skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Freya H Bentham, Judith Humphreys, Keith Jones, Mair Rowlands a Gareth Williams. Anest Gray Frazer (yr Eglwys yng Nghymru). Dilwyn Ellis Hughes (UCAC)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

CYNLLUN TWF AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU: Y DDOGFEN GYNNIG pdf eicon PDF 27 KB

Craffu’r adroddiad sydd i’w gyflwyno i’r Cabinet ar 16 Hydref, 2018  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd y Ddogfen Gynnig gan yr Arweinydd a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol : Cynllun Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru, cyn i’r Cabinet ei ystyried yn ei gyfarfod ar 16 Hydref 2018 ac yna yng nghyfarfod arbennig o'r Cyngor Llawn ar 25ain Hydref, 2018.

 

Ymhelaethodd yr Arweinydd, a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Nodwyd prif gasgliadau’r drafodaeth, gan gynnwys sylwadau a risgiau ychwanegol a adnabuwyd  fel a ganlyn :

 

 

 

Risgiau Ariannol

 

·     Mae’n allweddol parhau i gynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru er mwyn lleihau’r risgiau ariannol - yn arbennig y risgiau perthnasol i’r llif ariannol a’r risg o golli grantiau os nad oes rheolaeth ariannol gadarn yn ei le

·     Argymhellir y dylid parhau i drafod gyda Llywodraeth Cymru i geisio cadw’r dreth annomestig (neu elfen o leiaf) fel modd o leihau’r costau i awdurdodau lleol

·     Fodd bynnag, rhaid bod yn effro i’r risg ariannol ddisgyn ar Awdurdodau Lleol a pharatoi ar gyfer hynny trwy ystyried y proffil prosiectau a gwariant  

 

Risgiau Llywodraethu

·     Nodwyd y risg petai un o Bartneriaid y Cynllun yn tynnu’n ôl, ond cadarnhawyd y byddai hynny yn cael ei reoli gan y Cytundeb Partneriaeth sy’n cael ei ddatblygu yn gyfredol

·     Nodwyd fod angen eglurder ynghylch y Fframwaith Llywodraethu i’r dyfodol, gyda’r Fframwaith Llywodraethu yn sicrhau trefn atebolrwydd clir yr Arweinyddion i’r Cynghorau unigol

 

      Risgiau Gwleidyddol

·     Nodwyd y risg i endid Cenedlaethol Cymru trwy ddatblygiad y Cynllun 

 

      Risgiau Prosiectau

·     Bydd angen ceisio sicrhau fod busnesau bychain ac amaeth yn cael budd o’r Cynllun yn ogystal â’r cwmnïau mawr.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Danfon cadarnhad at y Cabinet fod y Pwyllgor Craffu yn gefnogol i’r cyfeiriad strategol ac yn dangos eu cefnogaeth i fwrw ymlaen gyda’r Ddogfen Gynnig.