skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig, Barmouth Community Centre, Jubilee Road, Barmouth, Gwynedd. LL42 1EF

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2019 / 2020

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Gethin Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is gadeirydd ar gyfer 2019 / 2020

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20.

 

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet - Economi), Barry Davies (Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig), Dr John Smith (Grŵp Mynediad Traphont Abermaw), Mr Martin Parouty (Grŵp Defnyddwyr Harbwr Abermaw) a’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Cyngor Gwynedd)

         

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

COFNODION pdf eicon PDF 95 KB

a)    Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhalliwyd 26.03.19 fel rhai cywir

 

b)    Materion yn codi

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26ain Mawrth, 2019, fel rhai cywir.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:

(a)           Digwyddiadau

 

Adroddwyd bod y gweithgareddau a’r digwyddiadau allweddol a gynhaliwyd ar y traeth gan FLAG (Fisheries Local Action Group) wedi bod yn llwyddiannus ac wedi codi ymwybyddiaeth.  Diolchwyd i bawb oedd wedi bod yn rhan o’r trefniadau ac i unrhyw syniadau ar gyfer digwyddiadau i’r dyfodol gael eu hanfon at Alison Kinsey

 

(b)           Ffordd y Compownd

 

Mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf i sefydlu rheolaeth addas ar gyfer y safle, nododd Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned bod adolygiad i orchmynion parcio'r Sir yn cael ei gynnal. Ategodd bod rhestr ddrafft o safleoedd wedi eu hadnabod a bod Ffordd y Compownd wedi ei gynnwys ar y rhestr honno. Amlygwyd bod Grŵp Tasg wedi ei sefydlu i gynorthwyo’r gwasanaeth cludiant gyda’r gwaith o ddadansoddi’r amrediad opsiynau ar gyfer rheoli parcio yn wyneb heriau ariannol incwm o feysydd parcio yn y dyfodol. Cynigiwyd rhoi diweddariad ar waith y Grŵp Tasg yn y cyfarfod nesaf

 

Cymeradwywyd yr adran forwrol am eu gwaith o gynnal a chadw Ffordd y Compownd ond gwarthus yw’r modd y mae defnyddwyr yn defnyddio’r safle. Nodwyd bod pum digwyddiad wedi bod ar y safle, ond diffyg tystiolaeth teledu cylch cyfyng i’r Heddlu gynnal ymchwiliad pellach. Cynigiwyd yr angen i gyfyngu’r defnydd i grŵp penodol o ddefnyddwyr neu ystyried opsiwn i’r dyfodol o dalu am ddefnyddio’r gofod.

 

(c)        Angorfeydd

 

Mewn ymateb i gofnod y cyfarfod diwethaf bod angen ceisio barn defnyddwyr ynglŷn â pham bod perchnogion angorfeydd yn ymadael, nodwyd mai anodd yw darganfod un ystadegyn dros y lleihad mewn defnydd. Ategwyd mai tebyg yw’r sefyllfa ar draws y wlad.

 

(ch)      Cyfleuster penodol ar gyfer beiciau dwr

 

Mewn ymateb i awgrym gan y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf bod angen ystyried dulliau o reoli a darparu cyfleuster penodol ar gyfer angori beiciau dwr, nododd yr harbwr feistr mai anodd fyddai dynodi safle a chyfleuster penodol ar eu cyfer. Y rhwystr pennaf yw’r llaid sydd yn rhwystro’r beiciau rhag angori a gellid ond angori wrth y llithrfa neu’r pontŵn ar adegau pan mae’r llanw yn caniatáu hynny. Yr ymddygiad a welir ar hyn o bryd yw gwthio’r beic ar y traeth a’i barcio yno. Amlygwyd bod y beiciau dwr yn cael eu defnyddio gan amlaf fel modd hwylus o gyrraedd y dref o feysydd carafanau cyfagos. Ategwyd bod modd ffurfio llwyfan glanio tu hwnt i’r morglawdd ond ni fyddai hyn mewn gwirionedd yn gyfleus. Nodwyd bod ymdrechion wedi ei gwneud i geisio hwyluso’r ddarpariaeth ond dim opsiynau amgen oni bai bod modd carthu’r harbwr.

 

Adroddwyd nad oedd beiciau dwr yn dod ag unrhyw incwm i’r harbwr a phetai beiciau dwr yn cael eu lansio oddi ar lithrfa byddai’r incwm yn mynd tuag at gyllid traethau. Nodwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 69 KB

a)    I ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau

 

b)    I ystyried adroddiad yr Harbwr Feistr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau

                        Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno                       ar faterion yr Harbwr am y cyfnod rhwng Mawrth 2019 a Hydref 2019.

 

Angorfeydd

 

Mewn ymateb i gofnod y cyfarfod diwethaf bod angen ceisio barn defnyddwyr ynglŷn â pham bod perchnogion angorfeydd yn ymadael, nodwyd mai anodd yw darganfod un ystadegyn dros y lleihad mewn defnydd. Ategwyd mai tebyg yw’r sefyllfa ar draws y wlad

 

                 Cod Diogelwch

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod yr Asiantaeth Morwrol a Gwylwyr y Glannau wedi cynnal archwiliad ym Mawrth 2019 ar drefniadau penodol a system Harbyrau Bwrdeistrefol Gwynedd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a’r Cod Diogelwch Morol.  Yn dilyn ymweliad pellach i weld sut roedd yr ychwanegiadau a awgrymwyd wedi ei gweithredu, adroddwyd bod Capten Quader (archwilydd o’r Asiantaeth) yn fodlon bod y Gwasanaeth yn cydymffurfio â darpariaethau’r Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd.

 

Materion Staffio

 

Adroddwyd bod penderfyniad wedi ei wneud i estyn cyfnod cyflogaeth dymhorol Cymhorthydd Harbwr Abermaw tan ddiwedd Rhagfyr 2019 er mwyn sicrhau cefnogaeth i’r harbwr feistr ynghyd â chysondeb gwasanaeth ar draws y Sir. Ategwyd mai’r bwriad yw pennu’r swydd yn un barhaol.

 

Materion Ariannol

 

Cyflwynwyd cyllideb yr harbwr i amlygu’r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd Medi 2019. Amcangyfrifwyd gorwariant o £11,807. Amlygwyd bod bwriad o godi ffioedd lansio dyddiol o £10 i £15

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gwariant ar ‘offer a chelfi’, mynegwyd nad yw’r gwariant yn wastraffus, bod popeth sydd yn ymwneud a chynnal a chadw, offer ac offer llaw yn cael ei gynnwys yn y gyllideb yma. Ategwyd nad yw disgwyliad oes yr offer yn hir oherwydd yr amodau cras. Gofynnwyd hefyd os oedd y gyllideb yn cael ei gosod yn gywir ac addas i’r deilliannau. Awgrymwyd y dylai’r Cynghorwyr sydd ar y Pwyllgor gynnig mewnbwn i osod y gyllideb.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

·         Sut mae’r codiad mewn ffioedd yn cymharu ag awdurdodau eraill?

·         Er y codiad mewn prisiau, nid yw bob amser yn bosibl lansio - hyn yn dibynnu ar y llanw a'r lleoliad lansio penodol

·         Bod cynnydd o 50% yn un cam mawr

Bydd y codiad yn effeithio bob defnyddwyr yr harbwr ac nid y rhai hynny sydd angen eu targedu e.e., defnyddwyr beiciau dwr

·         Bod angen annog a hyrwyddo defnyddwyr i brynu tocyn blynyddol sydd yn fwy o werth am arian

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned o ganlyniad i’r incwm yn lleihau nid oedd modd cynyddu’r gyllideb. Ategodd yr angen i hyrwyddo ac annog mwy o ddefnydd a bod codi incwm yn sicrhau parhad gwasanaeth

              

(b)          Adroddiad yr Harbwr Feistr

 

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Harbwr Feistr yn manylu ar faterion mordwyo, gweithredol a chynnal a chadw. Tynnwyd sylw at y materion canlynol:

·         Bod buddsoddiad sylweddol wedi ei wneud i uwchraddio’r bwiau mordwyo yn y sianel

·         Bod cynllun gwaith gweithredu a gwaith cynnal a chadw wedi ei adnabod ar gyfer y gaeaf

·         Bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL

Grwp Defnyddwyr Harbwr Abermaw

 

·         Cynllun Datblygu Harbwr Abermaw

·         Llaid / cronni tywod / Mesurau lliniaru

·         Grisiau cyhoeddus

·         Railtrack a Thraphont Abermaw

 

Cyngor Tref Abermaw

 

·         Symudiad Tywod

·         Morglawdd

·         Carthu

 

Clwb Hwylio Merioneth

 

·         Tywod ger y Baddondy

 

Cofnod:

Amlygwyd dymuniad i lunio cynllun datblygu. Derbyniwyd nad oedd cyllideb i wireddu a gweithredu’r cynllun, ond teimlwyd bod angen cael cynllun yn ei le i osod cyfeiriad a chynllunio ymlaen i’r dyfodol. Yn ddelfrydol, dymunwyd cyngor ar y gwaith y gellid ei gyflawni a’r deddfwriaethau perthnasol sydd angen eu hystyried i garthu'r harbwr .
Penderfynwyd gofyn i’r Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned sefydlu Grŵp Tasg i ffurfio ‘map meddwlar yr hyn sy’n ddymunol gyda gwahoddiad i swyddog o Ymgynghoriaeth Gwynedd fynychu

·         Pwysleisiwyd yr angen i ymgysylltu gyda’r cyhoedd a rhoi dealltwriaeth iddynt o’r hyn gall ei wneud ar hyn na all ei wneud.

·         Etholwyd John Smith, Rob Triggs, Alison Kinsey, Peter Appleton, Wendy Ponsford yn aelodau o’r Grŵp Tasg ynghyd a’r swyddogion allweddol.

·         Cam cyntaf y grŵp fyddai sefydlu sylfaen i gynllun datblygu gan roi ystyriaeth briodol i’r Fframwaith Cod Diogelwch Morwrol.

·         Yr ail gam fydd cyflwyno’r cynllun datblygu i Cyfoeth Naturiol Cymru fel bod modd iddynt gyfrannu ac ymateb i’r cynllun.

 

(a)              Grisiau Cyhoeddus


Amlygwyd bod Swyddog o’r Uned Gwarchod yr Arfordir wedi ei alw i edrych ar sylfaen y grisiau a bod yr Uned wedi derbyn mai eu cyfrifoldeb hwy yw'r sylfaen

 

(b)             Railtrack a Thraphont Abermaw


Bod cais am sicrwydd nad yw’r bocsys gabian gerllaw'r rheilffordd yn cael eu codi’n uwch cyn dechrau’r cam nesaf o waith. Nodwyd bod negeseuon cymysg yn cael eu hadrodd. Cadarnhawyd mai Cyfoeth Naturiol Cymru sydd bellach yn gyfrifol am y gwaith asesu  

 

(ch)        Symudiad Tywod

 

Yn dilyn y gwaith clirio a wnaed ym Mawrth 2019 ar glirio tywod gofynnwyd am adborth o ran cost ac effaith. Eglurwyd y byddai modd cynnwys yr eitem ar raglen Mawrth 2020 - byddai hyn yn gyfle i gael adborth o flwyddyn lawn a gwir effaith y gwaith.

 

(c)              Morglawdd

 

Gwnaed sylw bod angen cadw'r morglawdd yn glir o dywod er mwyn sicrhau mynediad i ddefnyddwyr. Amlygwyd bod offer ar gael yn iard Priffyrdd a Bwrdeistrefol fyddai’n addas ar gyfer y gwaith clirio.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·         Awgrym i ail ymgynnull y Grŵp Tywod

·         Angen amlygu’r pryderon i Bennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol

·         Bod y gymuned leol yn barod i gynorthwyo gyda’r gwaith clirio

·         Bod y morglawdd yn ased gwerthfawr i’r dref  - yn galluogi mynediad i ddefnyddwyr cadair olwyn, teuluoedd gyda phramiau ayyb

·         Angen i’r morglawdd fod yn glir drwy’r flwyddyn

·         Gwahodd Rheolwr Twristiaeth a Marchnata i’r cyfarfod ynghyd ag aelodau o’r Cyngor Tref

·         Cynnal trafodaeth gyda’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol ynglŷn â defnyddio’r offer

 

(dd)        Tywod ger y baddondy

 

Amlygywd bod y tywod gerllaw y baddondy bellach yn ffurfio twyn. Cadarnhaodd yr harbwr feistr y byddai yn ymdrin a’r sefyllfa

 

8.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar 24ain Mawrth 2020

Cofnod:

Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 24ain Mawrth, 2020.