Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Gweddarllediad: Gwylio'r gweddarllediad

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Louise Hughes, Anne Lloyd Jones, Eric Merfyn Jones, Linda Ann Jones, Beth Lawton, Dewi Owen, Peter Read ac Owain Williams.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 348 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr, 2017 fel rhai cywir  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr, 2017 fel rhai cywir.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Swyddog Monitro fuddiant personol yn eitem 9 ‘Adolygiad Blynyddol – Polisi Tâl y Cyngor 2018/19’ ar ran y prif swyddogion oedd yn bresennol gan fod yr adroddiad yn ymwneud â’u cyflogau.

 

‘Roedd o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu ac, ynghyd â’r Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, gadawodd y Swyddog Monitro'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â’r Cynghorydd Simon Glyn ar golli ei dad.

 

Cydymdeimlwyd hefyd a theuluoedd dau aelod o staff, sef:-

 

·         Iwan Huws o’r Adran Ymgynghoriaeth a fu farw drwy ddamwain yn ddiweddar.

·         Daffni Eynon Williams o’r Adran Gwasanaeth Plant a fu farw yn eithaf sydyn tua phythefnos yn ôl.

 

Nodwyd bod y Cyngor hefyd yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Safodd y Cyngor fel arwydd o barch.

 

Llongyfarchwyd:-

 

·         Y Cynghorydd Ioan Thomas ar ddod yn daid i ferch fach.

·         Sue Owen, siop flodau Lili Wen Porthmadog ar ennill cystadleuaeth Welsh Weddings Award Cymru am y siop flodau orau yng Ngogledd Cymru.

 

Diolchwyd i’r aelodau am eu hyblygrwydd yn sgil gorfod newid trefniadau’r cyfarfod hwn o’r Cyngor ar fyr rybudd a diolchwyd i staff y Cyngor oedd wedi mynd y filltir ychwanegol i gefnogi cymunedau’r sir yn ystod y tywydd garw diweddar.

 

Diolchwyd i’r aelodau am gytuno i gael tynnu eu lluniau i ddathlu’r ffaith bod heddiw yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.  Hefyd, anogwyd pawb i edrych ar y cyfryngau cymdeithasol i weld lluniau o nifer o ferched enwog o Wynedd ac i ymuno yn y dathliadau drwy enwebu mwy.

 

Cyfeiriwyd at y fideo ‘Dathlu ein Cymreictod’ a ddangoswyd i’r aelodau cyn dechrau’r cyfarfod.  Eglurwyd mai’r Adran Addysg oedd wedi comisiynu’r gwaith ‘Cewri Cymru’ i gefnogi’r Strategaeth Iaith Uwchradd er mwyn hyrwyddo’r ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig.

 

5.

CYFLWYNO DEISEB

Nodi bod cais i gyflwyno deiseb wedi’i dderbyn gan y Cynghorydd Cemlyn Williams.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Cynghorydd Cemlyn Williams ddeiseb i’r Cadeirydd ar ran bron i 300 o blant a phobl ifanc cylch Caernarfon yn galw ar y Cyngor i gadw Canolfan Ieuenctid Penrallt yn agored.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r aelod am y ddeiseb gan nodi y byddai’n ei throsglwyddo i sylw’r adran berthnasol.

 

 

6.

GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL

Derbyn unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig dan gyfarwyddyd y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

7.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

8.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Dosbarthwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau i’r aelodau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Pa gamau mae Cyngor Gwynedd yn eu cymryd i orfodi datblygwyr sy’n berchen tir neu adeiladau yng Ngwynedd i edrych ar ôl eu safleoedd gan eu cadw yn daclus ac yn ddiogel?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“Mae yna rywfaint o offer yn y bocs tŵls gan y Cyngor ar gyfer pethau fel hyn, ond yn amlwg, os ydym ni’n sôn am dir preifat, cyfrifoldeb y perchennog ydyw yn y bôn ond mae yna rywfaint o dŵls penodol.  Yn Neddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990 mae yna bwerau gwarchod y cyhoedd os ydi rhywbeth yn creu perygl i iechyd i fedru gwneud rhywbeth amdano fo, i orfodi.  Hefyd mae yna bwerau o dan Adran 215 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.  Mae yna bwerau gorfodi os ydi rhywle yn flêr ofnadwy ond ‘rwy’n tybio efallai mai’r hyn sydd y tu ôl i hyn yw’r ffaith bod yr aelod wedi bod yn poeni am flerwch ar safle’r Colisiwm ym Mhorthmadog, ac ‘rwy’n meddwl, er bod hwnnw’n dir preifat, bod yna symudiad wedi bod yno a bod pethau wedi eu datrys bellach.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Beth mae’r Cyngor yn gallu wneud am adeiladau, e.e. adeilad yr Hen Felin neu adeilad Capel Seion yn fy ward i lle mae gan bobl leol bryder am ddiogelwch y cyhoedd am fod yr adeiladau yma yn denu plant a phobl ifanc i mewn iddynt a hefyd oes yna rywbeth rhagweithiol y gall y Cyngor ei wneud hefo safle, e.e. Tŷ Moelwyn ym Mhorthmadog i rwystro’r adeilad fynd i’r fath stad yn y lle cyntaf unwaith y bydd y staff Cyllid a Thollau wedi gadael yr adeilad?”

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd, y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

“O ran diogelwch, mater yn benodol i’r tirfeddiannwr ydi gwneud yn siŵr bod y safle yn ddiogel.  Gall y Cyngor ddefnyddio disgresiwn y pwerau yma i fynd ar ôl y perchennog, os oes angen gwneud hynny, ond ‘rwy’n meddwl, fel gyda llawer o faterion fel hyn, mai mater ydyw o gysylltu hefo’r adran a hefo minnau i fynd ar ôl pethau fel hyn os ydyn nhw’n codi, ond yn sicr fe wnawn hynny os oes yna broblem.”

 

(2)     Cwestiwn gan y Cynghorydd Sion Jones

 

“Be ydy barn yr Aelod Cabinet ar ddyfodol cynghorau cymuned a thref ein Sir?”

 

Ateb gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

“Nid wy’n siŵr faint o bwys ydi o beth ydy fy marn i, ac mae gen i farn ers blynyddoedd lawer fel aelod o Gyngor Tref Dolgellau.  Mae’r ateb yna ac yn ddarllenadwy.  Mi roedd sôn ar un pryd bod y Llywodraeth yng Nghaerdydd yn mynd i roi cyfrifoldeb am ad-drefnu cynghorau cymuned i’r cynghorau sir a phan wnes i glywed hynny, ‘roeddwn yn gwaredu, oherwydd fyddwn i ddim yn dymuno cael y cyfrifoldeb yna ar y Cyngor, ond hwyrach wedyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2018/19 pdf eicon PDF 218 KB

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2018/19.

 

Yn ystod y drafodaeth, ymatebwyd i gwestiynau gan aelodau mewn perthynas â chyrhaeddiad y Cyngor o ran yr ymrwymiad i dalu cyflog byw i’w staff a’r rhesymeg y tu cefn i’r addasiad i’r polisi costau teithio ar gyfer swyddogion.  Hefyd, mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd na fyddai’r addasiadau i’r polisi costau teithio yn effeithio ar ofalwyr cartref.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Datganiad o Bolisi Tâl drafft ar gyfer 2018/19 yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

 

10.

CYLLIDEB 2018/19 A STRATEGAETH ARIANNOL 2018/19 - 2020/21 pdf eicon PDF 137 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid:-

 

·         Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2018/19.

·         Cynllun tymor canolig i ddygymod â’r bwlch ariannol 2018/19 – 2020/21.

·         Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 4.8%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.

 

Diolchodd i holl staff yr Adran Gyllid, o dan arweinyddiaeth y Pennaeth Cyllid, am eu gwaith trylwyr drwy gydol y flwyddyn yn paratoi ac yn arwain y Cyngor at sefydlu cyllideb hafal.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Pryder ynglŷn â’r tan-gyllido o ganlyniad i Fformiwla Barnett a’r angen i gynyddu’r pwysau sy’n cael ei roi ar Lywodraeth Cymru i gael gwell setliad ariannu i Wynedd.  Nodwyd bod y sefyllfa bresennol yn anghynaladwy ac awgrymwyd y dylai’r Cyngor hwn anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn galw am adolygiad o’r system drethi yn ei chyfanrwydd.  Awgrymwyd hefyd, yn ogystal â’r lobïo parhaus sy’n cael ei wneud gan yr Arweinydd, yr Aelodau Cabinet, y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid, y byddai’n fuddiol gyrru dirprwyaeth o gynghorwyr i lawr i Gaerdydd i gyfarfod y Gweinidog.  Anogwyd yr holl aelodau i ddwyn pwysau ar eu Haelodau Cynulliad yn ogystal.

·         Y ffaith mai cynnydd o 0.6% yn unig dderbyniwyd yng ngrant y Llywodraeth ar gyfer 2018/19, er i Lywodraeth Cymru dderbyn cynnydd grant o 2.6% gan Lywodraeth San Steffan, a’r angen i wneud yn glir i’r trethdalwyr na fyddai’r Cyngor yn gorfod cynyddu’r Dreth Gyngor petai wedi derbyn grant digonol gan Lywodraeth Cymru.

·         Pryder ynglŷn â dull y Llywodraeth o gyllido addysg drwy roi gydag un llaw a thynnu gyda’r llall a’r diffyg cysondeb rhwng negeseuon y Gweinidog a’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad.

·         Yr angen i roi holl drigolion Gwynedd yn ganolog i bob un o wasanaethau’r Cyngor er gwaethaf yr hinsawdd anodd.

·         Pryder bod pobl yn ei chael yn gynyddol anodd talu’r Dreth Gyngor a chyfeiriwyd yn benodol at y bobl hynny sydd fymryn uwchlaw’r trothwy hawlio Cymorth Treth y Cyngor.

·         Pryder y bydd mwy a mwy o berchnogion tai gwyliau yn trosglwyddo i’r dreth fusnes er mwyn osgoi’r Premiwm Treth Cyngor ar eu tai.

·         Pryder am effaith y Premiwm Treth Cyngor ar bobl sy’n ceisio gwerthu tai a etifeddwyd ganddynt yn sgil marwolaeth aelod o’r teulu.

·         Bid refeniw i benodi dau arolygwr Treth Cyngor ychwanegol – cadarnhawyd na fyddai’r Pennaeth Cyllid yn derbyn unrhyw gyllid ychwanegol am gyfrifoldeb y dasg newydd yma, ond y byddai swyddog trethiant fydd yn ymgymryd â’r dyletswyddau goruchwyliaeth ychwanegol yn derbyn cynnydd bychan iawn i adlewyrchu hynny.

·         Yr angen i’r Cyngor edrych ar ffyrdd amgen o gynyddu incwm, e.e. drwy godi tâl am wasanaethau ar berchnogion carafanau a chynnig morgeisi i bobl leol sydd angen tai.  Nodwyd hefyd bod gorbwyslais ar breifateiddio gwasanaethau pan fyddai’r Cyngor yn gallu gwneud y gwaith ei hun a chael elw ohono.

·         Honiadau o wastraff gan y Cyngor.  Atebodd y Prif Weithredwr mai’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu oedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

RHEOLAETH TRYSORLYS - DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS, STRATEGAETH DARPARIAETH LLEIAFSWM REFENIW A STRATEGAETH FUDDSODDIAD FLYNYDDOL AR GYFER 2018/19 pdf eicon PDF 234 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid adroddiad yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu’r strategaeth arfaethedig.

 

Gan gyfeirio at y ffaith bod y Cyngor hwn yn rhoi benthyciadau i awdurdodau lleol yn Lloegr, holwyd oedd yna berygl y gallai rhai o’r cynghorau hynny fynd yn fethdalwyr.  Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Cyllid fod y cynghorau hynny yn cael eu credyd-raddio a bod y risg wedi ei wasgaru’n eang.  Hefyd, ‘roedd y benthyciadau yn rhai dros dro ac ‘roedd bron yn amhosib’ i gyngor fynd yn fethdalwr oherwydd y gallai godi mwy o dreth.

 

          PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys, a’r Strategaeth Buddsoddi Flynyddol am 2018/19 (Atodiad A i’r adroddiad), y Dangosyddion Darbodus (Atodiad B), y Datganiad Darpariaeth Lleiafswm Refeniw (Atodiad C) a’r trefniant uno gyda’r Gronfa Bensiwn ar gyfer buddsoddi llif arian dyddiol.

 

12.

CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2018/23 pdf eicon PDF 216 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2017/23.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am eu holl waith yn paratoi’r adroddiad.  Ymddiheurwyd bod cynllun yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol wedi’i adael allan o’r Cynlluniau Adran trwy amryfusedd.  ‘Roedd yr aelodau wedi derbyn copi ar wahân a byddai’r ddogfen wedi’i hymgorffori yn y fersiwn terfynol o Gynllun y Cyngor fydd yn cael ei gyhoeddi.  Byddai angen cywiro rhai mân wallau golygyddol hefyd ynghyd ag ychwanegu paragraff yn datgan bod yr holl faterion yn y cynllun yn cyd-fynd â Strategaeth Ariannol y Cyngor, er y gallai fod yn amhosib’ gwireddu’r holl flaenoriaethau oherwydd y cyd-destun ariannol.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

 

·         Nodwyd bod rhieni wedi derbyn neges destun gan bennaeth ysgol gynradd ar ôl 9yb ar ddau achlysur yn ddiweddar yn dweud bod yr ysgol yn cau oherwydd diffyg nwy ac yn gofyn iddynt ddychwelyd i nôl eu plant.  Holwyd pam na allai’r rhieni gael gwybod am sefyllfaoedd fel hyn ynghynt gan fod yr ysgol yn gwybod am y broblem nwy cyn 9yb.  Atebodd yr Arweinydd mai mater i’r Llywodraethwyr oedd hyn.

·         Holwyd a oedd gan Dîm Derwen gynlluniau i ymestyn eu meini prawf i sicrhau bod pob plentyn ag anableddau yng Ngwynedd yn gallu manteisio ar wasanaeth arbenigol sy’n cael ei gynnig ganddynt.  Nododd yr Arweinydd y byddai’n cyfeirio’r cwestiwn ymlaen i’r Tîm ac y byddai’r aelod yn derbyn yr ateb yn uniongyrchol.

·         Holwyd faint o bwysau mae’r Cyngor yn rhoi i sicrhau cyflenwad digonol o dai ar rent.  Atebodd yr Arweinydd fod mater tai yn flaenoriaeth sylfaenol ganddo a bod trafodaethau wedi digwydd eisoes gyda chymdeithasau tai i symud hyn ymhellach.  O adnabod lle mae’r angen a beth ydi’r angen, gellid ymchwilio i sut y gall y Cyngor gynorthwyo’r cymdeithasau tai ac ‘roedd yn awyddus i weld adeiladau ar eu traed ac wedi eu gosod. 

·         Mewn ymateb i ymholiad, nododd yr Arweinydd nad rhestr o ddymuniadau’n unig oedd y cynllun a bod yna lawer mwy o fanylder i’w gael ar y cynlluniau unigol na’r hyn a gynhwyswyd yn y ddogfen.  Cynllun gweithredu ydoedd ac ‘roedd yna ddatblygu ar fanylion.  Byddai’n cael ei ddatblygu’n gyson ac o bosib’ y byddai yna newid cyfeiriad.

·         Holwyd a gysylltwyd â’r Adran Gynllunio ynglŷn â Blaenoriaeth Gwella 4 – Sicrhau mwy o gyflenwad o dai addas ar gyfer ein trigolion.  Atebodd yr Arweinydd fod y polisi cynllunio wedi’i drafod fel mater cwbl ar wahân.  ‘Roedd materion cynllunio yn effeithio ar faterion fel hyn, ond nid oedd gan y Cyngor ddewis ond gweithredu o fewn ei bolisïau.  ‘Roedd y cwestiwn cynllunio wedi codi yn y trafodaethau ar dwf economaidd ac ‘roedd cynllunio yn cyffwrdd â phopeth.  Os oedd polisïau cynllunio’r Cyngor yn rhy gaeth, ‘roedd lle i adolygu rhain hefyd a gallai’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd edrych arnynt.

·         Mynegwyd pryder bod polisïau cynllunio lleol yn aml yn cael eu cyfyngu gan bolisïau cenedlaethol a hynny’n cael ei adlewyrchu ym mhenderfyniadau Arolygwyr Cynllunio.

·         Croesawyd y cynllun peilot ‘Plant  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 77 KB

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i ymateb i gynigion drafft y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol ar gyfer yr arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Cyngor Gwynedd.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

·         Bod cynigion drafft y Comisiwn yn mynd yn erbyn argymhellion y Cyngor hwn a’r cynghorau cymuned.

·         Pryder ynglŷn ag uno rhai wardiau – cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai’n cyflwyno dadl gref i’r Comisiwn yn erbyn etholaethau dau aelod.

·         Pryder bod yr amserlen ar gyfer ymateb i gynigion drafft y Comisiwn mor dynn.

·         Aneglurder ynglŷn â’r hyn sydd wedi’i gytuno ynglŷn â Ward Abersoch a rhai wardiau eraill ac, yn wyneb hynny, awgrymwyd gwrthod adroddiad y Comisiwn yn ei gyfanrwydd. Atebodd y Prif Weithredwr nad oedd gwrthod yr adroddiad yn opsiwn a’r unig ddewis arall oedd cadarnhau’r cynigion gwreiddiol a roddwyd gerbron y Comisiwn ym Mehefin 2017.  Fodd bynnag, ‘roedd yr argymhelliad i gynnal trafodaethau gyda’r aelodau lleol yn y lleoedd hynny lle mae’r aelodau lleol yn ystyried y byddai’n ddarbodus cynnig dewis amgen yn rhoi cyfle i aelodau yn yr ardaloedd hynny gael gwell canlyniad.

·         Pryder y byddai cynnwys Llanfrothen oddi fewn i Ward Tremadog yn golygu y byddai’r ward newydd yn cynnwys rhannau o 4 cymuned wahanol ac yn pontio ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd.

·         Nad oedd rhai o gynigion y Comisiwn yn cymryd y ffin naturiol rhwng wardiau i ystyriaeth.

·         Bod cynnig y Comisiwn i gadw Ward Dyffryn Ardudwy fel y mae ac uno Wardiau Llanbedr a Harlech yn well na’r hyn roddwyd ymlaen gan y Cyngor yn wreiddiol, sef uno Dyffryn Ardudwy gyda Llanbedr.  Atebodd y Prif Weithredwr, petai aelodau’n teimlo bod rhai o gynigion y Comisiwn yn rhagori ar yr hyn a roddwyd gerbron gan y Cyngor, y gellid peidio gwthio cynigion y Cyngor mor gryf, ond bod angen y drafodaeth.

 

          PENDERFYNWYD

(a)     Bod y Cyngor yn cytuno i ymateb drwy ail ddatgan cynigion y Cyngor a phwyso’r Comisiwn i dderbyn yr hyn oedd yn ein cynigion gwreiddiol, ond gan awdurdodi’r Prif Weithredwr i gynnal trafodaethau gydag aelodau lleol yn y lleoedd hynny lle mae’r aelodau lleol yn ystyried y byddai’n ddarbodus cynnig dewis amgen, ac awdurdodi’r Cabinet i gynnwys y dewis amgen hwnnw yn yr ymateb ffurfiol os yw’r holl aelodau lleol yn unfrydol yn eu barn.

(b)     Bod y Cyngor yn awdurdodi’r Cabinet i awgrymu enwau gwahanol ar gyfer wardiau i’r hyn sydd yn nghynigion y Comisiwn os oes dymuniad lleol i wneud hynny.

 

 

14.

CALENDR PWYLLGORAU 2018/19 pdf eicon PDF 297 KB

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd galendr ar gyfer dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2018/19.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2018/19.

 

15.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

16.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elin Walker Jones

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Walker Jones yn cynnig fel a ganlyn:-

 

“Mae’r Cyngor hwn yn nodi bod:

 

·         Llygredd plastig yn broblem amgylcheddol enfawr sydd yn peryglu bywyd morol.

·         12.7 miliwn tunnel o blastig yn mynd i mewn i’n moroedd bob blwyddyn.  Mae hyn gyfwerth â llond tryc o wastraff bob munud.

·         Darnau o blasting yn achosi marwolaeth miliwn o adar môr a 100,000 o famaliaid dyfrol, yn ôl UNESCO.

·         Gwastraff plastig yn bla ar dirwedd, traethau a moroedd prydferth Cymru.

 

Noda’r Cyngor ymhellach bod:

 

·         Gweithrediad arloesol Cymru o godi ffi ar fagiau siopa untro wedi arwain at ostyngiad o 71% yn nefnydd bagiau untro o fewn tair blynedd gyntaf y cynllun.

·         Mudiadau amgylcheddol rhyngwladol megis Greenpeace wedi galw’n ddiweddar ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i godi toll ar wastraff plastig megis cwpanau coffi na ellir eu hailgylchu.

·         Y Cynulliad wedi pleidleisio o blaid gwelliant Plaid Cymru yn ddiweddar i gefnogi cynlluniau i godi toll ar blastigion untro yng Nghymru.

 

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru:

 

I weithredu ar frys er mwyn gweithredu toll ar blastigion untro yng Nghymru ac hefyd i ystyried codi toll ar bob plastig i helpu sicrhau bod moroedd Cymru yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fioamrywiol.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elin Walker Jones o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi bod:

 

·         Llygredd plastig yn broblem amgylcheddol enfawr sydd yn peryglu bywyd morol.

·         12.7 miliwn tunnel o blastig yn mynd i mewn i’n moroedd bob blwyddyn.  Mae hyn gyfwerth â llond tryc o wastraff bob munud.

·         Darnau o blastig yn achosi marwolaeth miliwn o adar môr a 100,000 o famaliaid dyfrol, yn ôl UNESCO.

·         Gwastraff plastig yn bla ar dirwedd, traethau a moroedd prydferth Cymru.

 

Noda’r Cyngor ymhellach bod:

 

·         Gweithrediad arloesol Cymru o godi ffi ar fagiau siopa untro wedi arwain at ostyngiad o 71% yn nefnydd bagiau untro o fewn tair blynedd gyntaf y cynllun.

·         Mudiadau amgylcheddol rhyngwladol megis Greenpeace wedi galw’n ddiweddar ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i godi toll ar wastraff plastig megis cwpanau coffi na ellir eu hailgylchu.

·         Y Cynulliad wedi pleidleisio o blaid gwelliant Plaid Cymru yn ddiweddar i gefnogi cynlluniau i godi toll ar blastigion untro yng Nghymru.

 

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru:

 

I weithredu ar frys er mwyn gweithredu toll ar blastigion untro yng Nghymru ac hefyd i ystyried codi toll ar bob plastig i helpu sicrhau bod moroedd Cymru yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fioamrywiol.”

 

Mynegwyd cefnogaeth gref i’r cynnig gan sawl aelod a chynigiwyd ychwanegu’r geiriad a ganlyn at y cynnig gwreiddiol:-

 

“Ein bod yn cynnal ymchwiliad i ddefnydd Cyngor Gwynedd o blastigion defnydd untro er mwyn asesu sut a ble y gallwn leihau’r defnydd hwnnw gyda’r nod o ddod yn gyngor di-blastig.”

 

Cytunodd cynigydd y cynnig gwreiddiol i ddiwygio’r cynnig ar y llinellau yma gyda chydsyniad y Cyngor.

 

Diolchwyd i Cadw Gymru’n Daclus am drefnu sesiwn glanhau Traeth Porth Neigwl yn ddiweddar.

 

PENDERFYNWYD

Mae’r Cyngor hwn yn nodi bod:

 

·         Llygredd plastig yn broblem amgylcheddol enfawr sydd yn peryglu bywyd morol.

·         12.7 miliwn tunnel o blastig yn mynd i mewn i’n moroedd bob blwyddyn.  Mae hyn gyfwerth â llond tryc o wastraff bob munud.

·         Darnau o blasting yn achosi marwolaeth miliwn o adar môr a 100,000 o famaliaid dyfrol, yn ôl UNESCO.

·         Gwastraff plastig yn bla ar dirwedd, traethau a moroedd prydferth Cymru.

 

Noda’r Cyngor ymhellach bod:

 

·         Gweithrediad arloesol Cymru o godi ffi ar fagiau siopa untro wedi arwain at ostyngiad o 71% yn nefnydd bagiau untro o fewn tair blynedd gyntaf y cynllun.

·         Mudiadau amgylcheddol rhyngwladol megis Greenpeace wedi galw’n ddiweddar ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i godi toll ar wastraff plastig megis cwpanau coffi na ellir eu hailgylchu.

·         Y Cynulliad wedi pleidleisio o blaid gwelliant Plaid Cymru yn ddiweddar i gefnogi cynlluniau i godi toll ar blastigion untro yng Nghymru.

 

Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru:

 

I weithredu ar frys er mwyn gweithredu toll ar blastigion untro yng Nghymru ac hefyd i ystyried codi toll ar bob plastig i helpu sicrhau bod moroedd Cymru yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fioamrywiol.

 

Ein bod yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 16.

17.

YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth:-

 

(a)     Llythyr gan y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Dyfrig Siencyn i gyfarfod 14 Rhagfyr, 2017 mewn perthynas â’r sefyllfa yng Nghatalwnia.

(b)     Llythyr gan Lywodraeth Cymru, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Owain Williams i gyfarfod 14 Rhagfyr, 2017 mewn perthynas ag addysgu hanes Cymru.

(c)     Llythyr gan Lywodraeth Cymru, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Craig ab Iago i gyfarfod 14 Rhagfyr, 2017 mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y llythyrau.

 

 

18.

Ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Dyfrig Siencyn i'r cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 178 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth - llythyr gan y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Dyfrig Siencyn i gyfarfod 14 Rhagfyr, 2017 mewn perthynas â’r sefyllfa yng Nghatalwnia  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

19.

Ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Owain Williams i'r cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 199 KB

Cyflwyno, er gwybodaethllythyr gan Lywodraeth Cymru, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Owain Williams i gyfarfod 14 Rhagfyr, 2017 mewn perthynas ag addysgu hanes Cymru  (ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

20.

Ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Craig ab Iago i'r cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 270 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth - llythyr gan Lywodraeth Cymru, mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Craig ag Iago i gyfarfod 14 Rhagfyr, 2017 mewn perthynas â Chredyd Cynhwysol  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Atodiadau 1-3 pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol: