Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion
Lleoliad: Swit 4, Canolfan Fusnes Conwy, Cyffordd Llandudno, Conwy LL31 9XX
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones E-bost: NatalieLloydJones@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
ETHOL CADEIRYDD Cofnod: Penderfynwyd ethol Cyng. David Bithell
(Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam) yn gadeirydd yr Is-Fwrdd Cyflawni
Trafnidiaeth |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ETHOL IS-GADEIRYDD Cofnod: Penderfynwyd
ethol Cyng. Carolyn Thomas (Cyngor Sir y Fflint) yn is-gadeirydd yr Is-Fwrdd
Cyflawni Trafnidiaeth |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Nodwyd
ymddiheuriadau gan Huw Percy a Dafydd L Edwards. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys i’w drafod. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION A PHWYNTIAU GWEITHREDU PDF 252 KB Cyflwyno
cofnodion cyfarfod anffurfiol y Grŵp Ymgynghorol Aelodau Cabinet
Trafnidiaeth a gynhaliwyd ar 20 Mai, 2019
(ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod anffurfiol y
Grŵp Ymgynghorol Aelodau Cabinet Trafnidiaeth a gynhaliwyd ar 20 Mai 2019. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
PROTOCOL A CHYFRIFOLDEBAU YR IS-GRWP PDF 193 KB Adroddiad gan
Iwan Evans – Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a
chymeradwywyd y Protocol. Penderfynwyd
y bydd y Swyddogion, yn ystod y pythefnos nesaf, yn enwebu Swyddog Arweiniol a
fydd yn mynychu pwyllgorau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru pan mae’r
angen yn codi. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Iwan Evans PENDERFYNIAD Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a chymeradwywyd y
Protocol. Penderfynwyd y bydd y
Swyddogion, yn ystod y pythefnos nesaf, yn enwebu Swyddog Arweiniol a fydd yn
mynychu pwyllgorau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru pan mae’r angen yn
codi. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi mai amcan yr adroddiad yw gosod trefniadau'r is fwrdd. Mynegwyd fod yr
adroddiad yn amlinellu'r prif amcanion a nodwyd aelodaeth yr Is Fwrdd. Nodwyd
mai prif newid fydd yw’r drefn pwyllgorau o ran agenda a chyhoeddi’r rhaglen.
Pwyslesiwyd y bydd angen cyhoeddi’r rhaglen 5 diwrnod gwaith cyn yr is fwrdd ac
y bydd angen i’r adroddiad drafft eu cyflwyno i’r Swyddogion Statudol ar gyfer
sylwadau cyn cyhoeddi’r rhaglen. Pwysleiswyd oherwydd natur yr is fwrdd na fydd
llawer o sylwadau gan y Swyddogion Statudol, er hyn oherwydd natur y Bwrdd
Uchelgais Economaiidd Gogledd Cymru efallai y bydd yn datblygu. Mynegwyd y bydd
pleidleisio yn mynd ar sail mwyafrif ac i geisio cael consensws ar draws yr
awdurdodau ac o ganlyniad i hyn ni fydd pleidlais bwrw. Ychwanegwyd y bydd
Taflenni Penderfyniad yn cael eu cyhoeddi yn nodi penderfyniadau’r Is Fwrdd
Cyflawni Busnes. Sylwadau’n codi o’r
drafodaeth ¾ Holwyd sut y bydd y
dyddiadau a rhaglen a chofnodion yn cael eu rhannu ar draws yr awdurdodau.
Nodwyd y bydd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cyngor Gwynedd fel yr awdurdod
arweiniol, ac yn cael ei rhannu ar wefannau cymdeithasol y Bwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru. Mynegwyd y byddai’r aelodau yn gallu rhannu’r e-bost
rhaglen gyda’i chyd-gynghorwyr yn ei awdurdodau. ¾ Trafodwyd enwebu
Swyddog Arweiniol, a nodwyd y bydd y Swyddogion yn enwebu swyddog arweiniol i
fynychu’r Bwrdd Uchelgais pan mae’r angen yn codi yn ystod y pythefnos nesaf. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHAGLEN A CHYNLLUN GWAITH Y GRWP PDF 53 KB Adroddiad gan
Dafydd Wyn Williams – Pennaeth Adran Amgylchedd yr Awdurdod Lletya (ynghlwm). Penderfyniad: Cymeradwywyd enwau
isod i arwain ar y gwahanol lifau gwaith a chytunwyd ar y rhaglen amlinellol ar gyfer y tri chyfarfod
nesaf o'r Is-grŵp.
Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Dafydd Wyn Williams PENDERFYNIAD Cymeradwywyd enwau isod i arwain ar y gwahanol ffrydiau gwaith a
chytunwyd ar y rhaglen amlinellol ar
gyfer y tri chyfarfod nesaf o'r Is-grŵp.
TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi yn dilyn y cyfarfod blaenorol fod y Swyddog Arweiniol a
Swyddog y Bwrdd Uchelgais wedi bod yn gweithio ar y gwaith cefndirol er mwyn
gweithio ar y cyd yn rhanbarthol a rhannu’r llwyth gwaith. Tynnwyd sylw at y
tabl a grëwyd sydd yn nodi’r Swyddogion a fydd yn arwain ar y prif ffrydiau
gwaith. Esboniwyd mai rôl y swyddog fydd i ddarparu'r adroddiadau a gwybodaeth
bellach yn y meysydd yma. Nodwyd
yn ystod y 3 cyfarfod nesaf y bydd yr Is-Fwrdd yn ystyried yr holl ffrydiau
gwaith ac y bydd yn gyfle i roi cyfeiriad i’r gwaith i’r dyfodol yn cael ei
drafod a’i gytuno. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Trafodwyd os oes angen
trafod yr eitemau yn lleol ac yn rhanbarthol, gan fod rhai o’r ffrydiau gwaith
yn cael effaith ymylol ar fusnes er hyn fod y ffrydiau yn cyfrannu ar faterion
eraill. ¾ Mynegwyd fod y rhain yn
cyd-fynd blaenoriaethau Llywodraeth
Cymru. Nodwyd ei bod yn syniad cychwyn ar ffrydiau gwaith ac yna ychwanegu neu
dynnu ffrydiau gwaith fel mae’r angen. ¾ Pwysleisiwyd fod y
Bwrdd Uchelgais yn hapus a’r ffrwd gwaith. ¾ Nodwyd fod y ffrydiau
gwaith yn cael ei rhannu rhwng Swyddogion ac y bydd y Swyddogion yn cyfarfod ar
wahân i drafod yr adroddiadau yn symud ymlaen. Mynegwyd y bydd ffrydiau gwaith
yn datblygu a nodwyd pwysigrwydd i beidio gadael i neb fod o dan bwysau mawr ac
i beidio cael eu gorlwytho. Mynegwyd fod angen rhannu’r gwaith yn hafal dros y
rhanbarth ac i rannu’r baich a chefnogi ei gilydd. ¾ Pwysleisiwyd o ran y
Swyddog sydd yn cyd fynd a’r llif gwaith mai rôl arweiniol fydd hyn ac na fyd
angen gwneud y gwaith i gyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
· Bysiau - diweddariad · Tocynnau Mantais · Trafnidiaeth Addysg · Adolygiadau Trafnidiaeth Cyhoeddus (ynghlwm) Penderfyniad: Nodwyd a derbyniwyd
yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Iwan Prys Jones a Peter Daniels PENDERFYNWYD Nodwyd
a derbyniwyd yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi'r problemau sydd wedi codi o ran y drefn ail ddyrannu tocynnau
teithio mantais am ddim sydd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2019. Mynegwyd fod y
wefan er mwyn ail gofrestru wedi cwympo a phwysleisiwyd fod angen gwneud
rhywbeth dros y Gogledd. Er hyn, nodwyd fod Trafnidiaeth Cymru wedi nodi y bydd
mwy o adnoddau i gynorthwyo’r cynghorau ac y bydd y wefan yn ôl ar lein cyn
diwedd yr wythnos. Pwysleisiwyd fod llawer o effaith wedi bod ar y cynghorau. Pwysleisiwyd
fod Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd newid i’r oedran y bydd pobl yn gallu
ymgeisio am y Tocynnau Teithio Mantais am ddim ac o ganlyniad fod nifer uwch o
bobl wedi ymgeisio cyn i’r oedran newid. Mynegwyd fod problemau wedi codi ar
lein ac yn nad yw pawb yn ymwybodol o’r newid. Nodwyd fod y sefyllfa yn un
anodd gan fod Trefniadaeth i Gymru ar-lein a bod ymgeiswyr yn cael eu cyfeirio
at eu cynghorau lleol er mwyn cael cymorth i fynd ar-lein. Gan fod y wefan wedi
cwympo mae ffurflenni papur ar gael dros dro. Mynegwyd fod gan y cynghorau
capasiti i gynorthwyo i raddau o ran os wedi colli eu tocynnau neu ag anableddau
ond fod ail ymgeisio am y tocynnau a niferoedd llawer uwch. Nodwyd sut mae
gwahanol awdurdodau wedi delio a’r mater. Pwysleisiwyd
fod y mater hwn yn un sydd yn datblygu, a bod Trafnidiaeth Cymru wedi nodi y
bydd adnoddau ychwanegol yn cael ei gynnig dros dro. Nodwyd y bydd yr
Is-grŵp yn anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn nodi fod pryder am y mater
yn y tymor hir o ran tocynnau teithio. Penderfynwyd fod angen holi Llywodraeth
Cymru am gynllun tymor hir a beth fydd effaith hyn ar Lywodraeth Leol, os bydd
popeth yn ei le erbyn amser diwedd mis Rhagfyr ac os yw’r ddeddf cydraddoldeb
wedi ei ystyried. Newidiadau
i’r Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus Nodwyd
ym mis Ionawr y bydd ofyniad Rheoliadau Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus yn cael
ei ymestyn i bob coets sydd yn codi pryderon gan nad oes gan lawer o goets
fynediad i gadeiriau olwyn. Holwyd os bydd yn effeithio trafnidiaeth ysgolion a
nodwyd na fydd oni bai fod awdurdodau yn codi ffi am gael trafnidiaeth.
Mynegwyd fod pob awdurdod am gael ei daro efallai ddim yn ariannol ond yn
wleidyddol. Mynegwyd mai’r prif fater yw nad oes digon o gerbydau ar gael gyda’r mynediad fydd ei angen. Nodwyd beth oedd rhai awdurdodau yn ei wneud ond pwysleisiwyd y bydd yn codi problemau. Esboniwyd i raddau fod dau opsiwn i dalu am gerbydau newydd neu i beidio codi ffi ond mynegwyd fod effaith os yn gwneud yr ail elfen. Trafodwyd efallai yn ei fod yn syniad i anfon llythyr ar y Gweinidog i gael cyfnod trosiannol er mwyn rhoi cyfle i’r awdurdodau i weithio ac i weld sut mae am effeithio rhai ysgolion sydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHAGLEN DATGARBONEIDDIO · Arolwg Gwefru EV [SP Energy] · Prosiect Peilot Bysiau Gwyrdd - diweddariad Cofnod: Cyflwynwyd
gan Iwan Prys Jones TRAFODAETH Trafodwyd
yr Arolwg Gwefru gan SP Energy gan nodi eu bod yn gobeithio y bydd modd iddynt
ddod i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi diweddariad. O ran datgarboneiddio mynegwyd y byddai’n syniad da i’r 6
rhanbarth ddod ar ei gilydd i drefnu Uwch Gynhadledd ar hyn y flwyddyn nesaf,
ac y buasai yn cefnogi gwaith y Bwrdd Uchelgais. Os yn ymuno a’i gilydd yn
rhanbarthol i’r drefnu mynegwyd y byddai cefnogaeth ar gael gan Lywodraeth
Cymru. Ychwanegwyd y byddai llawer o gyfleoedd ac ei fod yn gyfle
i weithio gyda’i gilydd. Mynegwyd mai’r brif broblem yw trafnidiaeth. Ategwyd
fod angen chwyldro a mynegwyd fod cynnal Uwchgynhadledd am roi datganiad clir
i’r cyhoedd. Nodwyd fod angen mynd a’r cynnig i’r Bwrdd Uchelgais i gael yr
Uwchgynhadledd a fydd yn trafod Ynni, Hwb / Cwmni Ynni Rhanbarthol ynghyd a
Thrafnidiaeth. O ran prosiect Peilot Bysiau Gwyrdd nodwyd y cynlluniau
peilot gan nodi eu bod yn gobeithio rhannu’r adroddiad yn y cyfarfod nesaf i
gael trafodaeth bellach. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD FFRYDIAU GWAITH Cofnod: Derbyniwyd diweddariad o ran ffrydiau gwaith a oedd yn
cynnwys ardaloedd 20mya a pharcio ar balmentydd, gan nodi y bydd adroddiad
pellach yn cael ei gyflwyno. O ran Ymgyrch Growth Track 360 - Diweddariad mynegwyd fod
Arriva wedi ailedrych ar gostau'r parthau amrywiol, a nodwyd y bydd angen mwy o
esboniadau dros y parthau ac ymatebiad o ran ticedi integredig. Nodwyd fod
angen i aelod o staff Arriva ddod i’r Is-grŵp i drafod y mater. |