skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfa'r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AA

Cyswllt: Lowri Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2019/2020.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Hefin Underwood yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2019/2020

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Peter Read yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Peter Read ynghyd â David Dewsbury (Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli) ac Alwyn Roberts (Sefydliad y Bad Achub)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys

6.

COFNODION pdf eicon PDF 110 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19 Mawrth 2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Mawrth, 2019, fel rhai cywir.

 

Gwnaed cais i ganlyniadau’r adolygiad hydrograffeg a gynhaliwyd Mawrth 2019 gael ei rannu gyda’r aelodau.

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 94 KB

(a)       Cyflwyno adroddiad Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

(b)       Cyflwyno adroddiad Rheolwr Harbwr a Hafan Pwllheli.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)       Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig a’r Rheolwr Harbwr yn rhoi diweddariad byr i’r Pwyllgor ar faterion yr harbwr am y cyfnod Mawrth 2019 – Hydref 2019. Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Bod archwiliad manwl o gymhorthion mordwyo Pwllheli gan arolygwyr Awdurdod Goleudy Tŷ’r Drindod yn cael ei gynnal Hydref 2019 – nid oedd y swyddogion yn rhagweld problemau

·         Bod datblygiadau megis gorsaf dywydd newydd, gwe gamerâu  ac uwchraddio band eang yn gwella mynediad at wybodaeth amserol i gwsmeriaid

·         Bod y cwmnïau Parcio a Lansio yn lansio nifer o gychod heb iddynt fod yn arddangos sticeri cofrestru PW a PC priodol. Cynigiwyd i gynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol drafod gyda’r cwmnïau a’u hannog i gofrestru

·         Bod cwsmeriaid yr Hafan a’r Harbwr wedi croesawu’r cyfleuster hunanwasanaeth ar gyfer tanwydd disel coch. Er hynny, yn dilyn ymgynghoriad a gweithrediad Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd ar danwydd disel a ddefnyddir mewn cychod pleser preifat a’r penderfyniad na all y DU  gyflenwi Disel Coch, bydd bosib angen i’r Hafan gyflawni cyflenwad disel gwyn yn unig at y dyfodol. Pe bydd unrhyw newid yn digwydd yna fe fydd y swyddogion yn hysbysebu defnyddwyr ar unwaith.

·         Bod gwaith cynnal a chadw Cei’r Gogledd wedi mynd yn anoddach dros y blynyddoedd diwethaf gyda diffyg adnoddau, arian a staff i wneud y gwaith angenrheidiol. Erfyniwyd ar swyddogion i roi sylw priodol i’r ardal a chynnal trafodaethau gyda’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol ynglŷn â rhannu cyfrifoldebau am y gwaith cynnal a chadw

·         Cyfeiriwyd at grynodeb bras o gyllidebau'r Harbwr a’r Hafan a'r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd Medi 2019.

·         Argymell codi 2% ar ffioedd Hafan Pwllheli a’r Harbwr Allanol yn 2020. Derbyniwyd yr argymhelliad.

·         Argymell codi ffioedd lansio dyddiol o £10 i £15.  Amlygwyd nad oedd y ffioedd lansio wedi cynyddu ers dros 18 mlynedd ac y byddai’r cynnydd yma yn hwb i godi incwm. Ategwyd na fyddai unrhyw addasiad i’r ffioedd eraill. Derbyniwyd yr argymhelliad gyda chais i’r swyddogion annog defnyddwyr i gofrestru a defnyddio’r gwasanaeth

·         Nifer cychod sydd yn cael eu storio ar y lan ers rhai blynyddoedd yn ychwanegu at y broblem o storio cychod. Awgrymwyd adolygu’r sefyllfa gan ystyried codi rhent yn ddibynnol ar y cyfnodaros ar y lan

·         Bod system gyfrifo’r Hafan bellach wedi ei ganoli yn adran Incwm Cyngor Gwynedd Caernarfon. O ganlyniad, adroddwyd bod modd diddymu’r tal ychwanegol o 5% am gost angorfa flynyddol yn yr Hafan drwy daliadau ddebyd uniongyrchol

·         Bod gwaith ar orsaf cychod newydd yr RNLI bellach wedi dechrau. Adroddwyd mai Wynne Construction sydd yn gyfrifol am y datblygiad. Ategwyd y byddai hwn yn atyniad newydd a chyffrous i’r ardal.

·         Digwyddiad y British Dragon Association ynghyd a’r Jester Challenge wedi bod yn llwyddiannus.

·         Cafwyd diweddariad ar ddigwyddiadau Plas Heli lle adroddwyd bod 1060 o gystadleuwyr wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau, 8 prif gystadleuaeth wedi ei cynnal, 31 aelod ifanc yn aelodau o’r Gymdeithas Hwylio (4 o’r rhain yn cynrychioli Cymru  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DIWEDDARIAD AR FATERION COD DIOGELWCH A CARTHU pdf eicon PDF 88 KB

I dderbyn adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

 

Cofnod:

·         Cod Morwrol Diogelwch Porthladdoedd

Yn dilyn penderfyniad gan y Pwyllgorau Ymgynghorol bod eitem ar y Cod Diogelwch yn destun eitem agenda pob cyfarfod o’r Pwyllgorau Ymgynghorol cyflwynwyd diweddariad ar y materion cod diogelwch. Eglurwyd bod y Gwasanaeth Morwrol a Pharciau Gwledig yn adolygu’r Cod Diogelwch ar gyfer harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd yn rheolaidd er sicrhau fod holl systemau diogelwch yr harbyrau yn cyd-fynd a gofynion y cod,  disgwyliadau cwsmeriaid a chydymffurfio a gofynion Iechyd a Diogelwch.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod Prif Archwiliwr Arolygaeth Asiantaeth Forwrol a Gwarchodwyr y Glannau wedi cynnal adolygiad dilynol o drefniadau a systemau diogelwch harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd yn Mawrth 2019. Cafwyd cadarnhad bod y Cyngor yn cydymffurfio gyda’r disgwyliadau. Amlygwyd nad oedd unrhyw fater neu achos o bryder wedi ei gyflwyno at sylw’r gwasanaeth gan Aelodau o’r Pwyllgor Harbwr yn gysylltiedig â chyfrifoldebau a dyletswyddau statudol yr Harbwr, hyd yma yn 2019.

 

·         Carthu

Yn dilyn gwahoddiad am dendrau ar 'Gwerthwch i Gymru', adroddwyd bod y gwaith o adnewyddu Grwyn y Crud wedi ei gynnig i gwmni Jennings am oddeutu £225,000. Nodwyd, er cwblhau'r gwaith rhagbaratoi angenrheidiol ar gyfer cyflwyno cais am drwydded forol i Gyfoeth Naturiol Cymru, nid oedd y drwydded wedi ei derbyn (er bod drafft o’r cadarnhad wedi ei dderbyn). Atgoffwyd yr Aelodau ei fod yn hanfodol derbyn Trwydded Forol oherwydd bod ôl troed y grwyn yn ymestyn ymhellach na’i ôl troed presennol. Nodwyd nad oedd bwriad ymestyn y trwyn (byddai hyn yn golygu costau ychwanegol a chyfyngiad amser o hyd at 10 mlynedd). Ategwyd bod y cynllun yn ddyluniad da a’r newyddion yn galonogol. Bydd y grwyn gwreiddiol yn cael ei chwalu a’r grwyn newydd yn cael ei hadeiladu o garreg.

Mewn ymateb i’r cynllun datganwyd siom nad oedd modd strwythuro ac ehangu trwyn y grwyn fel datrysiad delfrydol ac yn unol â’r wir angen. Er yn derbyn bod angen dechrau ar y gwaith, awgrymwyd hefyd ceisio cynllunio ymlaen ar gyfer datrysiad tymor hir. Cynigiwyd cysylltu gyda’r Aelod Cynulliad Dafydd Elis Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth (etholaeth Dwyfor a Meirionnydd) i dynnu sylw at reolau caeth Cyfoeth Naturiol Cymru ynghyd a rhwystrau mewn deddfau a pholisïau amgylcheddol ar gyfer adeiladu grwyn effeithiol. Ategwyd bod yr Harbwr yn adnodd gwerthfawr i ddenu twristiaid i’r ardal ac o fudd economaidd i’r Sir.

 

·         Lagŵn Distyllu

Amlygwyd bod oddeutu 18,000 ciwb o waddod wedi ei garthu o fasn y sianel ar harbwr a bod angen ystyried dulliau amgen o’i waredu cyn dechrau'r ymgyrch nesaf.

 

·         Gwaith Carthu

Bod cwmni ‘Royal Smals’ wedi cwblhau’r gwaith carthu yn y sianel fordwyo ac ym masn yr Hafan/Plas Heli. Adroddwyd mai £140,000 oedd pris y gwaith - y cwmni wedi gweithio mewn dull effeithiol a didrafferth heb amharu ar waith yr harbwr mewn unrhyw ffordd.

 

·         Tomen Dywod

Adroddwyd bod y domen dywod ger ceg yr Harbwr bron yn llawn ac nad oedd modd ymgymryd ag unrhyw waith carthu sylweddol ychwanegol hyd fod y tywod a gro wedi ei waredu o’r safle. Nodwyd bod y Cyngor yn y broses o hysbysebu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADOLYGIAD HAFAN A HARBWR PWLLHELI pdf eicon PDF 52 KB

Derbyn cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned.

 

Cofnod:

Derbyniwyd diweddariad gan yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned ar adolygiad model rheoli ar gyfer yr Harbwr a’r Hafan. Nodwyd, er bod yr amserlen wedi llithro rhyw faint, bod Strategic Leisure bellach wedi cwblhau’r adolygiad a bod y prif argymhellion wedi eu derbyn. Adroddwyd bod yr argymhellion hynny yn cael eu trafod gydag Adrannau Cyfreithiol ac Eiddo'r Cyngor.  Y cam nesaf fydd trefnu cyfarfodydd gyda’r sefydliadau hynny sydd wedi cyfrannu i’r adolygiad er mwyn trafod y prif gasgliadau.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd trefnu cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Ymgynghorol er mwyn cael cyflwyniad o’r prif gasgliadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth a gwneud cais i’r Adran drefnu cyfarfod gydag Aelodau’r Pwyllgor Ymgynghorol i dderbyn prif gasgliadau’r adolygiad

 

10.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

I nodi y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 17 Mawrth 2020

 

Cofnod:

Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 17 Mawrth, 2020.