skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorwyr Keith Jones, Dewi Owen a Paul Rowlinson (Is-gadeirydd);

Anest Gray Frazer (yr Eglwys yng Nghymru) a David Healey (ATL);

Y Cynghorwyr Craig ab Iago (Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant) a Gareth Thomas (Addysg).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Selwyn Griffiths fuddiant personol yn Eitem 7 – Rôl Swyddogion Adfywio Bro i’r Dyfodol, oherwydd bod ei fab yn gweithio yn yr Uned Economi a bod posibilrwydd y bydd yn gyfrifol am yr Uned Adfywio Cymunedol i’r dyfodol.

 

Datganodd y Cynghorydd Aled Evans fuddiant personol yn Eitem 7 – Rôl Swyddogion Adfywio Bro i’r Dyfodol, oherwydd bod perthynas iddo yn gweithio yn yr Uned Adfywio Bro.

 

‘Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 88 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y dyddiadau isod fel rhai cywir:-

 

(a)        20 Medi, 2018  (ynghlwm)

(b)        15 Hydref, 2018 – Cyfarfod Arbennig  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Medi ac 15 Hydref (Cyfarfod Arbennig), 2018, fel rhai cywir.

 

5.

ADOLYGIAD HAFAN A HARBWR PWLLHELI pdf eicon PDF 154 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Ioan Thomas

 

Derbyn cyflwyniad ac ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*10.30yb – 11.15yb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Datblygu’r Economi ynghyd â chyflwyniad sleidiau gan yr Uwch Reolwr Economi ac Adfywio yn olrhain hanes Harbwr a Hafan Pwllheli ers y 1990au cynnar, yn amlinellu’r ystyriaethau perthnasol ac yn manylu ar y gwaith sydd wedi digwydd hyd yma o safbwynt datblygu opsiynau ar y safle, yn sgil tuedd gostyngol yn incwm yr Hafan ers 2008/09.  Gwahoddwyd y pwyllgor craffu i ystyried y gwaith hwnnw a gofynnwyd i’r aelodau a oeddent yn cytuno:-

 

·         Gyda’r amcanion craidd a gynigiwyd ar gyfer gwerthuso’r sefyllfa bresennol a’r opsiynau amgen i’r dyfodol.

·         Bod achos dros newid.

·         Gyda’r argymhellion i ddatblygu 4 opsiwn ymhellach.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet, y Pennaeth Gwasanaeth a’r Uwch Reolwr ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Bod y pwyllgor o’r farn bod achos dros newid a hynny oherwydd bod y sefyllfa bresennol, gyda’r tuedd gostyngol yn incwm a defnydd yr Hafan a’r Harbwr, yn arwain at risg o fethu cyflawni amcan craidd yr Hafan o fod yn sbardun economaidd, yn arbennig i ardal Pwllheli, ac felly’n anghynaladwy.

·         Bod y pwyllgor yn cyd-fynd â’r opsiynau i wneud gwaith pellach a bod yna negeseuon allweddol i’r gwasanaeth eu hystyried wrth gyflawni’r gwaith hwnnw, yn benodol o safbwynt edrych sut y gellir buddsoddi ymhellach er mwyn gwneud yr Hafan a’r Harbwr yn hyfyw a cheisio datrysiad i’r sefyllfa carthu a gwaredu gwaddod yn y tymor byr a’r hir dymor.  Dylid ystyried hefyd oes gwersi i’w dysgu gan awdurdodau eraill o safbwynt gwaredu’r gwaddod.

·         O safbwynt yr opsiwn o gadw’r incwm net o £400k y rhagwelir y bydd yr Hafan yn ei ddychwelyd eleni, bod y pwyllgor o’r farn bod rhaid bod yn agored, ar y naill law, i beth fyddai effaith hynny ar weddill gwasanaethau’r Cyngor, ac ar y llaw arall, i beth fyddai effaith peidio gwneud hynny ar economi ardal Pwllheli, a’r perygl o golli’r marina yn y pen draw.

·         Bod neges hefyd o ran yr angen i ddeall gofynion y cwsmer er mwyn gallu ymateb iddynt ac y dylai’r opsiynau edrych ar sut i farchnata a chadw’r safle’n hyfyw, ayb.

·         Y dylid cyflwyno adroddiad pellach i’r pwyllgor hwn maes o law ar ôl datblygu’r gwahanol opsiynau mewn mwy o fanylder.

 

6.

CEFNOGI BUSNESAU GWYNEDD (YNG NGHYSWLLT BREXIT) pdf eicon PDF 58 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Ioan Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*11.15yb – 12.00yp

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Datblygu’r Economi yn manylu ar sut mae’r Cyngor a sefydliadau eraill yn cefnogi busnesau lleol yn gyffredinol ac mewn ymateb i Brexit.

 

Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet, y Pennaeth Gwasanaeth a’r Rheolwr ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Bod y sylwadau a gyflwynwyd yn adlewyrchu ei bod yn parhau’n gyfnod dyrys o ansicrwydd.  Cydnabyddir ei bod yn anodd iawn cefnogi busnes yn yr hinsawdd bresennol oherwydd y diffyg gwybodaeth, ac ati, ond croesawir y ffaith bod busnesau risg uchel yn cael eu targedu er mwyn ceisio gweld oes yna unrhyw beth arall y gall y Cyngor ei wneud i’w cynorthwyo.  Cydnabyddir hefyd bod amseru’r drafodaeth yn anodd a bod rhaid osgoi creu dryswch rhag rhoi camarweiniad.

·         Bod yna awydd gan aelodau’r pwyllgor i’r Adran ystyried ymhellach sut i gefnogi’r busnesau lleiaf yng Ngwynedd, ac efallai rhoi hysbysrwydd neu ehangu’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol er mwyn uchafu’r wybodaeth sydd ar gael a’r hyn mae pobl yn gwybod am y gefnogaeth sy’n bodoli eisoes, neu efallai dreialu sgyrsiau mewn cymunedau llai.

·         Bod awydd hefyd gan aelodau’r pwyllgor i’r Adran ystyried oes yna gapasiti i roi diweddariad i’r cynghorau cymuned fel eu bod hwythau’n ymwybodol o’r hyn sydd ar gael o ran cefnogaeth gan y Cyngor.

·         Y gofynnir i’r Gwasanaeth roi gwybod i’r aelodau am unrhyw ddatblygiadau yn y maes hwn, e.e. trwy Rhaeadr, yn hytrach nag aros o un pwyllgor craffu i’r nesaf.

 

7.

ROL SWYDDOGION ADFYWIO BRO I'R DYFODOL pdf eicon PDF 257 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Craig ag Iago

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*12.00yp – 12.45yp

 

 

*TORIAD I GINIO – 12.45yp – 1.30yp

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant yn gwahodd barn y pwyllgor ar 2 opsiwn i wneud y defnydd gorau o sgiliau ac adnoddau’r Tîm Swyddogion Adfywio Bro i’r dyfodol, sef:-

 

·         Opsiwn 1 – cyfuno rôl y Tîm Adfywio Cymunedol gyda thimau eraill o fewn y Gwasanaeth Rhaglenni Datblygu Economaidd.

·         Opsiwn 2 – cadw tîm bychan gyda’i gilydd er mwyn cadw’r pwyslais ar gefnogi cymunedau i gyflawni.

 

Gofynnwyd hefyd am sylwadau’r pwyllgor ar yr argymhellion a ganlyn:-

 

·         Ail-ddiffinio rôl Swyddogion Adfywio Bro i fod yn Swyddogion Cefnogi Cymunedau fyddai’n ymgorffori rôl cyswllt â’r Cynghorau Cymuned a’r Trydydd Sector.

·         Bod swyddog cyswllt yn cael ei adnabod i gymunedau unigol, ond bod y swyddogion yn gweithio yn fwy fel tîm sirol, er mwyn manteisio ar sgiliau a chryfderau penodol gwahanol aelodau o’r tîm.

·         Bod y tîm yn cryfhau’r cyswllt gyda’r llyfrgelloedd er mwyn hyrwyddo mynediad cymunedau i ffynonellau gwybodaeth a chymorth i’r dyfodol.

 

Dosbarthwyd copïau o Raglen Waith y Gwasanaeth Adfywio Cymunedol i’r aelodau yn y cyfarfod.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Gwasanaeth ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Crynhodd y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Bod yna gefnogaeth yn gyffredinol i opsiwn 2, ar y sail y byddai hynny’n creu adnodd fyddai’n galluogi i’r Cyngor gynnal perthynas gyda’r cymunedau ar ystod ehangach o raglenni a ddim yn eu cyfyngu i raglenni sydd yn cyfrannu i amcanion adfywio a datblygu’r economi yn unig. 

·         Bod cefnogaeth hefyd i beilota’r cynllun gyda’r llyfrgelloedd fel canolfan ffynonellau gwybodaeth.

 

8.

DYLEDION CINIO YSGOL pdf eicon PDF 73 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

*1.30pm – 2.00pm

 

 

*amcangyfrif o’r amseroedd

 

 

 

 

Cynhelir Gweithdy ar y Toriad i’r Grant Gwella Addysg am 2.00yp, gyda sesiwn anffurfiol i ddilyn ar gyfer yr aelodau ar derfyn y gweithdy.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg ar gais y Cadeirydd yn manylu ar y sefyllfa dyledion cinio ysgol, y prosesau sydd wedi bod yn weithredol er mwyn ymateb i’r sefyllfa o ddyledion, ynghyd â’r camau pellach y mae’r Adran wedi, ac yn bwriadu, eu gweithredu er mwyn ymateb yn briodol i’r sefyllfa, gan leihau dyledion cinio ysgol dros amser.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth Gwasanaeth a’r Uwch Swyddog ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau gan yr aelodau.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod gwall yn y ffigurau yn y fersiwn Saesneg o’r golofn ‘Gwerth anfonebau a godwyd yn y flwyddyn’ yn Nhabl B o dan paragraff 4.1 o’r adroddiad (tudalen 29 o’r rhaglen) a bod y ffigurau cywir fel a ganlyn:-

 

Blwyddyn

Gwerth anfonebau a godwyd yn y flwyddyn

2013/14

£21,937.80

2014/15

£26,600.12

2015/16

£29,254.63

2016/17

£36,634.45

2017/18

£39,576.81

 

Crynhodd y Cadeirydd brif gasgliadau’r drafodaeth fel a ganlyn:-

 

·         Bod y pwyllgor yn gefnogol i’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd o ran targedu cymorth i’r ysgolion hynny sydd â’r dyledion mwyaf i sicrhau eu bod yn dilyn y drefn a bod y penaethiaid yn cymryd cyfrifoldeb ac yn deall beth sydd i fod i ddigwydd o safbwynt y trefniadau.

·         Bod cefnogaeth hefyd i edrych ar ddod â’r Awdurdod yn rhan o’r broses mor fuan â phosib’, a hynny’n cynnwys monitro’r sefyllfa’n gyson, gan edrych a oes yna rôl ganolog i’r Awdurdod, yn hytrach na bod hyn yn digwydd fesul ysgol.

·         Bod cefnogaeth hefyd i fwriad yr Adran i edrych a oes modd paratoi pecyn i gynorthwyo’r teuluoedd hynny sy’n cael problemau talu.

·         Y gofynnir i’r Adran ystyried a oes modd gwneud gwaith pellach i weld beth, os o gwbl, yw’r cyswllt rhwng y codiad ym mhris cinio ysgol a’r lefelau dyled.

·         Bod cefnogaeth gref i fynd i’r afael â’r sefyllfa mor fuan â phosib’, fel mae’r Adran wedi cychwyn gwneud eisoes, fel bod llai o deuluoedd yn mynd i ddyled.