skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 106 KB

YR HWB, YSGUBOR ISAF, LON Y CARIADON, Y BALA

 

I ystyried y cais uchod

Cofnod:

Yr Hwb, Ysgubor Isaf, Lon Cariadon, Y Bala, Gwynedd

 

Ar ran yr eiddo:                     Ms Zoe Rachel Hansford Smith (Ymgeisydd)

 

Eraill a wahoddwyd:

                                                Mared Llwyd (Swyddog Gorfodaeth Gwarchod Y Cyhoedd)

                                                Mr Ian Williams, Heddlu Gogledd Cymru

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Yr Hwb, Ysgubor Isaf, Lôn Cariadon, Y Bala.  Gwnaed y cais mewn perthynas ag adeiladu caffi sy’n cynnwys gardd/ ardal eistedd tu allan, canolfan gweithgareddau awyr agored, ardal chwarae’ soft play’ a chanolfan digwyddiadau. Y bwriad yw gwerthu alcohol ar yr eiddo, dangos ffilmiau a dramâu, cerddoriaeth fyw wedi ei recordio, perfformiadau dawns a gwerthiant alcohol.

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y byddai’r amcanion hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Nodwyd bod dau sylw wedi ei derbyn, un gan Uned Gwarchod y Cyhoedd oherwydd pryderon y byddai caniatáu adloniant tu allan i’r eiddo yn creu niwsans sŵn i drigolion lleol ac un sylw gan Heddlu Gogledd Cymru yn awgrymu i’r ymgeisydd osod system Teledu Cylch Cyfyng ar yr eiddo.

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

b)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.

 

Ategodd y sylwadau canlynol:

·         Bod bwriad cynnal system camerâu teledu cylch cyfyng

·         Bod bwriad cynnal gŵyl fwyd / gŵyl gwrw / marchnad cynnyrch fferm ar y lleoliad ynghyd a dangos ffilmiau a chyflwyniadau theatr

·         Bod bwriad treialu cerddoriaeth fyw ar brynhawn Sul

·         Petai ddigwyddiad tu allan i oriau trwyddedig yn cael ei drefnu, y byddai yn gwneud cais am drwydded dros dro.

 

c)            Yn manteisio ar ei hawl i siarad, amlygodd Swyddog o’r Heddlu nad oedd gan yr Heddlu wrthwynebiad i’r cais ac nad oedd cwynion wedi dod i law'r Heddlu yn dilyn digwyddiadau ar y safle. Ategodd bod amodau wedi eu cynnig i’r ymgeisydd a bod angen ffurfioli’r amodau hynny. Cynigiwyd amod yn ymwneud a gosod teledu cylch cyfyng ar yr eiddo ynghyd a gweithredu cynllun Her 25. Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno derbyn yr amodau hyn ar y drwydded

 

ch)       Yn manteisio ar ei hawl i siarad, amlygodd Swyddog Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Gwynedd bod cyfaddawd wedi ei  gyrraedd gyda’r ymgeisydd yn dilyn cais gan yr Adran i leihau oriau holl adloniant rheoledig tu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 109 KB

YR HEN GWRT, CAERNARFON

 

I ystyried y cais uchod

Cofnod:

Yr Hen Gwrt, Caernarfon

 

Ar ran yr eiddo:                                 Ms Moira Hartley (ymgeisydd)

 

Eraill a wahoddwyd:

Mr Ian Williams, Heddlu Gogledd Cymru

           

a)            Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Yr Hen Lys, Pen Deitch, Caernarfon.  Gwnaed y cais mewn perthynas â gwerthu alcohol oddi ar ac ar yr eiddo; dangos ffilmiau a dramâu; cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio, unrhyw adloniant arall a lluniaeth hwyr y nos.

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y byddai’r amcanion hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded

 

Nodwyd bod dau sylw wedi ei derbyn, un gan Heddlu Gogledd Cymru yn awgrymu i’r ymgeisydd osod system Teledu Cylch Cyfyng ar yr eiddo a defnydd goruchwylwyr drysau ac un gan y Gwasanaeth Tan.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

b)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.

 

Ategodd y sylwadau canlynol:

·         Bod bwriad cynnal system camerâu teledu cylch cyfyng

·         Ei bod yn derbyn awgrym gan yr Heddlu i ddefnyddio goruchwylwyr drysau ar gyfer digwyddiadau unigol yn unig

·         Bod ymweliad safle gyda’r Gwasanaeth Tân a Swyddog Stadau'r Cyngor wedi bod yn fuddiol

·         Bod angen cynnal trafodaethau pellach ar oleuo’r llwybr dianc

·         Bod dodrefn yn cael ei osod ar y stryd er mwyn denu cwsmeriaid i’r adeilad

 

c)            Yn manteisio ar ei hawl i siarad, amlygodd Swyddog o’r Heddlu nad oedd gan yr Heddlu wrthwynebiad i’r cais. Ategodd bod amodau wedi eu cynnig i’r ymgeisydd a bod angen ffurfioli’r amodau hynny. Cynigiwyd amod yn ymwneud a gosod teledu cylch cyfyng ar yr eiddo ynghyd a defnydd goruchwylwyr drysau. Amlygwyd, bod yr ymgeisydd yn Adran M (b) o’r cais yn datgan ‘Licensed door supervisors on duty for all events’. Nodwyd bod yr Heddlu o’r farn nad oes angen goruchwylwyr drysau ar gyfer pob digwyddiad oherwydd natur y digwyddiadau fydd yn cael eu cynnal yn yr adeilad. O ganlyniad, byddai’n ofynnol i’r ymgeisydd asesu digwyddiadau unigol cyn penderfynu os oes angen goruchwylwyr drysau. Cynigiwyd yr amod, ‘Each event will be risk assessed to establish whether door supervisors are required’. Awgrymwyd bod amod ynglŷn â gweithredu Her 25 yn hytrach na Her 21 yn cael ei gynnwys ar y drwydded. Cadarnhawyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno derbyn yr amodau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.