Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF
Cyswllt: Sioned Williams 01286 679729
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU To receive any apologies for absence. Cofnod: Y Cyng. Garffild Lloyd Jones (Cyngor Sir
Ddinbych), Rita Price, Arwyn Williams (Cyngor Sir
Ynys Mon), Dr Lowri Brown (Cyngor Bwrdeistref Conwy),
Dr Gwynn Jones (Cyngor Sir Ynys Mon), Steve Vincent
(Llywodraeth Cymru), Haf Williams (Cynyrchiolydd Ysgolion
Cynradd), Arwyn Thomas (Rheolwr Gyfarwyddwr GwE), Karen Evans (Cyngor Sir
Ddinbych). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL To receive any declaration of personal interest. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o
fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS To note any items that are a matter of urgency in the view of the Chairman for consideration. Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 88 KB Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 4
Gorffennaf 2018, fel rhai cywir. |
|
Cyflwynwyd
gan Dafydd L Edwards Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn, nodi
a chymeradwyo’r wybodaeth ac awdurdodi’r Cadeirydd i ardystio’r llythyr. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cyfrifon wedi eu cyflwyno yn
ystod y cyfarfod blaenorol ar y 4 Gorffennaf 2018. Ychwanegwyd yn ystod y
cyfarfod hwn y byddai’r cyfrifon yn destun archwiliad gan Deloitte.
Mynegwyd fod yr adroddiad ‘ISA260’ wedi ei gyflwyno gan Archwilydd Cyffredinol
Cymru a'i fod yn manylu ar brif ddarganfyddiadau Deloitte.
Nodwyd bwriad yr Archwilydd Cyffredinol gan ychwanegu y bydd adroddiad
archwilio diamod ar y datganiadau ariannol yn cael ei gyhoeddi unwaith y bydd y
Cydbwyllgor wedi darparu Llythyr Cynrychiolaeth. Ategodd yr Archwilydd fod gwaith wedi ei wedi a bod y cyfrifon yn rhai
cywir. Ychwanegwyd nad oedd unrhyw gamddatganiadau heb eu cywir nac unrhyw
gamddatganiadau wedi eu cywir. Nodwyd nod oedd angen newid dim yn rhan o’r
cyfrifon a nodwyd fod argymhellion wedi eu gwneud ac wedi eu nodi yn yr
adroddiad. Mynegodd y Pennaeth Cyllid ar gyfer yr Awdurdod Lletyol
fod argymhellion ar gyfer systemau technoleg gwybodaeth, ond ategwyd nad oedd
hyn ar gyfer GwE ond yn hytrach ar gyfer systemau Cyngor Gwynedd. Diolchwyd i staff
am eu gwaith da. |
|
CYLLIDEB GwE 2018-19 - ADOLYGU CHWARTER 1 PDF 117 KB Cyflwynwyd gan Dafydd L Edwards Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn yr
adroddiad TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai adroddiad ar gyfer chwarter cyntaf
y flwyddyn oedd yr adroddiad. Tynnwyd sylw at yr amrywiadau ariannol oedd i’w
gweld yn y gyllideb. Nodwyd fod Secondiad i Gyfarwyddwr Cynorthwyol o’r 1af o
Fehefin wedi arwain at danwariant un-tro, yn ariannu arbedion i’w darganfod.
Ond pwysleisiwyd mai ar sail dros dro yn unig y bydd hyn. Ychwanegwyd nad oedd
unrhyw beth tu hwnt i’r arferol yn y gyllideb ac y bydd diweddariad ar y
gyllideb i’w gweld yng nghyfarfod nesaf yn Cydbwyllgor. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth - Holwyd am
gyllideb GwE ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda cymaint o doriadau yn wynebu
Awdurdodau Lleol, a fydd cyfraniadau ar gyfer GwE yn lleihau. Nodwyd fod tynged
GwE yn ddibynnol ar y Setliad Ddrafft y bydd y Llywodraeth Cymru yn ei gyhoeddi
ddechrau Hydref ar gyfer Awdurdodau Lleol. Mynegwyd fod hyblygrwydd posib gan
Lywodraeth Cymru ond fod trafodaeth wedi ei gynnal gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr
GwE er mwyn trafod beth fuasai effaith colli 1%, 2% neu 3% o’r gyllideb. |
|
COFRESTR RISG 2018-19 - AOLYGU CHWARTER 1 PDF 82 KB Cyflwynwyd gan Arwyn Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn yr
adroddiad TRAFODAETH Cyflwynwyr yr adroddiad gan nodi ei fod yn adroddiad rheolaidd sydd yn
adnabod risgiau a’r camau gweithredu dilynol i’w lliniaru. Ychwanegwyd fod
trafodaeth wedi ei gynnal yn ystod y cyfarfod diwethaf ym mis Gorffennaf i
drafod y gofrestr ac nad oes llawer o newidiadau wedi eu gwneud yn ystod
misoedd yr haf. Tynnwyd sylw at ddiweddariadau i 3 risg - rhif 5,11 ac 17. Ychwanegwyd fod
y tri risg bellach wedi eu lliniaru ond y bydd angen trafodaeth bellach ar
ganlyniadau TGAU Saesneg. Mynegwyd y bydd mwy o newid i’r gofrestr risg a
thrafodaeth bellach yn ystod cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth -
Holwyd gyda chymaint o newidiadau ar y gwell i ysgolion,
a yw GwE a’r ysgolion yn barod. Nodwyd pryder am y risg sydd i ysgolion, yn
enwedig ysgolion bach ac uwchradd - mynegwyd fod gwaith yn cael eu gwneud.
Ychwanegwyd fod gweithdai wedi eu cynnal gan GwE er mwyn cynorthwyo’r ysgolion
gyda’r newidiadau. |
|
CYNLLUN BUSNES 2018-19 - MONITRO CHWARTER 1 PDF 67 KB Cyflwynwyd gan Arwyn Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn yr
Adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn. Nodwyd fod
yr adroddiad wedi ei lunio cyn canlyniadau’r haf - bydd angen trafodaeth
bellach ar y canlyniadau yn ystod cyfarfod nesaf y Cyd-Bwyllgor mis Tachwedd.
Ychwanegwyd fod monitro chwarter dau yn cael ei gynnal yn ystod y bythefnos
nesaf. Ategwyd fod yr adroddiad yn dangos fod Cynllun Busnes Lefel 1 ar y
trywydd cywir. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth -
Nodwyd codiad cyflog athrawon wedi ei gyhoeddi yn syth ar ôl i’r
ysgolion gau am y gwyliau a nodwyd fod hyn yn amseriad gwael iawn. Ategwyd fod
hyn wedi codi pryder prif athrawon dros gyfnod yr haf am gyllidebau ac
ariannu'r codiad cyflog hwn. Pwysleisiwyd fod angen cysidro lles Prif Athrawon. |
|
ADRODDIAD CYCHWYNNOL AR BERFFORMIAD Y RHANBARTH PDF 311 KB Cyflwynwyd gan Arwyn Thomas Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad ac ymddiried yn y Cadeirydd i ysgrifennu Llythyr, ar
ran y Cyd-Bwyllgor i Cymwysterau Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod trafodaeth wedi ei gynnal yn y
Bwrdd Rheoli am berfformiad y rhanbarth ond ategwyd fod angen trafodaeth
bellach yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Cyfnod Allweddol 4 yn ystod mis Hydref.
Ychwanegwyd y bydd angen trafodaeth bellach ar berfformiad y rhanbarth yng
nghyfarfod y Cyd-Bwyllgor ym mis Tachwedd. Ychwanegwyd fod perfformiad Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 yn
gadarn ond fod blaenoriaeth i’r Cyfnod Sylfaen. Ychwanegwyd fod data Cyfnod
Allweddol 4 yn amrwd ar hyn o bryd a
nodwyd lleihad mewn Saesneg. Mynegwyd fod hyn yn cael ei weld yn Genedlaethol a
bod GwE wedi ysgrifennu at Cymwysterau Cymru yn gofyn am ymchwiliad pam fod
canlyniadau ysgolion na roddodd ddisgyblion ar gyfer mynediad cynnar yn
ymddangos yn is na’r rhai a ddefnyddiodd arholiadau mynediad cynnar ym mis Mehefin a Tachwedd
2017. Mynegwyd fod canlyniadau’r ymchwiliad yn fod i’w cyrraedd heddiw.
Mynegwyd mai'r brif broblem oedd bod newidiadau i ffiniau graddau CBAC wedi
codi 20 marc. Mynegwyd fod angen cyfiawnhad pam fod hyn wedi digwydd gan fod
ysgolion sydd yn hanesyddol yn perfformio yn agos i’w targedau i yn is eleni nac yr arferol. Gofynnwyd i
Gareth Thomas ar ran y deilyddion portffolio addysg i
ysgrifennu yn swyddogol at Gymhwysterau Cymru yn
gofyn am eglurhad. |
|
PROSIECT SHIRLEY CLARKE Cyflwyniad gan Stella Gruffydd Cofnod: Derbyniwyd cyflwyniad gan Stella Gruffydd yn
nodi'r gwaith oedd yn cael ei wneud ym Mhrosiect Shirley Clarke sydd â ffocws
ar Asesu ar gyfer Dysgu a gwella ansawdd y dysgu ac addysgu. Mynegwyd fod Haen
1 y prosiect yn dod at ei derfyn ac y bydd Haen 2 yn cychwyn ym mis Tachwedd. Tynnwyd sylw at ymrwymiad GwE i’r prosiect a
bod Prifysgol Bangor yn gwerthuso a mesur
effaith y cynllun. Nodwyd fod Arolwg diweddar o Ysgol Cefn Coch,
Penrhyndeudraeth yn dangos fod y gwaith mae’r prosiect yn ei wneud yn
llwyddiannus. Ychwanegwyd fod y cynllun yn un tair mlynedd a diolchwyd i staff
ac athrawon am eu gwaith. |