newid amod 3 o ganiatad cynllunio C13/0028/35/AM er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i gyflwyno'r materion a godwyd yn ôl

 

(a)  Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y gohirwyd y cais o bwyllgor cynllunio blaenorol er mwyn derbyn gwybodaeth am faterion ieithyddol a chadarnhawyd bod y Datganiad Cymunedol ac Ieithyddol wedi ei gyflwyno ar 1 Gorffennaf 2016 sy’n cynnwys gwybodaeth yn seilieidg ar Gyfrifiad 2011.  Golyga’r bwriad godi 34 uned breswyl i’r henoed, un llety warden a 2 llety staff a chyfleusterau cymunedol ynghyd â 18 llecyn parcio i’r unedau preswyl a 15 llecyn parcio i ddefnydd Gwesty’r George VI.  Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol a nodwyd yn yr adroddiad ynghyd a’r hanes cynllunio perthnasol i ganiatau 37 o unedau preswyl ar apel yn 2010 a chaniatau 34 o unedau yn 2013.   Nodwyd nad oedd unrhyw newid yn y sefyllfa Cynllunio ers 2013 ar sail y polisiau cynllunio lleol na’r cyngor cenedlaethol perthnasol. Nodwyd bod yr Uned Polisi ar y Cyd yn credu y byddai’r datblygiad yn debygol o gynorthwyo i gadw aelwydydd 50+ mlwydd all fod yn siarad Cymraeg yn yr ardal, ac ar sail mai aelwydydd cyfredol fydd yn fwy na thebyg yn symud i’r unedau newydd, gall hyn ryddhau tai i aelwydydd lleol eraill.  Argymhelliad y swyddogion ydoedd i’w ganiatau a derbyniwyd datganiad hwyr gan asiant yr ymgeisydd yn datgan ei fod yn fodlon newid cyfnod o gyflwyno cais materion a gadwyd yn ol o 3 mlynedd i 2 flynedd. 

        

(b)  Siaradodd yr Aelod lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn ond ni gymerodd ran yn y penderfyniad) gan ddatgan  ei fod yn gwrthwynebu’r cais.

 

(c)  Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais.

 

         (ch)   Nodwyd y pwyntiau canlynol o blaid yr argymhelliad i’w ganiatau:

 

·         Mai cais amlinellol oedd gerbron ac y byddai cais llawn i’w gyflwyno maes o law

·         Tra’n cydymdeimlo gyda’r Aelod lleol nad oedd rheswm cynllunio dilys i’w wrthod

·         Sicrhau bod trefniadau i waredu’r llysiau dial mor fuan ag sy’n bosibl

 

(d)    Nodwyd y pwyntiau canlynol o blaid ei wrthod: 

 

·         Gwrthwynebwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio dyddiedig 13 Mehefin 2016 oherwydd bod angen mwy o wybodaeth am faterion ieithyddol

·         Mynegwyd bod y sefyllfa ers 2010 wedi newid yn sylweddol gan i nifer o ddatblygiadau cyffelyb  fod wedi eu caniatau ers 2010 ynghyd a chartrefi nyrsio megis y Pines, Bryn Awelon wedi ehangu, a Hafod y Gest ym Mhorthmadog wedi ei ddymchwel ar gyfer adeiladu datblygiad newydd ar gyfer y math yma o ddefnyddwyr gwasanaeth, heb son am y datblygiadau sydd wedi eu cymeradwyo ym Mhwllheli yn ddiweddar

·         Yn sgil yr uchod, cwestiynwyd felly a oedd angen mwy o’r math yma o gyfleusterau yn yr ardal  

·         Darllenwyd llythyr a dderbyniwyd gan Feddyg mewn practis lleol a oedd yn llwyr wrthwynebus i’r bwriad oherwydd fel practis eu bod o dan bwysau aruthrol yn barod wrth delio gyda’r henoed ac yn ychwanegol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais rhif: C16/0360/41/LL - Tir ger Y Dolydd, 4 Glasfryn Terrace, Pencaenewydd pdf eicon PDF 609 KB

Ail gyflwyniad a diwygiad o gais a wrthodwyd o dan C16/0091/41/LL i godi ty fforddiadwy ar safle eithrio gwledig.

 

 

AELOD LLEOL:        Y Cynghorydd Aled Lloyd Evans

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ail gyflwyniad a diwygiad o gais a wrthodwyd o dan C16/0091/41/LL i godi ty fforddiadwy ar safle eithrio gwledig

        

(a)  Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer annedd deulawr a wrthodwyd yn flaenorol oherwydd nad oedd y yn destun y cais wedi ei gyflwyno fel cais am fforddiadwy a bod ei faint yn fwy na’r hyn a ganiateir fel fforddiadwy.  Saif y lleoliad o fewn pentref gwledig Pencaenewydd ar lain o dir sy’n ffurfio rhan o ardd eiddo. Cyflwynir y cais i’r Pwyllgor oherwydd y nifer o wrthwynebiadau a dderbyniwyd. Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad.  Nodwyd bod Pencaenewydd wedi ei nodi fel pentref gwledig yng Nghynllun Datblygu Unedol a’r datblygiad arfaetheidg wedi ei leoli o fewn cwrtil gardd eiddo pen teras presennol a ystyrir yn addas yn nhermau ei leoliad a pherthynas gyda thai eraill a phatrwm datblygu cyffredinol y pentref.  Fel arfer, gyda’r math yma o gais, rhaid i unigolyn neu deulu penodol brofi’r angen ond yn yr achos hwn nodwyd bod yr Uned Strategol Tai wedi ymateb i’r cais ac wedi cydnabod bod angen enfawr am y math yma o ddatblygiad yn yr ardal ac felly yn profi’r angen am fforddiadwy. Byddai angen rheoli’r datblygiad drwy Gytundeb 106 sy’n golygu meddiant gan unigolion sydd a gwir angen am fforddiadwy boed hyn drwy brynu neu rentu’r eiddo.  Er cywirdeb yn yr adroddiad bydd rhaid cyfyngu’r  eiddo i angen lleol fforddiadwy yn unol a pholisi CH5 ac ddim fel angen cyffredinol sy’n golygu cyfyngu’r i bobl lleol yr ardal.  Nodwyd ymhellach bod maint y yn cydfynd hefo canllaw Cynllunio atodol a thynnwyd sylw bod y gwrthwynebiadau wedi cael ystyiaeth lawn ac felly ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol ac argymhellir i’w ganiatau. 

        

(b)  Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais.

 

c)    Mewn ymateb i sylw ynglyn a sut y gellir sicrhau na fyddai’r amod Cytundeb 106 yn cael ei godi, esboniwyd bod digon o dystiolaeth mewn gwybodaeth gan yr Adran Strategol Tai bod angen am y math yma o ddatblygiad yn yr ardal ac ni fyddai unigolyn mewn sefyllfa i fedru codi’r amod 106 heb orfod mynd drwy lawer iawn o gamau i wneud hynny. 

        

Penderfynwyd:                        Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i arwyddo Cytundeb 106 i sicrhau fod y ty yn dy fforddiadwy ar gyfer angen lleol ac i amodau perthnasol yn ymwneud â:

 

1. 5 mlynedd

2. Yn unol â’r cynlluniau

3. Llechi ar y to

4. Deunyddiau

5. Tynnu hawliau a ganiateir

6. Amod cynllun draenio - Dwr Cymru

7. Darparu llecynnau parcio a throi o fewn y cwrtil

8. Amod Dwr Cymru

9. Amod gwarchod llwybr

 

12.

Cais Rhif: C16/0407/41/LL - Swn y Don, Afonwen, Chwilog pdf eicon PDF 619 KB

Cais ar gyfer creu safle carafanau teithiol newydd 17 uned, ail leoli 2 uned statig bresennol a chodi bloc toiledau.

 

 

AELOD LLEOL:        Y Cynghorydd  Aled Lloyd Evans

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais ar gyfer creu safle carafanau teithiol newydd 17 uned, ail leoli 2 uned statig bresennol a chodi bloc toiledau.

