Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Nodyn: WEDI EI AILDREFNU O 25 MEDI 2018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Cyng. W Gareth Roberts ac Aled
Davies (Pennaeth yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLES PDF 330 KB Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr. W Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Morwena Edwards PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ar y cyfan
fod perfformiad yr adran yn gadarnhaol. Ychwanegwyd fod her yr adran yn un
uchelgeisiol a phwysleisiwyd nad oedd modd i’r adran wireddu eu heriau heb
gefnogaeth eu partneriaid. Pwysleisiwyd mai beth sydd yn bwysig i’r unigolyn
sydd yn gyrru’r gwasanaeth a bellach mae’n brif fesurydd yr adran. Pwysleisiwyd
fod hwn yn fesurydd newydd ond nad yw’n hawdd cymharu perfformiad gyda’r
blynyddoedd a fu. Tynnwyd sylw at Wydnwch Cymunedol gan nodi
fod pum tîm yn gweithio yn drawsadrannol ac yn draws-sefydliad sydd yn ei
gwneud yn haws i bobl barhau i fyw yn annibynnol yn eu cymunedau. Nodwyd mai'r
prif waith yw trosglwyddo pobl i’r gymuned yn dilyn cyfnod mewn ysbytai.
Ychwanegwyd mai prif broblem i’r maes yw cael pecynnau gofal oherwydd diffyg
capasiti mewn cartrefi a recriwtio staff. Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud yn edrych
ar y gweithlu a recriwtio o fewn y maes Gofal. Ychwanegwyd fod darn o waith yn
cael ei gomisiynu er mwyn gwella dealltwriaeth yr adran am broblemau recriwtio.
Ategwyd fod prosiect gofal cartref wedi bod yn weithredol ym Methesda sydd wedi
bod yn gweithio mewn ffordd wahanol. Tynnwyd sylw at ganlyniadau’r Holiadur
Cenedlaethol sydd yn dangos fod perfformiad Gwynedd yn cymharu yn dda yn erbyn
perfformiad Cymru. Pwysleisiwyd fod yr holiadur wedi tynnu sylw at yr angen i
gefnogi gofalwyr, ac ychwanegwyd fod Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol yn cael
ei ddatblygu ar hyn o bryd. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth - Trafodwyd recriwtio gan nodi ein bod yn
trafod y maes yma ers Ionawr ac nad ydym eto i weld wedi medru dod i waelod y
mater fel ein bod yn gallu rhoi camau gweithredu ar waith a bod angen ystyried
a yw’r mater yma yn derbyn blaenoriaeth digonol. Nodwyd fod gwaith yn cael ei
wneud ar y papur a gobeithir y bydd adroddiad yn fuan. - Nodwyd fod y trefniadau ar gyfer mesur a yw
cynlluniau arbedion yn llwyddo neu beidio yn ddibynnol ar yr adolygiad cyllideb
yn hytrach na dadansoddiad o werth ariannol y camau unigol sy’n cael eu cymryd
ac fe heriwyd a oedd angen trefniadau mwy miniog. Nodwyd y byddai hyn yn derbyn sylw. - Tynnwyd sylw at y tablau gan nodi fod un yn
pwysleisio ‘targedau’. Nodwyd nad yw hyn yn cydfynd ag egwyddorion Ffordd
Gwynedd gan na ddylem fod yn anelu am dargedau meintiol oni bai fod yna ystyr
gwirioneddol allweddol iddynt. -
Trafodwyd
Cartref Preswyl Penisarwaun yn cau ar fyr rybudd, holwyd faint o sylw mae’r
adran yn ei roi i Gartrefi Preswyl Preifat. Nodwyd mai Arolygaeth Gofal Cymru a
fyddai’n cadw golwg ar faterion ariannol ac nid oes gofyn iddynt rannu'r wybodaeth
gyda’r Cyngor. Ond ychwanegwyd fod ymweliad wedi ei gynnal wythnos cyn i’r
