Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
CADEIRYDD Penodi Cadeirydd
ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penodi’r
Cynghorydd Beca Roberts yn Gadeirydd am 2024/25. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
IS-GADEIRYDD Penodi
Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penodi’r
Cynghorydd Ioan Thomas yn Is-gadeirydd am 2024/25. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor
a gynhaliwyd ar 7 Mawrth, 2024 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ystyried unrhyw
gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r
Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD BLYNYDDOL O GYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL Y CYNGOR PDF 240 KB Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
ATODIAD A – DYRANIAD SEDDI AR BWYLLGORAU
Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi -
Grŵp Plaid Cymru Pwyllgor Craffu Cymunedau - Grŵp Plaid
Cymru Pwyllgor Craffu Gofal – Grŵp Annibynnol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH Penodi Cadeirydd i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth
ar gyfer 2024/25. [Yn unol â gofynion Adran 14 o Fesur
Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y Cyngor llawn sydd i benodi Cadeirydd y
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ac ni all benodi aelod o grŵp gwleidyddol sy’n cael ei
gynrychioli ar y weithrediaeth.] Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penodi’r Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor
Gwasanaethau Democratiaeth am 2024/25. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD O DDATGANIAD O BOLISI DRAFFT - DEDDF TRWYDDEDU 2003 PDF 187 KB Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadu’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu
drafft, a dirprwyo hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd wneud addasiadau
golygyddol er sicrhau cywirdeb yn ôl yr angen. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHYBUDDION O GYNNIG Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gwynfor Owen Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran
4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gwynfor Owen yn cynnig fel a ganlyn:- Mae Rheilffordd Arfordir y Cambrian o bwys
aruthrol i economi Gwynedd, gyda miloedd o ymwelwyr yn ei defnyddio, ond yn bwysicach
na hynny mae pobl Gwynedd eu hunain yn defnyddio y Rheilffordd yma yn ddyddiol
er mwyn mynd i’r ysgol, i’r gwaith, i siopio neu ar gyfer pwrpasau hamdden. Yn ddiweddar mae Trafnidiaeth Cymru wedi
datgan eu bod eisiau torri y nifer o drenau sydd yn rhedeg ar y hyd y lein. Y ffordd i
wella'r defnydd o drenau yw trwy gynyddu'r nifer o drenau ac yn bendant dim eu
torri. Mae’r Cyngor yma
yn datgan yn glir i Drafnidiaeth Cymru ac i Lywodraeth Cymru, sef perchnogion
Trafnidiaeth Cymru, nad yw unrhyw doriad yn y nifer o drenau ar Reilffordd y
Cambrian yn dderbyniol, ac yn hytrach y dylid edrych ar sut i gynyddu'r nifer o
drenau trwy’r flwyddyn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mae Rheilffordd Arfordir y Cambrian o
bwys aruthrol i economi Gwynedd, gyda miloedd o ymwelwyr yn ei defnyddio, ond
yn bwysicach na hynny mae pobl Gwynedd eu hunain yn defnyddio y Rheilffordd yma
yn ddyddiol er mwyn mynd i’r ysgol, i’r gwaith, i siopio
neu ar gyfer pwrpasau hamdden. Yn ddiweddar mae Trafnidiaeth Cymru wedi datgan eu bod eisiau
torri y nifer o drenau sydd yn rhedeg ar y hyd y lein. Y ffordd i wella'r defnydd o drenau yw trwy gynyddu'r nifer o
drenau ac yn bendant dim eu torri. Mae’r Cyngor yma yn datgan yn glir i Drafnidiaeth Cymru ac i
Lywodraeth Cymru, sef perchnogion Trafnidiaeth Cymru, nad yw unrhyw doriad yn y
nifer o drenau ar Reilffordd y Cambrian yn
dderbyniol, ac yn hytrach y dylid edrych ar sut i gynyddu'r nifer o drenau
trwy’r flwyddyn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran
4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn cynnig fel a
ganlyn:- Mae Cyngor Gwynedd o’r farn na
ddylai yr un tŷ fod yn ddim byd ond cartref hyd nes bod pob un â chartref
clyd, addas a phwrpasol. Dyma yw amcan y
Cyngor yma. Rydym ni yn galw ar
Lywodraeth Cymru i alluogi y Cyngor hwn i weithredu er mwyn rhoi pobl Gwynedd
gyntaf drwy fynd ati i greu Ddeddf Eiddo fydd yn cynnig fframwaith statudol a
lleol i gefnogi cymunedau, darparwyr tai
ac awdurdodau lleol i ymateb i’r argyfwng presennol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mae Cyngor Gwynedd o’r farn na ddylai yr un tŷ fod yn
ddim byd ond cartref hyd nes bod pob un sydd ag angen lleol am dŷ â
chartref clyd, addas a phwrpasol. Dyma
yw amcan y Cyngor yma. Rydym ni yn galw
ar Lywodraeth Cymru i alluogi y Cyngor hwn i weithredu er mwyn rhoi pobl
Gwynedd gyntaf drwy fynd ati i greu Ddeddf Eiddo fydd yn cynnig fframwaith
statudol a lleol i gefnogi cymunedau,
darparwyr tai ac awdurdodau lleol i ymateb i’r argyfwng presennol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Llio Elenid Owen Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi yn unol ag Adran
4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Llio Elenid Owen yn cynnig fel a
ganlyn:- Mae’r
penderfyniad gan Gydbwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a’r
byrddau iechyd i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru Caernarfon (Dinas Dinlle)
a’r Trallwng, a’u canoli, yn ergyd drom i Gwynedd gyfan ac yn esiampl arall o
sut mae gwasanaethau canolog Cymru yn anwybyddu dyheadau a gofynion Cymru
wledig. Rwy’n gofyn ar y Cyngor i wrthwynebu'r penderfyniad, a gofyn am
ymyrraeth ac ymchwiliad llawn i'r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mae’r penderfyniad gan
Gydbwyllgor Comisiynu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a’r byrddau iechyd i gau
canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru Caernarfon (Dinas Dinlle) a’r Trallwng, a’u
canoli, yn ergyd drom i Gwynedd gyfan ac yn esiampl arall o sut mae gwasanaethau
canolog Cymru yn anwybyddu dyheadau a gofynion Cymru wledig. Mae’r Cyngor hwn yn gwrthwynebu'r
penderfyniad, ac yn gofyn am ymyrraeth ac ymchwiliad llawn i'r penderfyniad gan
Lywodraeth Cymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL PDF 147 KB Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybuddion o
gynnig y Cynghorwyr Gruffydd Williams a Dewi Jones i gyfarfod 7 Mawrth, 2024 o’r
Cyngor ynglŷn â
chefnogaeth i ffermwyr. Dogfennau ychwanegol: |