Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cynghorwyr Anne Lloyd Jones, Huw G. Wyn Jones a Catrin Wager. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi
materion protocol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau canlynol am
y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Berwyn Parry
Jones yn eitemau 5.3 (cais cynllunio C14/0386/24/LL) a 5.7 (cais
C18/0941/14/MG) ar y rhaglen
oherwydd ei fod yn Aelod o Fwrdd
Cartrefi Cymunedol Gwynedd ·
Y Cynghorydd Eirwyn Williams
yn eitem 5.6 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0871/35/LL) oherwydd bod yr
ymgeisydd yn berthynas agos iddo ·
Y Cynghorydd Stephen Churchman
yn eitem 5.7 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0941/14/MG) oherwydd yn
ystod cyfnod ffurfio’r cynllun roedd yn aelod o Fwrdd Cartrefi Cymunedol
Gwynedd. Teimlai ei fod yn rhan o’r trafodaethau hynny ac felly yn datgan
buddiant. Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn
aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Elin Walker
Jones, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0874/11/LL); ·
Y Cynghorydd Elfed Williams,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C18/0640/18/LL); ·
Y Cynghorydd Aeron Maldwyn
Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C14/0386/24/LL); ·
Y Cynghorydd Cemlyn
Williams, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0958/14/LL); ·
Y Cynghorydd Eirwyn Williams,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C18/0871/35/LL) Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y
ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 26 Tachwedd
2018 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2018, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd
ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau
ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C18/0874/11/LL - 49, Trem Elidir, Bangor, Gwynedd PDF 94 KB Newid defnydd tŷ (defnydd dosbarth C3) i dŷ mewn aml-feddianaeth (defnydd dosbarth C4) AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD ELIN WALKER JONES Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd tŷ (defnydd dosbarth C3) i dŷ mewn amlfeddiannaeth
(defnydd dosbarth C4) Tynnwyd
sylw at y sylwadau ychwanegol Roedd yr
aelodau wedi ymweld â’r safle (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau bod
penderfyniad wedi ei wneud ym Mhwyllgor 26 Tachwedd i ohirio’r penderfyniad er
mwyn cynnal ymweliad safle. Amlygwyd bod y wybodaeth fel ag a gyflwynwyd yn y
cyfarfod blaenorol. Atgoffwyd yr aelodau bod Polisi TAI 9 y Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd yn gefnogol i’r egwyddor o drosi adeiladau presennol yn dai
amlfeddiannaeth o fewn ffiniau datblygu yn ddarostyngedig i gwrdd â’r pedwar
maen prawf cysylltiedig. Ystyriwyd bod y defnydd
arfaethedig yn dderbyniol ac na fyddai yn amharu ar gymeriad yr ardal nac yn achosi niwed mwynderol
annerbyniol. (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau
canlynol: ·
Cartref teulu ydyw - cyn dŷ
Cyngor ac yn anaddas ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth ·
Gwrthwynebu ar sail
gor-ddatblygiad ·
Bwriad creu 5 stafell wely -
dim lolfa, un gegin fechan i baratoi bwyd a dwy stafell ymolchi fechan. Creu
sefyllfa gyfyng iawn - pam gwasgu 5 person i mewn i un tŷ ·
Nifer o dai / llety myfyrwyr
yn hanner gwag o gwmpas Bangor ·
Rhagweld cynnydd mewn
gwastraff ·
Rhagweld problemau parcio -
nid oes man parcio pwrpasol. Byddai angen parcio ar y ffordd ·
Bod caniatáu trydydd tŷ
amlfeddiannaeth yn ymestyn dros y trothwy 10% ar y stryd ·
Rhaid gwarchod y ddinas rhag
caniatáu tai amlfeddiannaeth i ledaenu dros y lle ·
Nid yw’r mapiau sydd ynghlwm
a’r cais yn gyfredol (c) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais ar sail
gor-ddatblygu a diffyg lle i barcio (ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod rhybuddion hanesyddol gan gyn-gynghorydd
bod tai teuluoedd yn cael eu trosi yn dai amlfeddiannaeth ym Mangor ·
Bod ystadegau yn dangos bod
nifer myfyrwyr yn gostwng ·
Bod tai amlfeddiannaeth / tai gosod yn ymledu i ganolfannau cymunedol ·
Nid oedd y sefyllfa parcio
wedi adlewyrchu gwirionedd y sefyllfa yn ystod yr ymweliad safle. Awgrym y
byddai’r sefyllfa yn dra gwahanol gyda’r nos neu dros y penwythnos. Rhaid
ystyried y gellid cael 5 car ychwanegol yma ·
Bod ward sydd gyda ‘dwy
hanner’, fel petai, yn gallu gosod cynsail i geisiadau tebyg fod yn cronni yn
yr un hanner ·
Bod tai myfyrwyr yn prysur
ledaenu ar draws y ddinas. Derbyn bod trothwyon yn bwysig, ond ymddengys eu bod
yn cael effaith negyddol ar drigolion lleol. ·
Bod angen cynnal ymweliadau
safle ar yr amseroedd prysuraf (d) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag effaith tebygol o wrthod y cais, yn groes i argymhelliad, a’r risg costau ar y Cyngor, amlygodd yr Uwch Reolwr Cynllunio bod yr argymhelliad i ganiatáu yn un cadarn, bod rheolaeth dda dros ddefnydd tai amlfeddiannaeth a bod trothwy 10% yn cael ei osod ar gyfer ward ac nid un stryd benodol. Derbyniodd bod pryderon parcio ond amlygodd nad oedd yr Uned Trafnidiaeth wedi datgan gwrthwynebiad i’r cais ac anodd fyddai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif C18/0640/18/LL - The Bull Inn, High Street, Deiniolen, Caernarfon PDF 121 KB Newid defnydd tafarn wag yn llety gwyliau AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD ELFED WILLIAMS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd tafarn wag yn llety gwyliau Tynnwyd sylw at y sylwadau
ychwanegol a dderbyniwyd Roedd yr Aelodau wedi ymweld
â’r safle Amlygwyd bod yr ymgeisydd
wedi cyflwyno apêl oherwydd diffyg penderfyniad (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau
bod penderfyniad wedi ei wneud ym Mhwyllgor 26 Tachwedd i ohirio’r penderfyniad
er mwyn cynnal ymweliad safle. Nodwyd bod y cais ar gyfer trosi tafarn segur Y Bull, sydd wedi ei leoli ar Stryd Fawr, Deiniolen, yn llety
gwyliau hunanwasanaeth gydag 8 ystafell wely. Golygai hyn gryn newid i
drefniant mewnol yr adeilad, ond ni fyddai newid arwyddocaol i’r edrychiad
allanol. Eglurwyd bod y dafarn wedi bod ar gau ers 2016 ac fe fu ar werth am dros
flwyddyn. Cyfeiriwyd at bolisi TWR 2 sydd yn cefnogi datblygiadau llety gwyliau
parhaol drwy drosi adeiladau presennol cyn belled bod cynigion o ansawdd uchel
o ran dyluniad, edrychiad a gosodiad. Ystyriwyd bod y cais o ansawdd uchel ac
yn cwrdd â gofynion y polisi. Amlygwyd nad oedd yr Uned Trafnidiaeth wedi nodi unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad
er y derbyniwyd gwrthwynebiad yn honni diffyg llefydd parcio’n lleol. Wedi
ystyried defnydd awdurdodedig yr adeilad fel tafarn, ni ystyriwyd y byddai’r
datblygiad yn debygol o greu trafferthion
sefyllfa waeth nag un fel tŷ tafarn neu fflatiau. Eglurwyd, mewn ceisiadau o’r fath bod rhaid ystyried cyn defnydd y safle,
a’r cynnydd tebygol o ganlyniad i’r bwriad newydd. Yma, y sefyllfa flaenorol
oedd tŷ tafarn o faint sylweddol a chartref pedair ystafell wely uwchben,
wedi ei leoli’n ganolog o fewn pentref. Mae’r bwriad yn cynyddu’r nifer o
ystafelloedd wely ond yn tynnu’r elfen ‘tŷ tafarn’, a thybiwyd fod digon o
gyfleoedd i ymwelwyr barcio ar y strydoedd a meysydd parcio lleol os yn ymweld
â’r safle mewn cerbyd. Awgrymwyd y byddai llai o ‘fynd a dod’ gyda llety gwyliau
ac y byddai llai o aflonyddwch. Nodwyd bod cynllun busnes wedi ei gyflwyno gyda’r cais a bod sylwadau wedi ei
derbyn gan Uned Twristiaeth y Cyngor yn cadarnhau bod galw am unedau llety
hunanarlwyo safonol ar gyfer grwpiau yn y Sir. Ategwyd, yn ôl y ffigyrau
diweddaraf 1.75% o lety gwyliau hunan wasanaeth sydd yn y ward sydd yn
cadarnhau nad oes gormodedd o lety gwyliau o’r fath yma yn yr ardal (b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau
canlynol: ·
Nad oedd digon o lefydd parcio
yn yr ardal gronnus yma ·
Llawer o drigolion yn cwyno
eisoes am ddiffyg mannau parcio ·
Byddai 20 o geir ychwanegol yn
cynyddu’r pryderon hyn (c) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais oherwydd diffyg llefydd
parcio. Nodwyd nad oedd yn rhesymol
cymharu defnydd tafarn gyda defnydd llety gwyliau (ch) Nododd y Uwch Beiriannydd Rheolaeth Datblygu bod rhaid cadw persbectif o’r nifer ceir tebygol. Amlygodd bod y sefyllfa wedi ei mesur fel un stafell wely yn golygu un cerbyd. Ar y gwaethaf, ystyrir 8 cerbyd ychwanegol (ac nid 20). Byddai hyn yn dderbyniol i’r ardal ac ni fyddai yn cael ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stâd (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol) AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD AERON MALDWYN JONES Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a
C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy,
newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stad (cynllun diwygiedig i’r
hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol) Amlygwyd bod asiant y gwrthwynebwyr wedi ei daro yn
wael ac felly cynigiwyd gohirio y cais. Awgrymwyd hefyd y byddai ymweld â’r
safle yn fuddiol. PENDERFYNWYD gohirio gan raglennu’r cais ar gyfer Pwyllgor 14.1.19 a threfnu ymweliad safle |
|
Cais Rhif C17/0958/14/LL - Cwm Cadnant Valley, Llanberis Road, Caernarfon PDF 153 KB Disodli llecynnau ar gyfer 32 carafanau teithiol a 68 pebyll gyda 26 siale gwyliau i'w defnyddio am 12 mis y flwyddyn AELOD LLEOL:
CYNHGORYDD CEMLYN WILLIAMS Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Disodli llecynnau ar
gyfer 32 carafanau teithiol a 68 pebyll gyda 26 siale
gwyliau i'w defnyddio am 12 mis y flwyddyn Tynnwyd
sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd (a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod rhan isaf o’r safle sydd bob
ochr i'r Afon Cadnant wedi ei leoli oddi fewn i Parth Llifogydd C2. Er bod
gofynion y cais yn cydymffurfio gyda pholisïau TWR 3 a TWR 4 o’r Cynllun
Datblygu Lleol, a bod y datblygiad yn
dderbyniol ar sail gofynion y polisïau hyn nid yw elfennau eraill o’r cais yn
golygu bod y bwriad yn addas yn ei gyfanrwydd ar sail gofynion polisïau a
gorchmynion cynllunio eraill perthnasol. Gan ystyried bod nifer
o’r unedau gwyliau wedi eu lleoli yn y rhan isaf o’r safle ac oddi fewn neu
union gyferbyn a’r parth llifogydd mae’r cyngor a gynhwysir yn NCT15, gofynion
Pholisi PS6 o’r CDLL ynghyd â chanlyniadau apeliadau diweddar yn datgan yn glir
na ddylid caniatáu ceisiadau ar gyfer datblygiadau a adnabyddir fel
datblygiadau sy’n agored iawn i niwed (gan gynnwys
unedau/llety/carafanau defnydd gwyliau) os ydynt wedi eu lleoli oddi fewn i
Parth Llifogydd C2. Yn ychwanegol i’r
cyfyngiad hwn, mae pryderon hefyd ynglŷn ag addasrwydd man dihangfa rhan
isaf y safle pe tai’r Afon Cadnant yn gorlifo.
I’r perwyl hyn, ni ystyriwyd fod y bwriad fel y’i cyflwynwyd yn
dderbyniol ar sail gofynion Polisi PS6 o’r CDLL ynghyd â’r cyngor a gynhwysir
yn NCT15. (b)
Yn manteisio ar yr hawl i
siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol: ·
Bod y safle wedi ei sgrinio yn
dda ·
Petai’r cais yn cael ei
ganiatáu byddai angen amodau cryf i beidio â chaniatáu i’r unedau gael eu
defnyddio fel anheddau parhaol ·
Ei fod yn gwrthod y bwriad yn
unol ar argymhelliad (c)
Cynigwyd
ac eiliwyd i wrthod y cais. PENDERFYNWYD gwrthod y cais 1. Mae’r datblygiad
arfaethedig yn groes i ofynion Polisi PS6 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn (2017) ynghyd a Nodyn Cyngor Technegol 15 Datblygu a Pherygl
Llifogydd gan fod y bwriad yn golygu lleoli datblygiad sy’n agored i niwed o
fewn Parth Llifogydd C2. 2. Mae’r datblygiad yn
groes i ofynion Polisi PS1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
(2017) gan na chyflwynwyd Datganiad Iaith Gymraeg gyda’r cais ac, felly, nid
oedd modd i’r Awdurdod Cynllunio Lleol asesu effaith y datblygiad ar yr iaith
Gymraeg. 3. Mae’r datblygiad yn groes i ofynion Polisi AMG5 o’r Cynllun Datblygu Lleol
ar y Cyd Gwynedd a Môn (2017) gan na chyflwynwyd Asesiad Coed nag Asesiad
Effaith Ecolegol gyda’r cais ac, felly, nid oedd modd i’r Awdurdod Cynllunio Lleol
asesu effaith y datblygiad ar fioamrywiaeth leol. |
|
Cais Rhif C18/0853/22/LL - Chwarel Ty Mawr West, Talysarn, Caernarfon PDF 156 KB Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 10 ar ganiatad cynllunio C18/0489/22/LL er mwyn gweithredu ar allbwn o 300 tunnell y dydd AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD CRAIG AB IAGO Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 10 ar ganiatâd cynllunio
C18/0489/22/LL er mwyn gweithredu ar allbwn o 300 tunnell y dydd Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i amrywio amod
10 o ganiatâd cynllunio C18/0489/22/LL fel y gellid gweithredu allbwn o 300
tunnell fetrig y dydd heb fod yn destun cyfyngiad ar allbwn blynyddol o 30,000
tunnell fetrig, 15 llwyth y dydd. Amlygwyd nad oedd gwrthwynebiadau wedi eu
derbyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Y Parc Cenedlaethol, Uned Trafnidiaeth na
Gwarchod y Cyhoedd a bod tri llythyr o gefnogaeth wedi eu derbyn. Ategwyd bod y busnes yn cynnig swyddi yn lleol ac nad oedd
cwynion wedi eu derbyn ers llawer blwyddyn am reolaeth y safle. Nodwyd bod sawl
chwarel wedi cau yn yr ardal ac felly, yng nghyd-destun trafnidiaeth, nid oedd
pryderon wedi eu hamlygu gan fod y niferoedd mynd a dod wedi lleihau dros y
blynyddoedd. (b) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais Gwnaed sylw bod y chwarel yn ‘chwarel lân’,
yn cael ei
rhedeg yn effeithiol iawn gan ddau frawd PENDERFYNWYD awdurdodi Uwch Reolwr y Gwasanaethau Cynllunio, Amgylchedd a Gwarchod y Cyhoedd i gymeradwyo'r cais yn ddarostyngedig
i'r ystod o amodau a ganlyn: ·
Hyd y cyfnod gweithio, 19 Tachwedd 2028, adferiad terfynol erbyn 31
Tachwedd 2030 ·
Gweithgareddau a ganiateir a Chydymffurfiaeth â Manylion/Cynlluniau
C09A/0046/22/MW a Gyflwynwyd; ·
Oriau Gwaith 07.30 - 17.00 dydd Llun i ddydd Gwener ac 08.30 - 13.00 dydd
Sadwrn ·
Dim ond llechi a gwastraff mwynau eraill y caniateir eu symud a dim deunydd
sydd islaw lefel wreiddiol y tir ·
Ni cheir storio mwy na 20,000 tunnell fetrig o ddeunyddiau a fewn gludwyd
ar unrhyw adeg ac yn unol â'r caniatâd mwynau sy'n bodoli i'w defnyddio mewn
gwaith adfer ·
Defnyddio'r ffordd gludo a swyddfa'r safle at ddibenion y datblygiad yn
unig ·
Marcio ffin yr ardal gloddio ·
Mewn gludo a chyfyngiadau fel y maent ar hyn o bryd ·
Allbwn o 300 tunnell fetrig y dydd heb fod yn ddarostyngedig i gyfyngiad
cyffredinol o 30,000 tunnell fetrig y flwyddyn ·
Dull gweithio ·
Mynediad fel y mae ·
Adfer, cynllun plannu coed a chreu cynefinoedd ·
Rheoli sŵn, diwygio'r geiriau i adlewyrchu safonau cyfoes a gosod larymau
sy'n gwrthwneud sŵn gwyn ·
Rheoli llwch a ryddheir fe y gwneir eisoes ·
Adolygu'r gweithrediadau bob pum mlynedd ·
Cyfyngu ar yr hawliau datblygu a ganiateir ·
Mesurau lliniaru i ystlumod (cadw'r ceuffyrdd yn agored) ·
Lliniaru archeolegol ·
Dim cael gwared â llystyfiant mewn mannau penodol rhwng mis Ebrill ac Awst ·
Priddoedd a storio cyfryngau adfer ·
Nodyn i'r ymgeisydd gydag ymateb ymgynghoriad CNC wedi'i atodi ·
Nodyn i'r ymgeisydd ynglŷn â PROW 51 (Llanllyfni) ·
Nodyn i'r Ymgeisydd ynglŷn â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru) 2015 |
|
Cais Rhif C18/0871/35/LL - Eirianedd, Rhos Bach, Criccieth PDF 98 KB Newid defnydd anecs i lety gwyliau AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD EIRWYN WILLIAMS Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd anecs
i lety gwyliau Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. Eglurwyd bod yr
ymgeisydd wedi cyflwyno cynllun busnes, cynllun llawr diwygiedig a llythyr i
gefnogi’r cais. Cadarnhawyd yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd nad oedd y
cynllun busnes yn ei ffurf bresennol yn cyflawni gofynion angenrheidiol y
polisi. (a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi ei fod wedi ei leoli o fewn stad o dai preswyl a adnabyddir fel
Rhos Bach, o fewn ffin datblygu Criccieth. Eglurwyd bod y safle yn cynnwys eiddo
preswyl deulawr gydag adeilad allanol unllawr gyda
tho pits o fewn y cwrtil sydd yn cael ei ddefnyddio
fel ystafell chwaraeon / anecs. Amlygwyd bod bwriad
trosi’r adeilad presennol sydd yn golygu gwneud newidiadau allanol gan gynnwys
cau’r drws presennol ac agor ffenestri a drysau newydd. Mae polisi TWR 2 yn caniatáu trosi adeiladau allanol llety gwyliau ar sail
bod y datblygiad yn un o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad,
ac os gellid cwrdd â’r meini prawf. Tynnwyd sylw at faen prawf (iv) yn benodol, sydd yn nodi, ‘nad yw’r datblygiad yn cael
ei leoli mewn ardal sy’n breswyl yn bennaf neu’n peri niwed arwyddocaol i
gymeriad preswyl ardal’. Ystyriwyd, gan fod y safle wedi ei leoli o fewn cwrtil
annedd breswyl bresennol, sydd wedi ei leoli o fewn ystâd breswyl ac o fewn
cyffiniau pentref Criccieth a’i ffin datblygu; ystyriwyd nad yw’r bwriad yn
cydymffurfio gyda’r pwynt uchod gan na ystyriwyd fod y bwriad yn un o ansawdd
uchel o ran lleoliad. Yn ychwanegol ystyriwyd y byddai defnyddio’r adeilad
cwrtil yma fel uned ar wahân yn golygu bod graddfa’r datblygiad yn annerbyniol
ac y byddai’r ddau eiddo yn cael effaith annerbyniol ar eu mwynderau ei gilydd. b) Yn manteisio ar ei hawl i
siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol: ·
Bod y bwriad
yn ychwanegiad i incwm y teulu
er mwyn caniatáu
amser i ofalu
am y plant ·
Bod Criccieth yn gyrchfan gwyliau
dymunol ·
Bod yr
anecs yn ymateb i’r galw
am lety gwyliau un stafell wely mewn
lleoliad da o fewn y pentref ·
Yn cynnig
dau le parcio a chyfleusterau da ·
Y tŷ
a lleoliad yr anecs yn ymddangos
yn anorffenedig fel y mae ·
Cymdogion eisiau
gweld yr anecs wedi ei
orffen a’i dacluso. (c) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatau y cais (ch) Cynigwyd ac eiliwyd gwelliant i’r cynnig o drefnu
ymweliad safle PENDERFYNWYD trefnu ymweliad safle |
|
Cais Rhif C18/0941/14/MG - Cyn safle Ysgol yr Hendre, Caernarfon PDF 132 KB Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi 45 tŷ (gan gynnwys 23 tŷ fforddiadwy), creu mynedfa newydd, uwchraddio'r fynedfa bresennol, darparu llecynnau mwynderau cyhoeddus, llecynnau parcio a thirlunio AELODAU LLEOL: CYNGHORYDD ROY OWEN a’r CYNGHORYDD OLAF CAI LARSEN Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi 45 tŷ (gan gynnwys 23 tŷ
fforddiadwy), creu mynedfa newydd, uwchraddio'r fynedfa bresennol, darparu
llecynnau mwynderau cyhoeddus, llecynnau parcio a thirlunio Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd. a) Ymhelaethodd y Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y
cais, gan adrodd bod cais amlinellol wedi ei ganiatáu Ionawr 2017 ynghyd ag
amod yn gofyn am gynllun ar gyfer darparu tai fforddiadwy fel rhan o’r
datblygiad. Ategwyd y byddai’r tai
fforddiadwy i safon Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru (safonau DQR) fydd yn
amrywio o dai 3 person 2 lofft i dai 7 person 4 llofft wedi eu gwasgaru drwy’r
datblygiad. Nodwyd bod safle’r
cais wedi ei leoli o fewn ardal breswyl sefydledig ac oddi fewn i ffin datblygu
Caernarfon fel y’i cynhwysir yng Nghynllun Datblygu Unedol Gwynedd (CDUG). Prif ystyriaethau’r cais yw derbyn materion a godwyd yn ôl o dan y cais
amlinellol blaenorol sydd yn ymwneud ag edrychiadau allanol y tai,
tirweddu/tirlunio, cynllun a graddfa. Eglurwyd fod yr egwyddor o leoli tai ar y
safle arbennig hwn eisoes wedi ei dderbyn a’i sefydlu o ystyried cais
amlinellol rhif C16/0773/14/AM. Amlygwyd bod y manylion a gyflwynwyd gyda’r
cais yn dangos bod amrywiaeth o ddefnyddiau gwahanol ar gyfer edrychiadau
allanol y tai sydd yn adlewyrchu edrychiadau a gorffeniadau tai cyfagos. Ni
ystyriwyd byddai’r datblygiad yn creu strwythurau anghydnaws o fewn y strydlun
lleol. Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod anheddau
preswyl wedi eu lleoli i’r gogledd, de a gorllewin o’r safle ond ni fyddai gor-edrych annerbyniol uniongyrchol i mewn i’r tai hyn.
Ystyriwyd y gwrthwynebiadau a gyflwynwyd gan drigolion lleol, ond ni ystyriwyd
y byddai lleoli hyd at 45 tŷ yn creu effaith annerbyniol ar fwynderau preswyl na chyffredinol trigolion cyfagos
ar sail creu aflonyddwch, colli preifatrwydd, colli golau a chreu strwythurau
gormesol ac felly yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi PCYFF2 PCYFF3 o’r Cynllun
Datblygu Lleol. Yn gynwysedig yn y cais cyflwynwyd Datganiad Tai Fforddiadwy fel modd o
ddiwallu gofynion amod rhif 3 o’r
cais amlinellol oedd yn ymwneud a chyflwyno manylion ynglŷn â darparu tai
fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad. Ystyriwyd bod y wybodaeth yn yr adroddiad
yn bodloni gofynion amod rhif 3 o’r caniatâd parthed y niferoedd, math, daliaeth a lleoliad y ddarpariaeth tai fforddiadwy. b) Cynigiwyd ac eiliwyd i
ganiatáu y cais c) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sylwadau’r Cyngor Tref,
‘eu bod yn gefnogol i’r datblygiad gydag amod bod y 23 tŷ fforddiadwy ddim
yn cael eu newid hanner ffordd drwy’r cynllun’, nodwyd bod y cais eisoes wedi
cael caniatâd ac nad oedd y materion hyn yn berthnasol i’r drafodaeth. Er
hynny, ategwyd, petai’r cais am newid, byddai angen delio gyda hynny ar y pryd. ch) Mewn ymateb i sylw ynglŷn â'r angen am dai unllawr ar gyfer yr henoed, nodwyd bod dyheadau'r gymuned wedi cael eu hystyried a bod y cynllun o anheddau cymysg i’w groesawu. Deallir na ellir ymateb i bob elfen, ond bod anghenion eraill wedi eu blaenoriaethu. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.7 |