        

Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y safle ar dir agored ar gyrion Afonwen gyda mynediad tuag at y safle i lawr ffordd gul bresennol oddiar briffordd yr A497.  Cyfeirwyd at y polisiau perthnasol o fewn yr adroddiad.  Tynnwyd sylw bod polisi D19 yn datgan caniatau cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau teithiol, gwersylla neu unedau teithiol newydd os gellir cydymffurfio gyda’r holl feini prawf y polisi.  Nodwyd bod Uned Trafnidiaeth yn nodi bod 50m cyntaf y ffordd o’r gylchfan ar yr A497 yn addas, ond wedi hynny mae’n culhau gan wneud cyfleon pasio i gerbydau yn tynnu carafanau yn brin.  Ystyrir felly bod y bwriad yn anaddas ac nad yw yn cydymffurfio gyda gofynion polisi CH33.  Nodwyd pryder hefyd y byddai gwrthdaro rhwng cerddwyr a cherbydau oherwydd culni’r ffordd. Nid yw’r elfen o ail leoli’r ddwy garafan yn hollol eglur o ran defnydd presennol yr unedau a phe derbynnir cais arall i’r dyfodol byddai’n rhaid egluro a chyfiawnhau’r bwriad er mwyn gallu ei asesu yn briodol.  Yn sgil ystried yr holl faterion cynllunio a pholisiau perthnasol credir bod y bwriad yn annerbyniol yn unol a’r hyn a nodir yn yr adroddiad.

 

(a)  Cynigwyd ac eilwyd i wrthod y cais yn unol ag argymhelliad y swyddogion.

 

(b)  Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod, eglurwyd nad oedd modd creu mannau pasio pwrpasol ar y lôn sy’n arwain i’r safle.

 

Penderfynwyd:                        Gwrthod  oherwydd byddai'r datblygiad arfaethedig o’i ganiatáu yn achosi trafnidiaeth ychwanegol i ddefnyddio ffordd trac sengl is-safonol sy'n arwain i'r safle er niwed sylweddol i ddiogelwch ffyrdd a cherddwyr y llwybr cyhoeddus. Mae'r bwriad felly yn groes i ofynion polisïau CH33 a D19 Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd (2009) a Chanllaw  Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau, Cyngor Gwynedd (Gorffennaf 2011).

 

 

13.

Cais Rhif: C16/0493/23/AM - Tir ger Bryn Celyn, Lon Groes, Llanrug pdf eicon PDF 745 KB

Cais amlinellol i godi ty annedd.

 

 

AELOD LLEOL:        Y Cynghorydd Charles Wyn Jones

 

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais amlinellol i godi annedd

        

(a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais amlinellol oedd gerbron ar gyfer codi annedd 11m wrth 6m ar lain o dir sy’n ffurfio rhan o gwrtil Bryn Celyn, LLanrug, wedi ei leoli oddi ar ffordd di-ddosbarth. Byddai cwrtil Bryn Celyn yn cael ei addasu i ddarparu dau lecyn parcio.  O safbwynt yr ymgynghoriadau cyhoeddus, derbyniwyd nifer o wrthwynebiadau yn seiliedig ar:

·         Cylfat yn rhedeg drwy’r safle

·         Achosi risg llifogi i’r tai a’r cae cyfagos

·         Dim lle troi wedi ei ddangos o fewn y cwrtil

·         Angen darparu llefydd parcio newydd i’r presennol a’r araethedig

           

Tynnwyd sylw at y polisiau Cynllunio perthnasol gan nodi bod y bwriad arfaethedig yn cydymffurfio a gofynion y polisiau hynny.  O safbwynt materion isadeiledd a’r gwrthwynebiadau ynglyn a llifogydd, byddai modd gosod amod i sicrhau na ellir cychwyn y datblygiad hyd nes cyflwynir cynllun traeniad dwr ar gyfer y safle sydd yn gwarchod y cwrs dwr ac yn cydymffurfio ag anghenion Dðr Cymru.  Yn dilyn rhoi sylw i’r holl ystyriaethau a’r gwrthwynebiadau, ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig i amodau perthnasol.

 

(b)   Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd tra nad oedd yn wrthwynebus i’r datblygiad roedd yn pryderu am risg o lifogydd gyda’r cylfat wedi blocio ers rhai blynyddoedd ac y dylid ei ddatrys cyn caniatau’r cais.

 

(c)  Ategodd yr Aelod Lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) bryderon y gwrthwynebydd a thrigolion lleol ac y dylid sicrhau amod ynglyn a’r cylfat yn gyntaf cyn dechrau unrhyw ddatblygiad.  Nodwyd ymhellach bod cae yng nghefn yr eiddo yn wlyb gyda ffrwd yn codi yno.  Tra yn eithaf bodlon gyda’r argymhelliad, nodwyd yr angen i sichrau mannau parcio o fewn y safle ynghyd a mannau parcio i Bryn Celyn gan bod y lôn yn gul heb balmentydd.

 

(d)  Cynigwyd ac eilwyd i ganiatau’r cais.

 

(dd)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

·         Nad oedd y ffurflenni wedi eu cwblhau yn gywir ac oni ddylid gohirio hyd nes y derbynnir rhain yn gywir

·         Yn amlwg mai’r prif bryder ydoedd y cylfat a derbyniwyd sicrwydd y byddai’n cael sylw ac felly nad oedd unrhyw reswm i wrthod y cais

·         Y dylid sicrhau mannau parcio o ystyried bod y ffordd yn brysur ac yn arwain i Ysgol Uwchradd Brynrefail

·         Pan dderbynnir cais llawn gerbron dylai’r ymgeisydd ddangos y bwriadau ynglyn a’r  cylfat

·         Sicrhau bod y cylfat o’r maint mwyaf

 

(e)    Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, esboniwyd mai cais amlinellol oedd gerbron ac nad oedd cyfiawnhad i ohirio cymryd penderfyniad ar y cais, yn wyneb y ffaith bod y bwriad yn dderbyniol gan Dwr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn ddarostyngedig bod y pryderon ynglyn a’r cylfat yn cael eu cyfarch gyda’r amodau priodol. 

 

 

Penderfynwyd:  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

14.

Cais Rhif: C16/0518/11/LL - 56 Upper Garth Road, Bangor pdf eicon PDF 773 KB

Newid defnydd ty annedd yn dy amlfeddianaeth (HMO) ar gyfer hyd at 5 o bobl.

 

 

AELOD LLEOL:        Y Cynghorydd Lesley Day

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

         Newid defnydd tŷ annedd yn amlfeddianaeth (HMO) ar gyfer hyd at 5 o bobl

 

(a)   Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod yr eiddo yn par wedi ei leoli ar Ffordd Garth Uchaf mewn ardal breswyl yn bennaf.  Nodwyd mai defnydd cyfreithlon presennol yr eiddo ydoedd annedd preswyl preifat gyda 5 ystafell wely ar y llawr cyntaf.  Eglurwyd i’r Pwyllgor ddiffiniad aml-feddianaeth a thynnwyd sylw i’r polisiau Cynllunio perthnasol o fewn yr adroddiad.  O safbwynt yr ymgynhgoriadau cyhoeddus derbynwyd gwrthwynebiadau i’r bwriad am resymau cynllunio dilys isod:

 

·         Diffyg gwybodaeth ynglyn a pharcio

·         Pryder bod problemau parcio eisoes ar y stryd

·         Gorddarpariaeth o dai amlfeddiannaeth yn ward Garth

·         Y datblygiad yn niweidiol i fwynderau cymdogion

 

Yn ogystal derbyniwyd sylwadau nad oeddynt yn ystyriaethau cynllunio cyfredol a thynnwyd sylw at y sylwadau hwyr  a dderbyniwyd ar y ffurflen sylwadau ychwanegol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor.

 

Ystyrir bod y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisi CH14 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd ac ni ystyrir y byddai caniatau un uned aml-feddianaeth ychwanegol yn yr ardal yn cael effaith arwyddocaol ar fwynderau cyffredinol na phreswyl yr ardal leol.  O safbwynt materion trafnidiaeth a mynediad, er nad oedd darpariaeth parcio preifat newydd yn rhan o’r bwriad, gan na fyddai cynnydd yn nwysedd defnydd y safle, ni ddisgwylir newid arwyddocaol o safbwynt y galw am barcio a phroblemau trafnidiaeth.   Yn dilyn ystriaeth o’r holl faterion perthnasol credir bod y cais yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a pholisiau cynllunio perthnasol ac argymhelliad y swyddogion ydoedd i’w ganiatau gydag amodau.

 

(b)  Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Ei fod yn Gadeirydd Cymdeithas Trigolion Maes Hyfryd ac yn cynrychioli barn trigolion 22 o dai sydd wedi eu lleoli gyferbyn a’r datblygiad arfaethedig

·         Bod llawer o’r preswylwyr yn oedrannus

·         Bod gan yr ardal ei gwota o dai aml-feddiannaeth sef rhifau 52, 54, a 55 yn ychwanegol i Neuaddau Garth a Rathbone sydd wedi eu lleoli oddeutu 200 llath i fyny’r ffordd

·         Ei fod yn ardal o dai teuluoedd 

·         Bod gormodedd o lety myfyrwyr yn yr ardal gyda rhai newydd yn St. Mary, Dean a’r Stryd Fawr ac yn enwedig o ystyried bod ffigyrau myfyrwyr yn gostwng

·         Bod problemau parcio yn bodoli yn yr ardal ac y byddai’r datblygiad arfaethedig yn cynyddu’r broblem gyda staff a myfyrwyr y Brifysgol yn parcio yn yr ardal yn ystod y dydd

·         Bu i Gyngor Gwynedd ychydig o flynyddoedd yn ôl gyfarch y broblem o barcio anghyfrifol yn yr ardal drwy osod llinellau melyn ar hyd un ochr i’r ffordd a rhan o’r ochr arall 

·         Bod oddeutu 139medr rhwng rhifau 42 a 93 cyffordd Love Lane o fannau parcio ar y ffordd ar gyfer 25 cerbyd ond bod 27 o dai ar hyd darn yma o’r ffordd  

·         Gall y datblygiad arfaethedig am 5 llety olygu  5 cerbyd ac ddim darpariaeth parcio ar eu cyfer 

·         Bod unigolyn yn dewis peidio symud ei cherbyd i fynd i siopau oherwydd na fyddai ganddi le i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14.

15.

Cais Rhif: C15/0828/11/LL - Cyn Swyddfa Bost, 60 Ffordd Deiniol, Bangor pdf eicon PDF 922 KB

Newid defnydd adeilad presennol i greu caffi a bwyty a chreu 29 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr, ynghyd a dymchwel rhan o'r adeiladau cefn a chodi adeilad newydd i greu 116 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr gyda chyfleusterau cysylltiol.

 

AELOD LLEOL:        Y Cynghorydd David Gwynfor Edwards

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol   

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Newid defnydd adeilad presennol i greu caffi a bwyty a chreu 29 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr, ynghyd a dymchwel rhan o'r adeiladau cefn a chodi adeilad newydd i greu 116 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr gyda chyfleusterau cysylltiol

 

         Roedd 6 Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio wedi ymweld a’r safle.

 

(a)   Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y gohirwyd y cais o Bwyllgor Cynllunio ym mis Gorffennaf 2016 er cynnal ymweliad safle a chywiro ffigyrau yn yr adroddiad.  Golyga’r bwriad newid defnydd ac addasu adeilad presennol i greu caffi a bwyty a chreu 29 uned hunan cynhaliol ar gyfer myfyrwyr o fewn yr adeilad presennol, ynghyd a dymchwel rhan o’r adeiladau cefn presennol a chodi adeilad newydd I greu 116 o unedau hunan cynhaliol newydd, sef cyfanswm o 145 o unedau byw hunan cynhaliol ar gyfer myfyrwyr. Nodwyd bod y datblygiad yn cynnwys ardal biniau ac ailgylchu wrth ochr yr adeilad a fydd yn guddiedig tu ol i wal ynghyd a chreu 2 ardal storio beics ond nid oedd unrhyw ddarpariaeth parcio yn rhan o’r bwriad.  Nodwyd bod sawl adeilad wedi eu codi dros y blynyddoedd ar gefn yr adeilad a bwriedir eu dymchwel er mwyn bodi adeilad newydd pum llawr.  Byddai’r adeilad newydd yn un ar wahan i’r prif adeilad ond yn gysylltiedig drwy linc gwydr ar yr ochr, a llecyn agored rhwng yr adeilad gwreiddiol a’r adeilad hwn. 

 

Cyflwynir cais adeilad rhestredig ond byddai’n rhaid ymdrin a’r cais hwn ar wahan sef yr eitem nesaf ar y rhaglen.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau hwyr a dderbyniwyd gan asiant yr ymgeisydd a hefyd derbyniwyd sylwadau gan yr Aelod Lleol yn datgan ei gefnogaeth i’r bwriad arfaethedig.

 

Nodwyd bod yr adeilad yn rhestredig ac wedi ei leoli o fewn Ardal Cadwraeth Bangor.  Ychwanegwyd bod yr adeilad yn wag yn dilyn defnydd fel clwb nos a deintyddfa.  Ceir adeilad sylweddol mewn maint o amgylch yr adeilad ond nodwyd bod nifer o adeiladau rhestredig sy’n cynnwys y Llyfrgell sydd wedi ei leoli tu ôl i’r safle.  Cyfeirwyd at y polisiau perthnasol ynghyd a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus o fewn yr adroddiad.

 

O safbwynt egwyddor yng nghyswllt llety myfyrwyr ym Mangor, esboniwyd nad oedd un polisi penodol yn ymwneud a math yma o lety ond pwysleiswyd nad oedd y Cynllun Dablygu Unedol yn rhwystro y math yma o lety.

 

Nodwyd bod y safle o fewn ffin datblygu gan nodi bod y math yma o ddatblygiadau yn dderbyniol a bod y safbwynt wedi ei gadarnhau gan Arolygwyr mewn penderfyniad apel yn Lon Bopty.  Cydnabyddir bod y safle mewn ardal hygyrch, yn agos i siopau, cludiant cyhoeddus ac adeiladau y Brifysgol.  Felly o ran safle, roedd y swyddogion cynllunio o’r farn bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor.

 

Nodwyd bod y bwriad o ddarparu caffi a bwyty yn dderbyniol yn ddarostyngedig i ychwanegu amod ychwanegol sef A3 yn cyfyngu’r bwriad i’w hatal i’w newid i ddefnydd A1 sef siopau heb ganiatad cynllunio oherwydd bod y safle tu allan i ffin  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 15.

16.

Cais Rhif: C15/0844/11/CR - Cyn Swyddfa Bost, 60 Ffordd Deiniol, Bangor pdf eicon PDF 874 KB

Newid defnydd adeilad presennol i greu caffi a bwyty a chreu 29 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr, ynghyd a dymchwel rhan o'r adeiladau cefn a chodi adeilad newydd i greu 116 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr gyda chyfleusterau cysylltiol.

 

AELOD LLEOL:        Y Cynghorydd David Gwynfor Edwards

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd adeilad presennol i greu caffi a bwyty a chreu 29 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr, ynghyd a dymchwel rhan o'r adeiladau cefn a chodi adeilad newydd i greu 116 unedau byw hunan gynhaliol myfyrwyr gyda chyfleusterau cysylltiol

 

Cynigwyd ac eilwyd i wrthod y cais gerbron yn unol a’r rhesymau a gynigwyd yn y cais uchod.

 

         Penderfynwyd:             Gwrthod y cais oherwydd byddai’r elfennau o’r adeilad newydd

         a’r estyniad yn cael effaith ar raddfa, maint, deunyddiau, gosodiad yr adeilad

         rhestredig presennol ac effaith niweidiol ar ardal gadwraeth sydd yn  groes i bolisiau

         B2, B3 A B4 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd.

 

17.

Cais Rhif: C16/0134/16/LL - Plas y Coed, Bangor pdf eicon PDF 766 KB

Cais diwygiedig – Diwygio amod 1. o ganiatâd C11/1077/16/LL er mwyn caniatáu 5 mlynedd ychwanegol i weithredu’r caniatâd ynghyd a diwygio amod 2. (yn unol a’r cynlluniau a ganiatawyd) er mwyn addasu’r gosodiad a ganiatawyd i leoli 39 o dai yn lle 17.

 

 

AELOD LLEOL:        Y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cymerwyd y Gadair gyda caniatad y Pwyllgor gan y Cynghorydd Gwen Griffiths ar yr eitem hon gan bod y Cadeirydd wedi datgan buddiant personol ac wedi gadael y Siambr ac nad oedd yr Is Gadeirydd yn bresennol

 

Cais diwygiedig – Diwygio amod 1. o ganiatâd C11/1077/16/LL er mwyn caniatáu 5 mlynedd ychwanegol i weithredu’r caniatâd ynghyd a diwygio amod 2. (yn unol a’r cynlluniau a ganiatawyd) er mwyn addasu’r gosodiad a ganiatawyd i leoli 39 o dai yn lle 17

 

         Roedd Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio wedi ymweld a’r safle.

 

(a)  Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais i ddiwygio amod oedd gerbron er mwyn caniatau 5 mlynedd ychwanegol i weithredu’r caniatad ynghyd a diwygio amod 2.  Nodwyd bod y cais blaenorol a ganiatwyd yn ymwneud a throsi adeilad rhestredig Plas y Coed ei hun i gynnwys 12 uned byw yn ogystal a chodi 17 uned byw ar wahan o fewn y cae cyfagos.  Golyga’r bwriad greu mynedfa gerbydol newydd. Prif bwrpas y cais ydoedd addasu’r cynllun er mwyn adeiladu 39 o dai yn lle’r 17 ac yn golygu codi 23 tŷ 3 llofft, 8 tŷ 2 llofft ac 8 tŷ 1 llofft.  Tynnwyd sylw bod y bwriad yn cynnwys cynlluniau i drosi’r Plas i 12 uned byw.  Nodwyd bod gosodiad y tai yn eithaf tebyg i’r caniatad roddwyd yn flaenorol ac fe fydd y tai ychwanegol yn cael eu darparu trwy godi tai par a dau floc o fflatiau un llofft yn lle’r unedau mwy ar wahan oedd yn rhan o’r cais blaenorol. Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol ynghyd a’r ymgynghoriadau cyhoeddus.  Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffiniau datblygu dinas Bangor ac egwyddor i’w ddatblygu eisoes wedi ei dderbyn trwy’r caniatad blaenorol ac nid oedd newid yn y polisiau ers hynny. Prif ystyriaeth y cais ydoedd effaith sy’n deillio o 22 o dai ychwanegol ar y safle. Nodwyd wrth gynyddu’r nifer bod y bwriad yn gwneud gwell defnydd o’r safle gyda dwysedd y datblygiad yn fwy cymesur a’r ffigwr o 30 uned yr hectar. Oherwydd cynnydd yn y datblygiad, nodwyd bod posibilrwydd o ail-asesu’r tai fforddiadwy gyda’r caniatad cyfredol wedi sicrhau 4 uned fforddiadwy o fewn y Plas a chyfraniad ariannol a oedd gyfystyr a 3 uned fforddiadwy. Nodwyd bod y cynllun wedi newid o’r caniatad blaenorol drwy gynnig cymysgedd o dai gwahanol sy’n golygu cynnig 10 uned fforddiadwy ar safle’r cae ac fe geir rhesymau o fewn yr adroddiad paham nad yw’n hyfyw i ddarparu unedau fforddiadwy yn y Plas.  Tynnwyd sylw bod y cais yn parhau i fod yn dderbyniol o safbwynt llecynnau adloniadol, darpariaeth addysgol, materion trafnidiaeth a mynediad gyda digon o lefydd parcio.  O safbwynt effaith ar fwynderau preswyl, nodwyd mai’r Lodge wrth y fynedfa fyddai’n gweld effaith mwyaf o’r datblygiad oherwydd ei leoliad ac agosrwydd i’r safle.  Er gwybodaeth, derbyniwyd cais cynllunio i ymestyn cwrtil y Lodge sy’n golygu y gellir gosod rhwystr rhwng y fynedfa a lon y stad.  O ran dyluniad nodwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 17.

18.

Cais Rhif: C15/1356/40/LL - 1-3 Wenallt, Arddgrach, Llannor pdf eicon PDF 583 KB

Cais diwygiedig i ddymchwel annedd presennol ac adeiladu annedd newydd yn ei le ynghyd a gwaith cysylltiol.

 

 

AELOD LLEOL:        Y Cynghorydd Anwen J Davies

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais diwygiedig i ddymchwel annedd presennol ac adeiladu annedd newydd yn ei le ynghyd a gwaith cysylltiol

 

(a)   Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi y gohirwyd y cais hwn ym Mhwyllgor Cynllunio Chwefror 2015 er mwyn derbyn gwybodaeth angenrheidiol o ran ystlumod ac i dderbyn adroddiad technegol i gyfiawnhau pam nad yw’n bosib lleoli’r tŷ yn agosach at leoliad y tŷ presennol.  Golyga’r bwriad i ddymchwel annedd presennol ac adeiladu annedd newydd yn ei le ar leoliad gwahanol o fewn eiddo 1-3 Arddgrach, Llannor, ynghyd a gwaith cysylltiol, a oedd yn cynnwys byngalo gromen gyda thair ystafell wely, gyda’i wyneb blaen yn wynebu’r de ddwyrain.  Byddai’r tŷ wedi ei orffen gyda tho llechi ac wyneb rendr llyfn wedi ei beintio.  Bwriedir creu mynedfa newydd ar safle’r tŷ presennol, gan ymestyn trac o ymyl y gerbydlon i’r tŷ a throi i gyfeiriad giat mynedfa i’r cae cyfochrog.  Gwrthodwyd cais y llynedd i ddymchwel yr annedd a chodi tŷ newydd o’r un dyluniad a’r cais hwn ond ymhellach i mewn i gefn y llain.  Cyfeiriwyd at y polisiau perthnasol o fewn yr adroddiad ynghyd a’r ymatebion i’r ymgynghoriadau cyhoeddus.  O safbwynt egwyddor y datblygiad, nodwyd nad oedd y bwriad yn cydymffurfio a holl meini prawf polisi CH13 o Gynllun Datblygu Unedol Gwynedd.  Er bod materion ystlumod wedi ei ddatrys drwy gyflwyno gwybodaeth ychwanegol, ystyrir bod y swyddogion cynllunio o’r farn bod lleoliad a gosodiad y tŷ annedd arfaethedig yn anaddas ac yn groes i egwyddor polisiau tai, dylunio Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd. Er bod potensial i ddatblygu’r safle, ni ystyrir fod yr ail gyflwyniad gerbron yn dderbyniol ac yn seiliedig ar y wybodaeth ychwanegol a’r cynlluniau a gyflwynwyd argymhellir i wrthod y cais.

 

(b)  Nododd yr Aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn) y prif bwyntiau canlynol o blaid y cais:

 

·         Tra’n derbyn bod y lleoliad wedi newid pwysleiswyd ni ellir adeiladu ar yr un sylfeini oherwydd cyflwr y tir o ran llifogydd o godiad tir y tu ol i’r tai

·         Cefnogwyd yr uchod mewn adroddiad annibynol oddi wrth Mr Phil Jones, arbenigwr mewn rheolaeth draenio a llifogydd, a oedd yn nodi, yn dilyn archwiliad, bod y wal gynnal yn gollwng dwr ac yn arllwys i lawr y ffordd.  Roedd tystiolaeth o  dryddiferiad afreolus mewn sawl lleoliad ac y byddai’n annoeth i ystyried ailosod yr annedd ar safle’r tŷ presennol oherwydd ei agosrwydd i’r wal gynnal a natur gwlyb y tir.  Rhaid i’r tŷ fod wedi ei leoli oddi wrth y wal gynnal a’r problemau draenio cysylltiol.

·         Bod tai cymysg eu mhaint wedi eu hadeiladu ym mhentref Llannor ac yn gweddu o fewn y pentref

·         Bod trigolion y pentref yn gefnogol i’r cais ac y byddai’n welliant aruthrol i’w leoli ar safle hen sied amaethyddol

·         Bod yr ymgeisydd yn lleol – yn nain gyda theulu o’i chwmpas

·         Bod yr holl ymgynghoriadau cyhoeddus yn gefnogol i’r cais

 

(c)  Cynigwyd ac eilwyd i’w ganiatau yn erbyn argymhelliad y swyddogion Cynllunio.

 

         (ch)         Nodwyd y prif bwyntiau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 18.