skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr John Brynmor Hughes, Charles Wyn Jones ynghyd â. W. Gareth Roberts (Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones fuddiant personol yn eitem 13 ar y rhaglen – Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Dewisol, oherwydd ei fod yn aelod o Fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd.

 

‘Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 248 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28 Medi 2017, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 28 Medi 2017, fel rhai cywir.

5.

TREFNIADAU DIOGELU RHAG COLLI RHYDDID (DoLS) pdf eicon PDF 198 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant.

Cofnod:

Nodwyd yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 28 Medi 2017, roedd y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant yn bresennol i drafod trefniadau DoLS.

 

Nododd y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant bod yr Uwch Reolwr Galluogi wedi bwriadu bod yn bresennol yn y cyfarfod ond ei bod yn rhoi cyflwyniad i Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i’r gwaith integreiddio efo iechyd yn Ysbyty Alltwen.

 

Nododd y Pennaeth ei fod yn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor bod yr Adran yn cymryd y mater o ddifrif ac yn ymrwymo'r adnoddau staffio y gellir ei roi tuag at y gwaith. Eglurodd bod ymateb i lwyth gwaith yn deillio o asesiadau DoLS yn heriol a bod y Llywodraeth efallai’n synhwyro bod y trefniadau yn fwy trwm na fwriadwyd yn wreiddiol. Nododd bod symudiad i weithio o fewn 5 Ardal Llesiant wedi effeithio ar gyflawniad asesiadau. Cadarnhaodd bod trefniadau yn eu lle i ryddhau swyddogion a oedd efo’r achrediad Best Interest Assessors (BIA) am ddiwrnod pob mis i gynnal un asesiad. Nododd bod y rhestr aros am asesiad yn lleihau yn raddol ond bod swyddogion yn gorfod ymateb i achosion brys a bod llawer o achlysuron lle'r oedd rhaid ail-ymweld yn dilyn cynnal asesiad sylfaenol.

 

Tynnodd sylw bod rhaid ystyried effaith posib blaenoriaethu’r gwaith yma dros elfennau eraill o waith ddydd i ddydd yr Adran. Pwysleisiodd bod trefniadau a capasiti staffio y Tim Diogelu a Sicrwydd Ansawdd mewn lle a’i fod yn hyderus y gellid codi momentwm y gwaith i geisio lleihau’r rhestr aros.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant i ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn:

·        Gellir rhannu gwybodaeth am berfformiad cwblhau asesiadau DoLS ar ddiwedd Chwarter 3 efo aelodau’r Pwyllgor;

·        Er bod 29 o staff yr Adran wedi cymhwyso fel swyddogion BIA, roedd absenoldeb salwch tymor hir, cytundebau gwaith rhan amser, cyfnodau mamolaeth a phenodiadau i swyddi eraill yn golygu mai tua 20 o swyddogion oedd ar gael ar gyfer cyflawni asesiadau;

·        Bod capasiti staffio llawn yn yr Uned Diogelu a gellir asesu os oedd y trefniadau presennol yn llwyddo o fewn oddeutu 6 mis;

·        Bod y sefyllfa o ran rhestr aros ar gyfer asesiadau DoLS yn gyffredin ymysg cynghorau ar draws Cymru. Roedd rhai cynghorau wedi ymrwymo adnoddau newydd er mwyn cael eu rhestrau aros i lawr yn sylweddol;

·        Gallai canolbwyntio adnoddau ar leihau’r rhestr aros effeithio rhyw gymaint ar yr amserlen o integreiddio gwasanaethau gydag iechyd. Roedd rhestr aros uchel am wasanaethau yn Ne Meirionnydd ac yn anodd recriwtio staff gofal wedi cymhwyso. Byddai newid yr amserlen yn cael effaith felly roedd angen cael balans. Derbyn bod nifer ar y rhestr aros am asesiadau DoLS yn risg ond byddai blaenoriaethu’r gwaith yn cael effaith ar restrau aros eraill. Roedd rhaid pwyso a mesur a bod yn rhesymegol;

·        Nad oedd ateb delfrydol ond fe roddir blaenoriaeth i achosion brys. Adnabyddir yr achosion risg uchel ac ymateb iddynt. Pwysleisio bod y rhan fwyaf ar y rhestr aros am asesiadau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD Y GWEITHGOR GWELLA RHEOLAETHAU pdf eicon PDF 228 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn cyflwyno adborth o gyfarfod y Gweithgor ar 23 Hydref 2017.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfarfod o’r gweithgor uchod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2017 i ystyried archwiliad ‘Plas Maesincla’ a dderbyniodd categori barn B ynghyd ag archwiliadau a dderbyniodd gategori barn C, sef -

a)   Tan y Marian

b)   Plas Ogwen.

 

Gwahoddwyd swyddogion i fynychu’r cyfarfod er mwyn trafod y materion oedd yn codi o’r archwiliadau a’r gwaith a wnaed ers cyhoeddi’r adroddiadau archwilio er mwyn cryfhau’r rheolaethau mewnol dan sylw.

 

Adroddwyd yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor yng nghyfarfod 28 Medi, bu i’r Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a Phennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant fynychu cyfarfod y Gweithgor i ystyried y themâu a amlygwyd yn gyson o archwiliadau ar Gartrefi Preswyl.

        

Cyfeiriodd aelod at baragraff 2.7.9 o’r adroddiad “Mynegodd y Pennaeth Oedolion Iechyd a Llesiant bod 7 allan o 11 o gartrefi Cyngor Gwynedd wedi derbyn sylwadau neu argymhellion  gan AGGCC o safbwynt eu lefelau staffio. Mae 2 allan o’r 7 yn ddiffyg cydymffurfiaeth. Disgwylir y bydd 10 allan o 11 yn derbyn sylwadau am eu lefelau staffio - yr unig eithriad yw Plas Maesincla.” Holodd beth a wneir i ymateb i hyn.

           

Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant y derbyniwyd ychwaneg o adroddiadau gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Cyfeiriodd at un cartref preswyl a oedd yn cyd-fynd â’r gofynion o ran lefelau staffio oherwydd bod gwlâu yn cael eu cadw’n wag. Eglurodd bod absenoldebau mamolaeth staff a dwysedd anghenion 2 unigolyn yn golygu bod rhaid cadw’r gwlâu’n wag er mwyn cydymffurfio o ran lefelau staffio. Nododd bod un cartref preswyl arall wedi gwneud newidiadau i ddelio efo’r materion yn codi o archwiliad yr AGGCC a bod hynny’n anorfod yn arwain at orwariant.

 

Ymhelaethodd y Pennaeth ei fod wedi bod gerbron cyfarfod y Cabinet ar 21 Tachwedd 2017 i drafod gorwariant yr Adran. Nododd nad oedd rota staffio cartrefi preswyl wedi esblygu i ymateb i’r niferoedd cynyddol o unigolion sy’n dod i gartrefi preswyl efo anghenion dwys. Eglurodd bod gwaith archwilio mewnol yn codi materion sydd angen sylw a oedd yn beth da er mwyn gallu ymateb a sicrhau ansawdd gwasanaeth. Nododd bod angen newid trefniadau meddyginiaeth yn y cartrefi a bod bid yn mynd trwy’r broses bidiau ar hyn o bryd yng nghyswllt cynyddu rota. Cadarnhaodd y rhoddir mwy o adnoddau mewn rhai cartrefi preswyl i ymateb i broblemau penodol a bod rhaid gwneud dewisiadau gyda Rheolwyr a Dirprwy Reolwyr yn blaenoriaethu gwaith ar lawr y cartrefi yn hytrach na chwblhau gwaith gweinyddol ond bod hyn yn medru arwain at feirniadaeth gan archwilwyr allanol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed gwlâu gwag, nododd y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant bod gwlâu oedd ar gael yng nghartrefi preswyl y Cyngor yn amrywio o 21 i 40. Roedd y cartref preswyl a gyfeiriwyd ato efo tua 30 gwely gyda 6 yn wag a rhestr aros o rhwng 10 i 15 unigolyn. Nododd y gellir efallai darparu gofal mewn ffordd arall a bod angen y capasiti yn y cartref ar  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL 16/9/17 - 17/11/17 pdf eicon PDF 268 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod. Nodwyd bod 15 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol a 1 archwiliad grant wedi eu cwblhau.

 

Cyfeiriwyd at y gwaith dilyniant. Nodwyd ar 17 Tachwedd 2017, roedd gweithrediad derbyniol ar 46.34% o’r camau cytunedig, h.y. 95 allan o 205. Hyd yma, dim ond ar gyfer 112 o weithrediadau cytunedig y gofynnwyd am ddiweddariad ac roedd gweithrediad derbyniol ar 95 ohonynt, sef 84.8%.

                        

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol ac yn ystod y drafodaeth cyfeiriwyd at y materion canlynol –

 

Iechyd a Diogelwch – Ysgol Dyffryn Ardudwy

 

Nododd aelod efallai bod y Pennaeth ddim yn deall pwysigrwydd materion iechyd a diogelwch a’i fod angen cefnogaeth.

 

Cyfeiriodd aelod at yr archwiliadau Iechyd a Diogelwch ysgolion cynradd eraill gan nodi eu bod yn amlygu bod diffyg gwybodaeth gan Benaethiaid ar draws yr ysgolion o ran trefniadau materion iechyd a diogelwch.

 

Holodd aelod pwy oedd yn gyfrifol am wirio bod trefniadau Iechyd a Diogelwch mewn lle, mewn ymateb nododd y Rheolwr Archwilio bod Uned Eiddo’r Cyngor efo rôl i chwarae o ran trefniadau asbestos a bod rôl gan gorff llywodraethol yr ysgolion i sicrhau bod trefniadau mewn lle.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod nad oedd Penaethiaid yr Ysgolion Cynradd wedi derbyn hyfforddiant IOSH Rheoli’n Ddiogel, nododd y Rheolwr Archwilio bod trefniadau mewn lle i’r Penaethiaid fynychu’r hyfforddiant.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod, nododd y Rheolwr Archwilio bod templedi pwrpasol ar gael i ysgolion o ran cynnal asesiadau risg a bod cefnogaeth ar gael gan Swyddog Iechyd a Diogelwch yn yr Adran Addysg ynghyd â swyddog yn yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     derbyn yr adroddiad ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 16 Medi 2017 hyd at 17 Tachwedd 2017 a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig a gyflwynwyd eisoes i reolwyr y gwasanaethau perthnasol;

(ii)    bod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y pwyllgor, y Cynghorwyr Berwyn Parry Jones a Huw G. Wyn Jones ynghyd â Sharon Warnes i wasanaethu ar y Gweithgor i ystyried yr archwiliadau oedd wedi derbyn categori barn ‘C’;

(i)     mai cyfrifoldeb unrhyw aelod na allai fod yn bresennol yn y Gweithgor oedd trefnu eilydd.

8.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2017/18 pdf eicon PDF 582 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio ar y cynnydd ar Gynllun Archwilio Mewnol 2017/18.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau cynllun archwilio mewnol 2017/18.

 

Adroddwyd bod yr Uned Archwilio Mewnol hyd at 17 Tachwedd 2017 wedi cwblhau 43.07% o’r cynllun, gyda 28 o’r 65 archwiliad yng nghynllun 2017/18 wedi eu rhyddhau yn derfynol. Nododd y Rheolwr Archwilio ei bod yn ffyddiog y gellir cyrraedd targed chwarter 3. Tynnwyd sylw at yr addasiadau i’r Cynllun.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2017/18.

9.

CYLLIDEB REFENIW 2017/18 - ADOLYGIAD AIL CHWARTER pdf eicon PDF 183 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid, a oedd yn nodi yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y disgwylir i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu graffu rhai materion ariannol gan gynnwys adroddiadau monitro cyllideb, lle’n briodol.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 21 Tachwedd 2017. Nododd bod cydweithio agos rhwng yr Adran Gyllid a’r Adrannau i sicrhau rheolaeth gadarn. Eglurodd bod yr Aelodau Cabinet perthnasol a Phenaethiaid yr Adrannau a oedd yn gorwario, yn bresennol yng nghyfarfod y Cabinet i drafod y sefyllfa. Manylodd ar gynnwys cofnodion cyfarfod y Cabinet a rannwyd gyda’r aelodau yn y cyfarfod.

 

         Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion a’r Aelod Cabinet i ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn:

·        Byddai’n rhaid i’r aelod gysylltu efo Pennaeth yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cadarnhad o’r ganran a dderbynnir wrth werthu deunydd ailgylchu. Eglurwyd bod y prisiau a dderbynnir am ddeunyddiau ailgylchu wedi gostwng mewn blynyddoedd diweddar ac nid oedd hyn yn unigryw i’r Cyngor hwn;

·        Bod y rhesymau am y gorwariant wedi eu nodi yn yr adroddiad ac nid oedd yn golygu diffyg darparu gwasanaethau;

·        Nad oedd y ffigyrau o ran faint oedd wedi manteisio ar y cyfle i gael hyd at 4 bin gwastraff gardd yn hysbys iddynt, fe ddylai’r aelod gysylltu efo Pennaeth yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cadarnhad. Eglurwyd bod y ffi a godir am gasgliadau gwastraff gardd yn golygu fod dewis preswylwyr os i’w dderbyn am fod yn gost niwtral i’r Cyngor, ac yn golygu arbediad os oedd preswylwyr yn manteisio ar y ddarpariaeth neu ddim. Nodwyd yn dilyn penderfyniad y Cyngor Llawn, yn sgil ymgynghoriad Her Gwynedd, i leihau amlder torri gwair roedd Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn gorwario oherwydd bod yr Adran yn torri gwair yn fwy aml na hyn a benderfynwyd;

·        O ran rhagweld costau cludiant yn yr Adran Addysg oherwydd plant yn symud i mewn i’r ardal, nodwyd yr anawsterau a oedd yn golygu ei fod yn anodd rhagweld. Gellir darogan patrwm nifer disgyblion i’r Uwchradd o’r Cynradd yng nghyswllt cludiant, ond bod eithriad o ran disgyblion anghenion dysgu ychwanegol pan fo’r ysgol leol ddim efo’r ddarpariaeth a’r gefnogaeth angenrheidiol. Golygai bod disgyblion yn teithio’n bellach, gyda nifer yn teithio o Dde Meirionnydd i Ysgol Hafod Lon. Nodwyd bod yr Adran Addysg a’r Adran Amgylchedd i ystyried y mater gyda golwg ar ddarganfod datrysiadau amgen;

·        Bod gostyngiad yn y grant roedd y Cyngor yn ei dderbyn ar gyfer darparu brecwast am ddim mewn Ysgolion, o ganlyniad roedd y Cyngor yn codi ffi o £4 yr wythnos am yr elfen gofal yn y bore er mwyn galluogi parhau efo’r ddarpariaeth oedd ar gael mewn rhai ysgolion;

·        Mewn cyd-destun, gwariant gros dros £5m, nid oedd y gorwariant o £146,000 o dan y pennawd ‘Arlwyaeth a Glanhau’ yn yr Adran Addysg yn swm enfawr,

·        Bod y Cynghorwyr a’r Cyngor yn ymwybodol o’r sefyllfa ariannol a bod cynllunio ariannol doeth y Cyngor hwn yn cael ei gydnabod fel  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

RHAGLEN GYFALAF 2017/18 - ADOLYGIAD AIL CHWARTER pdf eicon PDF 184 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid, a oedd yn nodi yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y disgwylir i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu graffu rhai materion ariannol gan gynnwys adroddiadau monitro cyllideb, lle’n briodol.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 21 Tachwedd 2017. Nodwyd bod cynnydd o £0.217m yn y ffynonellau ariannu ers yr adolygiad diwethaf. Eglurwyd bod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £33.4m yn 2017/18 gyda £5.4m ohono wedi ei ariannu trwy grantiau, a oedd yn adlewyrchu gwaith caled yr adrannau i ddenu grantiau. Tynnwyd sylw bod cynnydd mewn benthyca arall, nid oedd yn creu ymrwymiad ychwanegol ar gyllidebau refeniw’r Cyngor, newid technegol i drefn ariannu'r Llywodraeth ydoedd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor.

11.

ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL pdf eicon PDF 114 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y cyd-destun, gan nodi bod cyfrifoldeb ar y Pwyllgor i ystyried adroddiadau archwilio allanol (cenedlaethol, a lleol i Wynedd), yr argymhellion a gynhwysir ynddynt, a goblygiadau rhain i lywodraethu, rheoli risg neu reolaeth. Atgoffodd yr aelodau mai rôl y Pwyllgor oedd bodloni ei hun bod trefniadau a phrosesau ar waith er mwyn sicrhau bod y cynigion gwella yn cael eu gweithredu. Ychwanegodd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ar ffurf naratif o dan y penawdau yn unol â chais y Prif Weithredwr.

 

Cyfeiriodd Rheolwr Cefnogi Busnes y Cyngor at Atodiad 1 i’r adroddiad a oedd yn cynnwys rhestr gronolegol o’r arolygiadau a gynhaliwyd gan archwilwyr allanol rhwng 2012/13 a 2016/17 ynghyd â’u cynigion ar gyfer gwella, a’r cynnydd a wnaed gan y Cyngor yn erbyn y cynigion hynny. Eglurodd mai sylwadau gan yr Adran berthnasol y nodir o dan y pennawd ‘Cynnydd yn erbyn y cynigion gwella’, gyda barn annibynnol swyddogion o Uned Cefnogi Busnes y Cyngor yn cael ei nodi o dan y pennawd ‘Casgliad’. Eglurwyd y byddai’r cynigion gwella a nodwyd “wedi’i gwblhau” yn cael eu tynnu o’r rhestr ac y bwriedir adrodd ar gynnydd i’r Pwyllgor ymhen 6 mis.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at gynnig gwella 2 o dan adroddiad ‘Cydnerthedd ariannol awdurdodau lleol yng Nghymru 2015-16’ - “Dylai awdurdodau lleol ddatblygu polisïau cynhyrchu incwm a chodi tâl corfforaethol” a oedd wedi ei nodi “ar waith”. Nododd y byddai gwaith ynghlwm â’r cynnig gwella ar waith yn barhaol a'i fod ef, y Prif Weithredwr a’r Cabinet yn edrych ar benawdau strategol.

 

Nododd Rheolwr Cefnogi Busnes y Cyngor ei fod yn derbyn y sylw gydag amryw o gynigion gwella yn medru bod ar waith yn barhaol a bod rhai tebyg wedi eu tynnu allan.

 

Nododd aelod y dylid nodi bod y cynnig gwella “wedi’i gwblhau” oherwydd bod polisi mewn lle ac ni ddylai ddod yn ôl gerbron y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad yn ddarostyngedig i nodi bod cynnig gwella 2 o dan adroddiad ‘Cydnerthedd ariannol awdurdodau lleol yng Nghymru 2015-16’ “wedi’i gwblhau”.

12.

ADOLYGU'R CYFANSODDIAD pdf eicon PDF 248 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan y Swyddog Monitro gan nodi ers mabwysiadu’r Cyfansoddiad yn ei ffurf bresennol yng Ngorffennaf 2014 roedd addasiadau wedi eu gwneud yn eithaf rheolaidd, yn bennaf oherwydd newidiadau deddfwriaethol neu ddatblygiadau megis yr adolygiad craffu diweddar. Fodd bynnag wrth ddefnyddio’r Cyfansoddiad newydd roedd yn briodol adlewyrchu ar y ddogfen yn ei chyfanrwydd a gweld os oedd angen am newidiadau i adlewyrchu gweithdrefnau a phrofiad yr awdurdod.

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer diwygio. ‘Roedd rhai ohonynt yn faterion dod a’r tŷ i drefn neu eglurder gydag eraill yn awgrymu llwybrau amgen ar gyfer trefniadau penderfynu ac yn y blaen. Nodwyd y trafodwyd yr argymhellion gydag Is-grŵp o’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu. Tywysodd yr aelodau drwy Atodiad 1 a oedd yn cynnwys yr addasiadau penodol a argymhellir a manylodd ar y cynnwys. 

 

Yng nghyswllt yr argymhelliad i ddiwygio paragraff 15.3.5 o’r Cyfansoddiad i osod darpariaeth a fyddai ar yr un llaw yn creu cyfundrefn i gefnogi gallu aelodau i ymateb i’r gyllideb ond ar y llaw arall yn golygu fod y Prif Swyddog Cyllid yn benodol yn cael cyfle i ymateb a chynghori ar welliant, nododd y Pennaeth Cyllid bod ei ddrws yn agored i drafod unrhyw welliant a byddai’r ddarpariaeth yn y Cyfansoddiad yn golygu y gellir cael trafodaeth ystyrlon yng nghyfarfod y Cyngor Llawn wrth bennu’r gyllideb.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor Llawn addasu’r Cyfansoddiad yn unol â’r adroddiad yn ddarostyngedig fod y diwygiad i Baragraff 9.12.3 yn dod yn weithredol wedi cyfarfod blynyddol y Cyngor yn 2018.

13.

ARDRETHI ANNOMESTIG – RHYDDHAD DEWISOL pdf eicon PDF 274 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg yr adroddiad gan nodi y penderfynwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 28 Medi 2017 i sefydlu Gweithgor i ymchwilio i Bolisi’r Cyngor ar ganiatáu rhyddhad dewisol. Eglurodd bod yr adroddiad yn hysbysu’r Pwyllgor o drafodaethau’r Gweithgor ac yn amlinellu argymhellion y Gweithgor yng nghyswllt llunio fframwaith bolisi newydd ar gyfer y Cyngor.

 

Tynnodd sylw at gasgliadau’r Gweithgor gan nodi bod y Gweithgor yn awyddus i’r fframwaith newydd roi ystyriaeth or-redol i sefyllfa ariannol elusennau ac yn awyddus i’r Adran Gyllid edrych i mewn i ymarferoldeb gosod llawr a nenfwd ar y cymorth a roddir trwy’r drefn rhyddhad dewisol.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed y diwygiad i eiriad categori rhyddhad 11, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y byddai hostelau hamdden a oedd yn agored i bawb yn derbyn rhyddhad mandadol gyda rhai “defnydd lleol” a ddefnyddir gan drethdalwyr Gwynedd yn gymwys am ryddhad dewisol.

 

Nododd aelod wrth gyfeirio at gategori rhyddhad 9, bod nifer o siopau elusennol yn cynnwys lle bwyta fel rhan o geisiadau grant er mwyn eu gwneud yn gynaliadwy a’u bod yn cael manteisio ar hyn lle nad oedd busnesau lleol yn gallu. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg bod y Cyngor yn cynnal trafodaethau efo Swyddfa’r Prisiwr Dosbarth o ran rhannu adeiladau yn ôl defnydd er mwyn gwneud prisiad ar wahân o’r holl ddefnyddiau o’r adeilad. Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid ei fod yn fater tu hwnt i reolaeth y Cyngor ac fe fyddai’n cymryd amser i’w newid.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan aelod a ddylai’r Pŵl Cenedlaethol sefydlu canllawiau a pa mor rhydd oedd y Cyngor i weithredu polisi eu hunain, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg bod Deddf Lleoliaeth 2011 yn cynnwys disgresiwn i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau eu hunain. Eglurodd bod Rheoliadau mewn lle a oedd yn galluogi’r Cyngor i ddal cyfraniad y Pŵl Cenedlaethol i’r rhyddhad dewisol yn ôl yn hytrach na’i drosglwyddo. Nododd bod yr Archwilydd Allanol fel rhan o’u gwaith blynyddol yn edrych ar ddychweliad y Cyngor i’r Pŵl gan asesu os oedd yn cyd-fynd â’r gofynion.

 

PENDERFYNWYD cyflwyno sylwadau’r Gweithgor fel argymhellion i’r Aelod Cabinet Cyllid i’w ystyried wrth fabwysiadu Fframwaith Bolisi newydd.