skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Bodlondeb, Ffordd Bangor, Conwy. LL32 8DU

Cyswllt: Eirian Roberts 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

David Jones (Coleg Cambria), Judith Greenhalgh (Cyngor Dinbych), Ian Bancroft ( Cyngor Wrecsam), Dilwyn Williams (Cyngor Gwynedd), Dafydd Edwards (Cyngor Gwynedd) ac Iwan Evans (Cyngor Gwynedd)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Eitem 5: Derbyniwyd datganiadau o fuddiant personol gan Dyfrig Siencyn, Maria Hinfelaar, Iwan Davies, Sam Rowlands, Askar Sheibani, Ian Roberts a Steve Jackson. Yn dilyn cyfarwyddyd gan y Swyddog Cyfreithiol, penderfynwyd bod y datganiadau yn rai personol yn unig.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol.

 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol.

 

5.

PENODI CYFARWYDDWR RHAGLEN

Penodi Cyfarwyddwr Rhaglen  (ceisiadau a dogfennau ategol i’w cylchredeg ar wahân ar gyfer aelodau’r Bwrdd yn unig).

 

Bydd y wasg a’r cyhoeddi wedi eu cau allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd.  Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma.  O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

 

Penderfyniad:

Bod chwech o’r ymgeiswyr yn gymwys i’w rhoi ar y rhestr fer

 

Bydd canolfan asesu broffeshiynol yn cael ei chynnal 12.09.19

Byddai cyfweliadau gerbron aelodau’r Bwrdd yn cael ei cynnal 20.09.19

 

Cofnod:

Caewyd y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem yma gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd.  Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma.  O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol y Corff Atebol

 

PENDERFYNWYD

Bod chwech o’r ymgeiswyr yn gymwys i’w rhoi ar y rhestr fer

Bydd canolfan asesu broffesiynol yn cael ei chynnal 12.09.19

Byddai cyfweliadau gerbron aelodau’r Bwrdd yn cael ei cynnal 20.09.19

 

RHESWM DROS Y PENDERFYNIAD

 

Byddai tynnu rhestr fer o ymgeiswyr yn un o’r cerrig milltir allweddol yn y broses o recriwtio a phenodi unigolyn i’r swydd allweddol hon.

 

6.

PENNAWDAU'R TELERAU

I ystyried yr adroddiad

(copi ar wahân i’r Aelodau yn unig)

 

Mae’r adroddiad ynglŷn a drafft dogfen Pennawdau Telerau Drafft Bargen Twf Gogledd Cymru sydd wedi ddynodi yn ddogfen gyfrinachol gan Adran y Llywodraeth ar gyfer darpariaethau Adran 100 (A)(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny mae’n ofynnol eithrio’r adroddiad rha ei chyhoeddi gan y byddai yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol.

 

Penderfyniad:

Bod Bwrdd Uchelgais Economaidd yn croesawu fersiwn 3.9.19 o’r Penawdau Telerau fel arwydd cadarnhaol o ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i Gynllun Twf Gogledd Cymru

 

Cofnod:

Caewyd y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem yma gan fod yr adroddiad ynglŷn â drafft dogfen Penawdau Telerau Drafft Bargen Twf Gogledd Cymru sydd wedi dynodi yn ddogfen gyfrinachol gan Adran y Llywodraeth ar gyfer darpariaethau Adran 100 (A)(2) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Gan hynny mae’n ofynnol eithrio’r adroddiad rhag ei chyhoeddi gan y byddai yn datgelu gwybodaeth gyfrinachol.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Arweiniol

 

PENDERFYNWYD

 

Bod Bwrdd Uchelgais Economaidd yn croesawu fersiwn 3.9.19 o’r Penawdau Telerau fel arwydd cadarnhaol o ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i Gynllun Twf Gogledd Cymru

 

RHESWM DROS Y PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo penawdau telerau ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru