skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd John Pughe Roberts a Gethin Glyn Williams.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts fuddiant personol, yn eitem 5 ar y rhaglen - ‘Amodau Gwaith Lleol’ oherwydd bod ei wraig wedi derbyn y llythyr a bod y newidiadau yn effeithio arni yn ariannol.

 

Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 117 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Mai 2018, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Mai 2018, fel rhai cywir.

5.

AMODAU GWAITH LLEOL pdf eicon PDF 47 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nododd y Cadeirydd bod yr eitem gerbron y Pwyllgor mewn ymateb i gais a dderbyniwyd gan ddau aelod o’r Pwyllgor, y Cynghorwyr John Brynmor Hughes ac Angela Russell, i drafod y llythyr a anfonwyd at staff y Cyngor yn eu hysbysu o benderfyniad Cabinet y Cyngor ar 13 Mawrth 2018 i fabwysiadu addasiadau i amodau gwaith y Cyngor.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol yr adroddiad, gan nodi yr anfonwyd llythyr i staff ar 26 Mawrth i’w hysbysu o benderfyniad y Cabinet, yn ei enw ef fel Pennaeth yr Adran efo cyfrifoldeb am weithredu’r penderfyniad. Eglurodd yr anfonwyd llythyr dilynol ar 3 Ebrill yn ymddiheuro i staff am dôn y llythyr a’r dewis o eiriau a ddefnyddiwyd. Nododd bod yr ymddiheuriad yn un diffuant a oedd angen ei wneud. Pwysleisiodd bod gwers bwysig wedi ei ddysgu am yr angen i fod yn barchus.

 

Nododd y Cynghorydd Angela Russell ei diolch am onestrwydd y Pennaeth. Nododd ei bod yn poeni o ran effaith y llythyr ar forâl staff. Holodd a oedd y camgymeriad wedi ei wneud oherwydd effaith y toriadau gyda dim digon o staff i wneud y gwaith a’r pwysau arnynt. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, fel ag y bu iddo adrodd i gyfarfod herio perfformiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, nad oedd am guddio tu ôl i ddiffyg capasiti a’i fod yn cydnabod  bod camgymeriad wedi ei wneud. Pwysleisiodd na fyddai’n digwydd eto a bod camau mewn lle i sicrhau hynny.

 

Nododd y Cynghorydd John Brynmor Hughes ei fod yn bresennol yng nghyfarfod herio perfformiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol a’i fod yn derbyn eglurhad y Pennaeth a’r ffaith bod gwersi wedi eu dysgu a’r addewid  na fyddai sefyllfa o’r fath yn codi eto.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o ran pwy oedd wedi gweld y llythyr cyn ei anfon at staff, nododd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol bod cyfreithiwr yn arbenigo yn y maes cyflogaeth, a oedd yn cynrychioli’r Swyddog Monitro, wedi edrych ar y llythyr i wirio ei fod yn ffeithiol gywir. Eglurodd bod tôn y llythyr yn fater iddo ef fel Pennaeth.

 

Holodd aelod os oedd y Prif Weithredwr wedi gweld y llythyr. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol nad oedd y Prif Weithredwr wedi gweld y llythyr gan ei fod yn fater gweithredol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o ran faint o staff oedd wedi ymateb i’r llythyr, nododd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol bod 50% wedi ymateb i’r llythyr. Eglurodd bod y llythyr ymddiheuriad a anfonwyd at staff yn nodi os nad oedd staff yn ymateb i’r llythyr, a’u bod yn bresennol yn y gwaith pan ddaw’r newidiadau i’r amodau gwaith i rym ar 1 Gorffennaf 2018, byddai eu presenoldeb yn cadarnhau eu bod yn derbyn y newidiadau.

 

Nododd aelod ei fod wedi derbyn copi o’r llythyr fel Clerc Llywodraethwyr ysgol er nad oedd yn y swydd ers 4 mlynedd. Holodd beth oedd effaith y llythyr ar forâl staff. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol ei fod wedi dod i’r amlwg  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL pdf eicon PDF 58 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosododd Rheolwr Cefnogi Busnes y Cyngor y cyd-destun, gan nodi mai rôl y Pwyllgor oedd bodloni ei hun bod trefniadau a phrosesau ar waith er mwyn sicrhau bod cynigion gwella adroddiadau archwilio allanol yn cael eu gweithredu, ac ni ddylai’r Pwyllgor ail-gynnal ymchwiliad i faterion a oedd o fewn maes gwaith y pwyllgorau craffu eraill.

