skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a swyddogion i’r  cyfarfod.

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Mair Rowlands a’r Cyng. W Gareth Roberts

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys i’w drafod

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 24 HYDREF pdf eicon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar y 24 Hydref 2017, fel rhai cywir.

6.

DOGFEN YMGYNGHOROL AR GYFER BLAENORIAETHAU ARFAETHEDIG AR GYFER CYNLLUN Y CYNGOR 2018-2023 pdf eicon PDF 284 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siecyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y ddogfen ymgynghorol ar flaenoriaethau Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018-2023 a chytundeb i gynnal cyfnod ymgynghori o 6 wythnos ar y ddogfen o’r 27ain o Dachwedd 2017.

Cytunwyd i’r trefniadau a amlinellwyd yn yr adroddiad er mwyn adnabod datrysiadau ac unrhyw anghenion adnoddau sydd ynghlwm a’r blaenoriaethau gan nodi y byddai yna adrodd yn ôl ar y canfyddiadau i’r Cabinet ym mis Ionawr.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dyfrig Siencyn

PENDERFYNWYD

Cymeradwywyd y ddogfen ymgynghorol ar flaenoriaethau Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018-2023 a chytundeb i gynnal cyfnod ymgynghori o 6 wythnos ar y ddogfen o’r 27ain o Dachwedd 2017.

Cytunwyd i’r trefniadau a amlinellwyd yn yr adroddiad er mwyn adnabod datrysiadau ac unrhyw anghenion adnoddau sydd ynghlwm a’r blaenoriaethau gan nodi y byddai yna adrodd yn ôl ar y canfyddiadau i’r Cabinet ym mis Ionawr.

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai dogfen ymgynghorol oedd yn cael ei drafod er mwyn mynd i ymgynghoriaeth gyffredinol ar flaenoriaethau Cynllun y Cyngor. Esboniwyd fel rhan o’r broses i lunio’r Cynllun fod cyfarfodydd wedi eu cynnal ar sail yr ardaloedd llesiant er mwyn amlygu unrhyw faterion oedd angen sylw lleol.

Aethpwyd i fanylder am amserlen y cynllun, gan nodi fod yr amserlen yn un dynn. Yn dilyn y cyfnod ymgynghori bydd adroddiad yn dod yn ôl i’r Cabinet ym mis Ionawr. Bydd gwaith pellach yn mynd rhagddi ar y blaenoriaethau yn y cyfamser er mwyn cael cyfle i ddod o hyd i ddatrysiadau ac adnoddau, a fydd yn cael eu trafod ymhellach yn Cabinet.

Bydd copi o Gynllun y Cyngor yn dod i’r Cabinet ar Chwefror 13, a fydd yn cynnwys cynlluniau busnes yr adrannau, bydd yna yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar 1 Mawrth er mwyn ei fabwysiadu.

Nodwyd y bydd yr ymgynghoriad yn digwydd ar y we, ar gael mewn lleoliadau cyhoeddus ynghyd a gweithdai gyda grwpiau megis mudiadau trydydd sector. Mynegwyd y bydd y Cynllun yn nodi dyheadau’r Cyngor am y 5 mlynedd nesaf, a pwysleisiwyd pwysigrwydd fod y Cynllun yn adlewyrchu’r weledigaeth gywir.

Awdur: Dewi Wyn Jones

7.

UCHAFU'R CYFLENWAD O DAI CYMDEITHASOL A FFORDDIADWY DRWY GRYFHAU CAPASITI STRATEGOL pdf eicon PDF 150 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd i ddyrannu £45,646 y flwyddyn am dair blynedd (cyfanswm oddeutu £140,000), fel galwad cyntaf yn erbyn cynnyrch y premiwm treth cyngor i’w godi a’r ail gartrefi ac eiddo gwag erbyn Ebrill 2018 ymlaen a galluogi’r Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant i benodi swyddog ychwanegol o fewn Tîm Strategol Tai, fel bydd modd i’r Cyngor fanteisio yn llawn ar arian grant gellid hawlio gan Llywodraeth Cymru i gynyddu’r nifer o dai cymdeithasol a fforddiadwy yng Ngwynedd.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan y Cyng. Craig ab Iago

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr Aelod Cabinet yn awyddus i bob un o drigolion Gwynedd gael cartref. Pwysleisiwyd fod prinder tai yn y sir ac fod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo adnoddau cyfalaf ychwanegol i gynorthwyo Llywodraeth Leol i ddarparu tai ychwanegol.

Nodwyd fod gan yr adran un swyddog ar hyn o bryd ond fod angen penodi swyddog ychwanegol er mwyn manteisio yn llawn ar y cyfle i dderbyn arian cyfalaf gan y Llywodraeth tuag at dai. Yn ychwanegol mynegwyd ei fod yn gylfe i ddefnyddio canran o arian Premiwm Treth y Cyngor, a fydd yn cael ei godi ar ‘ail grartrefi’ ac eiddo gwag, i sircau cyflenwad o dai o ansawdd i drigolion Gwynedd.

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-          Nodwyd fod trafodaethau cychwynnol wedi digwydd gyda’r Cymdeithasau Tai er mwyn adnabod sut bydd modd i symud ymlaen gyda’r cyfle.

-          Trafodwyd y Premiwm Treth y Cyngor gan nodi fod % o’r arian wedi glustnodi ar gyfer tai i bobl ifanc Gwynedd, ac felly fod y cynllun yn cyd-fynd a hyn. Mynegwyd fod amcangyfrif darbodus wedi cael ei wneud o’r incwm o’r Premiwm Treth ac ei fod o gwmpas £2.1m.

-          Pwysleisiwyd fod angen darparu tai sydd ei angen i drigolion Gwynedd, ac fod materion tai wedi ei godi mewn trafodaeth a’r Aelod Cynulliad Lleol.

-          Mynegwyd mewn cyfnod o arbedion ei fod yn hanfon i fanteisio yn llawn ar y cyfle.

Awdur: Arwel Wyn Owen

8.

CYLLIDEB REFENIW 2017/18 ADOLYGIAD AIL CHWARTER pdf eicon PDF 76 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

-        Dderbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd yr ail chwarter (sefyllfa 30 Medi 2017) o’r Gyllideb Refeniw, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn a materion o dan eu harweiniad/rheolaeth.

-        Gyda chytundeb y Pennaeth Adran Amgylchedd, trosglwyddo (£282k) o’r Adran Amgylchedd i’r Gronfa Strategaeth Ariannol.

-        Gyda chytundeb y Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol trosglwyddo (£54k) o’r Adran Cefnogaeth gorfforaethol i’r Gronfa Strategaeth Ariannol.

-        Cynaeafu (£200k) o’r casgliad ffafriol Treth y Cyngor, (£800k) o danwariant Gostyngiad Treth y Cyngor, (£406k) arbedion a wireddwyd ymlaen llaw, (£444k) tanwariant un-tro ar fidiau a (£697k) o ganlyniad i amgylchiadau ffafriol ar gyllidebau eraill y Cyngor, a’i drosglwyddo i’r Gronfa Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda pwysau anochel un-tro ar gyllidebau’r Cyngor.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai cyfrifoldeb y Cabinet yr cymryd camau, fel bod angen, i sicrhau rheolaeth briodol dros gyllidebau’r Cyngor. Tynwyd sylw yn benodol ar yr adrannau sy’n gorwario, a bu i’r Aelodau Cabinet perthnasol esbonio’r gorwariant.

Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant

Esboniwyd mai ychydig dros £200k yw’r gorwariant yn yr adran, sy’n canran fach o’r gyllideb ar y cyfan er nad yw hyn yn cyfiawnhau gorwario. Nodwyd os yn tynnu’r elfen arbedion o’r gorwariant mae’r neges yn un gadarnhaol, fodd bynnag mae’r adran yn parhau i weithio ar ail-becynnu y cynlluniau arbedion.

Wrth edrych ar yr Gwasanaeth Darparu nodwyd fod rhai cartrefi preswyl yn gwario lawer yn uwch na’i cyllidebau. Cydnabyddiwyd fod gwendidau yn y Gwasnaeth Darparu ond fod adroddiad wedi ei gomisiynu a fydd yn mynd dan groen yr adran i weld ble gall addasiadau gael eu gwneud. Gobeithir adrodd ar yr adroddiad yn Chwefror a fydd yn roi darlun gwell o’r gwasanaeth. Pwysleisiwyd yn glir fod gwaith angen ei wneud.

Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd

Mynegwyd fod yr adran yn cydnabod ei bod yn gorwario ond na all addo na fydd y gorwariant yn lleihau yn y tymor byr. Mae dau wasanaeth yn gorwario, Gwasanaeth Gweithredol a’r Gwasanaeth Lleoliadau.

Nodwyd fod cynnydd yn y galw am wasanaeth ac yn ychwanegol at hyn fod anghenion y plant yn rhai llawer mwy dwys nac oeddent flynyddoedd yn ôl. Mynegwyd fod trefniadau craffu mewnol yn eu lle ac eu bod yn edrych ar y gwasanaethau pob chwe wythnos. Cynlluniau ar y gweill megis Strategaeth Plant a Cefnogi Teuluoedd. O ganlnyiadau’r cynlluniau yma gobeithir y bydd newidiadaqu tymor hir. Bydd y cynlluniau yn cael eu monitro yn aml. 

Adran Addysg

Prif reswm tu ôl i’r gorwariant yn yr Adran Addysg yw cludiant, ac hyn o ganlyniad i leihad ar werthiant tocynnau cludiant ôl-16 a cludiant tacsis ysgolion. Wrth edrych ar gludiant tacsis nodwyd fod cynnwydd wedi bod yn y galw am amrywiol resymau megis plant yn symud i mewn i’r adral ac angen mynd i’r Unedau Iaith a plant gydag anableddau dwys. Ar hyn o bryd nid oes modd i’r adran ragweld faint o blant  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Dafydd Edwards

9.

RHAGLEN CYFALAF 2017/18 ADOLYGIAD YR AIL CHWARTER pdf eicon PDF 150 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad yr ail chwarter (sefyllfa 30 Medi 2017) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

-        £1,121,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca

-        (£389,000) lleihad mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

-        £78,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

-        £118,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

-        (£663,000) lleihad mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

-        (£48,000) lleihad mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins

PENDERFYNWYD

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad yr ail chwarter (sefyllfa 30 Medi 2017) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

-        £1,121,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca

-        (£389,000) lleihad mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

-        £78,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

-        £118,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

-        (£663,000) lleihad mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

-        (£48,000) lleihad mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad technegol yn rhan o’r drefn monitro cyllideb a’r prif ddiben yw cyflwyno’r rhaglen gyfalaf ddiwygiedig a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Mynegwyd fod cynnydd o £0.217m yn y ffynonellau ariannu ers yr adolygiad diwethaf. Esboniwyd fod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £33.4m yn 2017/18 gyda £5.4m ohono wedi ei ariannu trwy grantiau, sydd yn adlewyrchu’r gwaith caled yr adrannau i ddenu grantiau. Tynnwyd sylw at gynnydd mewn benthyca arall, ac nad yw’n creu ymrwymiad ychwanegol ar gyllidebau refeniw’r Cyngor, newid technegol i drefnu ariannu y Llywodraeth yw hwn.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-          Nodwyd y bydd symudiadau gwariant cyfalaf yn cael ei nodi yn y Adroddiadau Perfformiad ym mis Ionawr ac felly bydd mwy o wybodaeth am y cynlluniau yn Ionawr.

Diolchwyd i staff yr adran Gyllid am eu gwaith rheoli cyllidebau manwl.

Awdur: Dafydd Edwards