Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Gweddarllediad: Gwylio'r gweddarllediad

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganwyd buddiant gan y Cynghorwyr canlynol:

Cyng. Ioan Thomas ar gyfer eitem 3 gan ei fod yn Gadeirydd Ymddiriedolaeth yr Harbwr.

Cyng. W. Gareth Roberts ar gyfer eitem 6 gan fod ei fab yng nghyfraith yn gweithio i’r Gwasanaeth Ieuenctid.

Cyng. Dilwyn Morgan ar gyfer eitem 7 gan fod ei wŷr yn mynychu Ysgol Bro Tegid.

Roeddent i gyd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a bu iddynt adael y cyfarfod ar gyfer yr eitemau.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Yn ddarostyngedig i 2 a 3 isod awdurdodi’r Uwch Reolwr eiddo mewn ymghynhoriad â’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfriethiol a’r Pennaeth Cyllid i ildio’r gwaharddiad a chyfynghiadau ar werthu bwyd a man werthu yn Les Safle Gorsaf Rheilffordd Ucheldir Cymru, Caernarfon.
  2. Fod y premiwm llawn i’w gyfrifo yn unol â thelerau’r Les yn daladwy gan y cwmni am y caniatâd.
  3. Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Eiddo mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid i gytuno cynllun talu dros gyfnod rhesymol gyda’r tenant petai angen.

 

Cofnod:

Roedd un eitem brys i’w drafod.

 

GORSAF REILFFORDD UCHELDIR CYMRU, CAERNARFON

 

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Yn ddarostyngedig i 2 a 3 isod awdurdodi’r Uwch Reolwr eiddo mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid i ildio’r gwaharddiad a chyfyngiadau ar werthu bwyd a man werthu yn Les Safle Gorsaf Rheilffordd Ucheldir Cymru, Caernarfon.
  2. Fod y premiwm llawn i’w gyfrifo yn unol â thelerau’r Les yn daladwy gan y cwmni am y caniatâd.
  3. Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Eiddo mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid i gytuno cynllun talu dros gyfnod rhesymol gyda’r tenant petai angen.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cwmni Rheilffordd Ucheldir Cymru yn dal llecyn o dir ar ffordd Santes Helen, Caernarfon ers 1999, ar brydles gan y Cyngor am gyfnod o 1,000 o flynyddoedd. Roedd y brydles wedi ei roi er mwyn caniatáu i’r cwmni ddatblygu rheilffordd o Gaernarfon i Dinas, gan ddefnyddio’r llecyn i greu’r orsaf yng Nghaernarfon.

 

Mae cymal penodol yn y brydles yn mynnu nad oes hawl gan y cwmni i werthu bwyd a diod ar y safle heb gael caniatâd penodol gan y Cyngor ac y byddai taliad pellach yn daladwy gan y tenant os fyddai’r Cyngor yn fodlon rhoi caniatâd o’r fath. Mae mecanwaith manwl yn y brydles yn amlinellu sut y byddai’r taliad yn cael ei gyfrifo.

 

Mae cais wedi dod gan y cwmni yn gofyn i’r Cyngor i beidio â hawlio’r ffi sy’n ddyledus o dan y brydles am ganiatâd o’r fath ac felly hepgor y swm unwaith ac am byth.

 

Ystyriwyd y  mater yma yn fater brys oherwydd gofynion amserlennu prosiect ac yn unol a pharagraff 7.25.2 o Gyfansoddiad y Cyngor a gyda chaniatâd Cadeirydd y Cyngor mae’r penderfyniad yn cael ei eithrio o’r drefn galw i mewn ac yn dod i rym ar dyddiad y cyfarfod a’r penderfyniad

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYFARFODYDD A GYNHALWYD AR MEDI 19 A HYDREF 3 pdf eicon PDF 290 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 19 Medi a 3 Hydref, 2017, fel rhai cywir.

 

6.

AIL FODELU'R GWASANAETH IEUENCTID pdf eicon PDF 339 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ac yn awdurdodi Pennaeth Economi a Chymuned i gynnal ymgynghoriad ar ffurf y Gwasanaeth Ieuenctid i’r dyfodol, gan adnabod Opsiwn 3 fel yr opsiwn a ffafrir.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ac yn awdurdodi Pennaeth Economi a Chymuned i gynnal ymgynghoriad ar ffurf y Gwasanaeth Ieuenctid i’r dyfodol, gan adnabod Opsiwn 3 fel yr opsiwn a ffafrir.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a nodwyd eu bod gofyn am ganiatâd i ymgynghori ar y model sy’n cael ei ffafrio. Pwysleisiwyd ers Her Gwynedd fod yr adran wedi bod yn ymgysylltu a plant a phobl ifanc. Esboniwyd mai opsiwn tri sy’n cael ei ffafrio gan y bobl ifanc gan ei fod yn rhoi darpariaeth deg i bob person ifanc ar draws y sir.

 

Nodwyd fod cau clybiau yn digwydd ar hyn o bryd ac mae hyn o ganlyniad i broblemau recriwtio staff. Bydd opsiwn tri yn rhoi cyfle i greu swyddi ond rhai llawn amser a fydd yn rhoi cyfle i’r staff ddatblygu’r gwasanaeth.

 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       O drafodaeth a Phobl Ifanc nodwyd nad oedd y gwasanaeth yn ymateb i anghenion y bobl ifanc. Nodwyd fod angen i’r gweithiwr ieuenctid fod ar gael yn ystod y dydd. Pwysleisiwyd fod angen datblygu y defnydd o dechnoleg.

-       Holwyd beth fydd rôl y trydydd sector yn ffurf y gwasanaeth newydd sy’n mynd i ymgynghoriaeth - nodwyd mai'r realiti yw nad oes cymaint  arian a bod angen bod yn deg a’r mudiadau sy’n derbyn a ddim yn derbyn arian. Mae trafodaethau wedi bod gyda’r mudiadau trydydd sector. Yn ychwanegol nodwyd fod blaenoriaethau yn mynd i fod ar anghenion y bobl ifanc ac os bydd opsiwn tri yn cael ei dderbyn yn dilyn ymgynghoriad, y bydd y trydydd sector yn cael ei gomisiynu i drafod meysydd penodol o’r gwasanaeth. Bydd hyn yn sicrhau fod arbenigedd yn cael ei ddefnyddio er mwyn cyfarch blaenoriaethau'r bobl ifanc.

-       Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig fod pob person ifanc yn y sir yn cael yr un gwasanaeth ble bynnag y maent yn byw.

Trafodwyd yr ymgynghoriad sydd am fod ar lein ond nodwyd yn glir na fydd neb yn cael ei gau allan a bydd ymgynghoriadau yn cael ei gynnal mewn dulliau gwahanol er mwyn sicrhau fod pawb yn cael y cyfle i leisio barn

Awdur: Catrin Thomas

7.

DYFODOL DARPARIAETH ADDYSG YN NALGYLCH Y BALA pdf eicon PDF 353 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

I gynnal ymgynghoriad statudol yn unol ar Adran 48 Deddf Safonau Ysgolion (Cymru) 2013, yn nalgylch Y Berwyn ar y model a ffafrifir, sef cynnig i gau ysgolion Beuno Sant, Bro Tegid ac Ysgol y Berwyn yn nhref y Bala, a sefydlu Campws Dysgu 3-19, cyfrwng Cymraeg, statws Cymunedol ar safle presennol Ysgol y Berwyn yn weithredol o fis Medi 2019.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

I gynnal ymgynghoriad statudol yn unol ar Adran 48 Deddf Safonau Ysgolion (Cymru) 2013, yn nalgylch Y Berwyn ar y model a ffafrifir, sef cynnig i gau ysgolion Beuno Sant, Bro Tegid ac Ysgol y Berwyn yn nhref y Bala, a sefydlu Campws Dysgu 3-19, cyfrwng Cymraeg, statws Cymunedol ar safle presennol Ysgol y Berwyn yn weithredol o fis Medi 2019.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ar 27 Mehefin 2017 y bu i’r Cabinet benderfynu tynnu'r cais i sefydlu Campws Dysgu 3-19 Gwirfoddol a Reolir (VC Eglwys yng Nghymru yn ei ôl, a gofyn am adroddiad pellach i gyflwyno model amgen ar gyfer ymgynghoriad sy’n cyfarch a chyd-fynd a gofynion yr Achos Busnes. Drwy ddilyn y camau statudol y cam nesaf yw’r ymgynghoriaeth.

 

Mae rhag-ymgynghoriaeth wedi ei gynnal gyda’r Eglwys yng Nghymru a nodwyd mai anghenion disgyblion yw eu blaenoriaeth - o ganlyniad byddant yn gweithio gyda’r ysgol a’r gymuned i ddod ar mater i derfyn.

 

Nodwyd fod amserlen agor yr ysgol wedi llithro er y bydd y gwaith adeiladu yn gorffen ar amser. Bydd blwyddyn o gyfnod pontio ble fydd modd i’r ysgolion wneud defnydd o’r adeilad newydd cyn iddo agor ym mis Medi 2019.

 

Sylwadau o’r drafodaeth

-          Nodwyd fod yr ysgolion yn frwdfrydig am y flwyddyn bontio ac yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r adeilad. Diolchwyd i staff a’r disgyblion am sut maent wedi delio gyda’r mater

Awdur: Garem Jackson a Hedd Morlais Tomos

8.

STRATEGAETH IAITH YSGOLION UWCHRADD GWYNEDD pdf eicon PDF 152 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

I fabwysiadu Strategaeth Iaith Uwchradd Gwynedd fel dogfen sydd yn gosod cyfeiriad strategol a disgwyliadau clir i holl ysgolion uwchradd y sir i ddylanwadu’n gadarnhaol ar ddefnydd cymdeithasol disgyblion o’r Gymraeg y tu mewn a thu allan i’r ysgol.

 

I’r Cynghorwyr Mair Rowlands a Gareth Thomas ysgrifennu at yr Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol yn Llywodraeth Cymru yn gofyn iddynt ddarparu’r £120,000 (£40,000 y flwyddyn am dair blynedd 2018/19 – 2020/21) er mwyn ariannu swydd Cydlynydd Strategaeth Iaith Uwchradd Gwynedd i arwain ar gynnydd pellach yn nefnydd cymdeithasol a chwricwlaidd disgyblion o’r Gymraeg. Os na fydd y Llywodraeth yn fodlon ariannu, awdurdodi’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i’w ariannu o gronfeydd.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas

 

PENDERFYNWYD

 

I fabwysiadu Strategaeth Iaith Uwchradd Gwynedd fel dogfen sydd yn gosod cyfeiriad strategol a disgwyliadau clir i holl ysgolion uwchradd y sir i ddylanwadu’n gadarnhaol ar ddefnydd cymdeithasol disgyblion o’r Gymraeg y tu mewn a thu allan i’r ysgol.

 

I’r Cynghorwyr Mair Rowlands a Gareth Thomas ysgrifennu at yr Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol yn Llywodraeth Cymru yn gofyn iddynt ddarparu’r £120,000 (£40,000 y flwyddyn am dair blynedd 2018/19 – 2020/21) er mwyn ariannu swydd Cydlynydd Strategaeth Iaith Uwchradd Gwynedd i arwain ar gynnydd pellach yn nefnydd cymdeithasol a chwricwlaidd disgyblion o’r Gymraeg. Os na fydd y Llywodraeth yn fodlon ariannu, awdurdodi’r Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i geisio darganfod dulliau eraill o gael yr adnodd amgenrheidiol.

 

TRAFODAETH

 

Mae Siarter Iaith Gynradd y Cyngor bellach wedi ei ledaenu dros Gymru gyfan ac mae hwn y cam nesaf i ddatblygu a symud i weithio gyda’r uwchradd. Nodwyd fod y strategaeth edrych ar y defnydd o Gymraeg o fewn Addysg a'r tu allan i’r Ysgol.

 

Esboniwyd fod y Siarter wedi ei rannu i bedwar prif faes - Cymraeg Iaith Gyntaf, Cymraeg Ail Iaith, Y Gymraeg fel Cyfrwng a Defnydd cymdeithasol pobl ifanc o’r Gymraeg. Pwysleisiwyd fod y gwaith wedi ei ddatblygu o’r gwaelod i fyny drwy drafod gyda phobl ifanc, athrawon a phenaethiaid. Bu i ddigwyddiad Cymhadledd gael ei gynnal yn ystod yr wythnos a oedd yn gynhadledd i ddisgyblion ysgolion uwchradd Gwynedd er mwyn trafod y siarter.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Pwysleisiwyd fod y Strategaeth yn holl bwysig a'i bod yn bwysig adeiladu ar waith da Siarter Iaith Cynradd.

Trafodwyd ariannu’r Swydd a nodwyd ei bod yn syniad cysylltu â’r Ysgrifenyddion perthnasol yn Llywodraeth Cymru yn gofyn iddynt ddarparu  £120,000 i ariannu’r swydd.

Awdur: Garem Jackson a Debbie Anne Williams Jones

9.

CYTUNDEB RHWNG AWDURDODAU CYNLLUNIO LLEOL I DDARPARU A CHEFNOGI PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD AR GYFER GWYNEDD A CHYNGOR SIR YNYS MON pdf eicon PDF 80 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Awdurdodi Pennaeth yr Adran Amgylchedd a Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi a gweithredu Cytundeb rhwng Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Mon er mwyn ailsefydlu’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ar gyfer Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Mon yn ffurfiol.

 

Dirprwyo swyddogaethau’r Cabinet yng nghyswllt y materion y cyfeirir atynt yn rhan 6 yr Adroddiad i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ar gyfer Gwynedd a Chyngor Mon.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNWYD

 

Awdurdodi Pennaeth yr Adran Amgylchedd a Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi a gweithredu Cytundeb rhwng Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn er mwyn ailsefydlu’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ar gyfer Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn yn ffurfiol.

 

Dirprwyo swyddogaethau’r Cabinet yng nghyswllt y materion y cyfeirir atynt yn rhan 6 yr Adroddiad i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ar gyfer Gwynedd a Chyngor Môn.

  

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan esbonio ar 7 Mawrth 2017 bu i’r Cabinet gymeradwyo’r cynnig i barhau i ddarparu Gwasanaeth Polisi Cynllunio ar y Cyd gyda Chyngor Sir Ynys Môn sydd wedi ei sefydlu yn 2011. Ar 31 Gorffennaf daeth rôl y Pwyllgor i ben pan fabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Oherwydd bod y cytundeb a bod trefniant cydweithio yn parhau mae angen ailsefydlu rôl y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.

 

Pwysleisiwyd fod tebygrwydd yn y cytundeb a’r swyddogaethau a’r ctyundeb diwethaf ond fod diwygiad o’r cynllun am ddigwydd pob pedair blynedd. Nodwyd fod newid i’r aelodaeth gan y bydd saith aelod o bob sir yn rhan o’r cynllun ond ni fydd dirprwy yn cael ei apwyntio.

 

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-           Esboniwyd fod aelodaeth newydd i’r Pwyllgor Cynllunio ar y Cyd wedi eu penodi ym mis Mai 2017, yn dilyn yr Etholiad

Awdur: Gareth Jones

10.

CAIS Y FARGEN TWF AR GYFER GOGLEDD CYMRU - DIWEDDARIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 169 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

-        Nodwyd a chefnogwyd cynnydd datblygiad cais y Fargen Twf ar gyfer y rhanbarth.

-        Cefnogwyd, mewn egwyddor, y model llywodraethu a ffefrir o Gydbwyllgor Statudol ar gyfer datblygiad pellach gydag adroddiad llawn ar gyfansoddiad a chylch gorchwyl, wedi ei gefnogi gan Gytundeb Rhyng-Awdurdod, i ddilyn nes ymlaen yn y flwyddyn.

-        Awdurdodi yr Arweinydd, yn y cyfamser, i fod yn aelod Gwynedd o’r Cydbwyllgor Cysgodol

-        Bod yr Arweinydd, fel un o Arweinwyr y chwe Chyngor a gynrychiolir ar Cydbwyllgor Cysgodol, yn cael ei awdurdodi i ddechrau trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn a maint ac amlinelliad cynnwys cais y Fargen Twf, gan nodi na fydd unrhyw ymrwymiadau ariannol nac o fath arall yn cael eu cytuno yng nghamau cyntaf y trafodaethau.

-        Dirprwyo’r hawl i’r Prif Weithredwr wneud cyfraniad ariannol cychwynnol o hyd at £50,000 yn 2017/18 ar gyfer paratoi cais am arian o’r Cytundeb Twf

-        Nodi fod y Cyngor hwn hefyd yn disgwyl sicrwydd o ran sefydlu Swyddfa Raglen a cael dealltwriaeth o’r strwythur a dull ariannu’r Swyddfa honno pan yn cymeradwyo unrhyw gyfansoddiad / cytundeb.

 

Cofnod:

 

 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNWYD

 

-        Nodwyd a chefnogwyd cynnydd datblygiad cais y Fargen Twf ar gyfer y rhanbarth.

-        Cefnogwyd, mewn egwyddor, y model llywodraethu a ffefrir o Gydbwyllgor Statudol ar gyfer datblygiad pellach gydag adroddiad llawn ar gyfansoddiad a chylch gorchwyl, wedi ei gefnogi gan Gytundeb Rhyng-Awdurdod, i ddilyn nes ymlaen yn y flwyddyn.

-        Awdurdodi yr Arweinydd, yn y cyfamser, i fod yn aelod Gwynedd o’r Cydbwyllgor Cysgodol

-        Bod yr Arweinydd, fel un o Arweinwyr y chwe Chyngor a gynrychiolir ar Cydbwyllgor Cysgodol, yn cael ei awdurdodi i ddechrau trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn a maint ac amlinelliad cynnwys cais y Fargen Twf, gan nodi na fydd unrhyw ymrwymiadau ariannol nac o fath arall yn cael eu cytuno yng nghamau cyntaf y trafodaethau.

-        Dirprwyo’r hawl i’r Prif Weithredwr wneud cyfraniad ariannol cychwynnol o hyd at £50,000 yn 2017/18 ar gyfer paratoi cais am arian o’r Cytundeb Twf

-        Ail adrodd dymuniad y Cyngor hwn hefyd yn disgwyl sicrwydd o ran sefydlu Swyddfa Raglen a cael dealltwriaeth o’r strwythur a dull ariannu’r Swyddfa honno pan yn cymeradwyo unrhyw gyfansoddiad / cytundeb.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr arddodiad gan nodi fod y chwe sir y gogledd wedi cytuno i ddatblygu’r strategaeth i fod yn gais ar gyfer y ‘Fargen Twf’ i sicrhau buddsoddiad ariannol a throsglwyddo pwerau Llywodraethu i’r rhanbarth.

 

Esboniwyd fod dwy elfen i’r Fargen Twf sef buddsoddiad ariannol ar gyfer prosiectau sy’n  arwain at dwf economaidd a datganoli grymoedd neu bwerau o’r Llywodraeth Ganolog er mwyn gwneud penderfyniadau ar lefel Rhanbarthol. Nodwyd fod camau wedi eu cymryd a bod seiliau cyfreithiol yn eu lle. Pwysleisiwyd fod angen sicrhau fod y buddsoddiad sylweddol a fydd yn dod o ganlyniad i’r ‘Fargen Twf’ yn cael ei rannu yn deg ar hyd y siroedd.

 

Nodwyd y gobeithir y bydd popeth yn ei le erbyn mis Ebrill.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Mynegwyd fod pwyslais ar Ogledd Cymru a holwyd os bydd gwaith yn cael ei wneud i weithio gyda Cheredigion a Powys yn benodol wrth edrych ar drafnidiaeth. Esboniwyd fod gwaith am wneud a bod potensial i weithio gyda’r canolbarth ond fod gwaith i’w wneud.

 

Awdur: Iwan Trefor Jones