skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1a & 1b, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun. LL15 1YN

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Yr Athro Graham Upton (Prifysgol Bangor), Dr Gwynne Jones (Cyngor Sir Ynys Môn) a Dilwyn Williams (Cyngor Gwynedd).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 95 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Mawrth, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 15 Mawrth, 2019 fel rhai cywir, yn ddarostyngedig i’r cywiriadau isod:-

 

Presenoldebnodi mai’r Dr Gwynne Jones, ac nid Marc Jones, oedd yn bresennol fel prif swyddog ar ran Cyngor Sir Ynys Môn.

 

Diweddariad ar raglen waith y Bwrdd Uchelgais Economaidd:-

·         Nodi y bu i’r Grŵp Cyflawni Busnes bwysleisio pwysigrwydd cynnwys Twristiaeth Antur o fewn y prosiect Cyd-fenter Tir ac Eiddo Rhanbarthol.

·         Nodi y bu i Gyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod Adeiladwaith Carbon Isel yn rhan o’r prosiect Tir ac Eiddo.

 

5.

DIWEDDARIAD AR RAGLEN WAITH Y BWRDD UCHELGAIS pdf eicon PDF 172 KB

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.    Cymeradwyo statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith, yn unol â’r adroddiad.

2.    Dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais i gytuno ar swydd ddisgrifiad a’r broses o benodi Rheolwr Rhaglen Ddigidol.

3.    Ymrwymo hyd at £55,000 (yn amodol ar arfarniad swydd a llwyddiant y Cynllun Twf) o’r gyllidebCynllunio, Datblygu a Chefnogi Prosiectauar gyfer ariannu’r swydd Rheolwr Rhaglen Ddigidol am gyfnod o flwyddyn.

4.    Cyflwyno adroddiad cynnydd chwarterol ar waith y Bwrdd i’r partneriaid unigol ar gyfer dibenion adrodd a chraffu y cyrff unigol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol.

 

PENDERFYNWYD

1.       Cymeradwyo statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith, yn unol â’r adroddiad.

2.       Dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Uchelgais i gytuno ar swydd ddisgrifiad a’r broses o benodi Rheolwr Rhaglen Ddigidol.

3.       Ymrwymo hyd at £55,000 (yn amodol ar arfarniad swydd a llwyddiant y Cynllun Twf) o’r gyllidebCynllunio, Datblygu a Chefnogi Prosiectauar gyfer ariannu’r swydd Rheolwr Rhaglen Ddigidol am gyfnod o flwyddyn.

4.       Cyflwyno adroddiad cynnydd chwarterol ar waith y Bwrdd i’r partneriaid unigol ar gyfer dibenion adrodd a chraffu y cyrff unigol

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Diweddaru a chadw trosolwg ar gynnydd tasgau’r Rhaglen Waith.

Cymeradwyo proses penodi Rheolwr Rhaglen Digidol.

Er sicrhau llif gwybodaeth ar y prosiect i’r cyrff partneriaethol.

 

TRAFODAETH

 

Mynegwyd anfodlonrwydd a phryderon gan y sefydliadau addysg ynglŷn â’r drefn o flaenoriaethu cynlluniau.  Nodwyd hefyd nad oedd y llythyrau at Nigel Adams, AS a Ken Skates, AC wedi eu rhannu gyda hwy cyn eu hanfon at y ddwy Lywodraeth.  Tynnwyd sylw hefyd nad oedd logos yr holl bartneriaid ar y llythyrau hynny.  Roeddent o’r farn bod hyn oll yn tanseilio’r bartneriaeth a’u rôl hwythau fel ymgynghorwyr i’r Bwrdd. 

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Is-gadeirydd nad oedd bwriad i danseilio unrhyw agwedd o’r bartneriaeth a bod y bartneriaeth yn hollol gyfartal.  Cadarnhaodd hefyd na wnaed unrhyw benderfyniadau caled ynglŷn â chynlluniau unigol, a bod y cynlluniau wedi’u rhaglennu, yn hytrach na’u blaenoriaethu.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Arweiniol fod llythyr wedi’i anfon at y ddwy Lywodraeth ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd yn nodi y bydd y prosiectau yn cael eu rhaglennu.  Yn ystod cyfarfod diwethaf y Bwrdd roedd cydnabyddiaeth bod rhai o’r prosiectau ar y blaen yn nhermau parodrwydd.  Nodwyd bod 5 prosiect trawsnewidiol wedu eu hadnabod fel rhai fyddai yn barod ar gyfer y cam cyntaf: Prosiect Cysylltedd Digidol; Prosiect Cyd-fenter Tir ac Eiddo Rhanbarthol, Porth Caergybi; Prosiect Rhwydwaith Ynni Lleol Blaengar; Prosiect Gorsaf Bŵer Trawsfynydd.  Cytunwyd y byddai’r 14 prosiect yn cael eu cynnwys o fewn Penawdau’r Telerau, gan eu cynnwys mewn 2 gam.  Golygaparodfod y prosiectau yn bodloni profion (a) prawf cysyniadol, (b) deilliannau ac effaith, (c) buddsoddiad a buddsoddiad anuniongyrchol y sector breifat a (d) parodrwydd i gyflawni ar amser.

 

6.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 185 KB

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Cymeradwyo ffurf a strwythur y Gofrestr Risg, a chytuno bod y risgiau a’r statws RAG (Coch, Ambr, Gwyrdd) sydd wedi’u cynnwys yn gywir ac yn ddigonol a bod y mesurau lliniaru sydd wedi’u nodi yn gymesur o ystyried y risgiau sydd wedi’u hadnabod.
  2. Adrodd yn chwarterol ar y risgiau i’r Bwrdd Uchelgais ac yn fisol i’r Grŵp Swyddogion Gweithredol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol.

 

PENDERFYNWYD

1.       Cymeradwyo ffurf a strwythur y Gofrestr Risg, a chytuno bod y risgiau a’r statws RAG (Coch, Ambr, Gwyrdd) sydd wedi’u cynnwys yn gywir ac yn ddigonol a bod y mesurau lliniaru sydd wedi’u nodi yn gymesur o ystyried y risgiau sydd wedi’u hadnabod.

2.       Adrodd yn chwarterol ar y risgiau i’r Bwrdd Uchelgais ac yn fisol i’r Grŵp Swyddogion Gweithredol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Er mwyn gweithredu’n effeithiol, mae Cynllun Twf Gogledd Cymru angen Cofrestr Risg fanwl ar gyfer y cam Cynllunio a Datblygu.

 

Ystyrir bod adrodd yn chwarterol i’r Bwrdd Uchelgais yn ddigonol, gan y bydd yna adrodd yn fisol i’r Grŵp Swyddogion Gweithredol.

 

7.

SEFYDLU IS-FWRDD TRAFNIDIAETH pdf eicon PDF 168 KB

Adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Penodi Is-fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth gyda’r Rôl a’r Cylch Gorchwyl wedi’u hamlinellu yn Atodiad 1 i’r adroddiad.
  2. Penodi Arweinydd Cyngor Sir Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts, i weithredu fel aelod cyswllt gyda’r Is-fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Evans, Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNWYD

1.       Penodi Is-fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth gyda’r Rôl a’r Cylch Gorchwyl wedi’u hamlinellu yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

2.       Penodi Arweinydd Cyngor Sir Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts, i weithredu fel aelod cyswllt gyda’r Is-fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Yn sgil dechrau Cytundeb Llywodraethu Un (“GA1”) a sefydlu’r Bwrdd Uchelgais Economaidd fel Cyd-bwyllgor sy’n gwneud penderfyniadau, mae angen penderfyniad ffurfiol y Bwrdd Uchelgais er mwyn penodi is-bwyllgor.

 

8.

BWRDD CYFLAWNI BUSNES pdf eicon PDF 184 KB

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol  (ynghlwm).

 

Penderfyniad:

 

 

  1. Gohirio penderfyniad ar y mater hwn hyd oni fydd canlyniad yr ymgynghoriad â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y bwriad yn hysbys.
  2. Bod y trafodaethau gyda’r Llywodraethau i gychwyn ar sail yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Bwrdd Uchelgais.
  3. Rhoi sylw i’r materion canlynol wrth ddarparu drafft pellach o’r adroddiad:-

 

(i)            Rôl Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy;

(ii)           Atebolrwydd Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes;

(iii)          Yr angen i symleiddio rôl a chyfrifoldebau arfaethedig y Bwrdd;

(iv)          Pryder bod galwadau cynyddol ar fusnesau i gymryd rhan mewn trefniadau cyffelyb;

(v)           Materion cyllidol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol.

 

PENDERFYNWYD

1.       Gohirio penderfyniad ar y mater hwn hyd oni fydd canlyniad yr ymgynghoriad â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y bwriad yn hysbys.

2.       Bod y trafodaethau gyda’r Llywodraethau i gychwyn ar sail yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Bwrdd Uchelgais.

3.       Rhoi sylw i’r materion canlynol wrth ddarparu drafft pellach o’r adroddiad:-

 

(i)      Rôl Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy;

(ii)     Atebolrwydd Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes;

(iii)    Yr angen i symleiddio rôl a chyfrifoldebau arfaethedig y Bwrdd;

(iv)    Pryder bod galwadau cynyddol ar fusnesau i gymryd rhan mewn trefniadau cyffelyb;

(v)     Materion cyllidol

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Er mwyn cael eglurder ynglŷn â materion penodol a godwyd cyn rhoi’r Bwrdd Cyflawni Busnes ar sylfaen ffurfiol fel rhan o strwythur datblygol y prosiect.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd adroddiad llafar gan Sasha Davies ar gyfarfod o’r Bwrdd Cyflawni Busnes a gynhaliwyd y diwrnod cynt lle pwysleisiwyd yr angen am eglurder ar rai materion, sef atebolrwydd Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes, yr angen i symleiddio rôl a chyfrifoldebau arfaethedig y Bwrdd, pryder bod galwadau cynyddol ar fusnesau i gymryd rhan mewn trefniadau cyffelyb a rhai materion cyllidol, megis trefniadau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer Cadeirydd y Bwrdd.  Derbyniodd Ashley Rogers fod angen adnabod a diffinio rôl Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Merswy Dyfrdwy â’r disgwyliadau ganddynt hwy hefyd, a nododd fod ganddo awgrymiadau ynglŷn â sut i gyfarch hyn.

 

9.

PAPUR GWYN LLYWODRAETH CYMRU - GWELLA TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS pdf eicon PDF 201 KB

Adroddiad gan Iwan Prys Jones, Rheolwr Rhaglen  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Derbyn yr adroddiad cryno ar gynigion Llywodraeth Cymru i Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus a’r ymateb i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, sydd wedi’i atodi i’r adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad cryno ar gynigion Llywodraeth Cymru i Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus a’r ymateb i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, sydd wedi’i atodi i’r adroddiad.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Er mwyn rhoi hysbysu’r Bwrdd o’r ymateb rhanbarthol sydd wedi’i gyflwyno.

 

10.

ADOLYGIAD(AU) BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE (SBCD) pdf eicon PDF 215 KB

Adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.         Derbyn yr adroddiad ar yr argymhellion sydd yn y ddau adroddiad adolygiad, “Adolygiad Annibynnol o Fargen Ddinesig Bae Abertawe” ac “Adolygiad Mewnol o Drefniadau Llywodraethu Bargen Ddinesig Bae Abertawe

2.         Nodi’r asesiad RAG (Red, Green, Amber) o statws Cynllun Twf Gogledd Cymru yn erbyn bob un o’r argymhellion.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol.

 

PENDERFYNWYD

1.       Derbyn yr adroddiad ar yr argymhellion sydd yn y ddau adroddiad adolygiad, “Adolygiad Annibynnol o Fargen Ddinesig Bae Abertawe” ac “Adolygiad Mewnol o Drefniadau Llywodraethu Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

2.       Nodi’r asesiad RAG (Red, Green, Amber) o statws Cynllun Twf Gogledd Cymru yn erbyn bob un o’r argymhellion.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

1.       Er mwyn i’r Bwrdd Uchelgais ddeall casgliadau ac argymhellion yr Adroddiad(au).

2.       Er mwyn Bwrdd Uchelgais ganolbwyntio ar y gwersi a ddysgwyd o’r gwelliannau a awgrymir o fewn yr Adroddiad(au) er mwyn gallu bwrw ymlaen â Chynllun Twf Gogledd Cymru.

3.       Er mwyn asesu sefyllfa’r Bwrdd Uchelgais yn erbyn yr argymhellion a’r casgliadau sydd yn yr Adroddiad(au).

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd nad oedd rhai o’r argymhellion hyn wedi’u derbyn a’u bod i’w hystyried ymhellach yn rhanbarth Bae Abertawe.