skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Aled Ll. Evans, John Brynmor Hughes, Huw G. Wyn Jones a John Pughe Roberts

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CYFRIFON TERFYNOL CYNGOR GWYNEDD 2018/19 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 69 KB

Cyflwyno:

 

(i)            adroddiad y Pennaeth Cyllid

(ii)           adroddiad ISA 260 yr Archwilwyr Allanol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Diolchodd y Pennaeth Cyllid i’r Aelodau am eu hymdrech i fynychu’r cyfarfod arbennig. Er mai’r bwriad oedd cyflwyno adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ym Mhwyllgor 29ain Gorffennaf 2019 gyda’r cyfrifon terfynol, bu i archwilwyr allanol Cyngor Gwynedd fethu a rhyddhau eu hadroddiad o fewn yr amserlen. Eglurodd y Pennaeth Cyllid bod y Datganiadau o Gyfrifon 2018/19 (cyn archwiliad) wedi eu cyflwyno a’u craffu’n briodol yn y cyfarfod ar y 29ain o Orffennaf.

 

Ynghyd a fersiwn terfynol (ôl archwiliad) o’r Datganiad o’r Cyfrifon 2018/19, cyflwynwyd adroddiad ‘ISA260’ Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Clare Skivens Arweinydd Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte.  Amlygwyd nad oedd gan yr archwilwyr allanol unrhyw bryderon ynglŷn â’r agweddau ansoddol ar arferion cyfrifyddu ac adrodd ariannol y Cyngor. Cymeradwywyd y tîm cyfrifo am ansawdd a chyflwyniad y cyfrifon.

 

         Cyfeiriwyd yr Aelodau at uncamddatganiadsef ail brisiad meysydd parcio'r Cyngor. Yn dilyn ail brisiad gan y Cyngor yn ystod 2018-19, nodwyd gwahaniaeth rhwng y rhagdybiaethau a ddefnyddiwyd gan y Cyngor a rhai a awgrymir mewn canllawiau RICS perthnasol.

 

         Roedd y Cyngor wedi addasu’r fersiwn derfynol o’r cyfrifon i adlewyrchu’r canllawiau ar gyfer datganiadau ariannol 2018/19, a chytuno i ailedrych ar ddulliau prisio ar y cyd gyda’r archwilwyr allanol i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag os ywgwahaniaethau prisiadyn fater cyffredin, mynegodd y Pennaeth Cyllid bod archwilwyr allanol sawl Cyngor wedi edrych yn fanwl ar werth asedau eiddo eleni, a bod prisiwr mewnol Gwynedd wedi newid y sail prisio. O ganlyniad i’r gwahaniaethau, bu i’r archwilydd allanol benodi prisiwr arbenigol i drafod y sefyllfa unigryw yma. Ategwyd, fel ymateb i gwestiwn ategol am y fethodoleg a phwy sydd yn penderfynu ar  y fethodoleg, bod sawl methodoleg yn y maes ond byddai’r mater dan sylw yn cael ei adolygu ar gyfer cyfrifon blynyddoedd dilynol.

 

   Nododd y Pennaeth Cyllid ei ddiolch am yr adroddiad a gyflwynwyd gan Deloitte, 

   a’u cydweithrediad arferol drwy’r archwiliad.

 

            PENDERFYNWYD:

(i)     cymeradwyo Datganiad o Gyfrifon Cyngor Gwynedd 2018/19 (ôl-archwiliad);

(ii)    derbyn adroddiad archwiliad ‘ISA260’ Deloitte ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru;

(iii)   awdurdodi’r Pennaeth Cyllid ac Is-gadeirydd y Pwyllgor i ardystio’rllythyr cynrychiolaethynghylch cyfrifon y Cyngor a’i gyflwyno i Archwilydd Cyffredinol Cymru.