skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD AM 2019/20

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Aaron Shotton (Cyngor Sir y Fflint) yn Gadeirydd y Cyd-bwyllgor am 2019/20.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD AM 2019/20

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (Cyngor Gwynedd) yn Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor am 2019/20.

 

3.

CROESO AC YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

David Jones (Coleg Cambria).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

5.

MATER BRYS - PROSES RECRIWTIO AR GYFER CYFARWYDDWR RHAGLEN

Penderfyniad:

 

1.       Dirprwyo’r hawl i Brif Weithredwr yr Awdurdod Lletya, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor i;

 

(a)  baratoi swydd-ddisgrifiad a manylion person ar gyfer swydd y Cyfarwyddwr

Rhaglen,

(b)  cynnal proses arfarnu swyddi yn unol â threfniadau Cyngor Gwynedd ar y swydd er mwyn gosod y cyflog,

(c) symud ymlaen i hysbysebu’r swydd.

 

2. Bod adroddiad yn argymell y drefn benodi o hynny ymlaen yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Cyd-Bwyllgor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd cais gan Brif Weithredwr yr Awdurdod Lletya i’r Cyd-bwyllgor drafod cychwyn y broses recriwtio Cyfarwyddwr Rhaglen oherwydd risgiau cynyddol i’r Prosiect Twf oedi symud ymlaen.

 

Roedd y Cadeirydd yn fodlon i’r mater yma gael ei ystyried yn fater brys oherwydd ardrawiad a risgiau oediad mewn penodi Cyfarwyddwr Rhaglen ar y Cynllun Twf.

 

PENDERFYNWYD

 

1.       Dirprwyo’r hawl i Brif Weithredwr yr Awdurdod Lletya, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor i;

 

(a)     baratoi swydd-ddisgrifiad a manylion person ar gyfer swydd y Cyfarwyddwr Rhaglen,

(a)       cynnal proses arfarnu swyddi yn unol â threfniadau Cyngor Gwynedd ar y swydd er mwyn gosod y cyflog,

(c)     symud ymlaen i hysbysebu’r swydd.

 

2.       Bod adroddiad yn argymell y drefn benodi o hynny ymlaen yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Cyd-Bwyllgor.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

O ddilyn y drefn arferol, byddai manylion y broses recriwtio yn cael eu cyflwyno i’r Cyd-bwyllgor ym mis Mawrth ac felly’n ychwanegu at yr amserlen yn erbyn y rhaglen waith.

 

TRAFODAETH

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Swyddog Cyllid fod yna rai adnoddau yn y gyllideb eisoes ac nad oedd problem symud ymlaen gyda’r broses recriwtio yn y cyfamser.

 

6.

RHAGLEN WAITH GYCHWYNNOL Y BWRDD UCHELGAIS A THREFNIADAU CYFARFODYDD Y DYFODOL pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

(a)  Cytuno ar y rhaglen waith lefel uchel ar gyfer y Bwrdd Uchelgais Economaidd dros y 6-9 mis nesaf.

(b)  Cytuno ar amserlen o gyfarfodydd i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd tan ddiwedd y flwyddyn galendr.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gyfarwyddwr Arweiniol y Bwrdd.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)     Cytuno ar y rhaglen waith lefel uchel ar gyfer y Bwrdd Uchelgais Economaidd dros y 6-9 mis nesaf.

(b)     Cytuno ar amserlen o gyfarfodydd i’r Bwrdd Uchelgais Economaidd tan ddiwedd y flwyddyn galendr.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae’n hanfodol bod gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd, fel y’i ffurfir o’r newydd, raglen waith glir i arwain gweithgareddau allweddol dros y 6-9 mis nesaf.  Bydd hyn yn caniatáu i’r Bwrdd gomisiynu’r Grŵp Cefnogaeth Weithredol gyda chynllun gwaith pwrpasol er mwyn cydlynu’r gwaith o gyflawni’r Weledigaeth Twf.  Bydd hyn yn sicrhau bod cyfeiriad cytûn ar gyfer gweithgareddau’r Grŵp Cefnogaeth Weithredol, gyda cherrig milltir ac amserlenni clir, a fydd yn help wrth reoli disgwyliadau.