skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhonwen Jones  01286 679780

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI

Adfyfyrio tawel neu weddi.

Cofnod:

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorwr Paul Rowlinson.

 

2.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019-20.

Cofnod:

Penderfynwyd ail-ethol y Cynghorydd Paul Rowlinson yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20. 

 

3.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019-20.

 

Cofnod:

Penderfynwyd ail-ethol y Cynghorydd Elin Walker Jones yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20.

 

 

4.

CROESO A CHYFLWYNIADAU

Cofnod:

Croesawyd Edward Pari-Jones (Dyneiddiwr) yn aelod newydd i’r cyfarfod, gan y Cadeirydd.

 

5.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Y Cyng. R. Medwyn Hughes, Judith Mary Humphreys, Anest Gray Frazer (Yr Eglwys yng Nghymru), Alwen Watkin (ASCL), Cathryn Davey (UCAC).

6.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Menna Baines fuddiant personol yn eitem wyth (8) - Cynnig Prifysgol Bangor - ‘Re-connect’, gan fod chwaer ei chymar yn gweithio yn yr adran Addysg Prifysgol Bangor.  Oherwydd bod yr eitem yn fater cyffredinol, nid oedd o’r farn ei bod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

7.

COFNODION pdf eicon PDF 98 KB

Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 7fed Dachwedd 2018 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 7fed Dachwedd 2018 fel rhai cywir.

 

 

8.

MATERION YN CODI O’R COFNODION pdf eicon PDF 264 KB

·         Cynnig Prifysgol Bangor ‘Re-connect’.

·         Ymateb llythyr gan Kirsty Williams.

Cofnod:

CYNNIG PRIFYSGOL BANGOR –‘RE-CONNECT’:

Mynegodd y Cynghorydd Menna Baines, ddiddordeb yn y newidiadau sydd ar droed yn yr Adran Addysg yn y Brifysgol ym Mangor. Materion sy’n creu pryder yn y Sir am ddyfodol hyfforddi athrawon sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog yng Ngwynedd. 

 

Ymatebodd y Cadeirydd bod y wybodaeth bellach yn gyhoeddus a bod ymddiswyddiadau athrawon yn dilyn yn brifysgol, bydd hyn yn cael effaith mawr ar Addysg yn gyffredinol, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Nododd y Cadeirydd, mae yn y cyfarfod diwethaf gofynnwyd am ystadegau ar nifer o ddisgyblion yn y Sir sydd yn sefyll TGAU a lefel A, mewn Addysg Grefyddol.  Mae posibilrwydd o ddefnyddio'r ystadegau hyn i fedru monitro a chael gweld y nifer o fyfyrwyr a all symud ymlaen i ddilyn y pwnc i addysgu.

 

Gweler yr ystadegau isod:

 

Coleg Meirion Dwyfor   (Haf 2018)

 

Lefel                                   A                            AS

Pwllheli                                3 (1 Cym)             5 (3 Cym)

Dolgellau                             0                              1 (Saes)

Coleg Menai                       0                              0

 

 

 

Ysgolion Gwynedd  (Haf 2018)

AS

YSGOL Y BERWYN

8

YSGOL FRIARS

13

YSGOL TRYFAN

6

YSGOL DYFFRYN OGWEN

1

YSGOL SYR HUGH OWEN

8

YSGOL BRYNREFAIL

20

YSGOL DYFFRYN NANTLLE

0

Awdurdod

56

 

 

 

 

 

 

 

Lefel A

YSGOL Y BERWYN

8

1 Saes

YSGOL FRIARS

7

7 Saes

YSGOL TRYFAN

9

 

YSGOL DYFFRYN OGWEN

1

 

YSGOL SYR HUGH OWEN

4

 

YSGOL BRYNREFAIL

8

 

YSGOL DYFFRYN NANTLLE

2

 

Awdurdod

39

 

 

 

TGAU

YSGOL Y BERWYN

29

YSGOL FRIARS

112

YSGOL TRYFAN

6

YSGOL DYFFRYN OGWEN

9

YSGOL Y MOELWYN

19

YSGOL BOTWNNOG

11

YSGOL SYR HUGH OWEN

14

YSGOL BRO IDRIS

18

YSGOL ARDUDWY

0

YSGOL BRYNREFAIL

27

YSGOL DYFFRYN NANTLLE

8

YSGOL EIFIONYDD

11

YSGOL GLAN Y MÔR

19

YSGOL UWCHRADD TYWYN

0

Awdurdod

283

TGAU byr

YSGOL Y BERWYN

1

YSGOL FRIARS

71

YSGOL TRYFAN

0

YSGOL DYFFRYN OGWEN

0

YSGOL Y MOELWYN

0

YSGOL BOTWNNOG

0

YSGOL SYR HUGH OWEN

0

YSGOL BRO IDRIS

0

YSGOL ARDUDWY

0

YSGOL BRYNREFAIL

0

YSGOL DYFFRYN NANTLLE

0

YSGOL EIFIONYDD

34

YSGOL GLAN Y MÔR

0

YSGOL UWCHRADD TYWYN

0

Awdurdod

106

 

           

Mynegodd y Cadeirydd i’r Swyddog Adnoddau Addysg Gynorthwyol a Chlerc CYSAG, yrru'r ystadegau hyn i’r Aelodau er gwybodaeth.

 

Nododd y Cadeirydd a’r Cynghorydd Menna Baines, eu bod wedi ymweld â Joshua Andrews, a’i gydweithiwr yn y Brifysgol ym Mangor yn Rhagfyr 2018.   Gwaith yn dilyn ar ddarparu deunyddiau ar hyfforddi cyrsiau i athrawon o fewn y pwnc Addysg Grefyddol, wedi eu cwblhau yn y Gymraeg a Saesneg, roeddynt hefyd ar fin lansio gwefan gyda’r manylion. Maent wedi cysylltu â Phenaethiaid ysgolion uwchradd gyda’r wybodaeth yma, er mwyn i’r deunyddiau gael eu rhannu ymlaen i’r athrawon. 

 

PENDERFYNWYD:

Cadw golwg ar y mater gan adrodd yn nôl i’r pwyllgor yn Nhachwedd 2019.

 

 

YMATEB LLYTHYR KIRSTY WILLIAMS:

Ymateb i lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gyda chyfarwyddion gan y Gweinyddwr Addysg a Chadeirydd y pwyllgor, ynglŷn â phryderon am ddiffyg deunyddiau adolygu yn y Gymraeg ar gyfer y cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol newydd.

 

Sylwadau a godwyd:

Nodwyd gan yr Aelodau bod y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD NEWID CYFANSODDIAD I'R CABINET AR Y 02/04/19 pdf eicon PDF 124 KB

Cofnod:

Codwyd yr ymateb gwreiddiol i lythyr a dderbyniwyd gan y Dyneiddwyr ym Mangor, i ymuno fel aelod/a’u o Grŵp A, ym mhwyllgor CYSAG. 

 

Mae’r angen i CYSAG fod yn gynhwysol, gan gynnwys amrywiaeth ehangach o draddodiadau crefyddol nag sydd gennym ar hyn o bryd, a’r manteision o dderbyn amrywiaeth ehangach yw datblygu cwricwlwm addysg grefyddol sy’n paratoi ein pobl ifanc i fod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd.

 

Argymhelliad:  i’r Adran Addysg a Phwyllgor CYSAG Gwynedd fyddai newid aelodaeth Grŵp A, fel y nodir:

 

·         Grŵp A – Cristnogaeth – cadw yn 6

Cynnig gwahodd un (1), cynrychiolydd o’r credoau Bwdïaeth, Islam, Hindŵaeth, Iddewiaeth, Siciaeth a’r Dyneiddwyr.

·         Grŵp B – cynrychiolaeth Athrawon a Phenaethiaid – cadw yn 5.

·         Grŵp C – Aelodau Etholedig – cadw yn 7.

·         Cyfetholedig - Pwyllgor CYSAG i gadw’r hawl i gyfethol aelodau.

·         3 pleidlais sydd, sef 1 i bob grŵp, nid oes pleidlais gan yr aelodau Cyfetholedig.

 

Nododd y Swyddog Adnoddau Addysg Gynorthwyol a Chlerc CYSAG, yn Ebrill 2019 cynigwyd gwahoddiad drwy ysgrifennu at y credoau i ymestyn croeso iddynt fod yn aelodau o’r pwyllgor, ond ni dderbyniwyd ymateb ganddynt.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dr Elin Walker Jones, gysylltu â Mosg Bangor.

 

Cynigiodd Heledd Jones (Aelod Athrawon) gysylltu â Nathan Abrahms yn y Brifysgol ym Mangor, gyda’r gobaith o greu diddordeb yn y pwyllgor gan dderbyn aelodau Iddewiaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y cynigion.

 

 

10.

