Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Richardson 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Ni dderbyniwyd ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

Materion yn codi o Bwyllgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o Bwyllgorau Craffu.

 

5.

Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2015 pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2015.

 

6.

Datblygu Safle Frondeg pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Roberts.

Eiliwyd gan y Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Ymgynghori yn ffurfiol ar ddyfodol cartref Y Frondeg gan adnabod yr opsiwn isod (Opsiwn 5) fel yr opsiwn a ffafrir o fewn yr ymgynghoriad –

 

·           Datblygu model Llety Cefnogol newydd wrth ymyl Cartref Frondeg ar gyfer 16 preswylydd (6 achos dwys, 10 cymedrol).

 

7.

STRATEGAETH FFORDD GWYNEDD pdf eicon PDF 64 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

The report was submitted by Cllr Peredur Jenkins.

It was seconded by Cllr Dafydd Meurig.

 

DECISION

 

To adopt the draft ‘Ffordd Gwynedd’ Strategy as the Council’s operational Strategy.

 

To review the implementation of the Ffordd Gwynedd Strategy in a year’s time, and assess whether additional resources are needed to realise the strategy in less time.

 

4.         STRATEGAETH FFORDD GWYNEDD

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins.

Eiliwyd gan y Cyng. Dafydd Meurig.

 

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadu’r Strategaeth ddrafft ‘Ffordd Gwynedd’ yn Strategaeth weithredol ar gyfer y Cyngor.

 

Adolygu gweithrediad Strategaeth Ffordd Gwynedd ymhen blwyddyn, ac asesu a fydd angen adnoddau ychwanegol er mwyn ei gwireddu o fewn llai o amser.

 

8.

Cyllideb Refeniw 2015-16 - Adnabod Risgiau Cynnar pdf eicon PDF 57 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins.

Eiliwyd gan y Cyng. John Wynn Jones.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod, gan nodi’r risgiau cyllideb sydd wedi’u hadnabod yn gynnar yn 2015/16 a chytuno i’r Aelodau Cabinet a’r Penaethiaid Adrannau perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn â materion o dal eu rheolaeth.

 

Comisiynu adroddiad drwy’r Aelodau Cabinet Adnoddau ac Addysg er mwyn adolygu telerau polisi ymddeol cynnar athrawon ynghyd ag ail-ystyried trefniadau ariannu costau ymddeol cynnar a diswyddo athrawon a staff ategol ysgolion.

 

 

9.

Rhaglen Gyfalaf 2015-16 Adolygiad Chwarter Cyntaf pdf eicon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins.

Eiliwyd gan y Cyng. Mair Rowlands.

 

PENDERFYNIAD

 

Yn dilyn adolygu gwariant chwarter cyntaf 2015/16, derbyn y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol.

 

 

10.

Ardal Gwella Busnes Bangor a Chaernarfon pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mandy Williams-Davies.

Eiliwyd gan y Cyng. John Wynn Jones.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r bwriad o gynnal pleidlais ymysg busnesau canol dinas Bangor a chanol tref Caernarfon ar y bwriad o sefydlu Ardal Gwella Busnes o fewn y ddwy ardal.

 

Pan agorir y bleidlais, cytunwyd i ddirprwyo natur y bleidlais i’r Aelod Cabinet Economi mewn cysylltiad â swyddogion perthnasol.

 

11.

Strategaeth Gaffael y Cyngor pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Mandy Williams-Davies.

Eiliwyd gan y Cyng. Gareth Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadu Strategaeth Gaffael y Cyngor gan dderbyn argymhellion y Pwyllgor Craffu Corfforaethol i’w addasu yn unol â pharagraffau 3.1(a) hyd 3.1(d) yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod.

 

Bod yr Aelod Cabinet Economi yn pwyso ar Lywodraeth Cymru y dylid sefydlu mesur cyson ar draws cynghorau Cymru ar gyfer ‘gwariant lleol’.