skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Peredur Jenkins,

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Datganodd y canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir:

 

Dilwyn Williams (Prif Weithredwr) a Geraint Owen (Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol) yn eitem 5 ar y rhaglen gan  ei bod yn brif swyddogion ac felly yn destun y Polisi Tal. Pe byddai yna unrhyw drafodaeth ar y mater hwnnw, byddai’r ddau yn ymadael a’r ystafell. 

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 134 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 8.11.17 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar

08.11.17 fel rhai cywir

 

5.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TÂL Y CYNGOR pdf eicon PDF 218 KB

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod i bob pwrpas yn adrodd ar y sefyllfa ddiweddaraf a bod y polisi ei hun heb ei addasu. Byddai unrhyw newidiadau tebygol i’r polisi, yn ganlyniad i drafodaethau gyda’r undebau ar hyn o bryd i gyrraedd targed effeithlonrwydd, yn cael eu gweithredu yn ystod y flwyddyn. Yn ychwanegol, amlygwyd nad oedd trafodaethau cenedlaethol wedi eu cynnal hyd yma i drafod cyflogau prif weithredwyr a phrif swyddogion. Byddai hyn yn digwydd o ganlyniad i gytundeb cenedlaethol ar gyflogau staff, fydd yn debygol o ddilyn yr un trywydd a’r hyn fydd wedi ei gytuno ar gyfer gweithwyr llywodraeth leol yn gyffredinol.

 

 

Cyfeiriwyd at y cynnig presennol gan y cyflogwr yn genedlaethol i godi cyflogau gweithwyr llywodraeth leol am y ddwy flynedd nesaf. Nodwyd petai’r cynnig yn cael ei dderbyn, bod rhagolygon y byddai isafswm cyflog Cyngor Gwynedd yn uwch na’r Cyflog  Byw (Sefydliad Cyflog Byw) erbyn 1af Ebrill 2019. Eglurwyd mai canran fechan o staff y Cyngor sydd yn parhau i dderbyn cyflog is na’r hyn adnabyddir fel Cyflog Byw (8.75 yn bresennol).

 

Cyfeiriwyd hefyd at y trafodaethau adeiladol a gynhaliwyd gyda chynrychiolwyr yr undebau ynglŷn â newidiadau i elfennau o’r amodau gwaith lleol. Adroddwyd nad oedd modd cynnal balot gan nad oedd Swyddfa Genedlaethol Unsain yn caniatau i’r gangen leol roi’r cynnig gerbron aelodau mewn balot oherwydd y byddai’n arwain at ddirywiad mewn amodau gwaith. O ganlyniad bu i’r Cyngor ohebu yn uniongyrchol gyda phob aelod o staff fyddai’n cael ei heffeithio gan y newidiadau arfaethedig i bwrpas ymgynghori.

 

Tynnwyd sylw at y newidiadau arfaethedig o fewn y cynnig a phwysleiswyd y byddai’n ofynnol diweddaru cynnwys y Polisi Tal yn ddiweddarach yn y flwyddyn er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau a gymeradwyir maes o law.

 

Diolchwyd i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol am y cyflwyniad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyflogau gofalwyr sydd yn gweithio oriau gyda’r nos a’r cynnig i ddod a’r taliad ychwanegol am weithio rhwng 8 a 10pm i ben, adroddodd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol ei fod wedi cynnal trafodaethau gyda’r Pennaeth Oedolion Iechyd a Llesiant ynglŷn â’r newid arfaethedig hwn gan y byddai carfan o weithwyr gofal yn cael eu heffeithio..

 

Eglurodd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol bod angen cysoni’r taliad am weithio yn ystod y dydd hyd 10pm a derbyniodd ei fod yn ymddangos ar yr wyneb bod staff sydd yn gweithio rhwng 8 - 10pm am fod ar eu colled, Fodd bynnag, pwysleisiodd bod angen edrych ar y darlun yn ehangach h.y. yn wyneb y gytundeb cenedlaethol ar godi cyflogau. Eglurodd y bydd cynnydd sylweddol uwch i gyflogau ar waelod y strwythur tal o gymharu â chytundebau gweddill staff y Cyngor, sef codiad fydd uwchben y 2% sydd wedi ei gynnig gan y cyflogwr i’r rhan helaethaf o swyddogion ac y byddai hyn yn arwain at raddfa yr awr o £9.55 yr awr oddi ar y 1af o Ebrill i’r rhan fwyaf o ofalwyr a gyflogir gan y Cyngor.

 

Ategodd y Prif Weithredwr bod y Cabinet yn fyw i’r trafferthion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.