Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 98 KB TY COFFI, 23a STRYD FAWR, Y BALA, LL23 7LU I ystyried y cais Cofnod: 1.
CAIS AM DRWYDDED EIDDO - Tŷ Coffi, 23a Stryd Fawr, Y Bala, Gwynedd Ar ran yr eiddo: Mrs
Linda Williams (Ymgeisydd) a Mrs Rachel Williams (Cynrychiolydd yr ymgeisydd a
Rheolwr Plas yn Dre, Y Bala) Mared Llwyd (Swyddog Gorfodaeth Gwarchod Y Cyhoedd) a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu
ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Tŷ
Coffi, 23a Stryd Fawr, Y Bala. Gwaned
y cais mewn perthynas â chwarae cerddoriaeth byw, cerddoriaeth wedi ei recordio a pherfformiadau
o ddawns dan do ac awyr agored; cyflenwi
alcohol ar yr eiddo yn unig.
Y bwriad yw rhedeg yr eiddo
fel siop goffi a chaffi teuluol. Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig
yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth
ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003
a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei
argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn
ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd
bod un llythyr o wrthwynebiad wedi ei dderbyn gan
Uned Gwarchod y Cyhoedd oherwydd pryderon rheolaeth sŵn a niwsans cyhoeddus. Amlygwyd bod cynnig o gyfaddawd wedi ei dderbyn gan
yr ymgeisydd sydd wedi cytuno
i beidio cynnal adloniant tu allan
i’r eiddo o gwbl ac i gyfyngu’r
drwydded i adloniant acwstig yn unig tu
mewn i’r eiddo. Cadarnhaodd y swyddog bod hyn yn dderbyniol. Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. ·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd
y drwydded. ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd
cynrychiolydd yr ymgeisydd ei bod yn hapus gyda’r
hyn oedd wedi ei gyflwyno.
Ategodd y sylwadau canlynol: ·
Ei bod yn fodlon peidio cynnal
cerddoriaeth tu allan a gwneud cais am drwydded dros dro petai'r
angen yn codi ·
Byddai cerddoriaeth acwstig yn unig
yn cael ei
chwarae tu mewn ac felly yn lleihau aflonyddwch ·
Bod Tŷ Coffi a Phlas yn
Dre yn rhan o’r un cwmni ·
Bod nifer o breswylwyr yn byw
yn agos ac uwchben i’r eiddo
sydd yn denantiaid
i’r cwmni ac felly dim eisiau amharu arnynt
drwy greu sŵn ·
Bod gwesteion yn aros ym Mhlas
yn Dre (sydd drws nesaf i’r eiddo) ac felly dim eisiau i unrhyw swm amharu
arnynt hwythau chwaith ·
Ei bod yn cytuno i amod cadw
drysau a ffenestri ar gau pan fydd cerddoriaeth / adloniant yn chwarae ·
Cytuno derbyn nwyddau a
chlirio poteli / sbwriel ar adegau priodol Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â niferoedd preswylwyr oedd yn byw uwchben yr eiddo cadarnhawyd bod 6 fflat uwchben yr eiddo gyda 8 person yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |