Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 127 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2024 fel rhai cywir. |
|
I gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd o sefydlu'r
Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ac i weithredu ei ddyletswddau a’i
swyddogaethau statudol. A nodi’r cynllun arfaethedig mewn perthynas â
threfniant secondiad presennol Prif
Weithredwr y CBC sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 2024 a'r cynnig ar gyfer penodiad
o’r 1 Gorffennaf, 2024. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Rhan A: Nodwyd y
wybodaeth ddiweddaraf am waith i sefydlu CBC y Gogledd, gan gynnwys datblygu'r Cynllun
Trafnidiaeth Ranbarthol (RTP) a'r Cynllun Datblygu Strategol (SDP) i
weithredu’r dyletswyddau a swyddogaethau statudol y CBC; a sefydlu Prosiect
Gweithredol ar gyfer CBC y Gogledd. Rhan B: Cytunwyd i roi estyniad i'r trefniant
presennol, ar gyfer secondiad rhan-amser Alwen Williams i rôl Prif Weithredwr
CBC, hyd at ddiwedd Mehefin 2024. Yn amodol ar gwblhau’n ffurfiol yr ymgynghoriad TUPE cyfredol gyda staff Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, i gadarnhau trosglwyddiad arfaethedig a phenodi Alwen Williams fel Prif Weithredwr y Cyd-bwyllgor Corfforedig o 1 Gorffennaf, 2024. |
|
CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU - ACHOS DROS NEWID DRAFFT PDF 588 KB I gyflwyno'r
15 amcan allweddol o fewn y Cynllun Trafnidiaeth Ranbarthol ar gyfer Gogledd
Cymru - Achos dros y Newid drafft. Penderfyniad: Cytunwyd i’r 15 amcan o fewn yr Achos dros Newid drafft fel rhan o Gynllun Trafnidiaeth Gogledd Cymru. |