Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Canolfan Fenter Congl Meinciau, Botwnnog - Canolfan Fenter Congl Meinciau, Botwnnog. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am y flwyddyn 2019/20.

Cofnod:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd am y flwyddyn 2019-20. Nododd aelodau eu dymuniad i ohirio ethol Cadeirydd, tan y cyfarfod nesaf, oherwydd nid oedd yr Is-Gadeirydd yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD ethol Morgan Jones-Parry yn Gadeirydd am y cyfarfod yma.

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am y flwyddyn 2019/20.

Cofnod:

PENDERFYNWYD gohirio’r eitem i’r cyfarfod nesaf.

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Gareth Williams a Angela Russell (Pencampwr Cefn Gwlad Cyngor Gwynedd) ynghyd â Eirian Allport (Cyngor Cymuned Clynnog Fawr), Alun Price (Cyfoeth Naturiol Cymru) a Gillian Walker (Cyfeillion Llŷn).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 118 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2018, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Cyd-Bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2018, fel rhai cywir.

 

Holodd aelod yng nghyswllt penderfyniad y Cyd-Bwyllgor, yn y cyfarfod diwethaf, i anfon llythyr i’r Prif Weithredwr i ofyn i’r Cyngor gael barn gyfreithiol, gan fargyfreithiwr annibynnol a oedd yn arbenigwr yn y maes, ar ddatblygiadau ym Mhlas Pistyll a Fferm Pistyll. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Cefnogi Aelodau y derbyniwyd ymateb gan Wasanaeth Cyfreithiol y Cyngor yn nodi nad oedd dim wedi ei amlygu ei hun hyd yn hyn a fyddai’n creu’r angen am gefnogaeth o’r fath.

7.

PROSIECT AWYR DYWYLL GOGLEDD CYMRU

I dderbyn cyflwyniad gan Dani Robertson.

Cofnod:

Eglurwyd fod yr 3 AHNE a’r Parc Cenedlaethol yn y gogledd yn cydweithio ar Brosiect Awyr Dywyll ac fod swyddog prosiect wedi ei benodi i arwain ar y gwaith.

 

Nododd Swyddog AHNE Llŷn y derbyniodd neges gan Dani Robertson, a oedd i roi cyflwyniad ar y prosiect, ei bod yn anffodus wedi ei dal mewn tagfeydd traffig o ganlyniad i ddamwain ar Bont Britannia.

8.

RHAGLEN DDIGWYDDIADAU GWASANAETH AHNE LLŶN pdf eicon PDF 73 KB

Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn.

 

 

Cofnod:

Cyflwynodd Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn adroddiad ar raglen digwyddiadau’r Gwasanaeth AHNE. Manylwyd ar y digwyddiadau canlynol gan annog yr aelodau i rannu’r wybodaeth:

·         Hyfforddiant Sgiliau Gwledig

·         Teithiau Cerdded

·         Arddangosfa Hanes Lleol

·         Cystadleuaeth Ffotograffiaeth

·         Sesiwn Codi Ymwybyddiaeth o Blanhigion Estron Ymledol

·         Diwrnod Awyr Dywyll

 

Nododd aelod yng nghyswllt y Sesiwn Codi Ymwybyddiaeth o Blanhigion Estron Ymledol, bod Jac y Neidiwr yn ymledu ar hyd cynefinoedd o ardal Pistyll i Garn Boduan. Ymhelaethodd bod Gwasanaeth AHNE Cyngor Sir Ynys Môn wedi mynd i’r afael â’r broblem yn Ynys Môn. Mewn ymateb, nododd y Swyddog AHNE Llŷn y byddai’n cysylltu gyda’r Swyddog AHNE yng Nghyngor Sir Ynys Môn i gael gwybodaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan aelod, nododd y Swyddog AHNE Llŷn bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod y broblem o ran planhigion ymledol. Eglurodd bod y Gwasanaeth AHNE yn cydweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i waredu Efwr Enfawr yn yr Afon Soch.

 

Holodd aelod a fyddai’r chwynladdwr ‘Roundup’ yn cael ei ddefnyddio wrth ymdrin â’r planhigion ymledol, gan nodi ei bryder o ran ei ddefnydd. Mewn ymateb, nododd y Swyddog AHNE Llŷn bod materion yn cael eu trafod yn y newyddion o ran effaith defnyddio’r chwynladdwr ar iechyd. Sicrhaodd mai defnydd cyfyngedig byddai o’r chwynladdwr mewn ardal benodol gan gontractwyr profiadol.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.

9.

PROSIECTAU YN AHNE LLŶN pdf eicon PDF 76 KB

Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynodd Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn adroddiad ar waith y Gwasanaeth AHNE. Rhoddwyd diweddariad ar y prosiectau canlynol:

·         Sbwriel Morol

·         Melinoedd Llŷn

·         Planhigion Estron Ymledol

·         Gwella Mynediad

·         Gwella Amgylchedd

·         Llwybr y Morwyr

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau a gofyn cwestiynau, nodwyd y prif bwyntiau canlynol gan aelodau:

·         Bod Sgwad Sbwriel Llanengan yn mynd o amgylch traethau yn yr ardal yn casglu sbwriel. Roedd y gwaith yn gwneud gwahaniaeth gan ofalu am yr ardal;

·         Yn dilyn stormydd bod micro blastigion yn dod i’r golwg ar draethau;

·         Ym mha leoliadau y byddai’r gwaith gwaredu’r Efwr Enfawr yn yr Afon Soch yn cael ei gwblhau?

·         O ran gwaith adfer wal gerrig gyda’r lôn o bentref Llithfaen at dai Cae’r Nant, a fyddai modd gwneud gwelliannau i’r ffordd?

·         Ei fod yn anodd cael mynediad i fyny i Gyrn Goch;

·         Bod rhywun yn gofalu am y grisiau igam-ogam o Chwarel Tyddyn Hywel. A ellir hyrwyddo’r grisiau?

·         Bod Llwybr y Morwyr rhwng Nefyn a Llanbedrog / Abersoch yn arbennig o dda. Roedd angen am fwy o arwyddion gyda rhai rhannau angen sylw, gan gynnwys:

Ø  y llwybr o Madryn at yr hen dymp, gyda rhedyn yn tyfu’n afreolus;

Ø  o bopty’r llwybr pren rhwng Gors Geirch a Tyncoed, roedd y Cyngor wedi cwblhau gwaith ar y llwybr ond yr oedd angen ei ail-wneud oherwydd bod gwartheg wedi ei falurio;

Ø  y llwybr o Bryncynan;

Ø  y llwybrau pren ar Y Fach yn Abersoch.

·         Byddai gweddill yr arian ar gyfer prosiect Llwybr y Morwyr yn cael ei wario ar wyro’r llwybr ger Plas Glyn y Weddw. Roedd arian dros ben oherwydd nid oedd yn bosib cwblhau gwaith tarmac ar y clogwyni i Westy’r Cliffs oherwydd ei fod mewn ardal Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA);

·         Bod Llwybr y Morwyr yn ardderchog a’i fod yn bwysig o ran cysylltu llwybrau;

·         Bod angen rhoi sylw i’r llwybr wrth ymyl Foel Fawr, roedd Llamwyr Llŷn yn rhedeg y llwybr yma yn aml;

·         Beth oedd y diweddaraf o ran y llwybr bwriedig o Bwllheli i Garnguwch?

·         Bod tirfeddiannwr un cae o’r lôn yn Madryn yn fodlon i greu llwybr cyhoeddus pe byddai’r Cyngor yn rhoi ffens o amgylch y cae. A fyddai’n bosib bwrw ymlaen gyda’r trafodaethau gyda’r tirfeddiannwr?

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:

·         Bod Sgwad Sbwriel Llanengan yn gwneud gwaith clodwiw a’u bod wedi derbyn cyfraniad ariannol o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy ar gyfer prynu offer;

·         Roedd trefniant rhwng Sgwad Sbwriel Llanengan a’r Gwasanaeth Morwrol o ran casglu’r bagiau sbwriel yn dilyn ymgyrchoedd glanhau. Croesawir ymgyrchoedd o’r fath ond fe anogir eraill i sicrhau bod trefniant o’r fath yn ei le;

·         Gwneir gwaith gwaredu’r Efwr Enfawr yn Saithbont a Llandegwning. Byddai’r gwaith yn parhau yn y flwyddyn bresennol ynghyd â’r flwyddyn nesaf;

·         Gobeithir y gellir creu man pasio wrth gwblhau gwaith adfer wal gerrig gyda’r lôn o bentref Llithfaen at dai Cae’r Nant. Roedd Ymgynghoriaeth Gwynedd yn gyfrifol am y prosiect a gobeithir gwneud y gwaith yn ystod mis Medi a mis Hydref;

·         Bod Swyddog  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

DIWEDDARIAD AR Y GRONFA DATBLYGU CYNALIADWY pdf eicon PDF 69 KB

Cyflwyno adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn a oedd yn manylu ar sefyllfa’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Nodwyd mai £55,000 oedd swm y Gronfa ar ddechrau blwyddyn ariannol 2018/19 ac fe lwyddwyd i ddyrannu’r cyfan.

 

Nodwyd mai £55,000 oedd swm y Gronfa ar ddechrau’r flwyddyn ariannol bresennol gyda’r cyfan eisoes wedi ei glustnodi. Tynnwyd sylw at grynodeb o’r prosiectau a dderbyniodd gyfraniad gan y Gronfa.

 

Adroddwyd ni dderbyniwyd cadarnhad am barhad y Gronfa tu hwnt i 2019/20.

 

Nodwyd bod Thom Hadfield a Geraint Evans o Lywodraeth Cymru wedi ymweld â’r Gwasanaeth AHNE yn ystod mis Mai ac aethpwyd ar ymweliad i Hafod Ceiri, Amgueddfa Forwrol Llŷn, O Ddrws i Ddrws, Tafarn yr Heliwr a Phlas Carmel. Pwysleisiwyd bod yr ymweliad yn ddigwyddiad pwysig i’r Gwasanaeth AHNE gan roi cyfle i gyfleu neges gref fod y Gronfa wir yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau Llŷn.

 

Nododd aelod ei longyfarchiadau am yr ymweliad llwyddiannus gydag amryw o brosiectau llwyddiannus i’w dangos.

 

Holodd aelod a fyddai’n bosib derbyn bathodyn i’w arddangos er mwyn cydnabod cyfraniad y Gronfa tuag at brosiectau yn Nefyn. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn ei bod wedi cynnal gwaith ymchwil o ran y dull gorau ar gyfer arddangos cyfraniad y Gronfa a’i fod yn debygol mai sticeri a gynhyrchir. Nododd y byddai’n anfon rhai at yr aelod.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.

11.

MATERION CENEDLAETHOL pdf eicon PDF 76 KB

Cyflwyno adroddiad Swyddog AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynodd Swyddog AHNE Llŷn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys gwybodaeth bellach am y sefyllfa genedlaethol mewn perthynas â’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru.

 

Nododd ymhellach i’r diweddariad a roddwyd yn y cyfarfod diwethaf ar 20 Tachwedd 2018, yn niwedd 2018 bu newid mawr o ran y swyddogion yn Llywodraeth Cymru a oedd yn gweithio ar faterion y Parciau a’r AHNE (Adran Tir, Natur a Choedwigaeth). Ymhelaethodd bod tîm newydd o swyddogion yn eu lle ac fe gynhaliwyd cyfarfod ym mis Mai 2019 er cyflwyno pawb a chael trafodaeth ar y cynigion oedd wedi eu cyflwyno gan y Partneriaethau AHNE, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gymdeithas Genedlaethol. Nododd bod y cyfarfod yn gyfarfod cychwynnol ond yn adeiladol.

 

Eglurodd, fel cam cychwynnol, bod Llywodraeth Cymru wedi paratoi a chylchredeg papur gyda chynigion ar gyfer sefydlu Partneriaeth Tirlun Cenedlaethol Cymru. Ymhelaethodd y byddai’r sefydliad yma yn anelu i wella cydweithio, rhannu gwybodaeth ac arfer da a chreu cysylltiadau rhwng y tirluniau a sectorau eraill.

 

Amlygodd bod y Gymdeithas dros AHNE (a oedd yn gweithredu dros Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) wedi penodi Rheolwr Datblygu Cymru. Nododd mai pwrpas y swydd fyddai cynorthwyo Partneriaethau AHNE i weithredu blaenoriaethau Cydnerth a Gwerthfawr Llywodraeth Cymru. Nododd bod Ian Rappel, oedd yn arfer gweithio i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, wedi ei benodi i’r swydd hon (am gyfnod o 2 flynedd).

 

Nododd aelod pe byddai'r un statws yn cael ei roi i’r AHNE a’r hyn a oedd gan y Parciau Cenedlaethol, fe fyddai’n rhaid sicrhau bod adnoddau ariannol i wireddu.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan aelod, nododd y Swyddog AHNE Llŷn bod Cynllun Rheoli’r AHNE wedi ei fabwysiadu ac fe fyddai’n gwirio’r fersiwn a oedd ar y wefan. Mewn ymateb i gwestiwn pellach, nododd y gellir rhoi copi papur o’r ddogfen yn y Llyfrgelloedd yn Nefyn a Phwllheli, ynghyd â Siop Gwynedd yn Swyddfeydd y Cyngor ym Mhwllheli.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.