CYFLWYNIAD AR Y CWRICWLWM I GYMRU 2022 pdf eicon PDF 2 MB

Gyda sylw penodol i Ddyniaethau ag Addysg Grefyddol yn benodol.

 

Cyflwynir gan:

 

·         Nia Clwyd Jones, Ysgol Bodedern.

·         Helen Bebb, Swyddog Proffesiynol dros dro.

Cofnod:

Cyflwynwyd y drafodaeth ddilynol gan Helen Bebb, (Swyddog Proffesiynol Dros Dro), gan roi mewnbwn ar sut mae Addysg Grefyddol o fewn y cwricwlwm newydd yn gallu bod yn weithredol (paratowyd y cwricwlwm gan yr Athro Donaldson).

 

Mae’r Dyniaethau yn cwmpasu daearyddiaeth, hanes, addysg grefyddol, astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol.  Mae’r disgyblaethau hyn yn rhannu llawer o themâu, cysyniadau a sgiliau trosglwyddadwy cyffredin, ac mae ganddynt eu corff eu hunain o wybodaeth a sgiliau.  Yn yr un modd, gall dysgwyr ac athrawon gyfeirio at ddisgyblaethau ategol eraill, megis y clasuron, economeg, y gyfraith, athroniaeth, gwleidyddiaeth, seicoleg a chymdeithaseg, os a lle y bydd hynny’n briodol.

 

Y Rhesymeg o Blaid Newid:

·         Mae ymreolaeth, hyblygrwydd a chreadigrwydd yn arwain at ddysgu dilys.

·         Mae dull gweithredu rhyngddisgyblaethol yn cefnogi datblygu gwybodaeth a sgiliau.

·         Mae cysylltu profiadau, gwybodaeth a sgiliau yn arwain at gyfleoedd cyfoethog.

·         Mae’n ymgorffori astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol.

·         Mae addysg grefyddol yn y cwricwlwm yn caniatáu ar gyfer cydraddoldeb.

 

Sut mae’n wahanol?

·         Holistaidd a rhyngddisgyblaethol.

·         Disgyblaethau yn fwy gweladwy o Gam gynnydd 4.

·         Mwy o bwysigrwydd ar brofiadau dilys.

·         Canolbwyntio ar ddinasyddiaeth fyd-eang a chymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol.

·         Ymwneud gydag astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol yn gynt mewn addysg.

·         Cydbwysedd rhwng astudiaethau lleol, Cymreig/Prydeinig a byd-eang.

·         Cynnwys addysg grefyddol a’i wneud yn statudol ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed.

 

Nodwyd mai’r elfennau pwysicaf i’w cofio wrth addysgu'r pwnc yw'r 4 diben gan gynnwys y 12 egwyddor addysgol y cwricwlwm i geisio sicrhau bod plant a phobl ifanc yn datblygu:

·         Yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.

·         Yn gyfranwyr mentrus a chreadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.

·         Yn unigolion iach a hyderus sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

·         Yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion Cymru a’r byd.

 

Y 12 Egwyddor addysgol:

 

Pwrpas cyffredinol y cwricwlwm

Ymdrechu’n barhaus:

Herio i anelu’n uchel

Addysgu cyfunol

Datblygu’r meddwl:

Beirniadol a chreadigol

Datblygu ar wybodaeth flaenorol ac ennyn diddordeb

Ystyrlon ac yn ddilys – dod a phopeth yn fyw

Asesu ar gyfer dysgu

Creu cysylltiadau oddi mewn ac ar draws MDaPH

Trawsgwricwlaidd

Dysgu’n annibynnol

Perthynas gadarnhaol

 

Cydweithio

 

Nodwyd bod Ysgol David Hughes wedi treialu'r pwnc Dyniaethau dros y flwyddyn ddiwethaf ar themâu:

 

Addysg Grefyddol o fewn yr unedau:  Gwesty Cymru

  • Cymru yn wlad sy’n gwerthfawrogi ac yn gweld gwerth mewn amrywiaeth.
  • Ymchwilio i’r gwahanol grefyddau.
  • Sut mae crefydd wedi newid yng Nghymru?

 

Themâu yn gysylltiedig â Dyniaethau:

  • Ffoaduriaid - Pam fi?
  • Codi ymwybyddiaeth am y broblem blastig.

 

Asesu ar gyfer Dysgu ar bob uned:

  • Tasgau cyfoethog
  • Meini prawf llwyddiant
  • Adborth effeithiol

Mae yn parhau i fod yn statudol i adrodd ar lefelau diwedd CA3 hyd 2021.

 

PENDERFYNWYD:

Derbyniwyd a diolchwyd am y wybodaeth.

 

11.

YMATEBION AR GYFER YR YMGYNHORIAD I'R CWRICWLWM I GYMRU 2022 pdf eicon PDF 166 KB

Cofnod:

Codwyd pryder gan Aelodau’r pwyllgor ar y posibilrwydd o golli addysg grefyddol o fewn y cwricwlwm newydd, mae angen cyfiawnhad i gyfarch hyn.  Mynegwyd bod angen edrych ar faint o wersi addysg grefyddol sydd yn cael eu cyflwyno yng nghyfnod allweddol 3 a 4 ar hyn o bryd, fel y cawn gadw llygad ar y cydbwysedd a chodi ymwybyddiaeth ar fonitro oriau'r gwersi addysg grefyddol o fewn ysgolion Gwynedd.

 

Mynegwyd bod angen model ar sut i rannu'r gwersi o fewn y pwnc heb golli arbenigedd yr athrawon.

 

Nodwyd nad oes canllawiau cadarn ar addysgu'r pwnc Dyniaethau, rhaid i’r ysgol ddod i benderfyniad ar sut i’w fodelu ac i weithio heb ddiwahaniaeth.

 

Nodwyd bod yn haws cyfarch y pwnc yn yr ysgolion cynradd, ychwanegwyd ei fod yn fwy heriol i’w addysgu yn yr uwchradd, oherwydd newidiadau holistaidd o fewn y ddogfen.

 

Mynegodd Aelod o’r Dyneiddwyr ar faint o sylw sydd ar addysg grefyddol:

·         Oes mwy o bwyslais ar addysgu crefyddau nag digrefydd? 

·         Cwestiynwyd ar adlewyrchiad o fewn cymdeithasau? 

·         Mae angen rhywun i gynrychioli pobl ddigrefydd.

 

Mynegodd y Cadeirydd ar i’r Aelodau ymateb i’r ymgynghoriad ar y canllawiau drafft ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru 2022.  Mae’r cyfnod adborth yn gorffen ar y 19eg Gorffennaf 2019.  Defnyddir y wybodaeth i wneud gwaith mireinio pellach ar y canllawiau drafft, cyn eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2020.

 

PENDERFYNWYD:

·         Cytunwyd ar y pryder o addysgu addysg grefyddol o fewn ysgolion.

·         Angen archwiliad i faint o wersi ac oriau neilltuwyd i addysg grefyddol yng nghyfnod allweddol 3 a 4 yn 2018-19 a 2019-20.  Y Swyddog Adnoddau Addysg Gynorthwyol a Chlerc CYSAG i ddarparu'r archwilio.

 

 

12.

TROSOLWG O'R HUNAN ARFARNIADAU - TYMOR Y GWANWYN 2019 pdf eicon PDF 55 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Swyddog Adnoddau Addysg Gynorthwyol a Chlerc CYSAG. 

 

Arolygiad Estyn sydd yn cyfeirio at y pwnc addysg grefyddol, addoli ar y cyd, datblygiad moesol ac ysbrydol ond hefyd agweddau eraill megis addysg bersonol, ddiwylliannol a chymdeithasol.

 

ENW YSGOL

SYLWADAU ESTYN – Gofal, Cymorth ac arweiniad

Dolbadarn

Rhagorol

Yr Hendre

Da

Bro Llifon

Da

Edmwnd Prys

Da

Llangybi

Da

Ardudwy Harlech

Digonol ac angen gwella

 

 

Darllenwyd paragraff o’r adroddiad ar Ysgol Dolbadarn, arfarnwyd ar elfen gynradd yn rhagorol:

 

Mae’r ysgol yn darparu cyfleoedd lluosog i ddisgyblion leisio’u barn trwy amrywiol fforymau, yn arbennig wrth gyfrannu syniadau am yr hyn y meant am ei ddysgu.  Trwy wneud hyn, mae’r staff yn annog disgyblion i fod yn ddysgwyr cydwybodol sy’n cymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain.  Maent yn rhoi bri ar ddatblygu dysgwyr sy’n ddinasyddion cyfrifol wrth eu hannog i ddatblygu eu hymwybyddiaeth o anghenion eraill a chodi arian at elusennau yn rheolaidd”.

 

Nodir bod elfennau moesol ac ysbrydegol yn ymddangos yn gryf yn yr ysgolion cynradd.

 

Ychwanegodd y Swyddog Adnoddau Addysg Gynorthwyol a Chlerc CYSAG, ei bod yn diolch i’r ddau hunan-arfaniad a dderbyniwyd gan Ysgol Edmwnd Prys a Dolbadarn.

 

 

13.

TROSOLWG O'R HUNAN ARFARNIADAU - TYMOR YR HAF 2019 pdf eicon PDF 53 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid yw adroddiadau'r ysgolion i gyd wedi eu gorffen, ond gweler tair ysgol y cafwyd eu harfarnu.

 

ENW YSGOL

SYLWADAU ESTYN – Gofal, Cymorth ac arweiniad

Y Faenol

Da

Brynaerau

Rhagorol

Maesincla

Rhagorol

 

Wrth gyfarch sylwadau ESTYN, mynegwyd y byddai’r pwyllgor yn rhoi gwahoddiad estynedig i Bennaeth Ysgol Brynaerau i’r cyfarfod nesaf er mwyn ymhelaethu ar y gwaith a gafwyd ei wneud yno.

 

Codwyd Sylwadau ar:

Dair ysgol yr Eglwys yng Nghymru ers Nadolig 2018, mae un ysgol wedi cael arolygiad adran 50 yn barod a’r ddwy arall yn derbyn cyn yr Haf 2019. 

 

PENDERFYNWYD:

Mynegodd y Cadeirydd ei ddiolchiadau am y gwaith trylwyr a gofynnodd i’r Swyddog Adnoddau Addysg Gynorthwyol a Chlerc CYSAG yrru'r gwahoddiad i Bennaeth Brynaerau neu Maesincla i ddod i’r cyfarfod nesaf o CYSAG, gan eu bod wedi derbyn rhagoriaeth gan ESTYN.

 

14.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG 2017-18 DRAFFT pdf eicon PDF 1 MB

I ystyried adroddiad blynyddol drafft ar gyfer 2017/18 cyn cyhoeddi copi terfynol.

Cofnod:

Mynegwyd diolchiadau i Bethan James, y cyn Swyddog Proffesiynol cefnogi CYSAG am ddod â’r adroddiad at ei gilydd, crynhoad o’r pwyllgorau a’r cyflwyniadau a gafwyd y llynedd. 

 

Ychwanegwyd mai'r pwysigrwydd yw darllen y cynllun gweithredu yn y rhaglen ar dudalen 170. 

 

Ymhelaethwyd ar rai o bwyntiau ar y Cwricwlwm Newydd i Gymru 2022 cynllun, gan Helen Bebb, (Swyddog Proffesiynol Dros Dro) gan hefyd dderbyn sylwadau’r Aelodau.

 

·         Sicrhau bod y Peneithiaid, Athrawon, Llywodraethwyr ac Aelodau CYSAG yn wybodus am ofynion y cwricwlwm.

·         Angen codi'r cwestiwn, oes digon o hyfforddiant ar gael i’r athrawon?

·         Llawer o ysgolion wedi colli Peneithiaid Dyniaethau, felly yn sicr nid yw pob athro Dyniaethau yn gallu mynd ar y cyrsiau.  Ar hyn o bryd mae’r newidiadau gan yr Athro Donaldson ar ran staffio yn digwydd yn yr ysgolion, mater i edrych mewn iddo erbyn y pwyllgor nesaf.

·         Ystyried bod dogfen Addysg Grefyddol yn cael Cefnogaeth CYSAG Gwynedd, angen cysylltu â GWE i roi darpariaeth ar hyn?

·         Mae angen Swyddog Proffesiynol ar draws y Gogledd i dderbyn y wybodaeth gywir er mwyn hybu gwybodaeth yr Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

Derbyn yr adroddiad.

 

 

15.

TYNNU SYLW I FATERION ER GWYBODAETH pdf eicon PDF 60 KB

·         Holiadur mynychu sesiwn addoliLlanllechid.

·         Cofnodion CYSAGau Cymru 26/03/19.

·         Ymateb Panel Ymgynghorol Cenedlaethol ar Addysg Grefyddol i Arolwg thematig ESTYN.

·         Cylchlythyr Dyniaethaudiolch i’r aelodau aeth i’r gweithdai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni ychwanegwyd unrhyw sylwadau ar y materion a gyflwynwyd er gwybodaeth.

 

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 13:20 a daeth i ben am 14:55