skip to main content

Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am y cyfarfod yma

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Peredur Jenkins yn gadeirydd am y cyfarfod.

 

 

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan, Y Cynghorydd Seimon Glyn (Cyngor Gwynedd), Cynghorydd John P Roberts (Cyngor Gwynedd), Cynghorydd Peter Read (Cyngor Gwynedd), Cynghorydd David Cowans (Cynrychiolydd Cyngor Bwrdeistrefol Conwy), Huw Trainor (Heddlu Gogledd Cymru), Osian Richards (Cyngor Gwynedd), Arnold Milburn (Cyngor Tref Llangefni), Mandy Evans (Cyngor Tref Abergele), Linda Jones (Cwmni Fran Wen), Rhys Parry (Cartrefi Cymunedol Gwynedd), David O’Neill (CVSC), Wendy Jones (CVSC), Martin Morris (Cyngor Gwynedd), Chalister Bash-Taqi (Caterlink), Joanne Barlow (Caterlink), Joanne Barlow (Kingdom), Gwyn Jones (Ysgol Eirias), Lynn Bennoch (CAIS), Morfudd Davies (Cyngor Sir Ynys Môn), Gary Jaques-Williams (Cyngor Sir Ynys Môn), Donna Jones (Cyngor Sir Ynys Môn), Carys Edwards (Cyngor Sir Ynys Mon), Sue Hill (ABM Catering), Tina Earley (Cyngor Tref Bae Colwyn), Nikki Lawrence (Gyrfa Cymru), Caren Bryon (Gyrfa Cymru), Jo Cavill (Gyrfa Cymru), Adele Gatt (Gyrfa Cymru), Kathryn Coughlin (Grŵp Llandrillo Menai), Phillip Davies (Cyngor Conwy), Sally Williams (Cyngor Conwy), Gareth Owen (Cyngor Conwy), Huw Ifor Jones (Cyngor Conwy), Isobel Mitchell (Cyngor Conwy), Francesca Pridding ( Cyngor Tref Tywyn),Delyth Williams (Cartrefi Cymunedol Gwynedd), Katherine Owen (Cyngor Tref Caernarfon), Cyngor Tref Biwmares a Medrwn Môn.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol

4.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CRONFA BENSIWN 2017-2018 pdf eicon PDF 711 KB

I dderbyn Adroddiad Blynyddol y Gronfa Bensiwn 2017-2018

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Adroddiad Blynyddol y Cynllun Pensiwn am 2017/18

 

Er bod 2017/18 wedi bod yn flwyddyn heriol adroddwyd bod y Gronfa wedi derbyn dychweliadau cadarnhaol ac wedi adeiladu ar y lefel ariannu. Bu cynnydd o 10.8% mewn aelodau’n cyfrannu i’r cynllun a chynnydd o 4.3% yn y niferoedd pensiynwyr sydd yn y cynllun. Diolchwyd i’r cyflogwyr oedd wedi cyflwyno data yn gywir a chyflym ac eglurwyd bod hyn yn hanfodol er mwyn i’r Uned Bensiynau ddiweddaru cofnodion cyflogwyr a chynhyrchu buddion blynyddol yn amserol ar gyfer bodloni’r Rheoleiddiwr Pensiynau. Nodwyd y bydd cyflwyno data cywir ac amserol yn hanfodol ar gyfer 2019 fel dyddiad prisiad teirblynyddol.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid ei fod wedi holi Actiwari’r Gronfa ynglŷn â beth fyddai canlyniad prisiad teirblynyddol 2019 yng nghyd-destun penderfyniad Actiwari’r Llywodraeth i godi cyfradd cyfrannu’r Cynllun Pensiwn Athrawon o 16% i 24% ym mis Medi 2019. Eglurwyd bod y naid sylweddol yma yn digwydd oherwydd bod lefelau cyfraddau’r athrawon yn ceisio dal i fyny o lefelau hanesyddol oedd yn rhy isel ac addasiad i raddfa disgownt SCAPE oedd ond yn cael ei adolygu bob pum mlynedd. Mynegwyd nad oedd y ffactorau hyn yn mynd i effeithio’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Cyfeiriwyd at ymrwymiadau’r cynllun Pensiwn, gan adrodd bod y Gronfa wedi bod yn gweithredu’n ddarbodus, a’r ffactor fydd yn dylanwadu fwyaf ar y prisiad fydd dychweliadau buddsoddi a gwerth yr asedau. Er  i’r farchnad stoc fod yn heriol yn 2017/18 adroddwyd bod y Gronfa yn parhau i adeiladu ar berfformiad buddsoddi rhagorol 2016/17 ac yn 2017/18 cafwyd dychweliadau buddsoddi o £56m (3%) gan asedau’r Gronfa. Roedd hyn yn adlewyrchu marchnadoedd gwannach o’i gymharu â 22% a ddychwelwyd y flwyddyn flaenorol, ond roedd y cynnydd pellach a welwyd yn ystod chwarter cyntaf 2018/19 yn ddigon i weld gwerth y Gronfa yn tyfu i fwy na dau biliwn o bunnoedd.

 

Eglurwyd bod elfen o dwf sylweddol 2016/17 yn adlewyrchu effaith cwymp y bunt ar werth buddsoddiadau byd eang. Dosbarthwyd graff a gafodd ei baratoi gan Ymgynghorydd Buddsoddi’r Gronfa oedd yn gwahanu’r elfennau twf mewn gwerth ecwiti rhwng gwerth arian lleol a gwerth mewn punnoedd. Ategwyd bod y twf mewn gwerth asedau yn galonogol gyda Chronfa Gwynedd wedi ariannu 91% ym mhrisiad teriblynyddol 2016 (oedd o fewn y 10 uchaf yng Nghymru a Lloegr) wrth ddefnyddio rhagdybiaethau actiwaraidd darbodus. Ar gyfer prisiad 2019, dylai cryfder y Gronfa ganiatáu cymryd agwedd hyblyg tuag at gyfraddau cyfrannu cyflogwyr effeithiol o 2020.

 

Nodwyd y byddai trefn buddsoddi i’r dyfodol yn newid a chyfeiriwyd at egwyddorion buddsoddi cyfrifol a datblygu Partneriaeth Pensiwn Cymru. Gyda strategaeth fuddsoddi’r Gronfa yn canolbwyntio ar asedau twf, disgwylir dychweliadau mwy deniadol na’r dychweliadau gellid ennill o fuddsoddiadau risg isel. Yn adeiladu ar hynny adroddwyd bod Pwyllgor Pensiynau Gwynedd a Bwrdd Pensiwn y Gronfa, ar y cyd, wedi datblygu egwyddorion buddsoddi cyfrifol sydd yn ystyried ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu.

 

Ategodd Cadeirydd y Bwrdd Pensiwn bod angen gwybodaeth dryloyw yng nghyd-destun arian sydd yn cael ei fuddsoddi yn erbyn dychweliadau gorau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.