Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Council Offices, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN
Cyswllt: Nia Haf Davies 01286 679890
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2018 - 2019 Cofnod: Cafodd
Cyng. Richard Dew ei ethol fel Cadeirydd ar gyfer 2018 - 2019. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2018 - 2019 Cofnod: Cafodd Cyng. Dafydd Meurig ei ethol fel Is- Gadeirydd
ar gyfer 2018 - 2019. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng Dafydd
Meurig (CG), Cyng Richard Owen Jones (CSYM) ar Cyng Robin Williams (CSYM) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad buddiant personol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 26.4.2018 fel rhai cywir Cofnod: Derbyniwyd cofnodion Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2018 fel y rhai cywir. |
|
CYFRIFON TERFYNOL A DATGANIAD LLYWODRAETHU AR GYFER Y PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD PDF 141 KB I ystyried adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid (Cyngor Gwynedd) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: CYFRIFON
TERFYNOL A DATGANIAD LLYWODRAETHU AR GYFER Y PWYLLGOR POLISI CYNLLUNIO AR Y CYD Cyflwynwyd adroddiad gan
Ffion Madog Evans, a oedd yn ymateb i
ofyniad statudol o dan Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018 i
adrodd yn benodol am gyfrifo ac archwilio cyfrifon Pwyllgorau ar y Cyd. Eglurwyd
fod angen cwblhau ffurflenni swyddogol ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru a
byddai’r ffurflenni’n destun archwiliad ar wahân. Cyflwynwyd copi o’r ffurflenni yn Atodiad A
& B. Bydd yr Archwilydd Penodedig, sef Deloitte,
yn archwilio’r wybodaeth. Esboniwyd i’r
Pwyllgor bod gwahaniaeth rhwng y gyllideb 2017/ 2018 a’r cyfrifon terfynol
2017/ 2018 yn gysylltiedig â rhai eitemau gwariant, oherwydd, e.e. bod cyfanswm
ffi’r Arolygydd i gwblhau’r Archwiliad yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn
ariannol yn is na ragwelwyd pan gafodd y proffil gwariant ei baratoi, bod llai
o ddogfennau swmpus angen ei cyfieithu o fewn amserlen tyn, ayb. Esboniwyd nad oes angen ail-gyflwyno’r
adroddiad i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd ym mis Medi 2018, oni bai bydd
angen tynnu sylw’r Pwyllgor at newidiadau argymhellir gan yr Archwilydd
Penodedig. Materion a godwyd:
i.
Pam fod
cwmni Deloitte wedi cael ei benodi yn hytrach na
chwmni lleol?
ii.
Beth
sydd yn digwydd i’r ‘tanwariant’?
iii.
A
ddylai’r £280 (Gwerthiannau) yn Atodiad A gael ei gofnodi yn rhes 3 (Cyfanswm
derbyniadau arall) yn Atodiad B, er mwyn sicrhau cysondeb rhwng y ddau Atodiad? Ymateb i’r materion a godwyd:
i.
Mae’r cwmni’n cael ei benodi gan Swyddfa
Archwilio Cymru, ac mae’r cwmni wedi eu hapwyntio yn Archwilwyr i Gyngor
Gwynedd a’r cyd- bwyllgorau sy’n bodoli yng Ngwynedd a Môn.
ii.
Mae’r arian ar gael i’w fuddsoddi yn yr Uned
Polisi Cynllunio ar y Cyd a’r gwaith sy’n angenrheidiol yn y flwyddyn ganlynol.
iii.
Cytunwyd gyda’r sylw. Penderfyniad: Penderfynwyd i
dderbyn a chymeradwyo’r wybodaeth a gyflwynwyd yn Atodiad A ac Atodiad B. Fe gafodd y dogfennau perthnasol eu harwyddo gan
y Cadeirydd ar ran Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd |