skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriad gan yr Aelod Cabinet Cyng. Craig ab Iago.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nododd y Swyddog Monitro, yn dilyn caniatâd gan Gadeirydd y Cyngor, y bydd angen ystyried Eitem 7 - Datganiad o Effaith Lleol yn sgil datblygu Gorsaf Bŵer Niwclear Newydd, Wylfa Newydd fel eitem frys. O ganlyniad i hyn ni fydd yn dilyn amserlen arferol y Cabinet ac y bydd y penderfyniad yn cael ei eithrio o’r drefn galw i mewn ac yn dod i rym ar ddyddiad y cyfarfod a’r penderfyniad.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 6 TACHWEDD pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd y Cabinet a gynhaliwyd ar y 6ed o Dachwedd fel rhai cywir

 

6.

ADNODDAU CYDLYNYDD STRATEGAETH IAITH UWCHRADD GWYNEDD pdf eicon PDF 99 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng, Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    I ymrwymo £20,000 o gyllid hyd at ddiwedd Mawrth 2019 o’r Gronfa Trawsffurfio i ariannu swydd Cydlynydd Strategaeth Iaith Uwchradd Gwynedd. Bydd y swydd yn gyfrwng i wireddu un o’r ymrwymiadau yng Nghynllun y Cyngor, fydd yn arwain at gynnydd pellach yn nefnydd cymdeithasol a chwricwlaidd disgyblion o’r Gymraeg.

b)    I ddychwelyd gerbron y Cabinet gyda chais am adnoddau pellach i ariannu swydd Cydlynydd Strategaeth Iaith Uwchradd Gwynedd o 2019/20 ymlaen, pe na fyddai’r trafodaethau gyda’r consortia rhanbarthol (GwE) i gyllido’r swydd i’r dyfodol yn profi yn llwyddiannus.

Cofnod:

PENDERFYNWYD

 

a)    I ymrwymo £20,000 o gyllid o rŵan hyd at ddiwedd Mawrth 2019 o’r Gronfa Trawsffurfio i ariannu swydd Cydlynydd Strategaeth Iaith Uwchradd Gwynedd. Bydd y swydd yn gyfrwng i wireddu un o’r ymrwymiadau yng Nghynllun y Cyngor, fydd yn arwain at gynnydd pellach yn nefnydd cymdeithasol a chwricwlaidd disgyblion o’r Gymraeg.

b)    I ddychwelyd gerbron y Cabinet gyda chais am adnoddau pellach i ariannu swydd Cydlynydd Strategaeth Iaith Uwchradd Gwynedd o 2019/20 ymlaen, pe na fyddai’r trafodaethau gyda’r consortia rhanbarthol (GwE) i gyllido’r swydd i’r dyfodol yn profi yn llwyddiannus.

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Strategaeth Iaith bellach yn ei le ers rhai blynyddoedd, a bod y Siarter Iaith yn yr ysgolion cynradd wedi ei ymestyn ar hyd Cymru. Mynegwyd fod angen dilyniant i’r Siarter Iaith yn yr ysgolion uwchradd. Penodwyd Cydlynydd yn Ebrill 2017 i arwain y strategaeth iaith ac ychwanegwyd fod gwaith da wedi ei wneud. Tynnwyd sylw at Ysgol Tywyn ble mae newid agwedd wedi bod tuag at y Gymraeg yn dilyn gwaith penodol ar ysgol gan y cydlynydd.

 

Nodwyd flwyddyn yn ôl fod yr Aelod Cabinet wedi gwneud cais am adnoddau ychwanegol wedi ei sylfaenu ar yr un ymrwymiad o adnoddau a roddwyd i sefydlu’r Siarter Iaith yn ysgolion cynradd. Ymatebwyd yn y Cyfarfod Cabinet drwy nodi fod angen i’r Aelod Cabinet Dros Addysg a’r Aelod Cabinet dros y Gymraeg i ysgrifennu at yr Ysgrifenyddion Cabinet perthnasol yn Llywodraeth Cymru yn gofyn iddynt ddarparu’r arian er mwyn ariannu'r swydd Cydlynydd. Derbyniwyd ymatebiad gan Eluned Morgan AC a oedd yn cyfeirio ar y consortia rhanbarthol GwE. Yn dilyn trafodaethau a GwE, a nododd na fyddai modd i’r consortia gyllido’r swydd yn ystod 2018/19.

 

Mynegwyd y bydd modd i’r Cyngor ymgeisio am arian gan y consortia rhanbarthol ar gyfer cefnogaeth ariannol o 2019/20 ymlaen, gan nodi mai arian ar gyfer pontio’r ddau gyfnod y bydd yr £20,000 y gofynnwyd amdano.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Mynegwyd fod ymatebiad y Gweinidog Eluned Morgan yn un dyrys o ystyried fod y Cynulliad yn gobeithio cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ychwanegwyd eu bod yn synnu nad yw’r Llywodraeth yn gweld y cyfle yn un euraidd er mwyn datblygu Siarter Iaith sydd yn barod yn gweithio yn y cynradd.

-        Ategwyd fod Grant Cefnogi’r Gymraeg wedi ei dorri gan y Llywodraeth eleni sydd yn dangos diffyg ymrwymiad y Llywodraeth i gael miliwn o siaradwr Cymraeg. Ychwanegwyd fod Cyngor Gwynedd wedi  gwneud y gwaith caib a rhaw ar gyfer y Siarter Iaith gynradd a bod y Llywodraeth wedi ymgymryd â’r prosiect pan yn llwyddiannus. Mynegwyd siom nad yw’r Llywodraeth yn barod i gefnogi ac i fuddsoddi er mwyn datblygu.

 

Awdur: Debbie Jones

7.

DATGANIAD O EFFAITH LLEOL YN SGIL DATBLYGU GORSAF BWER NIWCLEAR NEWYDD, WYLFA NEWYDD pdf eicon PDF 118 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

a)    Cymeradwyo’r datganiad o effaith lleol drafft yn Atodiad 1.

b)    Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd, i wneud man addasiadau a chywiriadau fel bod angen i’r datganiad drafft ac i ychwanegu tystiolaeth berthnasol i gefnogi cyfeiriad y datganiad drafft, cyn cyflwyno’r ddogfen i’r Arolygiaeth Gynllunio erbyn y 4 Rhagfyr 2018.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Dafydd Meurig

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo’r datganiad o effaith lleol drafft yn Atodiad 1.

Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd, i wneud man addasiadau a chywiriadau fel bod angen i’r datganiad drafft ac i ychwanegu tystiolaeth berthnasol i gefnogi cyfeiriad y datganiad drafft, cyn cyflwyno’r ddogfen i’r Arolygiaeth Gynllunio erbyn y 4 Rhagfyr 2018.

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi er nad yw Wylfa Newydd wedi ei leoli yng Ngwynedd, y bydd angen meddwl ar yr effaith ar Wynedd. Ychwanegwyd fod Cais Cynllunio bellach wedi ei gyflwyno cais DCO i’r Ysgrifennydd Gwladol yn San Steffan er mwyn datblygu’r prosiect. Nodwyd fel rhan o archwilio’r cais DCO mynegwyd fod angen cyflwyno’r datganiad o effaith lleol erbyn y 4ydd Rhagfyr.

 

Mynegwyd fod y ddogfen ‘Datganiad o Effaith Lleol’ yn ddogfen mawl a bod y Cyngor yn datgan cefnogaeth mewn egwyddor o Orsaf Bŵer, ond pwysleisiwyd “nad ydym yn hyderus fod materion arwyddocaol sy’n ymwneud a llety, trafnidiaeth, sgiliau a chyflogaeth, yr iaith Gymraeg a gwasanaethau cyhoeddus wedi cael eu harchwilio a’u hystyried yn ddigonol”.

 

Pwysleisiwyd fod y ddogfen drafft yn manylu ar y materion hyn. Mynegwyd fod y materion wedi cael ei godi nid yn unig gan Gyngor Gwynedd ond gan bartneriaid eraill yn ogystal, er hyn, nodwyd nad yw unrhyw addasiadau wedi eu hystyried. Ychwanegwyd na fydd y cwmni yn monitro unrhyw faterion tan hanner ffordd drwy’r gwaith adeiladu a fydd o bosibl yn rhy hwyr i wneud unrhyw addasiadau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod y ddogfen yn un sylweddol, a bod y Cyngor wedi datgan yn glir eu pryderon ar effaith y datblygiad. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cyflwyno Datganiad Effaith fel rhan o’r drafodaeth.

-        Pwysleisiwyd y bydd mesur effaith pan hanner ffordd drwy’r adeiladau yn rhy hwyr wrth edrych ar feysydd megis yr Iaith.

-        Mynegwyd fod y prosiect yn un anferth, ac y bydd hyd at 9 mil o bobl ar y safle. Bydd hyn, nodwyd yn dyblu poblogaeth ac felly angen bod yn glir am y materion sydd wedi eu nodi.

 

Awdur: Gareth Jones

8.

CYNLLUN Y CYNGOR 2018-2023 - CAIS AM ADNODDAU PARHAOL I STAFFIO UNED DEMENTIA NEWYDD YN LLYS CADFAN, PLAS HAFAN, PLAS HEDD A BRYN BLODAU pdf eicon PDF 88 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. W Gareth Roberts

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Neilltuo £808,000 i gefnogi gweithrediad y flaenoriaeth Ail-ddylunio Gwasanaethau Gofal o fewn Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023 ac i gyfarfod gofynion Arolygaeth Gofal Cymru o ran staffio rotas cartrefi preswyl

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. W Gareth Roberts

 

PENDERFYNIAD

Neilltuo £808,000 i gefnogi gweithrediad y flaenoriaeth Ail-ddylunio Gwasanaethau Gofal o fewn Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-2023 ac i gyfarfod gofynion Arolygaeth Gofal Cymru o ran staffio rotas cartrefi preswyl

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad hwn yn bleser i’w chyflwyno. Nodwyd fod y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd wedi bod yn cyd-weithio er mwyn sicrhau fod pobl yn cael eu lleoli yn nes at adref. Nodwyd fod y Cyngor, yn dilyn derbyn arian cronfa ILF y Llywodraeth Cymru, wedi gallu addasu rhannau o gartrefi preswyl o fewn y sir er mwyn diwallu anghenion y bobl a dementia. Ychwanegwyd fod y niferoedd a dementia yn cynyddu a bod angen gofal arbenigol yn nes at adref, nid yn unig i’r claf, ond i’r teuluoedd yn ogystal.

 

Nodwyd fod gwaith wedi ei gwblhau ar 3 o’r cartrefi preswyl ac mae’r adran   yn hyderus y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn diwedd Mehefin ym Mryn Blodau.  Mynegwyd fod y cais ar gyfer arian er mwyn ariannu staff i fod yn gweithio yn yr unedau dementia. Ychwanegwyd fod gwerth o £31,000 o gyfanswm y bid yn ymwneud a’r angen i ymateb i ofynion Arolygaeth Gofal Cymru i gryfhau rotas ar draws Cartrefi Preswyl y Cyngor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod y cynllun yn un arloesol, a fydd yn cau'r bwlch a oedd i’w weld yn benodol yn ne'r sir.

-        Mynegwyd nad oes modd peidio ariannu'r cynllun, gan o ystyried y ddemograffeg sydd yn newid yn y sir, roedd angen cryfhau’r ddarpariaeth oedd ar gael.

-        Ychwanegwyd eu bod yn dda cael rhannu newyddion da yn enwedig yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, gan nodi y bydd y buddsoddiad yma yn hwb ar gyfer annog datblygiad yn y sector breifat.

-        Mynegwyd pwysigrwydd cadw pobl fregus o fewn eu cymuned.

 

Awdur: Aled Davies

9.

SEFYDLU CYFUNDREFN AR GYFER YMDRIN A SWYDDOGAETHAU'R CYNGOR FEL CORFF CYMERADWYO CEISIADAU SAFONNAU CENEDLAETHOL DRAENIO CYNALADWY pdf eicon PDF 76 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Fod gweithredu cyfrifoldebau statudol o’r Corff Cymeradwyo SDCau (CCS) i’w priodoli drwy’r Gwasanaeth Ymgynghoriaeth
  2. Dirprwyo’r cyfrifoldeb a phwerau CCS dan Adran 32 ac Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i Bennaeth Ymgynghoriaeth gyda'r hawl i ddirprwyo ymhellach fel sydd yn briodol
  3. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Ymgynghoriaeth sefydlu cyfundrefn benderfynu ceisiadau yn unol â’r Ddeddfwriaeth ac Arweiniad Statudol

4.    Dirprwyo’r hawl i Swyddog Monitro i addasu’r Cynllun Dirprwyo yn y Cyfansoddiad i adlewyrchu’r penderfyniad yma. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Fod gweithredu cyfrifoldebau statudol o’r Corff Cymeradwyo SDCau (CCS) i’w priodoli drwy’r Gwasanaeth Ymgynghoriaeth
  2. Dirprwyo’r cyfrifoldeb a phwerau CCS dan Adran 32 ac Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i Bennaeth Ymgynhoriaeth gyda'r hawl i ddirprwyo ymhellach fel sydd yn briodol
  3. Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Ymgynghoriaeth sefydlu cyfundrefn benderfynu ceisiadau yn unol â’r Ddeddfwriaeth ac Arweiniad Statudol
  4. Dirprwyo’r hawl i Swyddog Monitro i addasu’r Cynllun Dirprwyo yn y Cyfansoddiad i adlewyrchu’r penderfyniad yma. 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn gais i ddirprwyo’r hawliau ar gyfer sefydlu cyfundrefn ar gyfer ymdrin â Swyddogaethau’r Cyngor fel Corff Cymeradwyo ceisiadau Safonau Cenedlaethol Draenio Cynaliadwy dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 i’r adran Ymgynghoriaeth. Ychwanegwyd fod y drefn yn un statudol a fydd yn dod i rym ar y 7fed o Ionawr.

 

Esboniwyd y bydd angen systemau draenio cynaliadwy ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy nac un tŷ. Mynegwyd y bydd yn rhaid i’r systemau gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol a bydd angen sicrhau fod trefn cynnal a chadw mewn lle sydd wedi ei ariannu a’i ddiogelu drwy gytundeb cyfreithiol.

 

Ychwanegwyd fod sefydlu’r gyfundrefn yn un statudol o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 ac o ganlyniad yn faes statudol y bydd yn rhaid i’r Cyngor ymgymryd ag ef

Awdur: Emlyn Jones