Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig, Barmouth Community Centre, Jubilee Road, Barmouth, Gwynedd. LL42 1EF

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Louise Hughes (Cyngor Gwynedd), Y Cynghorydd Ioan Ceredig Thomas (Aelod Cabinet - Economi) ac Arthur Francis Jones (Uwch Swyddog Harbyrau)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

COFNODION pdf eicon PDF 92 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 23.10.2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Hydref, 2019 yn ddarostyngedig i gywiro nodyn (d) clirio tywod tud 5 o ‘symud tywod’ i ‘symud twyni tywod’ a hefyd cywiro nodyn 5 diogelwch harbwr tud 6 o ‘cewyll ac offer pysgota yn Aberdyfi’ i ‘cewyll ac offer pysgota yn Abermaw’.

 

Cynnig ac eiliwyd bod ‘materion yn codi o’r cofnodion’ yn eitem benodol ar y rhaglen.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:

(a)           Digwyddiadau

Dyddiadau Motorcross wedi ei cadarnhau

(b)          Ffonau Gwasanaeth Brys Y Friog
   

Yn dilyn adolygiad ar draws yr arfordir, amlygwyd bod y defnydd o’r ffonau brys yn isel. Amlygodd cynrychiolydd Cyngor Cymuned Arthog y byddai’r Cyngor Cymuned yn dymuno i’r ffonau gael eu cynnal. Awgrymwyd cynnal trafodaethau gyda’r Cyngor Cymuned ynglŷn â’r posibilrwydd o drosglwyddo’r cyfrifoldeb am y ffonau iddynt.

(c)           Difrod i reiliau tu allan i Adeilad Dora

 

Adroddwyd bod difrod pellach wedi ei wneud i’r rheiliau tu allan i Adeilad Dora ac er mai Cyngor Gwynedd sydd yn ysgwyddo’r baich am dalu am y difrod nodwyd bod y costau wedi eu hadennill yn llawn.

  

(ch)        Ffordd y Compownd

 

Yn dilyn awgrym yn y cyfarfod diwethaf i osod gorchymyn traffig ar dir Ffordd y Compownd, amlygodd Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod trefniadau gorchmynion tir yn cael eu hadolygu ar draws Gwynedd gyda’r darn yma yn rhan o gynllun ehangach. Ategodd bod bwriad dechrau proses o ymgynghori yn ystod Haf 2019. Mewn ymateb, amlygwyd y posibilrwydd o logi neu lesu’r tir yn hytrach na chreu maes parcio swyddogol. Cynigiwyd yr angen i sefydlu rheolaeth addas ar gyfer y safle.

4.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLI'R HARBWR pdf eicon PDF 66 KB

I ysytried adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)          Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbwr

 

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad byr i’r Pwyllgor ar faterion yr harbwr am y cyfnod mis Hydref 2018 - Mawrth 2019.

 

Yn dilyn adolygiad o gyfrifoldebau’r Aelodau Cabinet ym Mawrth 2019, adroddwyd mai'r Cynghorydd Gareth Thomas oedd â chyfrifoldeb dros faes Datblygu'r Economi a Chymuned. Diolchwyd i’r Cynghorydd Ioan Thomas, cyn aelod Cabinet dros Ddatblygu’r Economi a Chymuned, am ei gefnogaeth a’i ymrwymiad i’r gwasanaeth morwrol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag aelodaeth a phresenoldeb rhai aelodau o’r Pwyllgor, amlygwyd mai cyfrifoldeb yr Aelod Cabinet yw aelodaeth y Pwyllgor ac y byddai unrhyw newid i aelodaeth neu gyfansoddiad y Pwyllgor yn cael ei benderfynu gan yr Aelod Cabinet.

Awgrymwyd gohebu gyda’r holl gymdeithasau presennol i geisio cynrychiolaeth cyn ymateb i geisiadau newydd. Mewn ymateb i aelodaeth y cylch gorchwyl lle nodi’r y gellid caelhyd at 4 aelod lleol o Gyngor Gwynedd’, awgrymwyd rhoi gwahoddiad i’r aelod sydd yn cynrychioli Penmaen-pwl.

 

Angorfeydd

 

Yn ymateb i gofnod mis Hydref ynglŷn â lleihad yn y nifer angorfeydd, adroddwyd bod bwriad ar y pryd i adolygu pam bod perchnogion angorfeydd wedi ymadael. Cyfaddefwyd nad oedd hyn wedi ei weithredu ond bod dymuniad i ymgysylltu i geisio barn defnyddwyr. Gwnaed cais i’r swyddogion holi’r defnyddwyr am y sefyllfa ar hyd yr arfordir,

 

Awgrymwyd bod angen ymateb i’r newid mewn ymddygiad gan ystyried marchnata angorfeydd ar gyfer beiciau dŵr (jet-skis). Amlygwyd y byddai defnyddwyr, yn debygol o ddefnyddio angoriad sefydlog petai un ar gael, ond yn y cyfamser yn angori dros dro gyda chychod eraill. Gyda digwyddiadau sydd yn cael eu trefnu gyda mewnbwn y Swyddfa Harbwr e.e., The Blackrock Blast, nodwyd bod modd hwyluso’r ddarpariaeth, ond nad oedd modd rheoli unigolion. Os nad yw pobl yn ymweld â’r swyddfa, anodd iawn yw rheoli sefyllfa. I gyfarch hyn, awgrymwyd yr angen i ystyried dulliau o reoli hyn yn well a darparu cyfleuster penodol ar gyfer beiciau dŵr. Anogwyd aelodau i drafod eu syniadau gyda’r Swyddog Harbwr.

 

Archwiliad Cod Diogelwch Morol.

 

Adroddwyd bod archwilwyr yr Asiantaeth Morwrol a Gwylwyr y Glannau wedi cynnal archwiliad (17-19.09.19) ar drefniadau diogelwch penodol a systemau Harbyrau Bwrdeistrefol Gwynedd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a’r Côd Diogelwch Morol. Amlygwyd bod cyfrifoldeb ar bob aelod o’r Pwyllgor i ymateb i faterion y côd ac i’r gwasanaeth dderbyn sylwadau a barn yr aelodau am addasrwydd y côd.

 

Yn dilyn yr adolygiad derbyniwyd adroddiad oedd yn awgrymu gwelliannau a gafodd ei gylchredeg i aelodau’r Pwyllgor. Cafwyd dilyniant i’r ymweliad cychwynnol yn ystod mis Mawrth 2019 ac fe ddisgwylir adroddiad ysgrifenedig ar gasgliadau’r ail ymweliad.

 

Un mater a godwyd oedd yr angen am gytundeb i reoli’r glanfeydd ar gyfer yr ysgraff. Nodwyd yr angen i lunio cynllun drafft erbyn Hydref 2019 gyda bwriad o gael cytundeb terfynol yn ei le erbyn Hydref 2020 yn dilyn cyfnod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

DYDDIAD CYFARFOD NESAF

I nodi cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar 22ain o Hydref 2019

 

Cofnod:

   Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 22ain Hydref, 2019.

 

Atgoffwyd yr Aelodau y gellid cyfeirio neu adrodd ar unrhyw faterion yn uniongyrchol i’r Harbwr feistr gydag anogaeth i unrhyw broblem gael ei gyfeirio drwy e-bost.