Cartref gau ac nad oedd unrhyw broblemau wedi ei amlygu. Awdur: Morwena Edwards |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS BLANT A CHEFNOGI TEULUOEDD PDF 219 KB Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr eitem
gan Cyng. Dilwyn Morgan PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod ymarfer
a pherfformiad cyffredinol yn y Maes Plant yn ei gyfanrwydd yn gadarn. Nodwyd
fod Adroddiad Arolygiad Llawn gan Arolygaeth Gofal Cymru yn cadarnhau
perfformiad yr adran. Ategwyd fod yr adroddiad yn nodi fod gan y gwasanaeth
gryfderau sylweddol a gweithlu ymrwymedig a chadarn. Ychwanegwyd fod yr
arolygiad wedi adnabod pedwar maes i’w ddatblygu ond fod rhain yn cyd-fynd â’r
blaenoriaethau sydd yng Nghynllun y Cyngor. Tynnwyd sylw at adolygu’r cynllun ‘Dechrau
i’r Diwedd’, gan nodi fod nifer y lleoliadau preswyl wedi lleihau. Pwysleisiwyd
er bod niferoedd yn lleihau, nid oedd yr adolygiad wedi cymryd i ystyriaeth y
cynnydd mewn costau’r lleoliad. Ategwyd mai dyma yw’r prif reswm dros orwariant
yr adran ac ychwanegwyd fod adroddiad penodol ar hyn yn cael ei baratoi gan yr
adran, ar y cyd â’r Adran Gyllid, er mwyn egluro’r mater yn fanylach. Pwysleisiwyd blaenoriaethau’r adran gan nodi
eu bod yn cyd-fynd â’r tri chynllun gwella sydd yng Nghynllun y Cyngor. Ategwyd
fod gwaith cychwynnol y Strategaeth Cefnogi Teuluoedd Gwynedd wedi dechrau a
bod yr adran wedi adnabod beth yw’r galw am gefnogaeth i deuluoedd yn ogystal â
mapio pa ddarpariaeth sydd ar gael. Mynegwyd y bydd trafodaeth gychwynnol gyda
phartneriaid allweddol wedi digwydd erbyn y Cylch adrodd nesaf am y
Strategaeth. Tynnwyd sylw fod gwaith Cydymdrechu yn erbyn
Tlodi bellach wedi trosglwyddo i’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd. Ychwanegwyd
oherwydd bod amserlen gyflwyno Credyd Cynhwysol yn y sir wedi llithro y bydd y
prosiect yn cadw yn fyw hyd at ddiwedd Mawrth i gefnogi pobl i ymdopi â’r
newidiadau. Nodwyd ei bod yn galonogol fod yr Arolygaeth
Gofal Cymru yn disgrifio Panel Rhiant Corfforaethol yn uchelgeisiol ar gyfer y
Plant Mewn Gofal. Ychwanegwyd fod gwaith pellach wedi digwydd i geisio adnabod
ble mae angen gwella ac adnabod ymarfer da drwy’r grwpiau tasg sydd wedi eu
sefydlu. Mynegwyd pryder mai ychydig dros hanner yr aelodau etholedig sydd wedi
mynychu’r hyfforddiant ‘Rhiantu Corfforaethol’, a nodwyd y bydd mwy o sesiynau
yn cael eu cynnal er mwyn i aelodau ddeall eu cyfrifoldebau yn y maes. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth - Nodwyd fod yr adran bellach yn edrych ar eu
mesurau a’u pwrpas gan fod rhai mesurau bellach wedi eu dileu gan nad ydych yn
mesur data sydd yn bwysig i drigolion Gwynedd. - Trafodwyd cost lleoliadau all sirol gan holi
os oes unrhyw beth y gall yr adran wneud i osgoi'r costau. Nodwyd fod niferoedd
wedi lleihau gan fod mwy o gefnogaeth ar gael yn y cartref. Ychwanegwyd fod
cynnydd yn y gost oherwydd bod y problemau sydd yn cael eu delio o fewn y
lleoliadau yn fwy dwys ac o ganlyniad mae darparwyr yn codi swm uwch.
Ychwanegwyd fod hon yn broblem genedlaethol a bod trafodaeth ranbarthol yn cael
ei gynnal yn edrych ar y mater. - Tynnwyd sylw nad yw gorwariant o fewn yr adran yn broblem newydd a codwyd y cwestiwn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Morwena Edwards |