skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Bodlondeb, Ffordd Bangor, Conwy, LL32 8DU

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

David Jones (Coleg Cambria), Dafydd Evans (Grŵp Llandrillo Menai), Maria Hinfelaar (Prifysgol Glyndŵr), Judith Greenhalgh (Cyngor Dinbych) a Sasha Davies (Bwrdd Cyflawni Busnes)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol

3.

COFNODION pdf eicon PDF 69 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21.6.19 a 28.6.19 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd 21 Mehefin 2019 a 28 Mehefin 2019 fel rhai cywir.

 

4.

DIWEDDARIAD AR Y RHAGLEN WAITH A COFRESTR RISG Y BUE pdf eicon PDF 175 KB

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Adolygwyd, a chymeradwywyd statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith yn ddarostyngedig ar ddiweddaru’r gweithredoedd hynny sydd yn llithro mewn coch.

 

Adolygwyd cynnwys y Gofrestr Risg a chymeradwyo’r meini prawf asesu ar gyfer pob tasg. 

 

Cytunwyd y dylid ychwanegu ‘Swyddfa Rhaglen’ i’r gofrestr.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol.

 

PENDERFYNWYD

·         Adolygu, a chymeradwyo statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith yn ddarostyngedig ar ddiweddaru’r gweithredoedd hynny sydd yn llithro mewn coch

·         Adolygu cynnwys y Gofrestr Risg a chymeradwyo’r meini prawf asesu ar gyfer pob tasg.

·         Cytuno y dylid ychwanegu ‘Swyddfa Rhaglen’ i’r gofrestr.

 

RHESWM DROS Y PENDERFYNIAD

 

Diweddaru cynnydd y tasgau ar y Rhaglen Waith ynghyd a chyflwyno fersiwn diweddaraf y Gofrestr Risg

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan dynnu sylw at y materion hynny oedd wedi eu cwblhau yn y rhaglen waith ynghyd a’r nifer hynny sydd angen sylw yn y misoedd nesaf. Amlygwyd bod tasgau ac amserlen wedi ei ddynodi ar gyfer swyddogion penodol ynghyd a statws RAG. Cyfeiriwyd at y gofrestr risg oedd wedi ei hatodi gyda’r adroddiad ac atgoffwyd yr aelodau bod y ddogfen yn cael ei hadolygu yn fisol gan y Grŵp Swyddogion Gweithredol.

 

Grŵp Cyflawni Busnes

Rhoddwyd diweddariad gan Askar Sheibani (Is-gadeirydd Grŵp Cyflawni Busnes) ar ei weledigaeth i’r Grŵp gryfhau eu perthynas gyda’r Bwrdd fel bod modd i’r Bwrdd fanteisio ar wybodaeth ac arbenigedd y Sector Breifat i ddenu cyfoeth, targedu mwy o gyfraniadau a chynhyrchu busnes i Ogledd Cymru. Ategodd yr angen i gydweithio gan geisio’r fargen orau.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

-       Bod y sector breifat yn rhan sylfaenol o’r cynllun

-       Y dylai cofnodion y grŵp fod yn eitem safonol ar raglen y Bwrdd

-       Y byddai gwaith y Bwrdd yn cael ei graffu gyda negeseuon clir ac argymhellion uniongyrchol

-       Gwahodd Aelodau o’r Bwrdd i fynychu / annerch mewn cyfarfodydd

-       Cynnal cyfarfodydd ar y cyd er mwyn adeiladu’r ymdeimlad o dîm

-       Ymgynghori gyda’r Grŵp cyn hysbysu am Reolwyr Prosiect

-       Bod angen i ddiwylliant y sector breifat a’r sector gyhoeddus gyfuno

-       Bod angen cynnal deialog agored, cyfathrebu’n glir a rhannu gwybodaeth yn effeithiol

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag addasu cylch gorchwyl y Grŵp Cyflawni Busnes i adlewyrchu’r sylwadau uchod, awgrymodd y Swyddog Monitro y gellid adolygu’r cylch gorchwyl fel bod modd sefydlu trefn fyddai yn gweithio i bawb.

 

Penodi Cadeirydd Bwrdd Cyflawni Busnes

Adroddwyd bod proses apwyntio mewn lle ynghyd a swydd ddisgrifiad (drafft) ar gyfer Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes. Amlygwyd yr angen i ymgynghori gyda’r ddwy lywodraeth ynglŷn â’r penodiad.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Mai rôl annibynnol fydd gan y Cadeirydd

-       Bod angen i’r person fod ag angerdd am yr ardal, yn adnabyddus, yn arweinydd a  chyda chysylltiadau da

 

Mewn ymateb i sylw y byddai’r penodiad yn ‘benodiad cyhoeddus’ awgrymwyd yr angen i sicrhau dealltwriaeth o’r cyfyngiadau ariannol yn y trafodaethau a bod trefn arfarnu apwyntiadau llywodraeth leol wedi ei dilyn.

 

Swyddfa Rhaglen

Amlygodd Dilwyn Williams y byddai hysbysiadau ar gyfer rhai swyddi yn y swyddfa rhaglen yn cael eu hysbysebu yn ystod yr Haf. Adroddwyd y byddai swydd Cyfarwyddwr Rhaglen yn cael ei hail hysbysebu ar y 29ain o Orffennaf gyda’r dyddiad cau ar y 23ain o Awst.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYLLIDEB REFENIW 2019/20 - ADOLYGIAD CHWARTER CYNTAF (Mehefin 2019) pdf eicon PDF 532 KB

Adroddiad gan Dafydd L Edwards, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd a derbyniwyd Adolygiad Chwarter Cyntaf y Cydbwyllgor ar gyfer 2019/20.

 

Derbyniwyd cadarnhad y Cydbwyllgor i ddefnyddio’r Gronfa Wrth Gefn (oedd wedi ei glustnodi ar gyfer y diben hwn) i ariannu unrhyw ddiffyg incwm yn 2019/20

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dafydd Edwards, Swyddog Adran 151

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi a derbyn yr Adolygiad Chwarter Cyntaf y Cydbwyllgor ar gyfer 2019/20.

 

Derbyn cadarnhad y Cydbwyllgor i ddefnyddio’r Gronfa Wrth Gefn (oedd wedi ei glustnodi ar gyfer y diben hwn) i ariannu unrhyw ddiffyg incwm yn 2019/20

 

RHESWM DROS Y PENDERFYNIAD

 

Bod angen nodi gwariant a ragwelir ar gynllunio prosiectau (a geisir yn allanol a staff) yn 2019/20, tra bod cyfalafu’r costau prosiect hynny ddim yn bosib tan 2020/21, a’r gorwariant a ragwelir  ar gostau recriwtio

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad  er mwyn darparu manylion y gwariant a'r incwm gwirioneddol ar gyfer chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2019/20 ynghyd a rhagamcaniad o alldro blwyddyn lawn yn erbyn y gyllideb flynyddol.

 

Nododd Swyddog Adran 151 bod y drefn ariannol wedi bod yn un heriol a’r gyllideb ar gyfer eleni wedi ei baratoi gyda’r wybodaeth oedd ar gael ar y pryd. Ategodd bod rhagdybiaethau yn parhau gan nad oedd cadarnhad o’r grant ESF ac felly arian yn cael ei symud rhwng cyllidebau i adlewyrchu penderfyniadau staffio. Er hynny, nid oedd yn rhagweld pryderon amlwg ar y gorwel.

 

Cyfeiriwyd at adroddiad strwythur y swyddfa rhaglen a gymeradwywyd yng nghyfarfod y Bwrdd Uchelgais ym Mehefin 2019 ar y sail bod y strwythur yn fforddiadwy o fewn y cyfraniadau ariannol craidd. Eglurwyd y gellid gweithredu hyn drwy ddefnyddio’r cyfraniadau craidd cytunedig ynghyd a reserfau a gariwyd ymlaen. Ategwyd y byddai fforddiadwyedd ar gyfer 20/21 yn ddibynnol ar fargen lwyddiannus a bod cyfalafu’r costau staff yn ymwneud a phrosiectau.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chronfa wrth gefn ar gyfer diswyddiadau, amlygwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal ac y byddai’r mater  yn cael ei ystyried wrth gynllunio ymlaen a gosod cyllideb tair blynedd

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-       Angen adeiladu reserfau

-       Angen anfonebu Cynghorau am gyfraniadau

-       Wrth osod y gyllideb rhaid amlinellu bod y cyfraniadau yn parhau'r un fath

-       Diolchwyd am y gwaith

 

 

6.

CAIS ADEILADU CAPASITI SEFYDLIADOL ESF pdf eicon PDF 196 KB

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol

 

Penderfyniad:

Cytunwyd y byddai’r Grŵp Swyddogion Gweithredol yn,

·         parhau i ddatblygu Cynllun Busnes i WEFO (Welsh European Funding Office)

     gefnogi eu cais am arian o’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd

·         sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen i arwain ar ddatblygu’r Cynllun Busnes

·         cyflwyno adroddiadau chwarterol ar y cynnydd i’r Bwrdd Uchelgais

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol

 

          PENDERFYNWYD y byddai’r Grŵp Swyddogion Gweithredol yn,

·         parhau i ddatblygu Cynllun Busnes i WEFO (Welsh European Funding Office) gefnogi eu cais am arian o’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd

·         sefydlu Grŵp Tasg a Gorffen i arwain ar ddatblygu’r Cynllun Busnes

·         cyflwyno adroddiadau chwarterol ar y cynnydd i’r Bwrdd Uchelgais

 

RHESWM DROS Y PENDERFYNIAD

 

Byddai cyllid o’r gronfa yn cyfrannu at ariannu swyddi o fewn y Swyddfa Rhaglen hyd at fis Mehefin 2023, yn ôl weithredol i fis Mehefin 2018

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd adroddiad yn manylu ar  waith y Grŵp Swyddogion Gweithredol ar gais Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd i ddylunio ac adeiladu’r capasiti angenrheidiol ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Economaidd Gogledd Cymru. Y bwriad fydd derbyn £3m fyddai’n caniatáu ariannu swyddi o fewn y Swyddfa Rhaglen hyd at fis Mehefin 2023. Byddai hyn yn golygu swyddfa rhaglen hunangynhaliol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â manylder ariannu swyddi'r swyddfa rhaglen nodwyd mai amcangyfrifon oedd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac y byddai manylion llawn yn cael eu cynnwys yn y cynllun busnes.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag amserlen cyflwyno cais, nodwyd bod bwriad cyflwyno cais erbyn diwedd mis Hydref 2019.

 

Cadarnhawyd, pe byddai Prydain yn ymadael a’r Under Ewropeiaidd ddiwedd Hydref bydd Llywodraeth Prydain yn cyflenwi’r arian.

 

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Mae’r adroddiad ynglyn a drafft dogfen Pennawdau Telerau Drafft Bargen Twf Gogledd Cymru sydd wedi ei ddynodi yn ddogfen gyfrinachol gan Adran y Llywodraeth ar gyfer darpariaethau Adran 100 (A)(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny mae’n ofynnol eithrio’r  adroddiad rhag ei  chyhoeddi gan y byddai yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol.

 

Cofnod:

Penderfynwyd cau allan y wasg a’r cyhoedd oherwydd bod yr adroddiad ynglŷn â drafft dogfen Penawdau Telerau Drafft Bargen Twf Gogledd Cymru sydd wedi ei ddynodi yn ddogfen gyfrinachol gan Adran y Llywodraeth ar gyfer darpariaethau Adran 100 (A)(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny mae’n ofynnol eithrio’r adroddiad rhag ei  chyhoeddi gan y byddai yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol.

 

 

 

8.

PENAWDAU'R TELERAU

I ystyried yr adroddiad

 

(copi ar wahân i’r Aelodau yn unig)

Penderfyniad:

Bod Bwrdd Uchelgais Economaidd yn croesawu Drafft y Penawdau Telerau fel arwydd cadarnhaol o ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i Gynllun Twf Gogledd Cymru, gan edrych ymlaen at gau’r Penawdau Telerau cyn 6.9.19

 

Cofnod:

 

 

         

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol

 

PENDERFYNWYD

Bod Bwrdd Uchelgais Economaidd yn croesawu Drafft y Penawdau Telerau fel arwydd cadarnhaol o ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i Gynllun Twf Gogledd Cymru, gan edrych ymlaen at gau’r Penawdau Telerau cyn 6.9.19

 

RHESWM DROS Y PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo penawdau telerau ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru