Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Bodlondeb, Ffordd Bangor, Conwy. LL32 8DU

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Ian Roberts (Cyngor Sir y Fflint), Yr Athro Iwan Davies (Prifysgol Bangor), Askar Sheibani (Bwrdd Cyflenwi Busnes), Iwan Trefor Jones (Cyfarwyddwr Arweiniol y Bwrdd) a Dafydd L. Edwards (Swyddog Adran 151).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION CYFARFODYDD BLAENOROL pdf eicon PDF 95 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar  26.7.19 fel rhai cywir (ynghlwm).

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf, 2019 fel rhai cywir.

 

5.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd.  Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma.  O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd.  Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma.  O ganlyniad, mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

6.

PENODI CYFARWYDDWR RHAGLEN

Penodi Cyfarwyddwr Rhaglen  (ceisiadau a dogfennau ategol i’w cylchredeg ar wahân ar gyfer aelodau’r Bwrdd yn unig).

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD i gynnig y swydd i AW, a dirprwyo’r hawl i gytuno ar bwynt cychwyn o fewn y raddfa gyflog i Brif Weithredwr y Corff Atebol a Phrif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Eurig Williams (Rheolwr Gwasanaethau Ymgynghorol Adnoddau Dynol y Corff Atebol).

 

PENDERFYNWYD i gynnig y swydd i AW, a dirprwyo’r hawl i gytuno ar bwynt cychwyn o fewn y raddfa gyflog i Brif Weithredwr y Corff Atebol a Phrif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Gweithredu i benodi Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y Cynllun Twf.