 

Cyfeiriodd at Atodiad 1 i’r adroddiad a oedd yn cynnwys rhestr gronolegol o’r arolygiadau a gynhaliwyd gan archwilwyr allanol rhwng 2012/13 a 2017/18 ynghyd â’u cynigion ar gyfer gwella, a’r cynnydd a wnaed gan y Cyngor yn erbyn y cynigion hynny ers i’r Pwyllgor drafod y mater yn ei gyfarfod ar 30 Tachwedd 2017. Eglurodd mai sylwadau gan yr Adran berthnasol y nodir o dan y pennawd ‘Cynnydd yn erbyn y cynigion gwella’, gyda barn annibynnol swyddogion o Uned Cefnogi Busnes y Cyngor yn cael ei nodi o dan y pennawd ‘Casgliad’. Nododd mai mater i’r Pwyllgor oedd barnu os oeddent yn cytuno efo’r casgliad bod y gwaith o wireddu’r argymhelliad ‘wedi’i gwblhau’ neu yn parhau ‘ar waith’.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y prif bwyntiau canlynol gan aelodau:

·         Bod adroddiad ‘Gwerthusiad Perfformiad Blynyddol yr Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) 2013/14’ wedi ei gyflwyno gryn amser yn ôl. Pwy oedd yn cwblhau’r asesiadau iechyd ar gyfer plant oedd yn derbyn gofal ac oedd diffyg doctoriaid yn rheswm am y gostyngiad yn y ganran perfformiad ar gyfer cofrestru gyda Meddyg Teulu cyn pen 10 diwrnod?

·         Bod y cynnydd o ran y cynigion gwella yn yr adroddiad a nodir uchod yn fater oedd angen sylw;

·         Dylid gofyn i’r Pwyllgor Craffu Gofal ystyried craffu’r materion a amlygwyd gan adroddiadau 2013/14 a 2014/15 yr AGGCC, adroddiad ‘Helpu Pobl i Fyw’n Annibynnol: A yw Cynghorau’n Gwneud Digon?’, ynghyd ag adroddiad ‘Arolygiad Cenedlaethol o ofal a chymorth i bobl sydd ag anableddau dysgu (Arolygiad ar y cyd gan AGGCC ac Arolygiaeth Gofal Iechyd), a’r gwaith a wnaed i ymateb i’r cynigion gwella;

·         Dylid gofyn i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ystyried craffu’r materion a amlygwyd yn yr adroddiad ‘Cyflawni â Llai – yr effaith ar wasanaethau iechyd yr amgylchedd a dinasyddion’, a’r gwaith a wnaed i ymateb i’r cynigion gwella;

·         Dylid derbyn cadarnhad o ran pa bwyllgor ddylai rhoi ystyriaeth i adroddiad ‘Rheoli asedau [Tir ac Adeiladau]’;

·         O ran yr adroddiad ‘Diogelwch Cymunedol yng Nghymru’, os oedd y mater yng nghylch gorchwyl y Pwyllgor hwn, fe ddylai’r Pwyllgor dderbyn adroddiad ar y mater;

·         Dylid derbyn eglurhad pam nad oedd 3 cynnig gwella o dan yr adroddiad ‘Strategaeth Pobl’ wedi eu cwblhau.

 

Holodd aelod os oedd amserlen o ran cwblhau’r gwaith i ymateb i’r cynigion gwella. Nododd Rheolwr Cefnogi Busnes y Cyngor y byddai ystyriaeth i amserlen o ran cwblhau’r gwaith i ymateb i’r argymhellion pan gyflwynir diweddariad i’r Pwyllgor mewn 6 mis.

 

Cymerodd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y cyfle i ddiweddaru’r aelodau o ran y cynnydd yn erbyn yr argymhellion yng nghyswllt yr adroddiad ‘Rheoli Risg - Asesiad sy’n seiliedig ar risg o drefniadau corfforaethol y Cyngor’. Cadarnhaodd y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYFRIFON TERFYNOL 2017/18 – ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 119 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid, gosododd y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 22 Mai 2018. Nododd bod sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2017/18 yn cadarnhau y bu rheolaeth ariannol effeithiol gan yr Aelodau Cabinet perthnasol, penaethiaid adrannau a rheolwyr cyllidebau.

 

Tynnodd sylw at benderfyniad y Cabinet:

 

“1.1  Ystyried a nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2017/18.

 

1.2 Cymeradwyo’r symiau i’w cario ’mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef –

 

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

(100)

Plant a Theuluoedd

100

Addysg

0

Economi a Chymuned

(35)

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

100

Amgylchedd (Rheoleiddio gynt)

(100)

Ymgynghoriaeth Gwynedd

(82)

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(66)

Cyllid

(66)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(67)

 

            1.3    Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol  

                     (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2) –

·         Trosglwyddo £457k, cyfwerth â grant cefnogi gwasanaethau cymdeithasol dros y gaeaf i gronfa benodol er mwyn cefnogi hyblygrwydd a hwyluso trawsffurfio yn y maes Oedolion i'r dyfodol.

·         Cynaeafu (£37k) o'r tanwariant sef y swm uwchlaw (£100k) Oedolion, Iechyd a Llesiant, i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd yn gorwario eleni.

·         Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol un-tro o £676k i leddfu rhan helaeth o orwariant 2017/18, gan ganiatáu iddynt symud ymlaen i wynebu her 2018/19.

·         Trosglwyddo £207k ei ddileu gorwariant yr Adran Addysg, tra bod polisïau a threfniadau cludiant yn cael eu hadolygu.

·         Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cymorth ariannol un-tro rhannol o £203k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario mlaen gan yr Adran i £100k, i'w cynorthwyo i symud ymlaen i wynebu her 2018/19.

·         Trosglwyddo £378k o danwariant 2017/18 yr Adran Amgylchedd i gronfa benodol, yn ymwneud â bysus a chost llwybrau, i'w ddefnyddio yn 2018/19.

·         Cynaeafu (£89k) o danwariant yr Adran Amgylchedd sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd yn gorwario eleni.

·         Cynaeafu (£894k) o'r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol (ar Ostyngiad Treth Cyngor, bidiau a chyllidebau a ddychwelwyd gan adrannau ac ar benawdau eraill), a’i drosglwyddo i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2017/18.

·         Trosglwyddo £66k o'r Gronfa Cynorthwyo'r Strategaeth Ariannol, sef y balans sydd angen, i gynorthwyo’r adrannau sydd yn gorwario.

 

1.4             Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel a   

       amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd, sef:

·         Cynaeafu (£2.915m).

·         Neilltuo £2.749m ar gyfer Cynllun y Cyngor.

·         Neilltuo £166k ar gyfer materion gwastraff.”

 

Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid bod y sefyllfa ariannol yn gyffredinol yn un derbyniol iawn. Eglurodd bod yr Aelodau Cabinet perthnasol wedi egluro’r rhesymau am y gorwariant yn yr Adran Plant a Theuluoedd a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol yng nghyfarfod y Cabinet ar 22 Mai 2018. Cadarnhaodd y derbyniwyd sicrwydd yn y cyfarfod bod y gorwariant yn derbyn sylw.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid bod y tanwariant yn yr Adran Addysg, Adran Amgylchedd ac Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, oherwydd bod y Cyngor wedi derbyn arian grant gan Lywodraeth Cymru yn niwedd y flwyddyn ariannol. Cadarnhaodd bod yr arian  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

RHAGLEN GYFALAF 2017/18 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN pdf eicon PDF 112 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn rhoddi manylion ar adolygiad diwedd y flwyddyn o’r rhaglen gyfalaf.

 

Gosododd yr Uwch Reolwr Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 22 Mai 2018. Nodwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i wario dros £23m yn 2017/18 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £11m wedi’i ariannu trwy ddenu grantiau penodol. Cadarnhawyd y byddai £15.6m o gyllideb gwariant yn llithro o 2017/18, o’i gymharu â llithriad o £9.9m ar ddiwedd 2016/17. Ni achoswyd unrhyw golled ariannu grant i’r Cyngor ble gwelwyd cynlluniau yn llithro.

 

         Holodd aelod os oedd rhaid i’r Cyngor wario’r derbyniadau grant ar gyfer adnewyddu ffyrdd a chludiant a dderbyniwyd yn chwarter olaf 2017/18 yn syth. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid bod cynghorau yn cael cario arian drosodd ac fe fyddai rhan fwyaf o’r arian yn cael ei wario yn 2018/19.

 

         Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd y Pennaeth Cyllid bod tystiolaeth y derbynnir mwy o arian ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, os nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwario’r holl arian a glustnodwyd ar gyfer prosiectau penodol byddent yn trosglwyddo’r arian i’r cynghorau lleol.

 

         Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid ei ddiolch am y gwaith a llongyfarchodd adrannau’r Cyngor ar eu llwyddiant i ddenu grantiau er budd trigolion Gwynedd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor.

9.

TROSOLWG ARBEDION 2017/18: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 113 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid a oedd yn adrodd ar sefyllfa ddiweddaraf gwireddu cynlluniau arbedion.

 

         Gosododd yr Uwch Reolwr Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 22 Mai 2018. Nododd bod 108 o 122 o gynlluniau arbedion 2017/18 wedi eu gwireddu’n llawn neu’n rhannol yn amserol. Cadarnhaodd yn nhermau ariannol bod 81% o’r arbedion wedi’u gwireddu.

 

         Nododd bod y Cabinet ar 13 Chwefror 2018 wedi penderfynu cyfuno amryw o gynlluniau unigol yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant i ffrydiau gwaith oedd yn cyflawni arbedion o’r un cyllidebau. Rhagwelwyd y byddai hyn yn galluogi’r Adran yn ystod 2018/19 i wneud cynnydd sylweddol tuag at wireddu’r arbedion a oedd wedi llithro.

 

         Adroddodd bod rhagolygon o wireddu cynlluniau arbedion 2018/19 yn gyffredinol addawol.

 

         PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y trosolwg arbedion.

 

 

10.

DATGANIAD O GYFRIFON 2017/18 pdf eicon PDF 73 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, y datganiadau ariannol statudol (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid. Tynnwyd sylw mai cyfrifon drafft heb eu harchwilio a gyflwynir yma er gwybodaeth, gyda’r fersiwn terfynol i’w gyflwyno er cymeradwyaeth y Pwyllgor yng nghyfarfod 27 Medi 2018. Adroddwyd bod linc i’r datganiad wedi ei anfon i holl aelodau’r Cyngor ar 20 Mehefin a bod y datganiad yn destun archwiliad gan gwmni Deloitte, archwilwyr allan y Cyngor a benodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, ers 18 Mehefin.

 

Manylodd yr Uwch Reolwr Cyllid ar gynnwys y Datganiad o Gyfrifon.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Cyllid at y Gronfa Trawsffurfio / Buddsoddi i Arbed gan nodi ei fod yn gronfa strategol ar gyfer cyflawni yn unol â Chynllun y Cyngor gydag oddeutu £5m wedi ei glustnodi eisoes. Eglurodd bod y Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol ar gyfer pontio gwariant cyn cyflawni rhai o’r cynlluniau arbedion.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt y Gronfa Trawsffurfio / Buddsoddi i Arbed, eglurodd y Pennaeth Cyllid bod yr arian ar gyfer blaenoriaethau’r Cyngor a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor. Ymhelaethodd bod £50,000 wedi ei ddyrannu ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19 er mwyn gwireddu’r cynllun ‘Cynyddu Budd Digwyddiadau Mawrion i Wynedd’. Eglurodd bod Adrannau’r Cyngor yn dod gerbron y Cabinet efo syniadau i gyflawni blaenoriaethau’r cynllun efo mwy o fanylder.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid bod yr Uwch Reolwr Cyllid a’r tîm o gyfrifwyr wedi gwneud llawer o’r gwaith ar y Datganiad o Gyfrifon, a’i fod ef wedi gwirio’r Datganiad. Adroddodd y byddai Datganiad o Gyfrifon y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2017/18 cyn archwiliad yn dod gerbron y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 19 Gorffennaf 2018.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet Cyllid i swyddogion yr Adran Gyllid am eu gwaith cywir a manwl gan nodi bod Swyddfa Archwilio Cymru yn canmol cyfrifon y Cyngor a’i fod yn obeithiol y byddent yn gwneud eleni hefyd. Cymerodd y cyfle i ddiolch i swyddogion y Cyngor o ran eu hymateb i ofynion ariannol anodd.

 

Ategodd y Cadeirydd y sylwadau uchod gan ddiolch am y gwaith.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2017/18.

 

11.

DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD 2017/18 pdf eicon PDF 91 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg.

 

Nodwyd bod y Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu wedi ystyried yr Egwyddorion Craidd a’r Is-egwyddorion yn Fframwaith CIPFA / SOLACE Delivering Good Governance in Local Government 2016, ac wedi llunio Cofrestr Risg Llywodraethu. Tynnwyd sylw bod y Gofrestr Risg Llywodraethu yn adnabod risgiau mewn 22 o feysydd llywodraethu gwahanol, gan nodi’r rheolaethau er mwyn lliniaru’r risgiau. Nodwyd bod camau gweithredu ar gyfer y meysydd oedd â blaenoriaeth uchel neu ganolog wedi eu nodi yn y datganiad.

 

          Nododd aelod ei diolch am y gwaith. Cyfeiriodd at yr asesiad effaith o dan y pennawd ‘Cyfreithlondeb’, nododd er ei bod yn cydnabod bod y ddogfen ar lefel strategol uchel ei bod o’r farn bod yr asesiad yn eithaf cyfyng gan ganolbwyntio ar rôl y Swyddog Monitro a phenderfyniadau ffurfiol. Nododd bod nifer o faterion yn cael eu codi yng nghyfarfodydd y Pwyllgor o ran cydymffurfio a deddfau ar draws y Cyngor, er enghraifft, yn y meysydd Iechyd a Diogelwch a Diogelu Plant ac Oedolion Bregus.

 

          Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y ceisir peidio dyblygu gwybodaeth o dan benawdau amrywiol. Eglurodd bod materion yn y meysydd Iechyd a Diogelwch a Diogelu Plant ac Oedolion Bregus yn cael sylw o dan y pennawd ‘Rheoli Risg’. Pwysleisiodd mai Datganiad Llywodraethu oedd gerbron a bod materion perfformiad yn cael eu cynnwys yn Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor.

 

          Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg at y pennawd ‘Rheolaeth Fewnol’, gan nodi bod y ffin o ran rôl aelodau o ran craffu ac archwilio yn aneglur gyda’r angen i ddatblygu rhaglen hyfforddi er mwyn i’r aelodau dderbyn arweiniad. Nododd y byddai adroddiad ar y mater gerbron y Pwyllgor ar 19 Gorffennaf.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     cymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2017/18;

(ii)    argymell bod Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr yn arwyddo’r datganiad.

12.

CYFRIFON TERFYNOL HARBYRAU GWYNEDD 2017/18 pdf eicon PDF 61 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Cyllid adroddiad yng nghyswllt cyfrifon terfynol Harbyrau Gwynedd am y flwyddyn 2017/18 yn unol â’r gofynion statudol o dan Ddeddf Harbyrau 1964. Nodwyd bod y cyfrifon yn cynnwys harbyrau Aberdyfi, Abermaw, Porthmadog a Pwllheli. 

 

Nodwyd yr ystyrir Harbyrau Gwynedd, oherwydd trosiant is na £2.5m, i fod yn gorff llywodraeth leol lai o faint yn unol â’r diffiniad yn y Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018. Eglurwyd bod cwblhau ffurflen datganiadau cyfrifon a ddarparwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru yn cwrdd â’r gofynion statudol ac nid oedd rhaid cynhyrchu datganiadau ariannol statudol llawn.

 

Adroddwyd y byddai’r cyfrifon a’r ffurflen yn destun archwiliad buan gan Deloitte, archwilwyr allanol Cyngor Gwynedd a apwyntiwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac os byddai newidiadau, cyflwynir fersiwn diwygiedig i gyfarfod y Pwyllgor ar 27 Medi 2018.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     derbyn a chymeradwyo’r wybodaeth yn yr atodiadau, sef -

·         Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2017/18 – Atodiad A; a

·         Ffurflen datganiadau cyfrifon 2017/18, ar gyfer archwiliad – Atodiad B.

(ii)    awdurdodi’r Cadeirydd i arwyddo’r ffurflen datganiadau cyfrifon 2017/18.